BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005 Rhif 3364 (Cy.261)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053364w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3364 (Cy.261)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 6 Rhagfyr 2005 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliadau 1(2), (3) a (4)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o, a pharagraffau 1, 3 i 8, 11, 12 a 14 i 16 o Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], ac yn dilyn ymgynghori â'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd fel sy'n ofynnol o dan adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

Cyffredinol

Enw a dyddiad cychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005.

    (2) Ac eithrio rheoliad 4, daw rheoliadau 1 i 21 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ionawr 2006.

    (3) Daw rheoliadau 4, 22 a 23 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2006.

    (4) Daw rheoliadau 24 i 42 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Chwefror 2006.

Cymhwyso
    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Dribiwnlysoedd yng Nghymru yn unig.

Dehongliad
    
3. —(1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fynna'r cyd-destun fel arall—

    (2) Caiff unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno i unrhyw berson yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, gael ei gyflwyno drwy'r post.

    (3) Mae'r cyfeiriadau at reoliadau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at reoliadau ac Atodlenni i'r Rheoliadau hyn, oni nodir yn wahanol.

Dirymu
     4. Dirymir y canlynol—



RHAN II

Sefydlu'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ei Gyngor Llywodraethu a'r Tribiwnlysoedd Prisio

Sefydlu'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a'i Gyngor Llywodraethu
     5. Ar 3 Ionawr 2006 sefydlir Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru. Bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n cynnwys y Tribiwnlysoedd Prisio a sefydlir o dan reoliad 11.

    
6. Ar 3 Ionawr 2006 sefydlir Cyngor Llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    
7. Yn ddarostynedig i reoliadau 19 a 20 bydd swyddogaethau Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru dan y Rheoliadau hyn yn cael eu gweithredu ar ei ran gan ei Gyngor Llywodraethu.

Aelodaeth Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru
    
8. Aelodaeth y Cyngor Llywodraethu fydd:

     9. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benodi un person i fod yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu.

Penodi Cyfarwyddwr a Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu
    
10. —(1) Yn ddarostynedig i baragraff (2), o fewn y cyfnod a bennir, rhaid i aelodau'r Cyngor Llywodraethu, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn, benodi person i fod yn Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu a phenodi person i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.

    (2) Rhaid i'r personau sydd i'w penodi dan y rheoliad hwn fod yn aelodau o'r Cyngor Llywodraethu ac o Dribiwnlys Prisio.

    (3) Penderfynir ar y personau sydd i'w penodi drwy fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod o'r Cyngor Llywodraethu'n cael un bleidlais.

    (4) Pan gynhelir etholiad dan baragraff (3), a bod y canlyniad yn un cyfartal, penderfynir pa bersonau sydd i'w penodi o blith y rhai gyda nifer cyfartal o bleidleisiau, drwy fwrw coelbren.

    (5) Ni chynhelir unrhyw etholiad arall i benodi Cyfarwyddwr neu Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, ar wahân i yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar y dyddiad pryd y dyroddir hysbysiad am yr etholiad gan y Prif Weithredwr yn unol â pharagraff (6).

    (6) Rhaid i'r hysbysiadau sy'n ofynnol o dan baragraff (5) gael eu cyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Cyngor Llywodraethu a rhaid i'r hysbysiadau hynny gael eu cyflwyno ar y dyddiad byddant yn cael eu cyhoeddi.

    (7) Lle, ar derfyn y cyfnod a bennir, na chynhaliwyd etholiad yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu yr ystyria'n addas, ac yn ddarostynedig i baragraff (2), yn penodi un o'u plith i fod yn Gyfarwyddwr a/neu Ddirprwy Gyfarwyddwr fel y bo'n briodol.

    (8) Bydd y Cyfarwyddwr a'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn ddeiliaid y swydd hyd nes y bydd pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—

    (9) Caiff Cyfarwyddwr neu Ddirprwy Gyfarwyddwr ymddiswyddo drwy roi hysbysiad o ddim llai nag un mis yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (10) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu yr ystyria'n addas, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cyfarwyddwr a/neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr, fel y bo'n briodol, derfynu eu cyfnod yn y swydd.

    (11) Os nad oes modd i Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, oherwydd gwaeledd neu absenoldeb neu unrhyw reswm arall, gyflawni swyddogaethau dan y Rheoliadau hyn, yna bydd y swyddogaethau hynny, gydag awdurdod ysgrifenedig y Cyfarwyddwr, neu os na all y Cyfarwyddwr ei ddarparu, y Prif Weithredwr, yn cael eu cyflawni gan Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.

    (12) Yn y rheoliad hwn—

Sefydlu'r Tribiwnlysoedd Prisio
    
11. —(1) Sefydlir Tribiwnlys Prisio ar gyfer pob un o'r ardaloedd a nodir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.

    (2)           

Penodi Aelodau Tribiwnlys Prisio
    
12. —(1) Bydd y canlynol yn aelodau Tribiwnlys Prisio a sefydlir o dan reoliad 11, yn ddarostynedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn,;

    (2) Uchafswm y nifer o aelodau y gall y cynghorau a'r Llywydd eu penodi yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio hwnnw yng ngholofn 3 o Atodlen 1, ac uchafswm y nifer o aelodau y gall cyngor a'r Llywydd eu penodi yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 5 o Atodlen 1.

    (3) Isafswm y nifer o aelodau y mae'n rhaid i'r cynghorau a'r Llywydd eu penodi yw dwy ran o dair o'r nifer a bennir mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio hwnnw yng ngholofn 3 o Atodlen 1, ac isafswm y nifer o aelodau y mae'n rhaid i gyngor a'r Llywydd eu penodi yw dwy ran o dair o'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 5 o Atodlen 1.

    (4) Yn ddarostynedig i reoliad 13(2), ar 3 Ionawr 2006, bydd pob aelod o hen Dribiwnlys a benodir gan Gyngor a Llywydd yr hen Dribiwnlys hwnnw'n cael eu penodi'n aelodau o'r Tribiwnlys Prisio ar gyfer yr ardal yr oedd yr hen Dribiwnlys yn gweithredu ynddi'n flaenorol.

    (5) I bwrpas y rheoliad hwn, ystyrir penodiadau a wnaed dan baragraff (4) fel pe baent wedi'u gwneud gan y cyngor a benododd yr aelod i wasanaethu ar yr hen Dribiwnlys, a'r Llywydd.

    (6) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benodi aelodau i bob Tribiwnlys Prisio a enwir yng ngholofn 2 o Atodlen 1.

    (7) Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob aelod o hen Dribiwnlys a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu penodi'n aelodau o'r Tribiwnlys Prisio ar gyfer yr ardal yr oedd yr hen Dribiwnlys hwnnw'n gweithredu ynddo'n flaenorol.

    (8) Ar derfyn tri mis ers i sedd ddod yn wag ar Dribiwnlys Prisio, lle bo cyngor a Llywydd y Tribiwnlys Prisio wedi methu â gwneud penodiad yn unol â pharagraff (1), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud y penodiad hwnnw, yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio.

    (9) Ni fydd unrhyw benodiad o dan baragraff (1) yn ddilys, os bydd ei effaith yn golygu fod y nifer o aelodau o'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd ac sy'n aelodau o'r cyngor, yn uwch na'r un rhan o dair o gyfanswm aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd.

    (10) Ni ddylid dehongli fod paragraff (9) yn effeithio ar ddilysrwydd penodiad aelod o Dribiwnlys Prisio sy'n dod yn aelod o gyngor ar ôl i benodiad y person hwnnw ddod i rym.

    (11) Ni ddylid dehongli fod paragraff (9) yn effeithio ar ddilysrwydd penodiad aelod o Dribiwnlys Prisio a oedd, ac sy'n parhau'n aelod o gyngor, os, ar yr adeg y daeth penodiad y person hwnnw i rym, nad oedd y nifer o aelodau o'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd, a oedd yn aelodau o'r cyngor, yn fwy na chyfanswm y nifer o aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd.

    (12) Os bydd nifer yr aelodau o Dribiwnlys Prisio, a benodir gan gyngor a'r Llywydd, sy'n aelodau o'r cyngor hwnnw, yn uwch nag un rhan o dair o gyfanswm aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd, rhaid i'r cyngor hwnnw a'r Llywydd, o fewn chwe mis, wneud y fath benodiadau ar y cyd ag sy'n angenrheidiol dan baragraff (1)(a) i alluogi penodiadau'r cyngor hwnnw a'r Llywydd dan baragraff (1)(a) i gydymffurfio â pharagraff (9) y rheoliad hwn.

    (13) Ar derfyn tri mis, pan fo cyngor a'r Llywydd wedi methu â gwneud y fath benodiadau ag sydd angen yn unol â pharagraffau (1)(a) a (12), caiff y penodiadau hynny eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw.

Hyd aelodaeth ar Dribiwnlysoedd Prisio
    
13. —(1) Bydd aelodau a benodir o dan reoliad 12(4) a (7) yn dal y swydd hyd ddiwedd y cyfnod a bennir gan—

a wnaeth y penodiad.

    (2) Bydd penodiad pob aelod yn parhau am ba gyfnod bynnag a bennir gan y person neu'r personau sy'n gwneud y penodiad, ond ddim hwy na chwe blynedd, yn dilyn ymgynghori, yn achos penodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, â Llywydd y Tribiwnlys Prisio.

    (3) Bydd pob aelod yn dal y swydd hyd nes i ba un bynnag o'r canlynol ddigwydd gyntaf—

    (4) Rhaid i'r Prif Weithredwr, os cyfarwyddir ef felly gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori â'r cyngor a chyda Llywydd Tribiwnlys Prisio, drwy gyfrwng hysbysiad ysgrifenedig, yn rhoi i'r aelod hwnnw ba gyfnod o hysbysiad bynnag a gyfarwyddir, fod ei gyfnod yn y swydd i'w derfynu dan y paragraff hwn.

    (5) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio, roi i unrhyw aelod a benodir ganddo hysbysiad ysgrifenedig yn nodi pa gyfnod o hysbysiad bynnag, ag a benderfynir ganddo, o derfynu swydd.

    (6) Pan benodir aelod yn Llywydd neu Gadeirydd Tribiwnlys Prisio yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac y byddai hyd aelodaeth yr aelod hwnnw o'r Tribiwnlys Prisio'n dod i ben drwy weithredu paragraff (3)(a), bydd aelodaeth yr aelod hwnnw'n parhau, ac eithrio i bwrpas rheoliadau 14(3), 15(3) a 15(12) am gyfnod a ddaw i ben gyda therfyn y cyfnod a bennir ar gyfer ethol Llywydd i lenwi'r swydd wag dan reoliad 14, neu Gadeirydd i lenwi'r swydd wag dan reoliad 15, yn ôl y digwydd, neu pan fo etholiad Llywydd neu Gadeirydd yn cael ei gynnal, yn ôl y digwydd, pa un bynnag ddaw gyntaf, ac y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y "cyfnod interim".

    (7) Pan fo aelodaeth Llywydd neu Gadeirydd yn parhau yn ystod y cyfnod interim yn unol â pharagraff (6), cyfyd lle gwag i bwrpas y Rheoliadau hyn yn achos Llywydd, ar gyfer aelod, Cadeirydd a Llywydd, ac yn achos Cadeirydd, am aelod a Chadeirydd, o ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), ac yn benodol, o'r dyddiad hwnnw ni fydd y Llywydd neu'r Cadeirydd hwnnw, yn rhinwedd gweithredu'r paragraff hwn, yn un o'r nifer o aelodau a bennir yn unol â rheoliad 12(2) nac yn un o'r nifer o aelodau i'w penodi'n Gadeirydd, a bennir dan reoliad 15(1).

    (8) Yn y rheoliad hwn, mae "Prif Weithredwr" ("Chief Executive") yn golygu Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Llywyddion y Tribiwnlysoedd Prisio
    
14. —(1) Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob Llywydd ar hen Dribiwnlys yn cael ei benodi'n Llywydd y Tribiwnlys Prisio dros yr ardal y gweithredai'r hen Dribiwnlys ynddo.

    (2) O fewn tri mis gan ddechrau gyda lle gwag yn swydd y Llywydd, rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio'r Llywydd hwnnw, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn, benodi person i fod yn Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw.

    (3) Rhaid i'r person a benodir fod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio ac fe'i pennir drwy etholiad, drwy fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod yn cael un bleidlais.

    (4) Pan gynhelir etholiad o dan baragraff (3) neu (11), a bod y canlyniad yn un cyfartal, penderfynir pa berson sydd i'w benodi o blith yr ymgeiswyr gyda nifer cyfartal o bleidleisiau, drwy fwrw coelbren.

    (5) Ni chynhelir etholiad i benodi Llywydd yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar ddiwrnod cyhoeddi hysbysiad o'r etholiad yn unol â pharagraff (6) gan y Prif Weithredwr. Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw etholiad gan fodolaeth lle gwag ymysg aelodau'r Tribiwnlys Prisio.

    (6) Rhaid i'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan baragraff (5) gael ei gyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio a rhaid i'r hysbysiad hwnnw gael ei gyflwyno ar y dyddiad y bydd yn cael ei gyhoeddi.

    (7) Ar derfyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), pan na chynhaliwyd etholiad yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Tribiwnlys Prisio ag yr ystyria'n addas, benodi un o aelodau'r Tribiwnlys Prisio i fod yn Llywydd.

    (8) Bydd y Llywydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes y bo pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—

    (9) Caiff Llywydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad o ddim llai nag un mis yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (10) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Tribiwnlys Prisio ag yr ystyria'n addas, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd, derfynu cyfnod y Llywydd hwnnw yn y swydd.

    (11) Os nad oes modd i'r Llywydd, oherwydd gwaeledd neu absenoldeb neu unrhyw reswm arall, gyflawni swyddogaethau'r Llywydd dan y rheoliadau hyn, yna bydd y swyddogaethau hynny, gydag awdurdod ysgrifenedig y Llywydd, neu os na all y Llywydd ei ddarparu, y Prif Weithredwr, yn cael eu cyflawni gan un o Gadeiryddion y Tribiwnlys Prisio a benodir i'r diben hwn gan aelodau'r Tribiwnlys Prisio ac a etholwyd ganddynt drwy fwyafrif syml o bleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod yn cael un bleidlais.

    (12) Yn y rheoliad hwn—

Cadeiryddion y Tribiwnlysoedd Prisio
    
15. —(1) Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob cadeirydd ar hen Dribiwnlys yn cael ei benodi i swydd Cadeirydd Tribiwnlys Prisio dros yr ardal y gweithredai'r hen Dribiwnlys ynddo.

    (2) Yn ddarostynedig i baragraff (1), pennir y nifer o aelodau Tribiwnlys Prisio sydd i'w penodi i swydd Cadeirydd, gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i Gymru.

    (3) Bydd y Llywydd yn un o'r Cadeiryddion a rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio, yn unol â'r rheoliad hwn, benodi gweddill nifer y Cadeiryddion o fewn y cyfnod a bennir, drwy etholiad ymhlith eu haelodau.

    (4) Ni chynhelir etholiad yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar ddiwrnod dyroddi hysbysiad o'r etholiad yn unol â pharagraff (5) gan y Prif Weithredwr.

    (5) Rhaid i'r hysbysiadau sy'n ofynnol o dan baragraff (4) gael eu cyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio a rhaid i'r hysbysiadau hynny gael eu cyflwyno ar y dyddiad y byddant yn cael eu cyhoeddi.

    (6) Yr aelodau a benodir yn Gadeiryddion fydd y nifer priodol o aelodau sydd â'r nifer uchaf o bleidleisiau o'u plaid.

    (7) I bwrpas paragraff (6) bydd gan bob aelod nifer o bleidleisiau yn cyfateb i'r nifer priodol, ac ni chaniateir iddynt fwrw ond un bleidlais dros bob ymgeisydd, a lle, mewn perthynas ag unrhyw le gwag, bod y canlyniad yn gyfartal, bydd y person neu'r personau sydd i'w penodi o blith yr ymgeiswyr â nifer cyfartal o bleidleisiau yn cael eu penderfynu drwy fwrw coelbren.

    (8) Ar derfyn y cyfnod a bennir, pan nad oes etholiad wedi digwydd yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â'r Llywydd, benodi nifer priodol o aelodau i fod yn Gadeiryddion.

    (9) Bydd Cadeirydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes y bo pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—

    (10) O ran y Llywydd—

    (11) Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (10)(b) rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori â'r Llywydd.

    (12) Yn y rheoliad hwn—

Gwahardd rhag aelodaeth o Dribiwnlysoedd Prisio
    
16. —(1) Bydd person yn cael ei wahardd rhag cael ei benodi neu rhag parhau'n aelod o Dribiwnlys Prisio os—

    (2) Bydd gwaharddiad sy'n gysylltiedig â pherson oherwydd paragraff (1)(a) yn dod i ben—

    (3) Bydd gwaharddiad sy'n gysylltiedig â pherson oherwydd paragraff (1)(b) yn dod i ben—

    (4) At ddibenion paragraff (1)(c) ystyrir mai'r dyddiad cyffredin pryd y daw'r cyfnod a ganiateir ar gyfer apelio i ben, neu, os gwneir apêl o'r fath, y dyddiad pryd y penderfynir yn derfynol arni, neu y rhoir gorau iddi, neu ei bod yn methu oherwydd methiant i erlyn, fydd dyddiad yr gollfarn.

    (5) I ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "aelod o Dribiwnlys Prisio" ("member of a Valuation Tribunal") yw aelod—

Lwfansau
    
17. —(1) Bydd gan aelodau hawl i ba lwfansau teithio, cynhaliaeth ac eraill ag y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu pennu o dro i dro.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "aelod" ("member") yw aelod o Dribiwnlys Prisio neu aelod o Gyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.



RHAN 3

Gweinyddiaeth

Staff y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru
    
18. —(1) O fewn un mis i 3 Ionawr 2006 rhaid i'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Prif Weithredwr Interim a fydd yn gwasanaethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (2) Bydd y Prif Weithredwr Interim'n dal y swydd hyd nes y bydd y person a benodir o dan baragraff (3) yn cychwyn ar ei swydd.

    (3) O fewn dri mis i 3 Ionawr 2006 rhaid i'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Prif Weithredwr a fydd yn gwasanaethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (4) Ni fydd unrhyw benodiadau o dan baragraffau (1) neu (3) yn ddilys oni wneir hwynt gyda chymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (5) O fewn un mis i 3 Ionawr 2006, rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Clerc Interim i bob Tribiwnlys Prisio.

    (6) Bydd Clercod Interim yn dal y swydd hyd nes y bydd y personau a benodir o dan baragraff (7) yn cychwyn ar eu swyddi.

    (7) O fewn dri mis i 3 Ionawr 2006, rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Clerc i bob Tribiwnlys Prisio.

    (8) Caiff y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi unrhyw gyflogeion eraill yn ôl ei benderfyniad.

    (9) Bydd y telerau a'r amodau y penodir y Prif Weithredwr Interim, y Prif Weithredwr, y Clercod Interim, y Clercod a'r cyflogeion eraill, danynt, yn rhai a benderfynir gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (10) Bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n talu i'w gyflogeion pa gydnabyddiaeth a lwfansau bynnag a bennir ganddo.

    (11) Ni fydd unrhyw benderfyniad o dan baragraff (10) yn ddilys oni wneir hwynt gyda chymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (12) Caiff swyddogaethau'r Prif Weithredwr Interim, y Prif Weithredwr, y Clercod Interim a'r Clercod a benodir o dan baragraff (1), (3), (5) a (7) gael eu dirprwyo i weithwyr eraill Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, yn ôl penderfyniad y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (13) Ar derfyn y cyfnod a bennir ym mharagraffau (1), (3), (5) a (7), pan nad oes unrhyw benodiadau wedi'u gwneud yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu ag yr ystyria'n addas, benodi Prif Weithredwr Interim, Prif Weithredwr, Clercod Interim neu Glercod fel y bo'n briodol.

Gweinyddiaeth
    
19. —(1) Yn ddarostynedig i reoliad 7 a 20 caiff swyddogaethau Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru o dan y rheoliadau hyn gael eu gweithredu ar ei ran gan ddau neu fwy o aelodau ei Gyngor Llywodraethu, y mae'n rhaid iddynt, yn ddarostynedig i baragraff (2) gynnwys Cyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.

    (2) Lle bo'n anymarferol i Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu weithredu unrhyw un o swyddogaethau'r Cyfarwyddwr o dan baragraff (1), gweithredir y swyddogaeth honno gan y dirprwy Gyfarwyddwr.

    (3) Cyfrifoldeb y Prif Weithredwr fydd gweinyddu lwfansau aelodau'r Tribiwnlysoedd Prisio a'r Cyngor Llywodraethu a'r gydnabyddiaeth a'r lwfansau i gyflogeion Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (4) Mewn perthynas ag unrhyw daliad o dan reoliad 17, rhaid i'r Prif Weithredwr gadw cofnod ar gyfer pob Tribiwnlys Prisio a'r Cyngor Llywodraethu o enw'r derbynnydd a'r swm a'r rheswm am y taliad, a rhaid iddo ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i archwilio a gwneud copïau o'r fath gofnodion.

    (5) Yn y rheoliad hwn, ystyr "Prif Weithredwr" ("Chief Executive") yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Adeiladau ac offer
    
20. —(1) Rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru gynnal swyddfa barhaol, a'r Prif Weithredwr fydd â'r swyddogaeth ar ran Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i wneud y fath drefniadau a fydd yn sicrhau fod ganddo adeiladau eraill, ac offer ysgrifenyddol ac offer arall sy'n ddigonol ar gyfer cyflawni'r Gwasanaeth.

    (2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "Prif Weithredwr" ("Chief Executive") yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Defnyddio ystafelloedd cyhoeddus
    
21. —(1) Caiff Llywydd Tribiwnlys Prisio, Cyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, y Prif Weithredwr neu Glerc wneud cais am ganiatâd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru am ddefnyddio unrhyw adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor hwnnw gan Dribiwnlys Prisio neu ei aelodau, Tribiwnlys arbennig, y Cyngor Llywodraethu, y Prif Weithredwr, Clerc neu weithwyr Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru ar ba ddyddiau bynnag a nodir yn y cais.

    (2) Ni ddylai cyngor sy'n derbyn cais fel y darperir ym mharagraff (1) wrthod y caniatâd a geisir yn afresymol, a bydd hawl ganddo i godi tâl rhesymol mewn perthynas â defnydd o'r fath.

    (3) Yn y rheoliad hwn—



RHAN 4

Darpariaethau Trosiannol

Apeliadau a drosglwyddir a dehongliad
    
22. —(1) Bydd unrhyw apêl i hen Dribiwnlys a gychwynnwyd cyn 15 Chwefror 2006, ac a fyddai, pe bai wedi'i gychwyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny'n gymwys i'w benderfynu gan Dribiwnlys Prisio a sefydlwyd o dan reoliad 11, yn cael ei drosglwyddo ar 15 Chwefror 2006 i'w benderfynu gan y Tribiwnlys Prisio hwnnw ("y Tribiwnlys newydd").

    (2) Ar 15 Chwefror 2006 ac ar ôl hynny—

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "darpariaethau statudol perthnasol" ("the relevant statutory provisions") yw—

    (4) At ddibenion Rhan 4 y Rheoliadau hyn, ystyr "Clerc" ("Clerk") yw—

Dirwyn i Ben
    
23. —(1) Bydd yr hen Dribiwnlysoedd yn peidio â bod ar 14 Chwefror 2006.

    (2) Yn ddarostynedig i reoliad 12, bydd cyfnod aelodaeth aelodau'r hen Dribiwnlysoedd ar 14 Chwefror 2006 yn dod i ben ar derfyn y diwrnod hwnnw.



RHAN 5

Apeliadau Treth Cyngor

Dehongliad
    
24. —(1) Mae unrhyw gyfeiriad yn narpariaethau canlynol y Rhan hon—

    (2) At ddibenion Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, ystyr "Clerc" ("Clerk") yw—

Awdurdodaeth
    
25. —(1) Yn ddarostynedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn—

    (2) Lle bo—

ymdrinnir â'r apeliadau, yn ddarostynedig i baragraff (3), gan ba un bynnag o'r Tribiwnlysoedd Prisio hynny ag a ddewisir gan y person hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Glerc y Tribiwnlys Prisio hwnnw.

    (3) Lle bo'r apelydd yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn ymdrin ag apêl yr apelydd, ni ddylai'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi, ond Tribiwnlys Prisio arall a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (4) Lle bo'r apelydd yn gyn aelod o'r Tribiwnlys Prisio y byddai ei apêl yn gymwys iddo ymdrin â hi, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliad hwn, a bod Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw'n penderfynu na ddylai'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi, ymdrinnir â hi gan ba Dribiwnlys Prisio arall ag a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (5) Lle bo'r apelydd yn gyflogai i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ymdrinnir â'r apêl gan Dribiwnlys Arbennig a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (6) Lle'r ymddengys i Lywydd Tribiwnlys Prisio a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn ymdrin ag apêl, na fyddai'n briodol i'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi oherwydd gwrthdaro, neu'r hyn a allai ymddangos fel gwrthdaro buddiannau, bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, pan hysbysir ef o hynny gan y Llywydd, yn penodi Tribiwnlys Prisio arall i ymdrin â'r apêl honno.

    (7) Er gwaethaf darpariaethau'r rheoliad hwn, lle'r ymddengys yn briodol i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, caiff benodi Tribiwnlys Arbennig i ymdrin ag apêl.

    (8) Os bydd—

ymdrinnir â hi gan Dribiwnlys Arbennig a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

    (9) Mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan baragraffau (5), (7) neu (8), bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n penodi un o'r Clercod a benodir dan reoliad 18(5) neu (7) i wasanaethu'r Tribiwnlys hwnnw.

Terfynau amser
    
26. —(1) Bydd apêl gan berson mewn perthynas â'r hwn y bodlonir yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(a) neu (b) yn cael ei gwrthod oni chychwynnir hi yn unol â'r Rhan hon yn ddim hwyrach nag ar derfyn dau fis gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno hysbysiad yr awdurdod bilio dan yr adran honno.

    (2) Pan fodlonir yr amod a grybwyllwyd yn adran 16(7)(c), gwrthodir apêl gan y person a dramgwyddwyd oni chychwynnir hi o fewn pedwar mis i ddyddiad cyflwyno hysbysiad y person hwnnw o dan adran 16(4).

    (3) Gwrthodir apêl o dan baragraff (3) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992 oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar derfyn dau fis gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o roddi'r gosb.

    (4) Gwrthodir apêl yn erbyn hysbysiad i gwblhau oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar derfyn pedair wythnos gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad.

    (5) Er gwaethaf paragraffau (1) i (4), caiff y Llywydd awdurdodi i apêl gael ei hystyried lle bo'r Llywydd yn fodlon fod methiant y person a dramgwyddwyd i gychwyn yr apêl fel y darperir gan y rheoliad hwn, wedi digwydd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person hwnnw.

    (6) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "y Llywydd" ("the President") hefyd, mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan reoliad 25(5), (7) neu (8), yw Cyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Cychwyn apêl
    
27. Rhaid cychwyn apêl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc ("hysbysiad am apêl") ("a notice of appeal") .

    (2) Lle gwneir yr apêl o dan adran 16, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

    (3) Lle bo apêl yn apêl yn erbyn hysbysiad i gwblhau, rhaid i'r hysbysiad am apêl fod â'r canlynol yn cyd-fynd ag ef—

    (4) Lle gwneir yr apêl yn erbyn cosb, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys y wybodaeth ganlynol—

    (5) Rhaid i'r Clerc, o fewn pythefnos i gyflwyno'r hysbysiad am apêl, hysbysu'r apelydd fod y Clerc wedi'i dderbyn, a rhaid iddo gyflwyno copi ohono i'r awdurdod bilio y mae ei benderfyniad, ei weithred neu ei hysbysiad yn destun yr apêl, ac unrhyw awdurdod bilio arall yr ymddengys i'r Clerc ei fod yn gysylltiedig.

Trefniadau ar gyfer apeliadau
    
28. —(1) Dyletswydd Llywydd Tribiwnlys Prisio fydd sicrhau y gwneir trefniadau i apeliadau gael eu penderfynu yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon.

    (2) Mae'r paragraff hwn yn berthnasol lle bo apêl o dan y Rhan hon ac apêl o dan un neu fwy o'r canlynol—

yn ymwneud â'r un eiddo.

    (3) Lle bo paragraff (2) yn gymwys—

    (4) Ym mharagraff (3), ystyr "swyddog prisio" ("valuation officer") yw'r swyddog a benodir o dan adran 61(1)(a) o Ddeddf 1988.

    (5) Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl, gyflwyno copi o'r hysbysiad am apêl i berson a wnaed yn barti yn unol â pharagraff (3).

    (6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae "Llywydd Tribiwnlys Prisio" ("the President of a Valuation Tribunal") hefyd yn golygu, mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan reoliad 25(5), (7) neu (8), Cyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Tynnu'n ôl
    
29. —(1) Ceir tynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc cyn i wrandawiad, neu ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Dribiwnlys, ddechrau.

    (2) Rhaid i'r Clerc hysbysu'r apelydd pa fo'r hysbysiad am dynnu'n ôl wedi'i dderbyn, a rhaid iddo gyflwyno copi o'r hysbysiad i bob parti arall i'r apêl.

Penderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig
    
30. —(1) Gellir penderfynu ar apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig os yw pob parti wedi cytuno i hynny'n ysgrifenedig.

    (2) Lle bo pob parti wedi rhoi cytundeb fel y nodir ym mharagraff (1), rhaid i'r Clerc gyflwyno hysbysiad i'r partïon yn unol â hynny, ac, o fewn pedair wythnos o gyflwyno hysbysiad o'r fath i barti, caiff pob parti gyflwyno i'r Clerc hysbysiad yn datgan—

    (3) Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (2) gael ei gyflwyno i'r Clerc ac i'r parti neu'r partïon eraill i'r apêl, a rhaid anfon gydag ef ddatganiad am effaith paragraffau (4) a (5).

    (4) Caiff unrhyw barti y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (3), o fewn pedair wythnos i'r cyflwyno hwnnw, gyflwyno i'r Clerc hysbysiad pellach yn datgan ateb y parti hwnnw i ddatganiad y parti arall, neu nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach, yn ôl y digwydd; a rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o unrhyw hysbysiad pellach o'r fath i'r parti neu'r partïon eraill.

    (5) Ar derfyn pedair wythnos gan ddechrau o ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos a grybwyllir ym mharagraff (4), rhaid i'r Clerc gyflwyno copïau o—

i Dribiwnlys a gyfansoddwyd fel y darperir yn rheoliad 34.

    (6) Caiff y Tribiwnlys y cyfeirir apêl iddo fel y darperir ym mharagraff (5), os yr ystyria'n briodol—

    (7) Lle bo Tribiwnlys yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti ddarparu manylion o dan baragraff (6)(a), rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o'r manylion i bob parti arall, a chaiff pob parti o'r fath o fewn pedair wythnos i'r cyflwyno, gyflwyno i'r Clerc unrhyw sylwadau pellach y dymuna'r parti hwnnw eu gwneud mewn ymateb.

Hysbysiad o wrandawiad
    
31. —(1) Lle bo'r apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad, rhaid i'r Clerc, o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad dan sylw, gyflwyno i'r partïon hysbysiad am y dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennir ar gyfer y gwrandawiad.

    (2) Bydd y Clerc yn hysbysebu'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad drwy sicrhau fod hysbysiad yn nodi'r fath wybodaeth yn cael ei arddangos mewn man amlwg—

    (3) Rhaid i'r rhybudd sy'n ofynnol o dan baragraff (2) enwi man lle y gellir archwilio rhestr o'r apeliadau sydd i'w clywed.

    (4) Lle bo gwrandawiad apêl wedi'i ohirio, rhaid i'r Clerc gymryd pa gamau bynnag sy'n rhesymol ymarferol yn yr amser sydd ar gael—

Gwaharddiad rhag cymryd rhan
    
32. —(1) Gwaherddir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad neu'r penderfyniad, neu rhag gweithredu fel Clerc neu swyddog Tribiwnlys mewn perthynas ag apêl, os yw'r person hwnnw'n aelod o'r awdurdod bilio perthnasol.

    (2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "awdurdod bilio perthnasol" ("relevant billing authority") yw—

    (3) Gwaherddir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad neu'r penderfyniad, neu rhag gweithredu fel Clerc neu swyddog Tribiwnlys mewn perthynas ag apêl, os yw'r apelydd yn gymar i'r person hwnnw neu'n bartner sifil neu fod y person hwnnw'n cynnal yr apelydd yn ariannol, neu o dan rwymedigaeth i wneud hynny.

    (4) Fel arall, ni fydd person yn cael ei wahardd rhag gweithredu mewn unrhyw fodd mewn perthynas ag apêl yn unig am y rheswm fod y person hwnnw'n aelod o awdurdod sy'n derbyn arian yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o daliadau mewn perthynas â threth cyngor allai gael ei effeithio gan weithredu swyddogaethau'r person hwnnw.

Cynrychiolaeth yn y gwrandawiad
    
33. Caiff unrhyw barti i apêl sydd i'w phenderfynu mewn gwrandawiad, ymddangos yn bersonol (gyda chymorth gan unrhyw berson os yw'r person hwnnw'n dymuno hynny), gan gwnsler neu dwrnai, neu unrhyw gynrychiolydd arall (ar wahân i berson sy'n aelod o Dribiwnlys Prisio neu Gyngor Llywodraethu Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, neu gyflogai Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru).

Trefn y gwrandawiad
    
34. —(1) Yn ddarostynedig i baragraff (2), gweithredir swyddogaeth Tribiwnlys i wrando neu benderfynu apêl gan dri aelod o Dribiwnlysoedd Prisio ac mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un Cadeirydd; a Chadeirydd fydd yn llywyddu.

    (2) Lle bo pob parti i apêl sy'n ymddangos yn cytuno, gellir penderfynu'r apêl gan ddau aelod o Dribiwnlysoedd Prisio, ac er gwaethaf absenoldeb Cadeirydd.

    (3) Cynhelir y gwrandawiad yn gyhoeddus, oni fo'r Tribiwnlys yn gorchymyn fel arall ar gais parti, ac wedi iddo gael ei fodloni y byddai buddiannau'r parti hwnnw'n cael eu heffeithio'n niweidiol.

    (4) Os metha'r apelydd ag ymddangos yn y gwrandawiad, caiff y Tribiwnlys wrthod yr apêl, ac os metha unrhyw barti arall ag ymddangos, caiff y Tribiwnlys wrando a phenderfynu'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw.

    (5) Caiff y Tribiwnlys fynnu bod unrhyw dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhau, a bydd ganddo hawl i'r diben hwnnw i weinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf briodol.

    (6) Caiff partïon yn y gwrandawiad eu clywed ym mha drefn bynnag a benderfynir gan y Tribiwnlys, a chânt holi unrhyw dystion gerbron y Tribiwnlys a galw tystion.

    (7) Caniateir gohirio gwrandawiad am ba amser bynnag, i ba le bynnag ac ar ba delerau bynnag (os o gwbl) a ystyrir yn briodol gan y Tribiwnlys; a rhaid rhoi hysbysiad rhesymol o'r amser a'r lleoliad y gohiriwyd y gwrandawiad iddo, i bob parti.

    (8) Os ystyria ei fod yn briodol, caiff Tribiwnlys, wedi hysbysu'r partïon a'u gwahodd i fod yn bresennol, archwilio unrhyw annedd sy'n destun apêl.

    (9) Yn ddarostynedig i unrhyw ddarpariaethau yn y Rhan hon, o ran y Tribiwnlys—

Tystiolaeth: cyffredinol
    
35. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn berthnasol i wybodaeth a gyflenwir yn unol â rheoliadau o dan adran 13 neu Atodlen 2 i Ddeddf 1992.

    (2) Yn ddarostynedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi yn dderbyniol mewn unrhyw achos perthnasol fel tystiolaeth o unrhyw ffaith a nodir ynddi; a chymerir fod unrhyw ddogfen sy'n honni cynnwys gwybodaeth o'r fath, oni ddangosir yn wahanol—

    (3) Ni ddylai gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi gael ei defnyddio mewn unrhyw achosion perthnasol gan awdurdod bilio oni fo—

    (4) Os nad yw unrhyw wybodaeth y mae angen sicrhau ei bod ar gael i'w harchwilio'n unol â'r rheoliad hwn ar gael ar ffurf dogfen, bodlonir y ddyletswydd i sicrhau ei bod ar gael felly os sicrheir fod allbrint, ffotograff neu atgynhyrchiad arall o'r ddogfen a gafwyd o'r cyfrwng storio a fabwysiadwyd mewn perthynas â'r ddogfen, ar gael i'w archwilio.

    (5) Yn y rheoliad hwn ystyr "achos(ion) perthnasol" ("relevant proceedings") yw unrhyw achos(ion) ar, neu o ganlyniad i apêl, ac unrhyw achos(ion) ar neu o ganlyniad i gyfeirio i gyflafareddiad o dan reoliad 42.

Tystiolaeth o restrau a dogfennau eraill
    
36. —(1) Gellir profi cynnwys rhestr drwy ddangos copi ohoni, neu o'r rhan berthnasol, yr honnir yr ardystiwyd iddo fod yn gopi cywir gan y swyddog rhestru.

    (2) Gellir profi cynnwys hysbysiad cwblhau drwy ddangos copi ohono yr honnir ardystiwyd iddo fod yn gopi cywir gan y swyddog priodol o'r awdurdod bilio.

    (3) Ym mharagraff (2) mae gan "swyddog priodol" ("proper officer") yr un ystyr ag yn Neddf Llywodraeth Leol 1972[
9]).

Penderfyniadau ar apeliadau
     37. —(1) Caiff apêl ei phenderfynu gan fwyafrif yr aelodau sy'n cymryd rhan; a lle (yn unol â rheoliad 34(2)), y penderfynir arni gan ddau aelod ac nad oes modd iddynt gytuno, rhaid iddi gael ei hanfon yn ôl gan y Clerc i'w phenderfynu gan Dribiwnlys yn cynnwys tri aelod gwahanol.

    (2) Lle penderfynir ar apêl ar sail gwrandawiad, gall penderfyniad y Tribiwnlys gael ei ohirio neu ei roi ar lafar ar derfyn y gwrandawiad.

    (3) Yn ddarostynedig i baragraff (4) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i benderfyniad gael ei wneud, rhaid iddo—

drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r partïon; a rhaid anfon datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad, gyda'r hysbysiad.

    (4) Ni fydd unrhyw beth ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi i barti os byddai'n ail-adrodd unrhyw ddogfen a gyflwynwyd i'r person hwnnw yn unol â rheoliad 41.

    (5) Yn achos apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau, rhaid i'r Clerc anfon hysbysiad o'r penderfyniad i'r swyddog rhestru a benodir ar gyfer yr awdurdod bilio sy'n barti i'r apêl.

    (6) Yn y rheoliad hwn, ystyr "aelod" ("member") yw aelod o Dribiwnlys a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 34.

Gorchmynion
    
38. —(1) Pan benderfynir ar apêl neu ar ôl penderfynu arni, caiff y Tribiwnlys, o ganlyniad i'r penderfyniad, fynnu drwy orchymyn—

    (2) Caiff gorchymyn fynnu y rhoddir sylw i unrhyw fater sy'n atodol i'r pwnc sydd dan sylw ganddo.

Adolygu penderfyniadau
    
39. —(1) Yn ddarostynedig i baragraffau (2) a (3) bydd gan Dribiwnlys a gyfansoddwyd fel y darperir ym mharagraff (4) hawl, ar dderbyn cais ysgrifenedig gan barti, i adolygu neu roi o'r neilltu drwy dystysgrif dan law'r aelod sy'n llywyddu—

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan benderfynwyd apêl yn erbyn y penderfyniad dan sylw gan yr Uchel Lys.

    (3) Caiff cais o dan baragraff (1) ei wrthod oni wneir ef o fewn y cyfnod o bedair wythnos gan ddechrau ar y diwrnod pryd y rhoddir hysbysiad (boed yn unol â rheoliad 37(3) neu reoliad 40(3)) o'r penderfyniad dan sylw.

    (4) Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Tribiwnlys a benodir i adolygu'r penderfyniad yn cynnwys yr un aelodau ag a oedd ar y Tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad.

    (5) Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—

    (6) Y seiliau a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yw bod tystiolaeth newydd, na ellid bod wedi sicrhau ei bodolaeth drwy ymchwil rhesymol drylwyr, na'i rhagweld, wedi dod ar gael ers terfyn yr achos y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef.

    (7) Os bydd Tribiwnlys yn gosod penderfyniad o'r neilltu yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid iddo ddirymu unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo orchymyn ail wrandawiad neu ailbenderfyniad gerbron un ai'r un Tribiwnlys neu un gwahanol.

    (8) Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol hysbysu'r partïon i'r apêl yn ysgrifenedig am—

    (9) Yng nghyswllt penderfyniad y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1), lle bo apêl i'r Uchel Lys yn parhau heb ei phenderfynu ar y diwrnod perthnasol, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Uchel Lys cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol yn dilyn y digwyddiad perthnasol.

    (10) Ym mharagraff (9)—

    (11) Yn y rheoliad hwn, ystyr "aelod" ("member") yw aelod o Dribiwnlys a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 34.

Cofnodion o benderfyniadau, ayb
    
40. —(1) Dyletswydd y Clerc fydd gwneud trefniadau i bob penderfyniad, pob gorchymyn a wneir o dan reoliad 38 ac effaith pob tystysgrif a dirymiad o dan reoliad 39, gael eu cofnodi.

    (2) Ceir cadw cofnodion ar unrhyw ffurf, boed ddogfennol neu fel arall, a rhaid iddynt gynnwys y manylion a nodir yn Atodlen 2 isod.

    (3) Rhaid i gopi, ar ffurf dogfen, o'r nodyn perthnasol yn y cofnod, gael ei anfon i bob parti i'r apêl y mae'r cofnod yn berthnasol iddi, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

    (4) Rhaid cadw pob cofnod am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau o'r dyddiad y gwnaed nodyn ynddo ddiwethaf.

    (5) Caiff unrhyw berson, ar amser rhesymol a nodir gan neu ar ran y Tribiwnlys dan sylw, a heb dalu, archwilio'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan baragraff (1).

    (6) Os bydd person sydd yng ngofal y cofnod, heb esgus rhesymol yn rhwystro'n fwriadol berson rhag gweithredu'r hawl a roddir gan baragraff (5), bydd y person hwnnw'n agored, ar dderbyn euogfarn ddiannod, i ddirwy dim uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

    (7) Caiff yr aelod a lywyddodd yn y gwrandawiad neu pan benderfynwyd apêl, awdurdodi cywiro unrhyw gamgymeriad clerigol yn y cofnod, a rhaid i gopi o'r cofnod wedi'i gywiro gael ei anfon i'r personau yr anfonwyd copi o'r cofnod gwreiddiol iddynt.

    (8) Bydd dangos, yn unrhyw achos yn unrhyw lys barn, ddogfen yr honnir yr ardystiwyd iddi fod yn gopi cywir gan Glerc Tribiwnlys o gofnod neu benderfyniad y Tribiwnlys hwnnw, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o'r ddogfen a'r ffeithiau a gofnodir ynddi.

Apeliadau
    
41. —(1) Bydd apêl yn mynd i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol yn codi o benderfyniad neu orchymyn a roddir neu a wneir gan Dribiwnlys ar apêl, a ceir gwneud hynny gan unrhyw barti i'r apêl.

    (2) Yn ddarostynedig i baragraff (3), ceir gwrthod apêl dan baragraff (1) oni wneir hi o fewn pedair wythnos i'r dyddiad pryd y rhoddir hysbysiad o'r penderfyniad neu'r gorchymyn sy'n destun yr apêl.

    (3) Lle—

ceir gwrthod yr apêl oni wneir hi o fewn pedair wythnos i gyflwyno'r hysbysiad dan y paragraff (8)(a) neu (b) hwnnw.

    (4) Caiff yr Uchel Lys gadarnhau, amrywio, gosod o'r neilltu, dirymu neu ddileu unrhyw orchymyn y gallai'r Tribiwnlys fod wedi'i wneud.

    (5) Rhaid i awdurdodau bilio weithredu'n unol ag unrhyw orchymyn a wnaed gan yr Uchel Lys; a bydd paragraff 10A o Atodlen 11 i Ddeddf 1988 yn effeithiol yn ddarostynedig i'r gofyniad hwn.

Cymrodeddu
    
42. —(1) Ar unrhyw adeg cyn dechrau gwrandawiad neu ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Dribiwnlys, lle cytunir yn ysgrifenedig rhwng y personau a fyddai'n bartïon i'r apêl, pe digwyddai i anghydfod fod yn destun apêl i'r Tribiwnlys, cyfeirir y mater i gymrodeddiad.

    (2) Bydd adran 94 o Ddeddf Cyflafareddu 1996[
10] yn effeithiol at ddibenion cyfeirio cwestiwn yn unol â'r rheoliad hwn, fel pe bai'r cyfeiriad yn un o gymrodeddiad o dan Ddeddf arall o fewn ystyr yr adran honno.

    (3) Yn unrhyw gymrodeddu yn unol â'r rheoliad hwn, gall y dyfarniad gynnwys unrhyw orchymyn allai fod wedi'i wneud gan Dribiwnlys mewn perthynas â'r cwestiwn, a bydd paragraff 10A o Atodiad 11 i Ddeddf 1988 yn berthnasol i orchymyn o'r fath fel y mae'n berthnasol i orchmynion a gofnodwyd yn unol â'r Rhan hon.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005



ATODLEN 1
Rheoliadau 11, 12


SEFYDLU TRIBIWNLYSOEDD PRISIO A PHENODI AELODAU


1 2 3 4 5
Ardal awdurdodaeth Enw Y nifer mwyaf o aelodau pob Tribiwnlys a benodir gan y Cynghorau a'r Llywydd Cynghorau Y nifer mwyaf o aelodau i'w penodi gan bob cyngor
Siroedd Mynwy, Casnewydd a Phowys a bwrdeistrefi sirol Blaenau Gwent, Caerffili, a Thorfaen East Wales Valuation Tribunal Tribiwnlys Prisio Dwyrain Cymru 66 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 9
                                 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 9
                                 Cyngor Sir Fynwy 9
                                 Cyngor Dinas Casnewydd 9
                                 Cyngor Sir Powys 21
                                 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 9
Siroedd Môn Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a bwrdeistrefi sirol Conwy a Wrecsam North Wales Valuation Tribunal Tribiwnlys Prisio Gogledd Cymru 54 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 9
                                 Cyngor Sir Ynys Môn 9
                                 Cyngor Sir Gwynedd 9
                                 Cyngor Sir Ddinbych 9
                                 Cyngor Sir y Fflint 9
                                 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 9
Sir Caerdydd a bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg South Wales Valuation Tribunal Tribiwnlys Prisio De Cymru 57 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 9
                                 Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd 18
                                 Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 6
                                 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 15
                                 Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg 9
Siroedd Ceredigion, Caerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe a bwrdeistref sirol Castell-nedd a Phort Talbot West Wales Valuation Tribunal Tribiwnlys Prisio Gorllewin Cymru 57 Cyngor Sir Ceredigion 6
                                 Cyngor Sir Caerfyrddin 12
                                 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Phort Talbot 12
                                 Cyngor Sir Benfro 12
                                 Cyngor Sir a Dinas Abertawe 15



ATODLEN 2
Rheoliad 40


CYNNWYS COFNODION A WNAED DAN RAN 5


Enw a chyfeiriad yr apelydd

Dyddiad yr apêl

Y mater yr apeliwyd yn ei erbyn

Enw'r awdurdod bilio yr apeliwyd yn erbyn ei benderfyniad

Dyddiad y gwrandawiad neu'r penderfyniad

Enw'r partïon a ymddangosodd, os o gwbl

Penderfyniad y Tribiwnlys a'i ddyddiad

Y rhesymau dros y penderfyniad

Unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad

Dyddiad unrhyw orchymyn o'r fath

Unrhyw dystysgrif yn gosod y penderfyniad o'r neilltu

Unrhyw ddirymiad dan reoliad 39(7)



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru. Bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n cynnwys Tribiwnlys Prisio ar gyfer pob un o'r ardaloedd a nodir yn Atodlen 1. Bydd y Tribiwnlysoedd yn ymdrin ag apeliadau a wnaed dan y darpariaethau statudol fel y'u diffinnir yn rheoliad 3. Bydd y Tribiwnlysoedd Prisio'n dechrau ymdrin ag apeliadau o'r fath ar 15 Chwefror 2006. Parheir i ymdrin â phob apêl hyd at ac yn cynnwys 14 Chwefror 2006 gan hen Dribiwnlys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu—

Mae Rhannau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer sefydlu'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ei Gyngor Llywodraethu a'r Tribiwnlysoedd Prisio.

Sefydlir Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a'r Cyngor Llywodraethu gan Reoliadau 5 a 6. Mae Rheoliad 7 yn ymdrin â swyddogaethau Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Mae Rheoliadau 8 a 9 yn darparu ar gyfer aelodaeth y Cyngor Llywodraethu.

Mae Rheoliad 10 yn ymdrin â phenodi Cyfarwyddwr a Dirprwy Gyfarwyddwr y Corff Llywodraethu.

Mae Rheoliad 11 yn sefydlu Tribiwnlys Prisio ar gyfer pob un o'r ardaloedd awdurdodaeth a nodir yn Atodlen 1.

Mae Rheoliadau 12 a 13 yn darparu ar gyfer nifer aelodau pob Tribiwnlys Prisio, y nifer sydd i'w penodi gan bob cyngor penodi a Llywydd, eu penodiad a hyd eu haelodaeth.

Mae Rheoliadau 14 a 15 yn ymdrin â phenodi Llywydd y Tribiwnlys Prisio a'i Gadeiryddion.

Mae Rheoliad 16 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pryd y mae person i gael ei wahardd rhag bod yn aelod.

Mae Rheoliad 17 yn darparu ar gyfer y lwfansau sydd i'w talu i aelodau.

Mae Rhan 3 y Rheoliadau hyn yn ymwneud â staff, gweinyddiaeth, adeiladau ac offer.

Mae Rheoliad 18 yn darparu ar gyfer penodi Prif Weithredwr interim, Prif Weithredwr a phenodi unrhyw weithwyr eraill (gan gynnwys Clercod) yn ôl penderfyniad Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru. Mae'r Rheoliad hwn hefyd yn darparu ar gyfer dirprwyo swyddogaethau'r Prif Weithredwr.

Mae Rheoliad 19, 20 a 21 yn ymwneud â gweinyddiaeth, adeiladau ac offer.

Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag apeliadau a drosglwyddir a dirwyn y Tribiwnlysoedd presennol i ben.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer trefn i ymdrin ag apeliadau mewn perthynas â Threth y Cyngor.


Notes:

[1] 1988 p.41. Gweler O.S. 1999/672. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o, a pharagraffau 1, 3 i 8, 11, 12, 14 i 16 o Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, cyn belled ag y gellir eu hymarfer mewn perthynas â Chymru, yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.back

[2] 1992 p.53.back

[3] Gweler O.S. 1993/290.back

[4] Gweler O.S. 1993/291.back

[5] 1991 p.59.back

[6] O.S. 1995/3056.back

[7] O.S. 2001/1439 (Cy.101)back

[8] O.S. 2004/1312 (Cy.138)back

[9] 1972 p.70.back

[10] 1996 p.23.back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091243 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 20 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053364w.html