BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 Rhif 1915 (Cy.158)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051915w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1915 (Cy.158)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005

  Wedi'u gwneud 12 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym, ac eithrio
  rheoliadau 2 a 7 1 Awst 2005, 
  Rheoliadau 2 a 7 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 a deuant i rym ar 1 Awst 2005, ac eithrio rheoliadau 2 a 7 a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[
2].

Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
     2. Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan fydd y swm hwnnw'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau, a honno'n ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r swm hwnnw yng ngholofn (1) (ac y gwelir yng ngholofn (2) beth yw ei phwnc), rhodder yn lle'r swm hwnnw y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
    
3. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—

ac at ddibenion y diffiniad hwn—

Amnewid rheoliad 3 o'r prif Reoliadau
     4. Yn lle rheoliad 3 o'r prif Reoliadau rhodder y rheoliad a ganlyn—

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
    
5. —(1) Diwygier rheoliad 4 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.

    (2) Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol —

    (3) Ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau "ffurflen bresgripsiwn" rhodder "ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol".

    (4) Ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau "ffurflen bresgripsiwn" ym mhob man y digwydd, rhodder y geiriau "ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol".

    (5) Ym mharagraff (4)—

Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau
    
6. —(1) Diwygier rheoliad 8 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (3), ar ddechrau'r paragraff, mewnosoder "Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)".

    (3) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

Mewnosod rheoliad 8A yn y prif Reoliadau
    
7. Ar ôl rheoliad 8, mewnosoder y rheoliad canlynol—

Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau
    
8. Ym mharagraff (2) o reoliad 11 o'r prif Reoliadau, yn lle'r geiriau "rheoliad 3(6)" rhodder "rheoliad 3(8)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2005



YR ATODLEN
rheoliad 2


Symiau a amnewidir yn y prif Reoliadau


(1) (2) (3) (4)
Y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau Y pwnc Swm blaenorol Swm newydd
Rheoliad 3 Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr—                      
paragraff (1)(a)(i) ffi am hosanau elastig—                      
           fesul eitem £4.00 £3.00
           y pâr £8.00 £6.00
paragraff (1)(a)(ii) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)(i) £4.00 £3.00
paragraff (3)(a)(i) ffi am hosanau elastig—                      
           fesul eitem £4.00 £3.00
           y pâr £8.00 £6.00
paragraff (3)(a)(ii) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (3)(a)(i) £4.00 £3.00
paragraff (5)(a) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £4.00 £3.00
Rheoliad 4 Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon —                      
paragraff (1)(a)(i) ffi am hosanau elastig—                      
           fesul eitem £4.00 £3.00
           y pâr £8.00 £6.00
paragraff (1)(a)(ii) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)(i) £4.00 £3.00
paragraff (4) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £4.00 £3.00
Rheoliad 5 Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG —                      
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig—                      
           fesul eitem £4.00 £3.00
           y pâr £8.00 £6.00
paragraff (1)(c) ffi am deits £8.00 £6.00
paragraff (1)(ch) ffi am gyffuriau a chyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu yn Atodlen 1 £4.00 £3.00
paragraff (5) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £4.00 £3.00
Rheoliad 6 Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded-i-mewn                      
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig—                      
           fesul eitem £4.00 £3.00
           y pâr £8.00 £6.00
paragraff (1)(b) ffi am gyffuriau a chyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) £4.00 £3.00
paragraff (4) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £4.00 £3.00
Rheoliad 7(1) Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwp Cleifion £4.00 £3.00
Rheoliad 10(5) Tystysgrif ragdalu —                      
           4 mis £20.93 £15.69
           12 mis £57.46 £43.09



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae rheoliad 2 a'r Atodlen yn gostwng y ffi am eitemau ar bresgripsiwn a gyflenwir i gleifion o £4.00 i £3.00. Gostyngir y ffi am hosanau elastig o £4.00 i £3.00 (o £8.00 i £6.00 y pâr) a'r ffi am deits o £8.00 i £6.00. Gostyngir y symiau a ragnodir i roi tystysgrifau rhagdalu o £20.93 i £15.69 am dystysgrif pedwar mis ac o £57.46 i £43.09 am dystysgrif deuddeg mis.

Mae diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cymhwyso ffioedd ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol a ragnodir gan y prif Reoliadau o ran "presgripsiynau Cymreig" yn unig, sef y presgripsiynau hynny a ddyroddir ac a weinyddir yng Nghymru. Cymhwysir ffioedd ar gyfer presgripsiynau a ddyroddir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ("presgripsiynau cyfatebol") yn ôl y cyfraddau a ragnodir gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000.

Mae rheoliad 6 yn tynnu'r gofyniad bod yn rhaid i bersonau o dan 25 oed, a phersonau 60 oed neu drosodd, sy'n esempt rhag talu ffioedd o dan y prif Reoliadau yn rhinwedd eu hoedran, ac y nodir eu dyddiad geni ar ffurflenni presgripsiwn Cymreig, presgripsiynau amlroddadwy Cymreig, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ddatgan eu bod yn esempt oherwydd eu hoedran pan gyflenwir hwy â chyffuriau neu gyfarpar gan fferyllwyr o dan reoliad 3 o'r prif Reoliadau neu gan feddygon o dan reoliad 4 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliad newydd yn y prif Reoliadau sy'n darparu na fydd carcharorion mewn carcharau penodol yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y prif Reoliadau. Dim ond tra byddant yn y carchar mewn gwirionedd y bydd carcharorion yn cael cyffuriau a chyfarpar yn ddi-dâl ac felly ni fydd angen iddynt brofi eu hawl i esemptiad rhag talu'r ffioedd. Daw'r newid hwn o ganlyniad i drosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarparu gofal iechyd o'r Swyddfa Gartref i Fyrddau Iechyd Lleol sy'n effeithiol o Ebrill 2006.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Diwygiwyd adran 83 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 39 a chan O.S. 2000/90, erthygl 3(1) ac Atodlen 1, paragraff 13(1) a (4).

Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ("Deddf 1988"), adran 14(1); ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1990, adran 66(1) ac Atodlen 9, paragraff 18(5)(a) a (b); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan O.S.1998/2385, erthygl 2 a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 40.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 25(2) ac Atodlen 5, paragraff 1; gan Ddeddf 1988, adran 16 ac Atodlen 5; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10) ac Atodlen 2, paragraff 31 a chan Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 184 ac Atodlen 11, paragraffau 7 a 44.

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf 2003, adran 197(1).
back

[2] O.S. 2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2359 (Cy.196), O.S. 2004/1018 a 2004/1605 (Cy.164) ac O.S. 2005/427 (Cy.44).back

[3] O.S. 2000/620.back

[4] 2000 p.6.back

[5] 1988 p.49.back

[6] O.S. 2002/254.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091176 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051915w.html