BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 3252 (Cy.245)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
23 Tachwedd 2005 | |
|
Yn dod i rym |
25 Tachwedd 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978[1] ac adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984[2] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2005.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y rhannau o Gymru a ganlyn—
(a) y rhan honno o draffordd yr M4 yng Nghymru sy'n cynnwys "the New Toll Plaza area" a "the New Bridge" fel y'u diffinnir yn adran 39(1) o Ddeddf Pontydd Hafren 1992[4]; neu
(b) y rhan honno o'r ffordd a adeiladwyd gan y Gweinidog Trafnidiaeth ar hyd y llinell a ddisgrifir yn Atodlen 1 o Orchymyn Cefnffordd North Almondsbury-South of Haysgate 1947[5] ac y cyfeirir ati yn y Gorchymyn hwnnw fel "the new road" sy'n gorwedd i'r dwyrain o'r pwynt mwyaf dwyreiniol cyn cyrraedd Afon Gwy lle gall traffig Dosbarthiadau I a II fel y'i pennir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980[6] adael y ffordd honno ar hyd ffordd arbennig arall.
Diwygio Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986[7] fel a ganlyn:
(2) Yn rheoliad 10 (cyfnod hysbysiad cyn symud ymaith i ddinistrio), yn lle "seven days" rhodder "24 hours".
(3) Yn rheoliad 14 (perchennog yn symud cerbyd ymaith cyn ei waredu), yn lle'r geiriau ar ôl "to be the owner from their custody shall be" rhodder "7 days from the day when that notice is served on that person".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 ("Rheoliadau 1986") yn darparu ar gyfer symud ymaith a gwaredu cerbydau o dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978 ac adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1986 o ran Cymru (heblaw'r rhannau hynny o Groesfannau Hafren sydd yng Nghymru) er mwyn cwtogi'r cyfnod o rybudd a ragnodir gan Reoliadau 1986 mewn dau achos:—
(a) Os yw awdurdod yn bwriadu symud ymaith gerbyd sy'n ymddangos i'r awdurdod yn adawedig ac sydd yn ei farn ef yn y fath gyflwr ag y dylid ei ddinistrio, cwtogir y cyfnod hysbysu o 7 niwrnod i 24 awr o'r adeg pan osodir hysbysiad ar y cerbyd;
(b) Os yw awdurdod wedi symud ymaith gerbyd (ond nad yw'r cerbyd yn y fath gyflwr ag y dylid ei ddinistrio) ac wedi dod o hyd i'r perchennog, cwtogir y cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r perchennog symud y cerbyd o warchodaeth yr awdurdod o 21 niwrnod i 7 niwrnod o'r adeg pan gyflwynir yr hysbysiad perthnasol iddo. Caiff yr awdurdod waredu'r cerbyd ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben cyn belled ag nad oes trwydded mewn grym ar gyfer y cerbyd hwnnw.
Notes:
[1]
1978 p.3. Gweler adran 11(1) i gael y diffiniad o "prescribed".back
[2]
1984 p.27. Gweler adran 142(1) i gael y diffiniad o "prescribed".back
[3]
Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dan adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004, O.S. 2004/3044, erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[4]
1992 p.3.back
[5]
O.S. 1947/1562.back
[6]
1980 p.66.back
[7]
O.S. 1986/183, y gwnaed diwygiadau perthnasol i'r Rheoliadau hyn, o ran Lloegr, gan O.S. 2002/746 ac o ran Yr Alban, gan O.S.A. 2002/538.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091230 6
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
1 December 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053252w.html