BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 Rhif 3238 (Cy.243)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053238w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3238 (Cy.243)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005

  Wedi'i wneud 22 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â'r pwerau a roddwyd iddo gan adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn:

Trosglwyddo Swyddogaethau'r Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol
    
2. Yn ddarostyngedig i erthygl 9, trosglwyddir holl swyddogaethau'r Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo staff
    
3. At ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981[2]—

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
     4. —(1) Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd gan y Cyngor hawl iddynt neu yr oedd y Cyngor yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Bydd tystysgrif a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol bod unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau wedi'u trosglwyddo gan baragraff (1) yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r trosglwyddiad.

    (3) Nid yw'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth a drosglwyddir yn rhinwedd erthygl 3.

    (4) Mae i baragraff (1) effaith mewn cysylltiad ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

Darpariaeth ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau
    
5. I'r graddau y mae'n ofynnol ar gyfer parhau ei effaith ar ac ar ôl y dyddiad trosglwyddo, rhaid i unrhyw beth a wnaed gan y Cyngor neu mewn perthynas ag ef ac sy'n cael effaith yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, gael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol neu mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diddymu'r Cyngor
    
6. Ar y dyddiad trosglwyddo mae'r Cyngor yn peidio â bod.

Darpariaethau Trosiannol
    
7. —(1) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Cyngor neu mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad trosglwyddo.

    (2) Caniateir i'r Cynulliad Cenedlaethol barhau, neu caniateir parhau, mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol, ag unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael ei wneud gan y Cyngor neu mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad trosglwyddo.

    (3) Ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo, i'r graddau y bo'n angenrheidiol neu'n briodol, mae cyfeiriadau at y Cyngor, mewn unrhyw offerynnau, contractau, neu achosion cyfreithiol, i'w trin fel pe baent yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.

Cyfrifon
    
8. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (2) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

Diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau a deddfwriaeth arall
    
9. —(1) Diwygir y Deddfau a bennir yn Atodlen 1 yn unol â'r Atodlen honno.

    (2) Diwygir yr is-ddeddfwriaeth a bennir yn Atodlen 2 yn unol â'r Atodlen honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005



ATODLEN 1
Erthygl 9(1)


DIWYGIADAU CANLYNIADOL I DDEDDFWRIAETH SYLFAENOL


Deddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11)
     1. Yn Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (mathau o gyflogaeth, etc, y cyfeirir atynt yn adran 1) hepgorer "National Council for Education and Training for Wales.".

Deddf Anghymhwyso Rhag Aelodaeth o Dŷ'r Cyffredin 1975 (p.24)
     2. Yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Anghymhwyso Rhag Aelodaeth o Dŷ'r Cyffredin 1975 (swyddi sy'n anghymhwyso rhag aelodaeth) hepgorer "Any member of the National Council for Education and Training for Wales in receipt of remuneration.".

Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 (p.65)
     3. Diwygir Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 fel a ganlyn.

     4. Yn adran 23A (gwahaniaethu gan Gynghorau Cyllido Addysg Bellach ac Addysg Uwch):

     5. Yn adran 25A (dyletswydd gyffredinol: addysg a hyfforddiant ôl-16 etc.)—

Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (p.74)
     6. Diwygir Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 fel a ganlyn.

     7. Yn adran 18A (Cynghorau Cyllido Addysg Bellach ac Addysg Uwch), hepgorer "the National Council for Education and Training for Wales,".

     8. Yn Atodlen 1A (cyrff a phersonau eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd statudol gyffredinol) yn Rhan 2 hepgorer "The National Council for Education and Training for Wales."

Deddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (p.40)
     9. Yn adran 1(3)(g) o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (ffioedd prifysgolion a sefydliadau addysg bellach) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (p.33)
     10. Yn adran 5(9) o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (personau anabl yn gadael addysg arbennig) yn y diffiniad o "the responsible authority"—

Deddf Cyflogaeth 1988 (p.19)
     11. Yn adran 26(1A) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (statws hyfforddeion etc), yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Deddf Diwygio Addysg 1988 (p.40)
     12. Yn adran 128(1)(b)(v) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (diddymu corfforaethau addysg uwch) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13)
     13. Diwygir Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 fel a ganlyn.

     14. Yn adran 19 (pwerau atodol corfforaeth addysg bellach)—

     15. Yn adran 22 (offerynnau ac erthyglau diweddarach)—

     16. Yn adran 27 (diddymu corfforaethau addysg bellach)—

     17. Yn adran 29(7A)(b) (llywodraethu a rhedeg sefydliadau dynodedig) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

     18. Yn adran 31(2A)(b) (sefydliadau dynodedig a redir gan gwmnïau) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

     19. Yn adran 34 (sicrhau bod eiddo ychwanegol ar gael i'w ddefnyddio)—

     20. Yn adran 38(2) (taliadau gan gyngor mewn cysylltiad â rhwymedigaeth benthyciad) yn lle "A council" rhodder "The Learning and Skills Council for England".

     21. Yn adran 51 (cyhoeddi cynigion)—

     22. Yn adran 52 (dyletswydd i ddarparu ar gyfer unigolion a enwir)—

     23. Yn adran 54(1) (dyletswydd i roi gwybodaeth)—

     24. Yn adran 61A (cyfeiriadau at gynghorau)—

     25. Yn adran 82 (arfer swyddogaethau ar y cyd)—

     26. Yn adran 83 (astudiaethau effeithlonrwydd)—

     27. Yn adran 90 (dehongli)—

     28. Yn Atodlen 4 (offerynnau ac erthyglau llywodraethu ar gyfer sefydliadau addysg bellach) ym mharagraff 1A yn lle "the National Council for Education and Training for Wales" rhodder "the National Assembly for Wales".

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38)
     29. Yn adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (ystyr "public body") hepgorer paragraff (j).

Deddf Treth Ar Werth 1994 (p.23)
     30. Yn eitem 5A yng Ngrŵp 6 yn Rhan 2 o Atodlen 9 i Ddeddf Treth Ar Werth 1994 (esemptiadau) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Deddf Addysg 1996 (p.56)
     31. Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.

     32. Yn adran 13(2) (cyfrifoldeb cyffredinol dros addysg)—

     33. Yn adran 509(1B) (darparu cludiant etc.), yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

     34. Yn adran 509AA(2)(d) (darparu cludiant etc ar gyfer personau oedran chweched dosbarth) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

     35. Yn adran 509AB(6)(c) (darpariaeth bellach ynghylch datganiadau ar bolisi trafnidiaeth) hepgorer "or the National Council for Education and Training for Wales (in the case of a local education authority in Wales)".

     36. Yn adran 509AC(3) (dehongli adrannau 509AA a 509AB)—

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)
     37. Diwygir Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel a ganlyn.

     38. Yn adran 19(2)(ca) (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i orchymyn cau'r ysgol) hepgorer "or the National Council for Education and Training for Wales (if the school is in Wales)".

     39. Yn adran 30(3) (hysbysiad gan gorff llywodraethu i gau ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

     40. Yn is-baragraff 5(1)(a) o Atodlen 22 (gwarediadau tir yn achos ysgolion penodol a gwarediadau parhaus) ar ôl "adopted" mewnosoder ", confirmed".

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)
     41. Diwygir Deddf Llywodraeth Cymru 1998 fel a ganlyn.

     42. Yn adran 118(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (ystyr "Welsh public records") hepgorer paragraff (ha).

     43. Yn adran 145B(1) (astudiaethau ar gais cyrff addysgol) yn ail golofn y tabl yn lle "the National Council for Education and Training for Wales" rhodder "the Assembly".

     44. Yn Rhan 1 o Atodlen 4 (cyrff cyhoeddus sy'n destun diwygio gan y Cynulliad) hepgorer paragraff 5.

Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)
     45. Diwygir Deddf Safonau Gofal 2000 fel a ganlyn.

     46. Yn Atodlen 2A (personau sy'n destun adolygiad gan Gomisiynydd Plant Cymru o dan adran 72B o'r Ddeddf honno), hepgorer paragraff 4.

     47. Yn Atodlen 2B (personau y mae eu trefniadau'n ddarostyngedig i adolygiad gan Gomisiynydd Plant Cymru o dan adran 73 o'r Ddeddf honno), hepgorer paragraff 5.

Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21)
     48. Diwygir Deddf Dysgu a Medrau 2000 fel a ganlyn.

     49. Yn lle'r pennawd i Ran 2, rhodder "Further Education and Sixth Form Education: Wales".

     50. Hepgorer adran 30 (y Cyngor) a'r croesbennawd sy'n dod yn union o'i blaen.

     51. Yn adran 31 (addysg a hyfforddiant i bersonau 16 i 19 oed)—

     52. Yn adran 32 (addysg a hyfforddiant i bersonau dros 19 oed)—

     53. Yn adran 33 (hybu addysg a hyfforddiant) yn lle "Council" rhodder "National Assembly".

     54. Yn adran 34 (darparu adnoddau ariannol)—

     55. Yn adran 35 (adnoddau ariannol: amodau)—

     56. Yn adran 36(1) (cyllido dosbarthiadau chwech) yn lle "Council" rhodder "National Assembly".

     57. Yn adran 37 (asesiad a phrofion moddion) yn is-adrannau (1) i (4) yn lle "Council" rhodder "National Assembly".

     58. Yn adran 38 (cyfrifon a threfniadau cymwys)—

     59. Yn adran 39(1) (addysg bellach: llywodraethwyr) yn lle "Council" rhodder "National Assembly".

     60. Yn adran 40 (ymchwil a gwybodaeth)—

     61. Yn adran 41 (personau ag anawsterau dysgu)—

     62. Hepgorer adrannau 42 i 51 (darpariaethau cyffredinol sy'n ymwneud â'r Cyngor).

     63. Yn adran 74(1) (rhai termau wedi'u diffinio) hepgorer y diffiniad o "Council".

     64. Yn adran 75(1) (cylch gwaith estynedig Prif Arolygydd Cymru) yn lle "Council" y ddau dro y mae'n digwydd rhodder "National Assembly in the discharge of its functions under Part 2".

     65. Yn adran 77(5) (arolygiadau) hepgorer paragraff (b).

     66. Yn adran 83 (arolygiadau ardal) yn isadrannau (3) a (6) yn lle "Council" rhodder "National Assembly."

     67. Yn adran 84 (cynlluniau gweithredu yn sgil arolygiadau adran 83)—

     68. Hepgorer adran 91 (diddymu Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru).

     69. Hepgorer adran 93 (trosglwyddiadau: Cymru).

     70. Yn adran 94 (treth stampiau)—

     71. Yn adran 95 (contractau cyflogaeth)—

     72. Yn adran 100(2) (cyrff a awdurdodwyd) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

     73. Yn adran 113A (ailstrwythuro addysg chweched dosbarth)—

     74. Yn adran 125(2) (ymgynghori a chydgysylltu) hepgorer paragraff (b).

     75. Yn adran 126(3)(f) (sefydliadau addysgol: gwybodaeth a mynediad) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales in the discharge of its functions under Part 2".

     76. Yn adran 138(3) (Cymru: darparu gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus), yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

     77. Yn adran 144 (sefydliadau dynodedig: gwaredu tir, & c.)—

     78. Yn adran 150(4)(a) (Cymru) ar ôl "134" mewnosoder ", 144".

     79. Yn adran 151 (darpariaethau trosiannol)—

     80. Hepgorer Atodlen 4 (Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant).

     81. Hepgorer Atodlen 5 (pwyllgorau (Cymru)).

     82. —(1) Diwygir Atodlen 7 fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 20—

    (3) Ym mharagraff 21—

    (4) Ym mharagraff 28—

    (5) Ym mharagraff 29—

    (6) Ym mharagraff 39(2) hepgorer y diffiniad o "the Council".

    (7) Ym mharagraff 40—

    (8) Ym mharagraff 42—

    (9) Ym mharagraff 43—

     83. Diwygir paragraff 1 o Atodlen 7A fel a ganlyn:

     84. Yn Atodlen 10 (darpariaethau trosiannol) hepgorer Rhan 2.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36)
     85. Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol) hepgorer "The National Council for Education and Training For Wales."

Deddf Addysg 2002 (p.32)
     86. Diwygir Deddf Addysg 2002 fel a ganlyn.

     87. Yn adran 131(7) (gwerthuso)—

     88. Yn adran 183(2) (trosglwyddo swyddogaethau sy'n ymwneud â lwfansau o dan adran 181 o'r Ddeddf honno) hepgorer paragraff (a).

Deddf Plant 2004 (p.31)
     89. Diwygir Deddf Plant 2004 fel a ganlyn.

     90. Yn adran 25(4) (cydweithredu i ychwanegu at lesiant: Cymru) yn lle paragraff (f) rhodder—

     91. Yn is-adran 29(7) (cronfeydd data gwybodaeth: Cymru) yn lle is-baragraff (b) rhodder—

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10)
     92. Diwygir Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 fel a ganlyn.

     93. Yn Atodlen 2 (materion a eithrir) hepgorer paragraff 7.

     94. Yn Atodlen 3 (awdurdodau a restrir) hepgorer "The National Council for Education and Training for Wales".

Deddf Addysg 2005 (p.18)
     95. Diwygir Deddf Addysg 2005 fel a ganlyn.

     96. Yn adran 28(4)(a) (dyletswydd i drefnu arolygiadau rheolaidd o ysgolion penodol) ar ôl "adopted" mewnosoder ", confirmed".

     97. Yn adran 38(6) (at bwy yr anfonir adroddiadau: ysgolion a gynhelir) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "Assembly".

     98. Yn adran 92(2) (arfer swyddogaethau ar y cyd) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "the Assembly to the extent that it is discharging its functions under Part 2 of the Learning and Skills Act 2000".



ATODLEN 2
Erthygl 9(2)


DIWYGIADAU CANLYNIADOL I OFFERYNNAU STATUDOL


Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967)
     1. Yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987:

    (1) Yn rheoliad 61(1)—

    (2) Yn Atodlen 1B, ym mharagraff 28 yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales."

Rheoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971)
     2. Yn rheoliad 46(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987, ym mharagraffau (a), (b) a (b)(ii) yn y diffiniad o "full-time course of study" yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales."

Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor (Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/1814)
     3. Yn rheoliad 38(1) o Reoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor (Cyffredinol) 1992, ym mharagraffau (a), (b) a (b)(ii), yn y diffiniad o "full-time course of study", yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales."

Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Chweched Dosbarth) 1992 (O.S. 1992/1957)
     4. Yn Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Chweched Dosbarth) 1992:

    (1) Yn Atodlen 1—

    (2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 15 yn lle "appropriate Further Education Funding Council" rhodder "National Assembly for Wales".

Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Addysg Bellach) 1992 (O.S.1992/1963)
     5. Yn Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Addysg Bellach) 1992:

    (1) Yn Atodlen 1—

    (2) Yn Atodlen 2 ym mharagraff 16 yn lle "appropriate Further Education Funding Council" rhodder "National Assembly for Wales".

Gorchymyn Addysg (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) (Cymru) 1993 (O.S.1993/215)
     6. Yn erthygl 2 o Orchymyn Addysg (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) (Cymru) 1993 paragraff (1) yn lle "Further Education Funding Council for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Rheoliadau Coleg Menai (Llywodraethu) 1994 (O.S. 1994/1450)
     7. Yn Rheoliadau Coleg Menai (Llywodraethu) 1994:

    (1) Yn Atodlen 1 ym mharagraffau 21(2)(b) a 21(4) yn lle "Further Education Funding Council for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

    (2) Yn Atodlen 2 paragraff 16 yn lle "Further Education Funding Council for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996 (O.S. 1996/207)
     8. Yn Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996:

    (1) Yn rheoliad 1(3)—

    (2) Yn rheoliad 11(3) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales."

    (3) Yn rheoliad 57(1), yn y diffiniad o "training" yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales."

    (4) Yn rheoliad 75(1)(b)(i), yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales."

    (5) Yn rheoliad 170(2), yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales."

    (6) Yn Atodlen A1, ym mharagraff 16 yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales."

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890)
     9. Yn rheoliad 41 o Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996:

    (1) Yn is-baragraff (d) yn y diffiniad o "access funds" yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales";

    (2) Yn is-baragraffau (a), (b) a (b)(ii) yn y diffiniad o "full-time course of study" yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

    (3) Hepgorer y diffiniad o "the NCETW means the National Council for Education and Training in Wales".

Rheoliadau Awdurdod Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 (O.S. 1998/644)
     10. Yn rheoliad 3(2)(m) o Reoliadau Awdurdod Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygiadau Awdurdod Addysg Lleol) 1998 (O.S. 1998/880)
     11. Yn rheoliad 4(1)(d) o Reoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygiadau Awdurdod Addysg Lleol) 1998 yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Rheoliadau Addysg (Arolygiadau Ysgolion) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1866)
     12. Yn Rheoliadau Addysg (Arolygiadau Ysgolion) (Cymru) 1998:

    (1) Yn rheoliad 5(1)(g) a 5(1)(i) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

    (2) Yn rheoliad 6(c)(ii) a 6(d)(iv) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

    (3) Yn rheoliad 8(3)(b) ac 8(3)(c) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 (O.S.1999/1619)
     13. Yn Rhan 2 o'r Atodlen i Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 hepgorer "National Council for Education and Training for Wales".

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1780)
     14. Yn rheoliad 7(2)(a) o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999 hepgorer "the National Council for Education and Training for Wales, if the proposals affect the provision of education to which section 31(1) of the Learning and Skills Act 2000 applies".

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812)
     15. Yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999:

    (1) Yn rheoliad 6(9) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

    (2) Ym mharagraff 20 yn Rhan 2 o Atodlen 1, yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Gorchymyn Corfforaethau Addysg Bellach (Coleg Iâl) (Addasu Offeryn Llywodraethu) 1999
     16. Yn erthygl 20(2) o Orchymyn Corfforaethau Addysg Bellach (Coleg Iâl) (Addasu Offeryn Llywodraethu) 1999 yn lle "Further Education Funding Council for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Gorchymyn Corfforaethau Addysg Bellach (Coleg Iâl) (Addasu Offeryn Llywodraethu) (Rhif 2) 1999
     17. Yng Ngorchymyn Corfforaethau Addysg Bellach (Coleg Iâl) (Addasu Offeryn Llywodraethu) (Rhif 2) 1999:

    (1) Yn erthyglau 3(2) a 5(2) yn lle "Further Education Funding Council for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

    (2) Yn erthygl 5(3)—

    (3) Yn erthygl 6—

Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000 (O.S. 2000/2539)(Cy. 162)
     18. Dirymir Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000.

Gorchymyn Cyfrifon y Llywodraeth Gyfan (Dynodi Cyrff) 2000 (O.S. 2000/3357)
     19. Yn yr Atodlen i Orchymyn Cyfrifon y Llywodraeth Gyfan (Dynodi Cyrff) 2000 hepgorer "National Council for Education and Training for Wales".

Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2069)(Cy. 141)
     20. Dirymir Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001.

Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2501)(Cy. 204)
     21. Yn rheoliad 4(3)(c) o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 hepgorer "Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant".

Gorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001 (O.S. 2001/3458)
     22. Yng Ngorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001:

    (1) Yn Atodlen 1 hepgorer "The National Council for Education and Training for Wales".

    (2) Yn Rhan 4 o Atodlen 2 yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder " National Assembly for Wales".

Gorchymyn Cyfrifon Llywodraeth Gyfan (Dynodi Cyrff) 2002 (O.S. 2002/454)
     23. Yn Atodlen 2 i Orchymyn Cyfrifon Llywodraeth Gyfan (Dynodi Cyrff) 2002 hepgorer "National Council for Education and Training in Wales".

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1729)(Cy. 163)
     24. Yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002 hepgorer "Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant".

Rheoliadau Credydau Treth Plant 2002 (O.S. 2002/2007)
     25. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Credydau Treth Plant 2002 yn y diffiniad o "relevant training programme" ym mharagraff (aa) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder " National Assembly for Wales".

Rheoliadau Addysg (Athrawon a'u Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu etc) 2002 (O.S. 2002/2086)
     26. Yn Rheoliadau Addysg (Athrawon a'u Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu etc) 2002:

    (1) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o "specialist college" yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

    (2) Yn rheoliad 4(3)(d) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Gorchymyn Rhyddid Gwybodaeth (Awdurdodau Cyhoeddus Ychwanegol) 2002 (O.S. 2002/2623)
     27. Yn Atodlen 1 o Orchymyn Rhyddid Gwybodaeth (Awdurdodau Cyhoeddus Ychwanegol) 2002 hepgorer "The National Council for Education and Training for Wales".

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 (O.S. 2003/437)
     28. Yn Rhan 1 o'r Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 hepgorer "The National Council for Education and Training for Wales".

Gorchymyn Cyfrifon Llywodraeth Gyfan (Dynodi Cyrff) 2003 (O.S. 2003/489)
     29. Yn yr Atodlen i Orchymyn Cyfrifon Llywodraeth Gyfan (Dynodi Cyrff) 2003 hepgorer "National Council for Education and Training for Wales".

Rheoliadau Budd-dal Plant (Cyffredinol) 2003 (O.S. 2003/493)
     30. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Budd-dal Plant (Cyffredinol) 2003 yn y diffiniad o "relevant training programme" ym mharagraff (b) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 (O.S. 2003/918)(Cy. 119)
     31. Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 yn y diffiniad o "gweinyddydd cyfrifon dysgu" ("learning accounts administrator") ar ôl "y Rheoliadau hyn" ychwaneger "neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru".

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1732)(Cy. 190)
     32. Yn rheoliad 5(1)(viii) o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 hepgorer "Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant".

Rheoliadau Addysg (Athrawon a'u Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-daliadau etc) 2003 (O.S. 2003/1917)
     33. Yn Rheoliadau Addysg (Athrawon a'u Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-daliadau etc) 2003:

    (1) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o "specialist college" yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

    (2) Yn rheoliad 4(3)(d) yn lle "National Council for Education and Training for Wales" rhodder "National Assembly for Wales".

Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2909)(Cy. 275)
     34. Yn Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003:

    (1) Yn rheoliad 1 yn y diffiniad o "corff perthnasol" ("relevant body") ychwaneger ")" ar ôl "a'r awdurdod ei hunan" a hepgorer "ond heb gynnwys Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant)".

    (2) Yn rheoliad 6(4) yn lle "Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3118) (Cy.296)
     35. Yn rheoliad 2(8)(a) o Reoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003 yn lle "Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant" rhodder "Gynulliad Cenedlaethol Cymru".

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 (2003/3237)(Cy. 317)
     36. Yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003:

    (1) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o "cyfeirnod gweithgaredd dysgu" ("learning activity reference") yn lle "Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant" rhodder "Gynulliad Cenedlaethol Cymru".

    (2) Yn rheoliad 4(2)(b) hepgorer "Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant".

Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004 (O.S. 2004/679)(Cy. 67)
     37. Yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004 hepgorer "(c) Cyngor Addysg a Hyfforddiant i Gymru".

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2506)(Cy. 224)
     38. Yn Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004:

    (1) Yn rheoliad 2 hepgorer "ystyr y Cyngor Cenedlaethol ("the National Council") yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant".

    (2) Yn rheoliad 7(3) hepgorer "neu'r Cyngor Cenedlaethol".

    (3) Yn rheoliad 8(2) yn lle "Cyngor Cenedlaethol" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol".

    (4) Yn rheoliad 14(2) yn lle "Cyngor Cenedlaethol" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol".

    (5) Yn y pennawd i reoliad 15 yn lle "Cyngor Cenedlaethol" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol".

    (6) Yn rheoliad 15 yn lle "Cyngor Cenedlaethol" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol".

Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004 (O.S. 2004/1576) (Cy. 162)
     39. Yn Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004:

    (1) Yn enw'r Rheoliadau yn lle "Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant" rhodder "Gynulliad Cenedlaethol Cymru".

    (2) Yn rheoliad 1(1) yn lle "Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant" rhodder "Gynulliad Cenedlaethol Cymru".

    (3) Yn rheoliad 2 hepgorer "ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant".

    (4) Yn rheoliad 4 yn lle "y Cyngor" rhodder "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly").

    (5) Yn rheoliad 5—

    (6) Yn rheoliad 6 yn lle "i'r Cyngor" rhodder "i Gynulliad Cenedlaethol Cymru".

    (7) Dirymir rheoliad 7.

    (8) Dirymir rheoliad 8.

    (9) Mewnosoder y canlynol ar ôl rheoliad 6:

     “8A. Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol


    (1) Ar ôl i'r cyfnod a grybwyllir yn rheoliad 6 ddod i ben, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu p'un ai—

    (2) Wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a wneir yn unol â rheoliad 6 ac nas tynnir yn ôl.

    (3) Cyn cadarnhau'r cynigion yn ddarostyngedig i addasiadau rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r personau hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol.

    (4) Caiff cadarnhad o dan is-baragraff (1)(b) neu (c) fod yn amodol ar fod achlysur penodedig o fath sydd wedi'i ragnodi yn digwydd erbyn amser penodedig; ac os nad yw'r achlysur yn digwydd erbyn yr amser penodedig rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailystyried ei benderfyniad o dan baragraff (1).

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu ei gynigion yn ôl ar unrhyw adeg cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn.

    (10) Yn rheoliad 9—

    (11) Yn rheoliad 10—

    (12) Dirymir rheoliad 13.

    (13) Yn rheoliad 14—

    (14) Yn rheoliad 16(1) yn lle "y gall cymeradwyo" rhodder "y gall cadarnhau".

    (15) Yn rheoliad 17 hepgorer "(a) y Cyngor".

    (16) Yn Atodlen 1—

    (17) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1 yn lle "Cyngor" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol".

    (18) Dirymir Atodlen 3.

    (19) Yn Atodlen 4—

Gorchymyn Cyfrifon Llywodraeth Gyfan (Dynodi Cyrff) 2005 (O.S. 2005/486)
     40. Yn Atodlen 1 i Orchymyn Cyfrifon Llywodraeth Gyfan (Dynodi Cyrff) 2005 hepgorer "National Council for Education and Training for Wales".

Gorchymyn Ymgorffori Coleg Catholig Dewi Sant 2005 (SI 2005/2293)
     41. Yng Ngorchymyn Ymgorffori Coleg Catholig Dewi Sant 2005:

    (1) Yn erthygl 2 hepgorer y diffiniad o "y Cyngor".

    (2) Yn erthygl 7:

    (3) Yn erthygl 9 yn lle "a'r Cyngor" rhodder "a'r Cynulliad".

    (4) Yn erthygl 10:



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("the National Assembly") y pwerau mewn cysylltiad â strwythur cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, sef y cyrff a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

Mae'n darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo swyddogaethau rhai o'r cyrff hynny i gorff arall o'r fath, i awdurdod lleol yng Nghymru neu iddo ef ei hun; ac y caiff ddiddymu cyrff o'r fath pan fydd eu swyddogaethau i gyd wedi'u trosglwyddo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant ("y Cyngor") i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o'r Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol.

Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau'r Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff y Cyngor ac yn cymhwyso Rheoliadau Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau.

Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau.

Mae erthygl 6 yn darparu bod y Cyngor yn cael ei ddiddymu cyn gynted ag y trosglwyddir y swyddogaethau.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol gan gynnwys mewn perthynas â pharatoi cyfrifon ar gyfer y Cyngor gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005 — 2006.

Mae erthygl 9 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.


Notes:

[1] 1998 p.38. Diwygiwyd Atodlen 4 gan Adran 149 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).back

[2] O.S. 1981/1794: diwygiwyd gan O.S. 1987/442.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091226 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 1 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053238w.html