BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 124 (Cy.17)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060124w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 124 (Cy.17)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 24 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 59, 60 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1],drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol—

Enwi, cychwyn, dehongli a rhychwant
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 31 Ionawr 2006.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y prif Orchymyn" yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 [
2].

    (3) Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at Ran 1 neu Ran 25 yn gyfeiriad at y Rhan â'r Rhif hwnnw o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn.

    (4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r prif Orchymyn
     2.— Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (cyfarwyddiadau sy'n cyfyngu ar ddatblygu a ganiateir), ym mharagraff (5)(f) hepgorer "satellite".

Diwygiadau i Ran 1
    
3. —(1) Yn Nosbarth A o Ran 1 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd), ym mharagraff A.1(f), yn lle "a satellite antenna" rhodder "a microwave antenna".

    (2) Yn Nosbarth E o Ran 1, ym mharagraff E.1(a), yn lle "a satellite antenna" rhodder "a microwave antenna".

    (3) Yn Nosbarth H o Ran 1—

Diwygiadau i Ran 25
    
4. —(1) Yn Nosbarth A o Ran 25 (Datblygiad telathrebu arall)—

    (2) Yn Nosbarth B o Ran 25—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 1 a 25 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 ("Gorchymyn 1995"). Mae'r Rhannau hynny yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â chodi antena lloeren ac antena microdonfedd (fel y'i diffinnir yn erthygl 1(2) o'r Gorchymyn). Mae'r diwygiadau yn gymwys o ran Cymru.

Mae erthygl 3 yn diwygio Dosbarth H o Ran 1 o Orchymyn 1995 (gosod, addasu neu amnewid antena lloeren ar dŷ annedd neu o fewn cwrtil tŷ annedd), gan gynyddu nifer yr antenâu a ganiateir i 2. Mae'n ymestyn yr hawliau datblygu a ganiateir i bob math o antenâu, ac yn gosod cyfyngiad maintioli o 60cm ar gyfer un o'r antenâu a ganiateir, a 100cm ar gyfer y llall. Mae'n addasu eithriadau presennol oddi wrth hawliau o'r fath drwy ganiatáu i antena a osodir ar y to daflu allan uwchben to gyda simnai. Mewn achosion o'r fath mae'n cyfyngu uchder yr antena neu'r antenâu i ran uchaf y simnai, neu 60cm wedi ei fesur o deils crib y to, p'run bynnag yw'r isaf. Mae'n cyflwyno capasiti ciwbig o 35 litr ar y mwyaf ar gyfer antenâu unigol. Mae hefyd yn llacio cyfyngiadau mewn perthynas ag antena ar dir o fewn erthygl 1(5) (Parciau Cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ardaloedd cadwraeth etc) i ganiatáu rhoi antena ar ogwyddiadau toeau, waliau neu simneiau na ellir eu gweld o briffordd.

Mae erthygl 4 yn diwygio Dosbarthiadau A a B o Ran 25 o Atodlen 2 i Orchymyn 1995. Yn Nosbarth A (gosod, altro neu amnewid antena meicrodonfedd ar unrhyw adeilad neu strwythur arall sy'n 15 metr neu fwy o uchder ac unrhyw strwythur a fwriedir i gynnal antena meicrodonfedd) mae'n ymestyn yr hawliau datblygu a ganiateir i bob math o antenâu, ac yn cynyddu nifer yr antena a ganiateir i bedair. Mae'n addasu eithriadau presennol oddi wrth hawliau o'r fath drwy osod cyfyngiad ar faint ar gyfer antena a osodir ar simnai o 60cm o'i fesur mewn unrhyw gyfeiriad llinellol. Mae'n cyflwyno capasiti ciwbig o 35 litr ar y mwyaf ar gyfer antenâu unigol, ac yn llacio cyfyngiadau ar dir o fewn erthygl 1(5) drwy ganiatáu rhoi antena ar ogwyddiadau toeau, waliau neu simneiau na ellir eu gweld o briffordd. O ran Dosbarth B (gosod, altro neu amnewid antena lloeren ar unrhyw adeilad neu strwythur arall sy'n llai na 15 metr o uchder) mae'n ymestyn yr hawliau datblygu a ganiateir i bob math o antenâu, ac yn cynyddu nifer yr antena a ganiateir i ddwy. Mae'n gosod cyfyngiad maint o 60cm ar gyfer un o'r antenâu a ganiateir, a 100cm i'r llall. Mae'n addasu eithriadau oddi wrth hawliau o'r fath i gyfateb â'r eithriadau oddi wrth yr hawliau datblygu Rhan 1 Dosbarth H a ganiateir a amlinellir uchod.

Wrth asesu mwyafswm yr antenâu a ganiateir ar gyfer Rhan 1 ac ar gyfer Rhan 25, rhaid cymryd unrhyw antena fach a ganiateir gan Ddosbarth A o Ran 24 i ystyriaeth.

Gwneir mân newidiadau cysylltiedig a chanlyniadol hefyd i'r Rhannau a grybwyllwyd, ac i erthygl 4 o Orchymyn 1995.


Notes:

[1] 1990 p.8; y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60 a 333(7), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672): gweler y cofnod yn Atodlen 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) fel y'i hamrywiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000, ac Atodlen 3 iddo (O.S. 2000/253).back

[2] O.S. 1995/418; mae O.S. 1999/293 ac O.S. 2004/3156 yn offerynnau diwygio perthnasol.back

[3] 1989 p.22.back

[4] 1989 p.22.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091260 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 31 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060124w.html