BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005 Rhif 3254 (Cy.247) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053254w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 24 Tachwedd 2005 | ||
Yn dod i rym | 1 Ionawr 2006 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Awdurdodau cymwys |
4. | Cyfnewid a darparu gwybodaeth |
5. | Sicrhau gwybodaeth |
6. | Pwer i ddyroddi codau arferion a argymhellir |
7. | Monitro camau gorfodi |
8. | Pŵer i ofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodi |
9. | Pwerau mynediad ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodi |
10. | Ystyr "awdurdod gorfodi" ac ymadroddion cysylltiedig |
11. | Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9 |
12. | Yr hawl i apelio |
13. | Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1) |
14. | Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall |
15. | Arbenigwyr y Comisiwn |
16. | Gwahardd datgelu cyfrinachau masnachol |
17. | Gweithredu a gorfodi |
18. | Pwerau mynediad |
19. | Rhwystro, etc. swyddogion |
20. | Cosbau |
21. | Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau |
22. | Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau |
23. | Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid |
24. | Cyfrifoldebau gorfodi bwyd |
25. | Swyddogaethau'r Comisiynwyr |
26. | Gohirio gweithredu a gorfodi |
27. | Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol |
28. | Gwirio cynhyrchion |
29. | Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill |
30. | Penderfyniadau yn unol ag Erthygl 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd) |
31. | Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30 |
32. | Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31 |
33. | Risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd |
34. | Atebolrwydd am ffioedd |
35. | Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig |
36. | Dadansoddi etc. samplau |
37. | Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd |
38. | Rhwystro etc. swyddogion |
39. | Tramgwyddau a chosbau |
40. | Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion) |
41. | Diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 |
42. | Tramgwyddau oherwydd bai person arall |
43. | Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy |
44. | Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol |
45. | Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd |
46. | Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll |
47. | Cyflwyno dogfennau |
48. | Dirymiadau |
ATODLEN 1 | DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL |
ATODLEN 2 | DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL |
SCHEDULE 3 | DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL |
ATODLEN 4 | AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL |
ATODLEN 5 | AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS I GYFRAITH BWYD BERTHNASOL |
ATODLEN 6 | DIRYMIADAU |
RHAN I — | DIRYMU OFFERYNNAU SY'N GYMWYS O RAN CYMRU A RHANNAU ERAILL O BRYDAIN FAWR |
RHAN II — | DIRYMU OFFERYNNAU SY'N GYMWYS O RAN CYMRU |
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yn ôl y digwydd.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd.
(2) Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).
(3) Mae person sydd —
yn euog o dramgwydd.
(4) At ddibenion paragraff (1), mae'r term "corff rheoli" ("control body") yn cynnwys unrhyw aelod o gorff rheoli, unrhyw swyddog i gorff rheoli neu unrhyw un o gyflogeion corff rheoli.
Pŵer i ddyroddi codau arferion a argymhellir
6.
—(1) Fel canllawiau i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd, caiff y Cynulliad ddyroddi codau arferion a argymhellir ynghylch—
(2) Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â'r Cynulliad, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.
(3) Wrth arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau cymwys gan neu o dan Reoliad 882/2004, rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid ac awdurdod bwyd—
(4) Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.
(5) Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â'r Cynulliad cyn gwneud cais o dan baragraff (4).
(6) Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd y Cynulliad yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.
Monitro camau gorfodi
7.
—(1) Un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw monitro perfformiad awdurodau gorfodi o ran gorfodi rheoliadau archwilio penodol.
(2) Mae'r swyddogaeth honno yn cynnwys, yn benodol, gosod safonau perfformiad (boed ar gyfer awdurdodau gorfodi yn gyffredinol neu ar gyfer awdurdodau penodol) mewn perthynas â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol.
(3) Rhaid i bob adroddiad blynyddol yr Asiantaeth gynnwys adroddiad ar ei gweithgareddau yn ystod y flwyddyn i orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol y mae'n awdurdod gorfodi ar ei chyfer ac ar ei pherfformiad o ran —
(4) Caiff yr Asiantaeth gyflwyno adroddiad i unrhyw awdurdod gorfodi arall ar ei berfformiad o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol a chaniateir i'r adroddiad hwnnw gynnwys canllawiau ynghylch y camau y cred yr Asiantaeth y byddent yn gwella'r perfformiad hwnnw.
(5) Caiff yr Asiantaeth gyfarwyddo awdurdod y mae adroddiad o'r fath wedi'i gyflwyno iddo —
(6) Mae adran 19 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn gymwys o ran gwybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan y rheoliad hwn fel petai'n wybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.
Pŵer i ofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodi
8.
—(1) At ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi, caiff yr Asiantaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a grybwyllir ym mharagraff (2) —
(2) Gall gofyniad o dan baragraff (1) gael ei osod—
(3) Caiff yr Asiantaeth gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddi yn unol â gofyniad o dan baragraff (1)(b).
Pwerau mynediad ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodi
9.
—(1) Caiff yr Asiantaeth awdurdodi unrhyw unigolyn (boed yn aelod o'i staff neu beidio) i arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (4) at ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi.
(2) Ni chaniateir i unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn gael ei ddyroddi ac eithrio yn unol â phenderfyniad a gymerwyd gan yr Asiantaeth ei hun neu gan bwyllgor, is-bwyllgor neu aelod o'r Asiantaeth sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth.
(3) Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a bennir yn yr awdurdodiad (gan gynnwys amodau sy'n ymwneud â rhagofalon hylendid sydd i'w cymryd tra'n arfer pwerau yn unol â'r awdurdodiad).
(4) Caiff person awdurdodedig —
(5) Y fangre y caiff person awdurdodedig fynd i mewn iddi yw —
(6) Mae'r pŵer a roddwyd i berson awdurdodedig i fynd i mewn i fangre yn cynnwys pŵer i fynd ag unrhyw berson arall y mae'n barnu ei fod yn briodol gydag ef.
(7) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson awdurdodedig —
(8) Os bydd person, sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd yr adran hon, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.
(9) Os yr Asiantaeth yw'r awdurdod gorfodi o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol, mae'r rheoliad hwn, gan hepgor paragraff (5)(a), yn gymwys o ran yr Asiantaeth (mewn perthynas â'i pherfformiad o ran gorfodi'r darpariaethau hynny).
(10) Yn y rheoliad hwn ystyr "person awdurdodedig" yw person sydd wedi'i awdurdodi o dan y rheoliad hwn.
Ystyr "awdurdod gorfodi" ac ymadroddion cysylltiedig
10.
—(1) Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr "deddfwriaeth archwilio berthnasol" yw cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol y mae'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys ar eu cyfer yn unol â pharagraffau (1) a (3) o reoliad 3 yn y drefn honno ond nid yw'n cynnwys deddfwriaeth berthnasol fel y diffinnir "relevant legislation" yn adran 15 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.
(2) Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr "awdurdod gorfodi" yw'r awdurdod y mae deddfwriaeth archwilio berthnasol i'w gorfodi drwyddo ac mae'n cynnwys yr Asiantaeth ei hun os yr awdurdod gorfodi ydyw mewn perthynas â hi ond nid yw'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd; ac mae "gorfodi" o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys gweithredu unrhyw ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth honno.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 7 i 9 (sut bynnag y maent wedi'u mynegi) at berfformiad awdurdod gorfodi o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys cyfeiriad at allu'r awdurdod hwnnw i'w gorfodi.
Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9
11.
Bydd person sydd —
yn euog o dramgwydd.
Yr hawl i apelio
12.
—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—
apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980[11] fydd yn gymwys i'r trafodion.
(3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.
(4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.
(5) Pan fo cymeradwyaeth yn cael ei thynnu'n ôl, caiff y gweithredydd busnes bwyd a oedd, yn union cyn bod y gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl, yn defnyddio'r sefydliad o dan sylw, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod cymwys er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, oni bai—
(6) Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd os yw—
(7) Yn y Rheoliad hwn mae i bob un o'r termau "gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid", "hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid", "gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid" a "hysbysiad camau cywiro" yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.
Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1)
13.
Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 12(1) apelio i Lys y Goron.
Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall
14.
Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd â staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef at ddibenion cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad 882/2004.
Arbenigwyr y Comisiwn
15.
—(1) Pan fo swyddog gorfodi yn mynd i mewn i fangre at ddibenion gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, caiff y swyddog fynd ag arbenigydd gydag ef i'r Comisiwn er mwyn galluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad 882/2004.
(2) Yn y Rheoliad hwn ystyr "swyddog gorfodi" yw swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol ar gyfer cadarnhau cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol.
Gwahardd datgelu cyfrinachau masnachol
16.
Os bydd person yn mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 14 neu 15 ac yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth gyflawni ei ddyletswydd.
Gweithredu a gorfodi
17.
—(1) Yr awdurdod cymwys a osododd y gofyniad ar y corff rheoleiddiol o dan sylw o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5.
(2) Yr Asiantaeth yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau 9(8) ac 11.
(3) Yr awdurdod y cymerodd ei swyddog y person a wnaeth y datgeliad i'r fangre o dan sylw yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 16.
Pwerau mynediad
18.
—(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi perthnasol ac eithrio'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—
ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.
(2) Bydd gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog hwnnw, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—
ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.
(3) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—
caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.
(4) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.
(6) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw), a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—
(7) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—
(8) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.
(9) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[12], i fynd i mewn i unrhyw fangre—
Rhwystro, etc. swyddogion
19.
—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—
yn euog o dramgwydd.
(3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.
Cosbau
20.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9, neu reoliad 11 neu 16 yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 19 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau
21.
Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau, a hwnnw'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan baragraff (1) o reoliad 20, ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid
23.
Cyfrifoldeb yr awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ddosbarth, yn ôl y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.
Cyfrifoldebau gorfodi bwyd
24.
Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.
Swyddogaethau'r Comisiynwyr
25.
Rhaid i'r Comisiynwyr gyflawni'r swyddogaethau a roddir i wasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd.
Gohirio, gweithredu a gorfodi
26.
—(1) Pan fo—
(ch) person sy'n mewnforio'r cynnyrch yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig hwnnw ymrwymiad ysgrifenedig o ran y materion a bennir ym mharagraff (2),
daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.
(2) Rhaid i'r ymgymeriad—
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid i'r swyddog hwnnw—
(b) anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o unrhyw ymrwymiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1)(ch).
(4) Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.
(5) Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff (1)(ch).
Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol
27.
—(1) Ni chaiff unrhyw berson—
(2) Ni chaiff unrhyw berson—
(b) cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad ac sy'n methu â chydymffurfio â—
(3) Yn y rheoliad hwn—
Gwirio cynhyrchion
28.
—(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004.
(2) Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004, rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni'r gwiriadau hynny.
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag Erthygl 16, bydd gan y swyddog hwnnw hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.
Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill
29.
—(1) Mae gan awdurdod gorfodi bwer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad 882/2004 os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.
(2) Yr awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004.
Penderfyniadau yn unol ag Erthygl 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)
30.
—(1) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno cymryd unrhyw un o'r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(1)(a) a (b) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid hwnnw neu'r bwyd hwnnw, ar ôl i'r swyddog wrando ar weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid hwnnw neu weithredydd y busnes bwyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 19.
(2) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno arfer unrhyw un o'r pwerau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(2) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid neu'r bwyd hwnnw.
Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30
31.
—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980 fydd yn gymwys i'r trafodion.
(3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.
(4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.
Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31
32.
Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl i'r llys hwnnw o dan reoliad 31(1) apelio i Lys y Goron.
Risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd
33.
—(1) Pan fo'r Cynulliad neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall, neu pan fo ganddo neu ganddi sail resymol dros amau, bod bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i gyflwyno neu y gall gael ei gyflwyno o drydedd wlad a'i fod yn debyg o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff y naill neu'r llall ohonynt drwy ddatganiad ysgrifenedig atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad gyfan honno neu unrhyw ran ohoni, neu osod amodau ar ei gyflwyno i Gymru.
(2) Bydd datganiad o'r fath yn ysgrifenedig ac fe'i cyhoeddir yn y modd y gwêl y Cynulliad neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yn dda a bydd yn pennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.
(3) Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.
(4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.
(5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.
(6) Caiff datganiad gael ei addasu, ei atal neu ei dirymu gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.
Atebolrwydd am ffioedd
34.
—(1) Rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r person sy'n gyfrifol am lwyth o'r ffi sydd i'w thalu am y rheolaethau a gyflawnwyd arno gan yr awdurdod.
(2) Os gofynnir amdani, bydd unrhyw ffi yr hysbysir person ohoni o dan baragraff (1) yn daladwy gan y person hwnnw i'r awdurdod gorfodi.
(3) Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw unrhyw ffi am y costau a dynnir mewn cysylltiad â'r llwyth gan yr awdurdod gorfodi sy'n gweithredu fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004 yn rhinwedd rheoliad 29(2).
Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig
35.
Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—
(c) cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac
(ch) cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.
Dadansoddi etc. samplau
36.
—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 35—
(2) Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—
(3) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.
(4) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd, yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.
(5) Rhaid i ddadansoddydd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—
caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.
(6) Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.
(7) Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.
(8) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—
yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.
(9) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal dan sylw, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.
(10) Mae'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau)[14] yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi o dan reoliad 35 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.
(11) Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990.
Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd
37.
—(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—
ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.
(2) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai—
caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.
(3) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.
(4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—
(6) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (5)—
(7) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.
(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre—
Rhwystro etc. swyddogion
38.
—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—
yn euog o dramgwydd.
(3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.
Tramgwyddau a chosbau
39.
—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
yn euog o dramgwydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Darpariaethau Mewnforio yn agored—
(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 38 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)
40.
Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Darpariaethau Mewnforio, a hwnnw'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 39(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
p'un bynnag yw'r cynharaf.
(3) Yn lle paragraff (2)(a) o reoliad 5 (cosbi tramgwyddau) rhodder yr is-baragraff canlynol—
(4) Yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (gorfodi) rhodder y paragraff canlynol—
(5) Ar ôl rheoliad 6 (gorfodi) mewnosoder y rheoliad canlynol—
wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
44.
—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—
bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff(1)(a) ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.
Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd
45.
Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll
46.
—(1) Ni fydd swyddog i awdurdod cymwys yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—
os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
(2) Ni chaniateir i unrhyw beth ym mharagraff (1) gael ei ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod cymwys rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.
(3) Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod cymwys mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog —
caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.
(4) Rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.
Cyflwyno dogfennau
47.
—(1) Caniateir i unrhyw ddogfen, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i berson, gael ei chyflwyno—
(2) Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel "meddiannydd" y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac—
Dirymiadau
48.
—(1) I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae'r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 Rhan I o Atodlen 6 wedi'u dirymu i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.
(2) Mae'r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 Rhan II o Atodlen 6 wedi'u dirymu i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Tachwedd 2005
(b) cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cyffyrddiad â bwyd ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli deunyddiau sy'n dod i gyffyrddiad â bwyd o dan Reoliadau Offer Crochenwaith (Diogelwch) 1988[43]; ac
(c) cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
Eitem | Yr awdurdod cymwys | Darpariaethau Rheoliad 882/2004 |
1. | Yr Asiantaeth | Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1)a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52 a 54 |
2. | Yr awdurdod bwyd anifeiliaid | Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i 3 a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54 |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
Eitem | Yr awdurdod cymwys | Darpariaethau Rheoliad 882/2004 |
1. | Yr Asiantaeth | Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12,14, 19(1),(2) a (3), 24, 31(1) a (2), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54 |
2. | Yr awdurdod bwyd | Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54 |
Colofn 1 | Colofn 2 | Column 3 |
Yr Offerynnau | Y Cyfeirnod | Graddau'r Dirymu |
Rheoliadau Arsenig mewn Bwyd 1959 | O.S. 1959/831 | Rheoliad 6(a) |
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966 | O.S. 1966/1073 | Rheoliad 10(a) |
Rheoliadau Asid Erwsig mewn Bwyd 1977 | O.S. 1977/691 | Rheoliad 6(a) |
Rheoliadau Clorofform mewn Bwyd 1980 | O.S. 1980/36 | Rheoliad 7(a) |
Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1984 | O.S. 1984/1918 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985 | O.S. 1985/2026 | Rheoliad 11(a) |
Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990 | O.S. 1990/2490 | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991 | O.S. 1991/1476 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992 | O.S. 1992/1971 | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992 | O.S. 1992/1978 | Rheoliad 6 |
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 | O.S. 1993/1658 | Rheoliad 6 |
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995 | O.S. 1995/77 | Rheoliadau 5(2) a 6(2) |
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 | O.S. 1995/3123 | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 | O.S. 1995/3124 | Rheoliad 10 |
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 | O.S. 1995/3187 | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 | O.S. 1996/1499 | Rheoliad 47 |
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997 | O.S. 1997/1729 | Rheoliad 29 |
Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997 | O.S. 1997/2182 | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997 | O.S. 1997/2537 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Bara a Blawd 1998 | O.S. 1998/141 | Rheoliad 9 |
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 | O.S. 1998/1376 | Rheoliad 3(2) |
Rheoliadau Llaeth Yfed 1998 | O.S. 1998/2424 | Rheoliad 7 |
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999 | O.S. 1999/1540 | Rheoliad 18(1) a (3) |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
Yr Offerynnau | Y Cyfeirnod | Graddau'r Dirymu |
Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 | O.S. 2000/1866 (Cy.125) | Rheoliad 6 |
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 | O.S. 2001/1361 (Cy.89) | Rheoliad 7 |
Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001 | O.S. 2001/1440 (Cy.102) | Rheoliad 9 |
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 | O.S. 2002/2939 (Cy.280) | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 | O.S. 2003/1719 (Cy.186) | Rheoliad 10 |
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003 | O.S. 2003/3037 (Cy.285) | Rheoliad 9 |
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 | O.S. 2003/3041 (Cy.286) | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003 | O.S. 2003/3044 (Cy.288) | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 | O.S. 2003/3047 (Cy.290) | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 | O.S. 2003/3053 (Cy.291) | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004 | O.S. 2004/314 (Cy.32) | Rheoliad 11 |
Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 | O.S. 2004/553 (Cy.56) | Rheoliad 8 |
Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 | O.S. 2004/1396 (Cy.141) | Rheoliad 10(b) |
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 | O.S. 2005/364 (Cy.31) | Rheoliad 6 |
Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005 | O.S. 2005/1224 (Cy.82) | Rheoliad 9 |
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 | O.S. 2005/1647 (Cy.128) | Rheoliad 10(3) |
yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);
(ch) yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddyroddi codau arfer a argymhellir i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd (rheoliad 6);
(d) yn rhoi'r swyddogaeth o fonitro perfformiad awdurdodau gorfodi o ran gorfodi deddfwriaeth benodol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (rheoliad 7);
(dd) yn rhoi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd y pwer, at ddibenion cyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwn—
(e) yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn rheoliadau 7 i 9 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 10);
(f) yn darparu bod person sydd —
yn euog o dramgwydd (rheoliad 11);
(ff) yn darparu hawl i apelio ynglŷn â phenderfyniad yr awdurdod cymwys ynghylch cymeradwyo sefydliadau penodol a wneir o dan Erthygl 31 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliadau 12 a 13);
(g) yn darparu y caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd â staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 14);
(ng) yn darparu y caiff "swyddog gorfodi", a ddiffinnir yn rheoliad 15(2), pan fydd yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, fynd ag un o arbenigwyr y Comisiwn gydag ef i alluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 15);
(h) yn darparu bod person sy'n mynd i mewn i fangre o dan y pwerau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (g) neu (ng) ac sy'n datgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre mewn perthynas ag unrhyw gyfrinach fasnachol yn euog o dramgwydd oni bai bod y person hwnnw yn gwneud hynny wrth gyflawni ei ddyletswydd (rheoliad 16);
(i) yn pennu pa awdurdodau sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau 9(8), 11 ac 16 (rheoliad 17);
(j) yn darparu pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig yr awdurdodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (i) (rheoliad 18);
(l) yn creu'r tramgwydd o rwystro swyddog rhag gweithredu i roi Rhan II o'r Rheoliadau hyn ar waith(rheoliad 19);
(ll) yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 20);
(m) yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan Ran II (rheoliad 21);
(n) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 23 a 24);
(o) yn darparu bod y Comisiynwyr dros Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflawni'r swyddogaethau a roddwyd i'r gwasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 25);
(p) yn darparu dros ohirio gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn nes bod y cynnyrch wedi cyrraedd ei gyrchfan (rheoliad 26);
(ph) yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 (fel a ddisgrifir ym mharagraff 2 uchod) yn gwahardd cyflwyno i Gymru fwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol oni chaiff amodau penodedig eu bodloni (rheoliad 27);
(r) yn darparu ar gyfer gwirio cynhyrchion a gyflwynir i Gymru (rheoliad 28);
(rh) yn darparu bod gan awdurdod gorfodi bwer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 ac yn darparu mai'r awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o'r Rheoliad hwnnw (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd) (rheoliad 29);
(s) yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno cymryd mesurau penodol neu arfer pwerau penodol o dan Erthygl 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 30);
(t) yn darparu hawl i apelio mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 (rheoliadau 31 a 32);
(th) yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth, drwy ddatganiad ysgrifenedig, yn atal neu'n gosod amodau ar gyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch o drydedd wlad os yw naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall neu os yw'n rhesymol iddo neu iddi amau bod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi ei gyflwyno neu a allai gael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad honno'n debygol o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd (rheoliad 33);
(aa) yn darparu bod ffioedd yn daladwy o ran rheolaethau a gyflawnir ar lwythi (rheoliad 34);
(bb) yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau o fwyd at ddibenion gweithredu a gorfodi'r "Darpariaethau Mewnforio", a ddiffinnir yn rheoliad 22 (rheoliadau 35 a 36);
(cc) yn darparu pwerau mynediad ar gyfer swyddogion awdurdodedig i awdurdod bwyd o ran gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio (rheoliad 37);
(chch) yn creu tramgwydd o rwystro swyddog sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith (rheoliad 38);
(dd) yn creu tramgwyddau o ran mynd yn groes i reoliadau penodedig neu fethu â chydymffurfio â hwy a methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan y Darpariaethau Mewnforio ac yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran III (rheoliad 39);
(dddd) yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan Ran III (rheoliad 40);
(ee) yn diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 (O.S.2004/3279) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, fel a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod (rheoliad 41);
(ff) yn darparu pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bod y person arall hwnnw'n euog o'r tramgwydd (rheoliad 42);
(ffff) yn darparu ei bod yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd (rheoliad 43);
(gg) yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bydd y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 44);
(ngng) yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y partner hwnnw, y bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 45);
(hh) yn darparu ar gyfer amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 46);
(ii) yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 47);
(ll) yn darparu ar gyfer dirymu offerynnau penodedig i'r graddau a bennir (rheoliad 48).
6.
Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd Swyddogaethau "the Secretary of State" i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back
[6] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back
[9] O.S. 2005/3292 (W.252).back
[13] OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6.back
[14] O.S. 1990/2463, y gwnaed diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[17] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[18] OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.back
[19] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back
[20] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ No. L226, 25.6.2004, p.22).back
[21] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back
[22] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back
[24] O.S. 1999/1663, diwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (W.163), O.S. 2002/1797 (W.172), O.S. 2003/1677 (W.180), O.S. 2003/1850 (W.200), O.S. 2003/3119 (W.297), O.S. 2004/1749 (W.186) ac O.S. 2004/3091 (W.265).back
[25] O.S. 1999/1872, diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/2253 (W.163), 2002/1797 (W.172), O.S. 2003/989 (W.138), O.S. 2003/1677 (W.180) ac O.S. 2005/1393 (W.107).back
[26] O.S. 1999/2325, diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2002/2481, O.S. 2001/2253 (W.163), O.S. 2001/3461 (W.280), O.S. 2002/1797 (W.172), O.S. 2003/989 (W.138), O.S. 2003/1677 (W.180), O.S. 2003/1850 (W.200), O.S. 2003/3119 (W.297), O.S. 2004/1749 (W.186) ac O.S. 2004/3091 (W.265).back
[27] OJ No. L265, 8.11.95, t.17.back
[28] OJ No. L234, 1.9.2001, t.55.back
[30] O.S. 2001/343 (W.15), diwygiwyd gan O.S. 2001/2253 (W.163), O.S. 2001/3461 (W280), O.S 2002/1797 (W.172), O.S. 2003/1677 (W.180), O.S. 2003/1850 (W.200), O.S. 2003/3119 (W.297), O.S. 2004/1749 (W.186) ac O.S. 2004/3091 (W.265).back
[31] O.S. 2004/3221 (W.277).back
[33] O.S. 1997/1729, diwygiwyd gan O.S. 2001/3590 ac O.S. 2004/147.back
[34] O.S. 1999/3483, diwygiwyd gan O.S. 2001/1113, O.S. 2001/2420, O.S. 2001/3834, O.S. 2002/1767, O.S. 2002/2723, 2003/661, 2003/2591, 2004/676, 2004/1393, 2004/2559, 2005/432 a 2005/1725.back
[35] OJ No. L208, 24.7.92, t.1.back
[36] OJ No. L236, 23.9.2003, t.346.back
[37] OJ No. L208, 24.7.92, t.9.back
[39] O.S. 2004/1604, diwygiwyd gan O.S. 2005/2003.back
[40] O.S. 2001/1360 (W.88).back
[41] O.S. 1996/3124, diwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (W.131), O.S. 2000/2257 (W.150), O.S. 2001/1660 (W.119), O.S. 2001/2198 (W.158), O.S. 2001/2219 (W.159), O.S. 2002/47 (W.6), O.S 2002/129 (W.17), O.S. 2003/3229 (W.309) ac O.S. 2004/1430 (W.144).back
[42] O.S. 2005/666 (W.56).back