BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 3367 (Cy.264)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053367w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3367 (Cy.264)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 6 Rhagfyr 2005 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004
    
2. Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn—

    (1) Yn rheoliad 2(2), rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—

    (2) Yn rheoliad 3, rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—

    (3) Yn rheoliad 4(1), rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—

    (4) Yn rheoliad 7—

    (5) Yn lle paragraff 1 o'r Atodlen, rhodder—

    (6) Ym mharagraff 6(2) o'r Atodlen, cyn "(d)" dileer "or", ar ôl "provided" rhodder ";" yn lle "." ac ychwaneger—

    (7) Ym mharagraff 12(2) o'r Atodlen—

    (8) Yn lle paragraff 12(3) o'r Atodlen, rhodder—

    (9) Ym mharagraff 12(4)—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004 ("y Prif Reoliadau").

Mae rheoliad 2(1) yn diweddaru cyfeiriadau at yr offerynnau Cymunedol yn y Prif Reoliadau i fod yn gyfeiriadau at yr offerynnau Cymunedol fel y'u diwygiwyd ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.

Mae rheoliadau 2(2), (3) a (4) yn cywiro mân wallau drafftio.

Mae rheoliad 2(4) yn egluro pwerau personau awdurdodedig yn rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 2(5) yn cyflwyno safon newydd o ran cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da ("CAAD") ac yn disodli'r gofyniad blaenorol i ffermwr lenwi ffurflen wirio ynghylch rheoli pridd yn 2005. Yn ôl y gofyniad newydd rhaid i ffermwr gwblhau llyfryn cofnodi asesiadau o'r pridd. Rhaid i'r llyfryn hwn gael ei ddiweddaru gan y ffermwr a'i roi ar gael i staff y Cynulliad Cenedlaethol os gofynnir iddo wneud hynny. Caiff ffermwr ei esemptio rhag y rhwymedigaeth hon os bydd wedi cwblhau [cynllun rheoli adnoddau o dan Reoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2005].

Mae rheoliad 2(6) yn diwygio'r safon CAAD o ran gorbori a dulliau porthi atodol anaddas ("overgrazing and unsuitable supplementary feeding methods") i atal sathru difrifol sy'n peri i bridd redeg i mewn i gyrsiau dŵr.

Mae rheoliadau 2(7) a 2(9) yn diwygio'r safonau CAAD o ran gwrychoedd neu berthi ("hedgerows"). Os bydd ffermwr yn caniatáu i gystadleuaeth neu ddigwyddiad hyfforddi gael ei chynnal neu ei gynnal ar ei fferm rhwng 1 Mawrth a 30 Ebrill a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol, caiff y ffermwr blygu gwrychoedd a pherthi a choedlannu. Caniateir bellach i ffermwr sy'n plannu cnydau gaeaf âr ar dir âr dorri neu docio gwrychoedd neu berthi perthnasol ar y tir hwnnw yn ystod mis Awst.


Notes:

[1] O.S. 2005/1971.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2004/3280 (Cy.284).back

[4] O.S. 2006/41 (Cy.7).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091253 5


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053367w.html