BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 Rhif 2722 (Cy.193) (C.110)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052722w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2722 (Cy.193) (C.110)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 4 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 5 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005.

Y diwrnod penodedig
    
2. —(1) Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, sef—

yw, at ddiben gwneud rheoliadau, 5 Hydref 2005, ac ymmhob achos arall, 15 Hydref 2005.

    (2) Y diwrnod penodedig i erthyglau 3 i 7 o'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 15 Hydref 2005.

Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
    
3. —(1) Diwygier Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[2] fel a ganlyn:

    (2) Diwygier Atodlen 13 (tir o dan falltod) fel a ganlyn.

    (3) Ar ôl paragraff 1A mewnosoder—

    (5) Ym mharagraff 5, yn lle "any such functions as are mentioned in paragraph 1(a)(i) or (ii)" rhodder "relevant public functions (within the meaning of paragraph 1A or 1B)".

    (6) Ym mharagraff 6, yn lle "any such functions as are mentioned in paragraph 5" rhodder "relevant public functions (within the meaning of paragraph 1A or 1B)".

    (7) Ym mharagraff 13, yn lle "paragraphs 1, 2, 3 and 4" rhodder "paragraph 1A or 1B".

Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005
     4. Dirymer erthygl 4 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005[3], ar y diwrnod penodedig, gan erthygl 2(2).

Darpariaethau Trosiannol
     5. —(1) Dirymer Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu) 1991[4] ("Rheoliadau 1991") ar y diwrnod penodedig, gan erthygl 2(2).

    (2) Nid yw paragraff (1) yn effeithiol mewn perthynas ag ardaloedd unrhyw awdurdod cynllunio lleol a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

     6. Pan fo awdurdod cynllunio lleol a grybwyllir yn yr Atodlen yn penderfynu cwblhau arfer ei bwerau o dan Reoliadau 1991, rhaid iddo, cyn pen—

Arbedion
    
7. —(1) Nid yw diddymiad[5] paragraffau 1 i 4 o Atodlen 13 i'r brif Ddeddf yn effeithio ar unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud at ddibenion Pennod 2 o ran 6 o'r brif Ddeddf yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd cynllun a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o'r paragraffau hynny yn parhau i ffurfio rhan o'r cynllun datblygu yn rhinwedd erthygl 5(2) o'r Gorchymyn hwn.

    (2) Mae cyfeiriadau at gynllun a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 1 i 4 yn cynnwys unrhyw gynnig i newid y cynllun neu i roi cynllun arall yn ei le.

    (3) Y cynllun datblygu yw'r cynllun datblygu at ddibenion adran 27A neu 54 o'r brif Ddeddf.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Hydref 2005



YR ATODLEN
Erthygl 5(2)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Sir Gwynedd

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Powys

Cyngor Sir Ynys Môn



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â gweddill darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf") i rym ar 15 Hydref 2005, sef adrannau 61, 64 i 71, 74 a 76 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym), ac eithrio'r darpariaethau o fewn yr adrannau hynny ar gyfer gwneud rheoliadau ac sy'n dod i rym ar 5 Hydref 2005.

Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn gymwys o ran Cymru ac mae'n sefydlu system o gynlluniau datblygu lleol (CDLlau) yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod 1 o Ran II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Deddf 1990). Mae hefyd yn darparu ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru.

Daw'r holl ddarpariaethau a gynhwysir yn erthyglau 3 i 7 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Hydref 2005.

Mae'r Gorchymyn hwn yn mewnosod paragraff 1B yn Atodlen 13 o'r Ddeddf er mwyn darparu ar gyfer CDLlau ac mae'n gwneud trefniadau trosiannol ar gyfer cynlluniau datblygu sydd eisoes yn bod.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dod â'r trefniadau trosiannol i ben a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1229) (Cy.87) (C.56). O dan y trefniadau hynny daeth rhai o ddarpariaethau Rhan 6 o'r Ddeddf, sef y darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol i gychwyn ar baratoi'u CDLlau, yn effeithiol o ran awdurdodau penodol yn unig, sef—

Felly, effaith y Gorchymyn hwn fydd gwneud y system o GDLlau yn effeithiol yng Nghymru. Ond ni fydd yr awdurdodau cynllunio lleol a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn o dan ddyletswydd i baratoi CDLl hyd nes y gwneir gorchymyn pellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Daeth darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a geir yn y Tabl isod i rym ar y dyddiadau a ddangosir yn rhinwedd Gorchmynion a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran(nau) Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
60 14 Gorffennaf 2004 2004/1814 (Cy.199) (C.74)
62 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 30 Ebrill 2005 2005/1229 (Cy.87) (C.56)
62(4) a (5)(g) 1 Awst 2004 2004/1814 (Cy.198) C.73)
63 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 30 Ebrill 2005 2005/1229 (Cy.87) (C.56)
63(3)(a) a (7) 1 Awst 2004 2004/1814 (Cy.198) (C.73)
72 30 Ebrill 2005 2005/1229 (Cy.87) (C.56)
73 30 Ebrill 2005 2005 (Cy.87) (C.56)
75 1 Awst 2004 2004/1814 (Cy.198) (C.73)
76(2) (yn rhannol) a (3) (yn rhannol) 1 Awst 2004 2004/1814 (Cy.198) (C.73)
77 1 Awst 2004 2004/1814 (Cy.198) (C.73)
78 1 Awst 2004 2004/1814 (Cy.198) (C.73)


Notes:

[1] 2004 p.5.back

[2] 1990 p.8.back

[3] O.S. 2005/1229.back

[4] O.S. 1991/2794 fel a ddiwygiwyd gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/531) a Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999 (O.S. 1999/981).back

[5] Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Gorchymyn Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 O.S. 2005/2847 (C.118).back

[6] 1998 p.8.back



English version



ISBN 0 11 091188 1


 © Crown copyright 2005

Prepared 17 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052722w.html