BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 2605 (Cy.180)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052605w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2605 (Cy.180)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 20 Medi 2005 
  Yn dod i rym 30 Medi 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Medi 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant a wneir ar 30 Medi 2005 neu wedi hynny i Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1996" ("the 1996 Regulations") yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[2].

Diwygio Rheoliadau 1996
     3. —(1) Diwygir Rheoliadau 1996 fel a ganlyn:

    (2) Yn lle rheoliad 5 rhodder y canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Medi 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 ("Rheoliadau 1996") sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant y caiff awdurdodau tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae rheoliad 5 o Reoliadau 1996 yn diffinio person perthnasol. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o berson perthnasol fel na wneir prawf moddion ar y rhai sy'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc anabl. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau a wneir ar 30 Medi 2005 neu wedi hynny i Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru.


Notes:

[1] 1996 p.53. Trosglwyddir swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1996/2890.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091184 9


 © Crown copyright 2005

Prepared 26 September 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052605w.html