BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 Rhif 3239 (Cy.244)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053239w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3239 (Cy.244)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005

  Wedi'i wneud 22 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â'r pwerau a roddwyd iddo gan adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn:

Trosglwyddo Swyddogaethau ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol
    
2. Yn ddarostyngedig i erthygl 9, trosglwyddir holl swyddogaethau ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo staff
    
3. At ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981[2]—

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
     4. —(1) Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd gan ACCAC hawl iddynt neu yr oedd ACCAC yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Bydd tystysgrif a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ardystio bod unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau wedi'u trosglwyddo gan baragraff (1) yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r trosglwyddiad.

    (3) Nid yw'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth a drosglwyddir yn rhinwedd erthygl 3.

    (4) Mae i baragraff (1) effaith mewn cysylltiad ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

Darpariaeth ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau
    
5. I'r graddau y mae'n ofynnol ar gyfer parhau ei effaith ar ac ar ôl y dyddiad trosglwyddo, rhaid i unrhyw beth a wnaed gan ACCAC, neu mewn perthynas ag ef, ac sy'n cael effaith yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol neu mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diddymu ACCAC
    
6. Ar y dyddiad trosglwyddo mae ACCAC yn peidio â bod.

Darpariaethau trosiannol etc
    
7. —(1) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan ACCAC neu mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad trosglwyddo.

    (2) Caniateir i'r Cynulliad Cenedlaethol barhau, neu caniateir parhau, mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol, ag unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael ei wneud gan ACCAC neu mewn perthynas ag ACCAC cyn y dyddiad trosglwyddo.

    (3) Ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol neu'n briodol, rhaid trin cyfeiriadau at ACCAC, mewn unrhyw offerynnau, contractau, neu achosion cyfreithiol, fel pe baent yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Hyd oni ddaw adran 189 o Ddeddf Addysg 2002 i rym, i'r graddau y bo'n ymwneud â pharagraff 5(5) o Atodlen 17 i'r Ddeddf honno, bydd adran 29 o Ddeddf Addysg 1997 (swyddogaethau ACCAC mewn perthynas â'r cwricwlwm ac asesu) yn cael effaith fel pe rhoddid yn lle is-adran (4)—

Cyfrifon
    
8. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (2) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

Diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau a deddfwriaeth arall
    
9. —(1) Diwygir y Deddfau a bennir yn Atodlen 1 yn unol â'r Atodlen honno.

    (2) Diwygir yr is-ddeddfwriaeth a bennir yn Atodlen 2 yn unol â'r Atodlen honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005



ATODLEN 1
Erthygl (1)


Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddfwriaeth Sylfaenol


Deddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11)
     1. Yn Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (mathau o gyflogaeth etc. y cyfeirir atynt yn Adran 1 i'r Ddeddf honno), yn y rhestr o gyrff eraill hepgorer "The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales".

Deddf Anghymhwyso Rhag Aelodaeth o Dŷ'r Cyffredin 1975 (p.24)
     2. Yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Anghymhwyso Rhag Aelodaeth o Dŷ'r Cyffredin 1975 (swyddi eraill sy'n anghymhwyso) hepgorer "Any member of the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales constituted under section 27 of the Education Act 1997 in receipt of remuneration."

Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (p.74)
     3. Yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (cyrff a phersonau eraill a ychwanegir ar ôl i'r ddyletswydd statudol gyffredinol ddechrau) hepgorer "The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales."

Deddf Elusennau 1993 (p.10)
     4. Yn Atodlen 2 i Ddeddf Elusennau 1993 (elusennau esempt) hepgorer paragraff (f).

Deddf Addysg 1996 (p.56)
     5. Yn adran 391(10)(b) o Ddeddf Addysg 1996 (swyddogaethau cynghorau ymgynghorol) yn lle "the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales" rhodder "the National Assembly for Wales".

Deddf Addysg 1997 (p.44)
     6. Diwygir Deddf Addysg 1997 fel a ganlyn.

     7. Yn adran 24 (swyddogaethau'r Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol ac academaidd allanol) hepgorer is-adran (3).

     8. Yn lle pennawd Pennod 2 rhodder "Functions of the National Assembly for Wales".

     9. Hepgorer adran 27 (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru), a'r croesbennawd yn union o'i blaen.

     10. Yn y croesbennawd yn union o flaen adran 28 ac ym mhennawd adran 28 yn lle "Authority" rhodder "National Assembly for Wales".

     11. Yn adran 28 (swyddogaethau cyffredinol yr Awdurdod i hybu addysg a hyfforddiant)—

     12. Ym mhennawd adran 29, yn lle "Authority" rhodder "National Assembly for Wales."

     13. Yn adran 29 (swyddogaethau'r Awdurdod mewn perthynas â'r cwricwlwm ac asesu)—

     14. Ym mhennawd adran 30, yn lle "Authority" rhodder "National Assembly for Wales".

     15. Yn adran 30 (swyddogaethau'r Awdurdod mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol ac academaidd allanol)—

     16. Hepgorer adran 31 (swyddogaethau eraill yr Awdurdod).

     17. Ym mhennawd adran 32, yn lle "Authority of their functions" rhodder "the National Assembly for Wales of its functions".

     18. Yn adran 32 (darpariaethau atodol mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau gan yr Awdurdod)—

     19. Ym mhennawd adran 32A, yn lle "Authority" rhodder "National Assembly for Wales".

     20. Yn adran 32A (pŵer yr Awdurdod i roi cyfarwyddiadau)—

     21. Yn adran 35 (trosglwyddo staff) yn is-adran (1)(b)—

     22. Ym mhennawd adran 36, yn lle "Authority" rhodder "body".

     23. Yn adran 36 (ardoll ar gyrff sy'n dyfarnu cymwysterau a achredir gan yr Awdurdod perthnasol)—

     24. Diwygir Atodlen 4 fel a ganlyn—

     25. Hepgorer Atodlen 5.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)
     26. Diwygir Deddf Llywodraeth Cymru 1998 fel a ganlyn.

     27. Yn adran 118(2) (ystyr "Welsh public records") hepgorer paragraffau (b) a (j).

     28. Yn Rhan 1 o Atodlen 4 (cyrff a allai golli neu ennill swyddogaethau) hepgorer paragraff 9.

Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)
     29. Yn Atodlen 2A i Ddeddf Safonau Gofal 2000 (personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd Plant o dan adran 72B) hepgorer paragraff 18.

Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21)
     30. Yn adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (cymwysterau a gymeradwyir: Cymru) hepgorer is-adrannau (7) ac (8).

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36)
     31. Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol) hepgorer "The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales."

Deddf Addysg 2002 (p.32)
     32. Yn adran 111 o Ddeddf Addysg 2002 (gwaith datblygu ac arbrofion)—



ATODLEN 2
Erthygl 9(2)

Gorchymyn Deddf Addysg 1997 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1997 (O.S. 1997/1468)
     1. Ym mharagraff 4 yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Addysg 1997 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1997 yn lle "the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales" rhodder "the National Assembly for Wales".

Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaethau) 1997 (O.S. 1997/2140)
     2. Dirymir Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaethau) 1997.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812)
     3. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, yn y diffiniad o "NQF" hepgorer "the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales," a mewnosoder "the Assembly".

Gorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Gyffredinol) 2001 (O.S. 2001/3457)
     4. Yn yr Atodlen (Rhan 2 cyrff a phersonau eraill a ychwanegir ar ôl cychwyn dyletswyddau statudol cyffredinol) i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Gyffredinol) 2001 hepgorer "the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales."

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3901)(Cy. 319)
     5. Yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001:

Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 (O.S. 2001/3907)(Cy. 320)
     6. Dirymir Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001.

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45)(Cy. 4)
     7. Yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002:

Gorchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2812)
     8. Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol) i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 dileer "the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.".

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 (O.S. 2003/437)
     9. Yn Rhan 2 o'r Atodlen (swyddi eraill sy'n anghymhwyso) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 hepgorer "any member, not being also an employee, of the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.".

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1732)(Cy. 190)
     10. Yn rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 (cyhoeddi cynllun drafft) hepgorer is-adran (1)(v).

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/549)(Cy. 53)
     11. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004:

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1025)(Cy.122)
     12. Yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 yn rheoliad 2:

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1026)(Cy. 123)
     13. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004:

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) (O.S. 2004/2915)(Cy. 254)
     14. Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004:

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cyfnod Allweddol 3 Trefniadau Asesu) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/108)
     15. Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cyfnod Allweddol 3 Trefniadau Asesu) (Cymru) 2005:



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") y pwerau mewn cysylltiad â strwythur cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, sef y cyrff a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

Mae'n darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo swyddogaethau rhai o'r cyrff hynny i gorff arall o'r fath, i awdurdod lleol yng Nghymru neu iddo ef ei hun; ac y caiff ddiddymu cyrff o'r fath pan fydd eu swyddogaethau i gyd wedi'u trosglwyddo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru ("ACCAC") i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol.

Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff ACCAC ac yn cymhwyso Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau.

Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau.

Mae erthygl 6 yn darparu bod ACCAC yn cael ei ddiddymu cyn gynted ag y trosglwyddir y swyddogaethau.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol gan gynnwys mewn perthynas â pharatoi cyfrifon ar gyfer ACCAC gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005 — 2006.

Mae erthygl 9 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.


Notes:

[1] 1998 p.38.back

[2] O.S. 1981/1794: diwygiwyd gan O.S. 1987/442.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091229 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 30 November 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053239w.html