BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005 Rhif 3110 (Cy.230)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053110w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3110 (Cy.230)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 8 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 21 Tachwedd 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 512ZB(4)(a)(iv) a 568 o Ddeddf Addysg 1996[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005. Daw i rym ar 21 Tachwedd 2005 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Budd-dal rhagnodedig
    
2. Mae Pensiwn Credyd y Wladwriaeth sy'n daladwy o dan adran 1 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002[2] yn fudd-dal a ragnodwyd at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(vi) o Ddeddf Addysg 1996 mewn amgylchiadau lle mae'r rhiant yn derbyn yr elfen credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r elfen credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996. Yr effaith yw os yw rhiant yn derbyn yr elfen credyd gwarant mae gan ei blentyn hawl i gael ciniawau ysgol am ddim.


Notes:

[1] 1996 p.56. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol (gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 512 o Ddeddf 1996 ). Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 512ZB a 568 o Ddeddf 1996 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672. a'r cofnod ynglŷn â Deddf 1996 yn Atodlen 1 iddo), ac adran 211o Ddeddf Addysg 2002 (y mewnosododd adran 201ohoni adran 512ZB yn Neddf 1996).back

[2] 2002 p.16.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091215 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 15 November 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053110w.html