BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 Rhif 2929 (Cy.214)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052929w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2929 (Cy.214)

Y GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 19 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 25 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 53(2), 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 25 Hydref 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Deddf Llywodraeth Leol 2003
    
2. Yn adran 83(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[2], yn lle'r geiriau "fire authorities" rhodder "fire and rescue authorities".

Rheoliadau Sinematograff (Diogelwch) 1955
     3. Yn rheoliad 5(3) o Reoliadau Sinematograff (Diogelwch) 1955[3] (rhagofalon tân), ar ôl y geiriau "the fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, employees of the fire and rescue authority".

Gorchymyn Cefnffyrdd Amrywiol (Gwahardd Aros) (Clirffyrdd) 1963
     4. Yn erthygl 5(b) o Orchymyn Cefnffyrdd Amrywiol (Gwahardd Aros) (Clirffyrdd) 1963[4] (eithriadau), ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority".

Rheoliadau Clybiau Hapchwarae (Trwyddedu) 1969
     5. Yn Atodlen 2 i Reoliadau Clybiau Hapchwarae (Trwyddedu) 1969[5] (cais am gael trwydded o dan Ddeddf Hapchwarae 1968), ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority" yn y ddau fan lle mae'r geiriau'n digwydd.

Gorchymyn Awdurdodau Lleol etc. (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 3) 1974
     6. Diwygir erthygl 6(6) o Orchymyn Awdurdodau Lleol etc. (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 3) 1974[6] (gorchmynion prynu gorfodol ), fel a ganlyn—

Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyflogaethau Enillwyr a Gyflogir at ddibenion Anafiadau Diwydiannol) 1975
     7. —(1) Diwygir Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyflogaethau Enillwyr a Gyflogir at ddibenion Anafiadau Diwydiannol) 1975[7] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 2 o Ran 1 o Atodlen 1 (cyflogaethau sydd i'w trin fel cyflogaethau enillwyr a gyflogir at ddibenion anafiadau diwydiannol), ar ôl y geiriau "Great Britain" mewnosoder "as an employee of a fire and rescue authority employed for the purposes of that authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 or".

    (3) Ym mharagraff 4 o golofn (1) o Atodlen 3 (cyflogaethau y mae personau yn cael eu trin fel cyflogwyr at ddibenion anafiadau diwydiannol ynglŷn â hwy), o flaen y geiriau "fire brigade" mewnosoder "fire and rescue authorities,".

Gorchymyn Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau (Ymchwiliadau yn ôl Disgresiwn) 1975
     8. Ar ôl paragraff 19 o'r Atodlen i Orchymyn Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau (Ymchwiliadau yn ôl Disgresiwn) 1975[8] (ymchwiliadau a ddynodir at ddibenion Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992), mewnosoder—

Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982
     9. Yn rheoliad 16(1)(d) o Reoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982[9] (eithriadau a llacio), yn lle'r geiriau "a fire brigade or of an ambulance service" rhodder "an ambulance service or as an employee of a fire and rescue authority employed for the purposes of that authority".

Gorchymyn Esemptio Sylweddau Ymbelydreddol (Dyfeisiadau Golau Tritium Nwyol) 1985
     10. Yn erthygl 3(h) o Orchymyn Esemptio Sylweddau Ymbelydreddol (Dyfeisiadau Golau Tritium Nwyol) 1985[10] (esemptiad o dan adran 1 yn ddarostyngedig i amodau), ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority".

Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986
     11. —(1) Diwygir Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986[11] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 10B(3)(f) (cerbydau y mae rheoliad 10A yn gymwys iddynt), ar ôl "1947" mewnosoder "or, in England or Wales, a motor vehicle used by employees of a fire and rescue authority for the purposes of that authority under the Fire and Rescue Services Act 2004".

    (3) Yn rheoliad 10C(7)(d) (ystyr "trailer"), ar ôl "1947" mewnosoder "or, in England or Wales, a trailer used by employees of a fire and rescue authority for the purposes of that authority under the Fire and Rescue Services Act 2004".

    (4) Yn y darpariaethau canlynol, ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority" ym mhob man lle mae'r geiriau'n digwydd—

Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cadw Hawl i Brynu) 1986
     12. Ym mharagraff 42 o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cadw Hawl i Brynu) 1986[12] (addasiadau i Ran V o Ddeddf Tai 1985), yn lle'r geiriau "a fire authority for the purposes of the Fire Services Acts 1947 to 1959" rhodder "a fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004".

Rheoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987
     13. Yn rheoliad 30 o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987[13] (tanciau storio), ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority" yn y ddau le y mae'r geiriau'n digwydd.

Rheoliadau Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1987
     14. —(1) Diwygir Rheoliadau Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1987[14] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 5(6) (hysbysiadau gan awdurdodau lleol)—

    (3) Ym mharagraff 4(a) o'r ffurflen sydd yn yr Atodlen (cais am dystysgrif diogelwch), ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or fire and rescue authority".

Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987
     15. Ar ôl paragraff 7(1)(a) o Atodlen 8 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[15] (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion) mewnosoder—

Rheoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987
     16. —(1) Diwygir Rheoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987[16] fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl paragraff 6(1)(a) o Atodlen 3 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), mewnosoder—

    (3) Ar ôl paragraff 3(2)(a) o Atodlen 3A (symiau a ddiystyrir o enillion hawlydd), mewnosoder—

Rheoliadau Diogelwch Mannau Chwaraeon 1988
     17. —(1) Diwygir Rheoliadau Diogelwch Mannau Chwaraeon 1988[17] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 4(8) (hysbysiadau gan awdurdodau lleol)—

    (3) Ym mharagraff 4(a) o'r ffurflen sydd yn yr Atodlen (cais am dystysgrif diogelwch), ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or fire and rescue authority".

Gorchymyn Rhagofalon Tân (Ffatrïoedd, Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd) 1989
     18. Yn erthygl 5(2)(c) o Orchymyn Rhagofalon Tân (Ffatrïoedd, Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd) 1989[18] (mangreoedd sy'n esempt o'r gofyniad i gael tystysgrif tân) ac erthygl 6(1) (mangreoedd sy'n gymwys i gael esemptiad o'r gofyniad i gael tystysgrif tân) ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority".

Rheoliadau Rhagofalon Tân (Gorsafoedd Rheilffyrdd o dan yr Wyneb) 1989
     19. —(1) Diwygir Rheoliadau Rhagofalon Tân (Gorsafoedd Rheilffyrdd o dan yr Wyneb) 1989[19] fel a ganlyn.

    (2) Yn y diffiniad o "fire brigade" yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or, in England or Wales, employees of a fire and rescue authority; and "members of a fire brigade" shall be interpreted accordingly".

    (3) Yn rheoliad 12 (esemptiad o ofynion)—

Rheoliadau Goleuo Cerbydau Ffyrdd 1989
     20. Yn y tabl yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Goleuo Cerbydau Ffyrdd 1989[20] (dehongliad), ym mharagraff (a) o'r diffiniad o "emergency vehicle", ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority".

Rheoliadau Sylweddau Peryglus (Hysbysu a Marcio Safleoedd) 1990
     21. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Sylweddau Peryglus (Hysbysu a Marcio Safleoedd) 1990[21] (dehongliad), yn y diffiniad o "fire authority", ar ôl y geiriau "Fire Services Act 1947" mewnosoder "or, in England or Wales, the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 for the area in which the site is situated".

Rheoliadau Gorchmynion Traffig yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1990
     22. —(1) Diwygir Rheoliadau Gorchmynion Traffig yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1990[22] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o "fire authority" rhodder—

    (3) Yn rheoliad 14(1)(a)(ii) (hysbysu gwneud y gorchymyn), yn lle'r geiriau "fire authority" rhodder "fire and rescue authority".

Rheoliadau Tai (Ffurflenni Rhagnodedig) (Rhif 2) 1990
     23. Yn ffurflen 35 yn yr Atodlen i Reoliadau Tai (Ffurflenni Rhagnodedig) (Rhif 2) 1990[23] (gorchymyn cau ar gyfer rhan o dŷ mewn amlfeddiant), yn lle'r geiriau "Fire Authority" rhodder "Fire and Rescue Authority".

Gorchymyn Twnnel y Sianel (Gwasanaethau Tân, Mewnfudo a Rhwystro Terfysgaeth) 1990
     24. Diwygir erthygl 2 o Orchymyn Twnnel y Sianel (Gwasanaethau Tân, Mewnfudo a Rhwystro Terfysgaeth) 1990[24] (gwasanaethau tân) fel a ganlyn—

Rheoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991
     25. Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991[25] (awdurdodau contractol), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

Rheoliadau Gweithdrefn Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1992
     26. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gweithdrefn Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1992[26] (dehongli), yn y diffiniad o "fire authority", ar ôl y geiriau "Fire Services Act 1947" mewnosoder "or, in England or Wales, the fire and rescue authority for that area under the Fire and Rescue Services Act 2004".

Gorchmyn Tai (Hawl i Brynu) (Personau Rhagnodedig) 1992
     27. Yn yr Atodlen i Orchmyn Tai (Hawl i Brynu) (Personau Rhagnodedig) 1992[27] (sy'n rhagnodi personau penodol at ddibenion adran 130(2)(a) o Ddeddf Tai 1985 a pharagraff 8 o Atodlen 4 iddi), yn lle'r geiriau "a fire authority for the purposes of the Fire Services Acts 1947 to 1959" rhodder "a fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004".

Rheoliadau Budd-dâl Treth (Cyffredinol) 1992
     28. —(1) Diwygir Rheoliadau Budd-dâl Treth (Cyffredinol) 1992[28] fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl paragraff 6(1)(a) o Atodlen 3 (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), mewnosoder—

    (3) Ar ôl paragraph 3(2)(a) o Atodlen 3A (symiau a ddiystyrir o enillion hawlydd), mewnosoder—

Rheoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynnal ac Achosion Arbennig)1992
     29. Ar ôl paragraff 1(1)(i)(ii) o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynnal ac Achosion Arbennig) 1992[29] (enillion cyflogai sy'n ennill), mewnosoder—

Rheoliadau Cerbydau Modur (Gwisgo Gwregysau Diogelwch) 1993
     30. Yn rheoliad 6(1)(f) o Reoliadau Cerbydau Modur (Gwisgo Gwregysau Diogelwch) 1993[30] (esemptiadau), ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority".

Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993
     31. Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993[31] (awdurdodau contractiol), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994
     32. Ym mharagraff 5 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994[32] (gofynion pellach y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy tra bydd y gymeradwyaeth mewn grym)—

Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995
     33. Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995[33] (awdurdodau contractiol), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

Rheoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995
     34. Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995[34] (gofynion ar gyfer caniatáu cymeradwyaeth), ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority".

Rheoliadau Cerbydau Nwyddau (Trwyddedu Gweithredyddion) 1995
     35. Ym mharagraff 6 o Ran 1 o Atodlen 3 i Reoliadau Cerbydau Nwyddau (Trwyddedu Gweithredyddion) 1995[35] (cerbydau esempt), ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority".

Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996
     36. —(1) Diwygir Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996[36] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 4 (dehongliad o Rannau II, IV a V), yn y diffiniad o "part-time member of a fire brigade" ar ôl y geiriau "Fire Services Acts 1947 — 1959" mewnosoder "or, in England or Wales, a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority".

    (3) Ar ôl rheoliad 53(d)(i) (personau sy'n cael eu trin fel pe na baent wrthi'n gweithio am dâl), mewnosoder—

    (4) Ar ôl paragraff 9(1)(a) o Atodlen 6 (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), mewnosoder—

Rheoliadau Adeiladu (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1996
     37. Yn rheoliad 33(1) o Reoliadau Adeiladu (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1996[37] (gorfodi o ran tân), ar ôl y geiriau "Fire Precautions Act 1971" mewnosoder "or, in England or Wales, the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 for the area in which the premises are situated".

Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996
     38. Yn rheoliad 6 o Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996[38] (ymgynghori)—

Rheoliadau Budd-dâl Nawdd Cymdeithasol (Cyfrifo Enillion) 1996
     39. Ar ôl paragraff 9(a) o Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dâl Nawdd Cymdeithasol (Cyfrifo Enillion) 1996[39] (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), mewnosoder—

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996
     40. Ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2 i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[40] (symiau i'w diystyru wrth benderfynu enillion), yn lle'r geiriau "a part-time fireman in a fire-brigade maintained in pursuance of the Fire Services Acts 1947 to 1959" rhodder "a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority".

Rheoliadau Rhagofalon Tân (Yn y Gweithle) 1997
     41. —(1) Diwygir Rheoliadau Rhagofalon Tân (Yn y Gweithle) 1997[41] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongliad), yn y diffiniad o "fire authority", ar ôl y geiriau "Fire Services Act 1947" mewnosoder "or, in England or Wales, a fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004".

    (3) Yn rheoliad 18—

    (4) Yn rheoliad 20(b) ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or, in England or Wales, employee of a fire and rescue authority".

Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Croesfannau Sebra, Pelican a Phâl 1997
     42. Yn y darpariaethau canlynol o Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Croesfannau Sebra, Pelican a Phâl 1997[42], ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority" ym mhob man lle mae'r geiriau'n digwydd—

Gorchymyn Awdurdodau Tân Cyfun (Amddiffyniad rhag Atebolrwydd Personol) 1997
     43. —(1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Tân Cyfun (Amddiffyniad rhag Atebolrwydd Personol) 1997[43] fel a ganlyn.

    (2) Yn lle rheoliad 2 (dehongli), rhodder—

    (3) Yn erthygl 3 (amddiffyniad rhag atebolrwydd personol)—

Gorchymyn Corff Technoleg Gwybodaeth yr Heddlu (Cyrff Ychwanegol) 1998
    
44. Ym mharagraff 1(j) o erthygl 2 o Orchymyn Corff Technoleg Gwybodaeth yr Heddlu (Cyrff Ychwanegol) 1998[44] (cyrff y caiff PITO gyflawni gweithgareddau drostynt), ar ôl y geiriau "fire authority" mewnosoder "or fire and rescue authority".

Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi) 1998
     45. Yn rheoliad 4(3)(e) o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi) 1998[45] (eithriadau), ar ôl y geiriau "the Fire Precautions Act 1971" mewnosoder "or, in England or Wales, a fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004".

Rheoliadau Awdurdodau Tân Cyfun (Tenantiaethau Diogel) (Cymru) 1998
     46. —(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Tân Cyfun (Tenantiaethau Diogel) (Cymru) 1998[46] fel a ganlyn.

    (2) Yn lle rheoliad 2 (dehongli), rhodder—

    (3) Yn rheoliad 3 (tenantiaethau diogel)—

Gorchymyn Strategaethau Troseddu ac Anrhefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) 1998
    
47. Yn erthygl 3(2) o Orchymyn Strategaethau Troseddu ac Anrhefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) 1998 [47], yn lle is-baragraff (v) rhodder—

Gorchymyn Deddf Taliad Hwyr ar Ddyledion Masnachol (Llogau) 1998 (Cychwyn Rhif 1) 1998
     48. Yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Taliad Hwyr ar Ddyledion Masnachol (Llogau) 1998 (Cychwyn Rhif 1) 1998[48] (ystyr "United Kingdom Public Authority"), ar ôl paragraff 1(g) mewnosoder—

Rheoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffyrdd) 1999
     49. Yn rheoliad 3(b) o Reoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffyrdd) 1999[49] (ymgynghori), yn lle'r geiriau "the chief officer of the fire brigade" rhodder "the fire and rescue authority".

Gorchymyn Taliadau Dileu Swydd (Parhad Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol, etc.) (Addasiad) 1999
     50. Yn Atodlen 1 i Orchymyn Taliadau Dileu Swydd (Parhad Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol, etc.) (Addasiad) 1999[50] (cyflogaeth y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddi), ar ôl paragraff 1 o adran 6 mewnosoder—

Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999
     51. —(1) Diwygir Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999[51] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 23(1) (personau a gaiff gynnal profion theori)—

    (3) Yn rheoliad 24(1) (personau a gaiff gynnal profion ymarferol ac unedol)—

Gorchymyn Cynlluniau Perfformiad ac Adolygiadau Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) 1999
     52. Yn erthygl 2(b) o Orchymyn Cynlluniau Perfformiad ac Adolygiadau Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) 1999[52] dileer y geiriau "or (e)" ac "and fire".

Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr a Gymeradwywyd etc.) 2000
     53. —(1) Diwygir Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr a Gymeradwywyd etc.) 2000[53] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o "fire authority" rhodder—

    (3) Yn y y ddarpariaeth ganlynol, yn lle'r geiriau "fire authority" substitute "fire and rescue authority" ym mhob man lle mae'r geiriau'n digwydd—

Rheoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynhaliaeth ac Achosion Arbennig) 2000
     54. Ar ôl paragraff 4(2)(g)(ii) o'r Atodlen i Reoliadau Cynnal Plant (Cyfrifo Cynhaliaeth ac Achosion Arbennig) 2000[54] (cyfrifo enillion), mewnosoder—

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
     55. Yn erthygl 2 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001[55], yn y diffiniad o "awdurdod perthnasol" yn lle paragraff (ch) rhodder—

Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
     56. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001[56] (dehongli)—

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001
     57. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001[57] (dehongli) yn y diffiniad o "awdurdod perthnasol", yn lle'r geiriau "awdurdod tân" rhodder "awdurdod tân ac achub".

Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
     58. Yn erthygl 2 o Orchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001[58] (dehongli), yn y diffiniad o "awdurdod perthnasol" yn lle paragraff (ch) rhodder—

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
     59. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001[59] (dehongli), yn y diffiniad o "awdurdod perthnasol" yn lle'r geiriau "awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947" rhodder "awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo."

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
     60. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001[60] (dehongli), yn lle'r diffiniad o "awdurdod tân" rhodder "awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo".

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001
     61. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001[61] (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd awdurdod), yn lle H2 rhodder—

Gorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001
     62. Yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol ) 2001[62] (cyrff a phersonau eraill y mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb hiliol), ar ôl y cofnod ar gyfer awdurdod tân a ffurfiwyd o dan adran 5 neu 6 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 mewnosoder—

Gorchmyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001
     63. —(1) Diwygir Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001[63] fel a ganlyn:

    (2) Yn erthygl 2 (dehongli) yn y diffiniad o "awdurdodau perthnasol" yn lle paragraff (ch) rhodder—

    (3) Yn erthygl 4(1) (darpariaethau i'w datgymhwyso), yn lle'r geiriau "awdurdod tân" rhodder "awdurdod tân ac achub".

    (4) Yn nheitl yr Atodlen (cod ymddygiad enghreifftiol), yn lle'r geiriau "AWDURDODAU TÂN " rhodder "AWDURDODAU TÂN AC ACHUB".

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001
     64. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001[64] (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod), yn lle H2 rhodder—

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
     65. —(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[65] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o "awdurdod tân" rhodder—

    (3) Yn rheoliad 24(4)(dd) (ffitrwydd safleoedd), yn lle'r geiriau "awdurdod tân" rhodder "awdurdod tân ac achub".

Gorchymyn Cynlluniau ac Adolygiadau Perfformiad Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) Diwygiad a Dyddiadau Penodedig 2002
     66. Yn erthygl 2(b) o Orchymyn Cynlluniau ac Adolygiadau Perfformiad Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) Diwygiad a Dyddiadau Penodedig 2002[66] dilëer y geiriau "or (e)" ac "and fire".

Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
     67. Diwygir Rheoliad 24 o Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002[67] (ffitrwydd y safle) fel a ganlyn—

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
     68. Diwygir Rheoliad 31 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[68] (rhagofalon tân) fel a ganlyn—

Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002
     69. Yn lle erthygl 1(2) o Orchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002[69], rhodder—

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002
     70. Diwygir rheoliad 21 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[70] fel a ganlyn—

Rheoliadau Deunyddiau Ymbelydreddol (Trafnidiaeth Ffyrdd) 2002
     71. Yn rheoliad 69(2)(a) o Reoliadau Deunyddiau Ymbelydreddol (Trafnidiaeth Ffyrdd) 2002[71] (dyletswyddau gyrrwyr etc. pe bai argyfwng radiolegol), ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, the fire and rescue authority".

Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002
     72. Ar ôl paragraff 2(2)(a) o Atodlen VI i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002[72] (symiau a ddiystyrir o enillion hawlydd), mewnosoder—

Rheoliadau Rheolaeth ar Asbestos yn y Gwaith 2002
     73. Yn rheoliad 3(3)(a) o Reoliadau Rheolaeth ar Asbestos yn y Gwaith 2002[73] (dyletswyddau o dan y Rheoliadau)—

Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002
     74. —(1) Diwygir Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002[74] fel a ganlyn.

    (2) Yn y darpariaethau canlynol, ar ôl y geiriau "fire brigade" mewnosoder "or, in England or Wales, fire and rescue authority" ym mhob man lle mae'r geiriau'n digwydd—

Gorchymyn Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad (Gwerth Gorau) Llywodraeth Leol 2003
     75. Dirymir Gorchymyn Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad (Gwerth Gorau) Llywodraeth Leol 2003[75].

Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
     76. Diwygir rheoliad 22 o Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003[76] (rhagofalon tân) fel a ganlyn—

Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Data Cyfathrebu) 2003
     77. —(1) Diwygir Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Data Cyfathrebu) 2003[77] fel a ganlyn:

    (2) Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (unigolion mewn awdurdodau cyhoeddus ychwanegol a allai gaffael pob math o gyfathrebu), ar ôl y geiriau "Any fire authority within the meaning of the Fire Services Act 1947 (read with paragraph 2 of Schedule 11 to the Local Government Act 1985)" mewnosoder "or any fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004".

    (3) Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (unigolion yn yr awdurdodau cyhoeddus a bennir yn Rhan 1 a gaiff gaffael mathau penodol yn unig o gyfathrebu), ar ôl y geiriau "Any fire authority within the meaning of the Fire Services Act 1947 (read with paragraph 2 of Schedule 11 to the Local Government Act 1985)" mewnosoder "or any fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004".

Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003
     78. —(1) Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003[78] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o "awdurdod tân" rhodder—

    (3) Ym mharagraff 3(5)(b) o'r Atodlen (safonau ysgol annibynnol), yn lle "Awdurdod Tân" rhodder "awdurdod tân ac achub".

Rheoliadau Cludo Nwyddau Peryglus a Defnyddio Cyfarpar Gwasgedd Cludadwy 2004
     79. —(1) Diwygir Rheoliadau Cludo Nwyddau Peryglus a Defnyddio Cyfarpar Gwasgedd Cludadwy 2004[79] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o "fire authority" mewnosoder—

    (3) Yn rheoliad 6 (cymhwyso i'r lluoedd arfog)—

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004
     80. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004[80] (dehongli), yn lle'r diffiniad o "awdurdod tân" rhodder—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[81]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Hydref 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Cafodd Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 y Cydsyniad Brenhinol ar 22 Gorffennaf 2004 a chychwynnwyd y rhan fwyaf o'i darpariaethau yng Nghymru ar 10 Tachwedd 2004. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn bennaf i is-ddeddfwriaeth o ran Cymru — yn benodol drwy ddiweddaru cyfeiriadau at "awdurdodau tân", "brigadau tân" a "Deddf y Gwasanaethau Tân 1947".

Lluniwyd arfarniad rheoliadol ar gyfer yr offeryn hwn. Gellir cael gafael ar gopïau o'r Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 2004 p. 21. Breinir pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 53(2) a 60, o ran Cymru, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 62 o'r Ddeddf honno.back

[2] 2003 p.26.back

[3] O.S. 1955/1129 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[4] O.S. 1963/1172 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[5] O.S. 1969/1110, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/1513.back

[6] O.S. 1974/968 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[7] O.S. 1975/467 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[8] O.S. 1975/1379 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[9] O.S. 1982/1163 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[10] O.S. 1985/1047.back

[11] O.S. 1986/1078; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1993/3048 a 1997/530.back

[12] O.S. 1986/2092.back

[13] O.S. 1987/37 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[14] O.S. 1987/1941.back

[15] O.S. 1987/1967 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[16] O.S. 1987/1971; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1993/317 a 2000/2545. Addaswyd O.S.1987/1971 yn ei gymhwysiad i bersonau a ddisgrifir yn rheoliad 2 o Reoliadau Budd-dâl Tai a Budd-dâl y Dreth Gyngor (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) 2003 (O.S. 2003/325) drwy fewnosod Atodlen 3A gan reoliad 21 o'r Rheoliadau ac Atodlen 2 iddynt.back

[17] O.S. 1988/1807.back

[18] O.S. 1989/76.back

[19] O.S. 1989/1401.back

[20] O.S. 1989/1796 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[21] O.S. 1990/304 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[22] O.S. 1990/1656.back

[23] O.S. 1990/1730 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[24] O.S. 1990/2227.back

[25] O.S. 1991/2680; amnewidiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2000/2009; mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[26] O.S. 1992/1215.back

[27] O.S. 1992/1703 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn. Y dibenion dros ragnodi personau, mewn cysylltiad â'r hawl i brynu, yw gostyngiadau'r disgownt a phenderfynu pryd mae amod y landlord wedi'i fodloni.back

[28] O.S. 1992/1814 a addaswyd, pan gymhwysir ef i bersonau y mae rheoliad 12 o Reoliadau Budd-dâl Tai a Budd-dâl y Dreth Gyngor (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) 2003 (O.S. 2003/325) yn gymwys iddynt, drwy fewnosod Atodlen 3A gan reoliad 21o'r Rheoliadau hynny ac Atodlen 2 iddynt. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[29] O.S. 1992/1815. Dirymwyd gan O.S. 2001/155 gydag arbedion penodol (gweler rheoliad 15(2)-(6) ac O.S. 2000/3186). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[30] O.S. 1993/176.back

[31] O.S. 1993/3228; amnewidiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2000/2009; mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[32] O.S. 1994/651; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1998/417.back

[33] O.S. 1995/201; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2000/2009.back

[34] O.S. 1995/510.back

[35] O.S. 1995/ 2869.back

[36] O.S. 1996/207 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[37] O.S. 1996/1592 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[38] O.S. 1996/2489 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[39] O.S. 1996/2745 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[40] O.S. 1996/2890 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[41] O.S. 1997/1840, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1877 ac O.S. 1999/3242.back

[42] O.S. 1997/2400 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[43] O.S. 1997/2818.back

[44] O.S. 1998/411 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[45] O.S. 1998/494 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[46] O.S. 1998/2214.back

[47] O.S. 1998/2452.back

[48] O.S. 1998/2479 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[49] O.S. 1999/1025.back

[50] O.S. 1999/2277 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[51] O.S. 1999/2864. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2003/2003.back

[52] O.S. 1999/3251; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2002/305.back

[53] O.S. 2000/2532 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[54] O.S. 2001/155.back

[55] O.S. 2001/2276 (Cy. 166).back

[56] O.S. 2001/2278 (Cy. 168).back

[57] O.S. 2001/2279 (Cy.169).back

[58] O.S. 2001/2280 (Cy.170).back

[59] O.S. 2001/2281 (Cy.171).back

[60] O.S. 2001/2283 (Cy.172).back

[61] 2001/2284 (Cy.173) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[62] O.S. 2001/3458 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[63] O.S. 2001/2289 (Cy.177); gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2004/1510 (Cy.159).back

[64] O.S. 2001/2291 (Cy. 179) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[65] O.S. 2002/324 (Cy.37) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[66] O.S. 2002/305.back

[67] O.S. 2002/325 (Cy.38) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[68] O.S. 2002/327 (Cy.40) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[69] O.S. 2002/678 (Cy.75).back

[70] O.S. 2002/812 (Cy.92) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[71] O.S. 2002/1093 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[72] 2002/1792 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[73] O.S. 2002/2675 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[74] O.S. 2002/3113 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[75] O.S. 2003/530.back

[76] O.S. 2003/781 (Cy.92).back

[77] O.S. 2003/3172.back

[78] O.S. 2003/3234 (Cy.314).back

[79] O.S. 2004/568.back

[80] O.S. 2004/2555 (Cy.227).back

[81] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091203 9


 © Crown copyright 2005

Prepared 31 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052929w.html