BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005 Rhif 3297 (Cy.255)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053297w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3297 (Cy.255)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 30 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu bwydydd crai, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl yr ymgynghori agored a thryloyw wrth i'r Rheoliadau hyn gael eu paratoi fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] fel y'u diwygiwyd diwethaf gan Rheoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:



RHAN I

RHAGARWEINIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

heblaw cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol sy'n cael eu gwerthu am y tro cyntaf yng Nghymru a mewnforion trydydd gwledydd;

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd.

Gwir gostau
     3. —(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gwir gostau arfer rheolaethau swyddogol yw cyfanswm y costau o'r mathau a bennir ym mharagraff (2) ac yr eir iddynt yn uniongyrchol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.

    (2) Y mathau o gostau yw—

Cyfwerthoedd y bunt â'r Ewro
    
4. —(1) Bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer benodedig o Ewros yn gyfeiriad at gyfwerth mewn punnoedd y nifer honno wedi'i chyfrifo yn unol â pharagraff (2).

    (2) Cyfrifir cyfwerth mewn punnoedd nifer benodedig o Ewros drwy luosi'r nifer honno gan y gyfradd gyfnewid Ewro/punt a bennir ym mharagraff (3).

    (3) Y gyfradd gyfnewid Ewro/punt yw—

Cyfnod Cyfrifydda
    
5. —(1) At ddibenion y Rheoliadau hynny, y cyfnod cyfrifydda yw un mis neu unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na deuddeng mis ac a benderfynir gan yr awdurdod bwyd perthnasol.

    (2) Rhaid penderfynu ar y cyfnod cyfrifydda, gan anelu at ostwng costau'r canlynol i swm rhesymol, o'i gymharu â'r taliadau y disgwylir iddynt ddod yn ddyledus, sef—

Adennill taliadau
    
6. Pan osodir unrhyw ddyletswydd i dalu taliad o dan y Rheoliadau hyn ar y naill neu'r llall o ddau berson, caiff yr awdurdod y mae'r tâl yn daladwy ei adennill—

Cyfrifo, talu ac ad-dalu taliadau
    
7. —(1) Pan ddelo'n hysbys i unrhyw awdurdod bwyd perthnasol bod taliad yn ddyledus iddo o dan y Rheoliadau hyn rhaid iddo—

    (2) Os yw'r awdurdod bwyd perthnasol neu'r awdurdod cymwys yn fodlon bod cyfrifiad sydd wedi'i wneud o dan baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddo ailgyfrifo'r taliad ac—

Apelau
    
8. —(1) Caiff person apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan awdurdod sy'n gosod tâl o dan y Rheoliadau hyn.

    (2) Gwrander wir ar yr apêl gan lys ynadon ac mae adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys o ran apêl fel y mae'n gymwys o ran apêl o dan adran 37(1)(c) o'r Ddeddf honno.

    (3) Ar apêl o'r fath caiff y llys—

    (4) Wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl bydd swm gwreiddiol y tâl yn gymwys o hyd, ond os bydd angen ailgyfrifo swm y tâl ar ôl penderfyniad y llys, bydd swm newydd y tâl yn effeithiol o'r dyddiad pan wnaed y tâl gwreiddiol a bydd y swm sydd hafal i'r swm newydd hwnnw yn daladwy i'r awdurdod dan sylw.

    (5) Os yw'r llys yn penderfynu bod swm unrhyw dâl a osodir o dan y Rheoliadau hyn yn llai na'r swm y mae unrhyw berson wedi'i dalu i awdurdod ynglŷn â'r tâl, rhaid i'r awdurdod hwnnw dalu'r gordaliad yn ôl.

Taliadau sy'n daladwy i ragor nag un awdurdod bwyd
    
9. Mewn unrhyw achos pan fo arfer rheolaethau swyddogol yn cael ei ohirio a phan nad yr awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer rheolaethau swyddogol ar lestri ac ar amodau glanio ("awdurdod A"), neu pan nad yr awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 ("awdurdod B"), yw'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'n ofynnol talu tâl iddo o dan y Rheoliadau hyn ("awdurdod C"), rhaid i awdurdod C anfon—



RHAN II

TALIADAU RHEOLAETHAU SWYDDOGOL HEBLAW TALIADAU AM LANIO CYNNYRCH PYSGODFEYDD YN UNIONGYRCHOL O LESTRI TRYDYDD GWLEDYDD A MEWNFORION TRYDYDD GWLEDYDD

Tâl glanio cyffredinol
    
10. —(1) Mae'r gwerthiant cyntaf yng Nghymru o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yn drafodiad taladwy at ddibenion y Rhan hon.

    (2) Pan fo trafodiad taladwy, rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y pris a godir ar y prynwr swm hafal i'r tâl y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel "y tâl glanio cyffredinol".

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheoliad 11, swm y tâl glanio cyffredinol yw cyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o'r cynhyrchion hynny.

    (4) Pan na fo'r gwir gostau sy'n briodoladwy i arfer rheolaethau swyddogol mewn perthynas â llwyth heb ei ddadlwytho o bysgod eigionol penodedig yn fwy na 50 Ewro, rhaid i'r tâl glanio cyffredinol o ran y llwyth hwnnw beidio â bod yn fwy na'r swm hwnnw.

    (5) Rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl glanio cyffredinol i'r awdurdod bwyd perthnasol.

Gostwng y tâl glanio cyffredinol
    
11. Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 10(5) ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fo unrhyw un o'r rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn cael eu hwyluso ar y sail—

Casglu ac anfon taliadau sy'n ymwneud â glanio cyffredinol
    
12. —(1) Cyn pen 7 niwrnod ar ddiwedd pob cyfnod cyfrifydda pan fo gwerthwr yn gwneud trafodiad taladwy, rhaid i'r gwerthwr wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd o ran y trafodiad hwnnw ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio cyffredinol yn daladwy iddo.

    (2) Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r trafodiad taladwy a wnaed yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw neu, os bu mwy nag un o'r trafodiadau hynny, gwybodaeth o ran cyfanswm y trafodiadau.

    (3) Rhaid i ddatganaid niferoedd a wneir o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

    (4) Yn ystod cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn—

Tâl am gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio o lestri ffatri
    
13. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn gyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod bwyd perthnasol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog neu feistr llestr ffatri dalu 1 Ewro i'r awdurdod am bob tunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael ei glanio.

    (2) Mae'r tâl sy'n daladwy o dan baragraff (1) i fod yn daladwy yn ychwanegol at y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 10 ond nid yw'n gymwys o ran mewnforion trydydd gwledydd neu gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthir am y tro cyntaf yng Nghymru.

Gostwng y tâl o ran cynhyrchion sy'n cael eu glanio o lestri ffatri
    
14. Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 13 ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fo—

Casglu ac anfon y tâl llestr ffatri
    
15. —(1) Cyn pen 7 niwrnod o bob cyfnod cyfrifydda pryd y glaniwyd cynhyrchion pysgodfeydd y mae tâl yn daladwy ynglŷn â hwy o dan reoliad 13 oddi ar lestr ffatri, rhaid i berchennog neu feistr y llestr sy'n gyfrifol am dalu'r tâl hwnnw wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd ynglŷn ag ef ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n daladwy iddo.

    (2) Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â glanio cynhyrchion pysgodfeydd o lestr ffatri yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw neu, os bu mwy nag un glaniad, gwybodaeth o ran y cyfanswm ohonynt.

    (3) Rhaid i ddatganiad niferoedd a wnaed o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn —

    (4) Yn ystod cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y mae meistr neu berchennog yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn—

Tâl o ran llestri ffatri dramor
    
16. O ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod cymwys wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan baragraff 2(c) a 3(a) (i'r graddau mae a wnelo â llestri ffatri) neu 3(b) o Bennod I o Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog neu feistr llestr ffatri dalu gwir gostau'r rheolaethau swyddogol i'r awdurdod hwnnw.

Tâl o ran sefydliadau paratoi neu brosesu
    
17. Yn gyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod bwyd perthnasol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 o ran sefydliad paratoi neu brosesu, rhaid i berchennog neu weithredydd y sefydliad dalu 1 Ewro i'r awdurdod hwnnw am bob tunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n mynd i'r sefydliad hwnnw.

Gostwng y tâl o ran sefydliadau paratoi neu brosesu
    
18. Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 17 ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fydd gwaith paratoi neu brosesu yn digwydd—

Casglu ac anfon taliadau sy'n ymwneud â sefydliadau paratoi neu brosesu
    
19. —(1) Cyn pen 7 niwrnod o bob cyfnod cyfrifydda pryd yr aeth cynhyrchion pysgodfeydd i sefydliad paratoi neu brosesu, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd sy'n gyfrifol am dalu'r tâl o dan reoliad 17 sy'n ymwneud â'r sefydliad hwnnw wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd ynglŷn ag ef ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n daladwy iddo.

    (2) Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi mynd i'r sefydliad yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw.

    (3) Rhaid i ddatganiad niferoedd a wnaed o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

    (4) Yn ystod y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad o dan y rheoliad hwn—

Taliadau o ran sefydliadau eraill
    
20. O ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdrudod bwyd perthnasol wrth gyflawni arolygiad rhaglenedig at ddibenion rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog sefydliad lle nad yw cynhyrchion pysgodfeydd ond yn cael eu hoeri, eu rhewi, eu pecynnu neu'u storio dalu i'r awdurdod hwnnw wir gostau'r arolygiad rhaglenedig hwnnw.



RHAN III

TALIADAU RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AM LANIO CYNHYRCHION PRYSGODFEYDD YN UNIONGYRCHOL O LESTRI TRYDYDD GWLEDYDD

Tâl o ran gwiriadau swyddogol ar laniadau uniongyrchol o drydyddd gwledydd.
    
21. —(1) Pan werthir unrhyw gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol am y tro cyntaf yng Nghymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel "trafodiad taladwy"), rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y pris y mae'n ofynnol i'r prynwr ei dalu amdanynt swm hafal i'r tâl y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel "tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd".

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliad 22, swm y tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd yw—

    (3) Rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd i'r awdurdod bwyd perthnasol.

Gostwng y tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd
    
22. Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 21(3) ostwng o 55% y rhan o'r tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd a gyfrifir yn unol â rheoliad 21(2)(a) pan fo unrhyw un o'r rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn cael eu hwyluso ar y sail—

Trefniadau casglu ac anfon
    
23. —(1) Rhaid i werthwr sydd wedi gwneud trafodiad taladwy cyn pen 7 niwrnod ar ddiwedd cyfnod cyfrifydda pryd y gwnaed y trafodiad taladwy wneud datganiad niferoedd ynglŷn ag ef ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd yn daladwy neu, os bu mwy nag un trafodiad o'r fath, gwybodaeth o ran cyfanswm y trafodiadau.

    (2) Rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y datganiad niferoedd hwnnw yr wybodaeth a ganlyn—

    (3) Rhaid i'r gwerthwr, yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2), gynnwys yn y datganiad niferoedd wybodaeth ar—



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2005



YR ATODLEN
Rheoliad 2(1)


DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL


ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC[
12];

ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd[13] fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[14], fel y'i diwygiwyd gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl[15], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirhad cydymffurfedd â chyfraith bwyd, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid[16] fel y'i darllenir gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

ystyr "Rheoliad A" ("Regulation A") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

ystyr "Rheoliad B" ("Regulation B") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

ystyr "Rheoliad C" ("Regulation C") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 a 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004;

ystyr "Rheoliad D" ("Regulation D") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig; ac

ystyr "Rheoliad E" ("Regulation E") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith o ran Cymru y darpariaethau ynghylch taliadau am gyflawni rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodedig ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl.

     2. Mae'r Rheoliadau hyn—

     3. Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] O.S. 2005/1971.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[4] OJ No. L245, 29.9.2003, p.4.back

[5] 1990 p.16; diwygiwyd adran 5 gan baragraffau 8 a 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[6] O.S. 2005/3292 (Cy.252)back

[7] 1984 p.22.back

[8] 1992 p.4.back

[9] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Rhoddir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back

[10] O.S. 2004/1430 (Cy.144).back

[11] 1998 p.38.back

[12] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back

[13] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back

[14] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back

[15] OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back

[16] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back



English version



ISBN 0 11 091234 9


 © Crown copyright 2005

Prepared 8 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053297w.html