BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 Rhif 126 (Cy.19)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060126w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 126 (Cy.19)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 24 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2006 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

RHAN 2

CYMHWYSTRA
4. Myfyrwyr cymwys
5. Cyrsiau dynodedig
6. Cyfnod cymhwystra
7. Astudio blaenorol
8. Trosglwyddo statws

RHAN 3

GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH
9. Ceisiadau am gymorth
10. Terfynau amser
11. Gwybodaeth

RHAN 4

GRANTIAU AT FFIOEDD
12. Amodau'r hawl i gael grantiau at ffioedd
13. Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus
14. Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat

RHAN 5

BENTHYCIADAU AT FFIOEDD
15. Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd
16. Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd
17. Benthyciadau at ffioedd

RHAN 6

GRANTIAU AT GOSTAU BYW
18. Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw
19. Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl
20. Grantiau i fyfyrwyr sydd wedi ymadael â gofal
21. Grantiau ar gyfer dibynyddion- cyffredinol
22. Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant dibynyddion mewn oed
23. Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant gofal plant
24. Grantiau ar gyfer dibynyddion- lwfans dysgu rhieni
25. Grantiau ar gyfer dibynyddion- eu cyfrifo
26. Grantiau ar gyfer dibynyddion- dehongli
27. Grantiau at deithio
28. Grantiau addysg uwch
29. Grantiau cynhaliaeth
30. Grant Cymorth Arbennig

RHAN 7

BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW
31. Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw
32. Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn
33—34. Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn
35. Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng
36. Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni
37. Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer tri chwarter y flwyddyn academaidd
38. Myfyrwyr sy'n syrthio i fwy nag un categori
39. Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd
40. Codiadau yn yr uchafswm
41. Didynnu o fenthyciadau at gostau byw
42. Dehongli Rhan 7

RHAN 8

DARPARIAETHAU CYFFREDINOL YNGLŷN Â BENTHYCIADAU
43. Symiau ychwanegol o fenthyciadau
44. Llog

RHAN 9

ASESIAD ARIANNOL
45. Cyfrifo'r cyfraniad
46. Cymhwyso'r cyfraniad

RHAN 10

TALIADAU
47. Talu grantiau neu fenthyciadau at ffioedd
48. Talu grantiau a benthyciadau at gostau byw
49. Gordalu

RHAN 11

CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
50. Myfyrwyr rhan-amser cymwys
51. Cyrsiau rhan-amser dynodedig
52. Cyfnod cymhwystra
53. Cymorth at gyrsiau rhan-amser
54. Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl
55. Ceisiadau am gymorth
56. Gwybodaeth
57. Trosglwyddo statws
58. Trosi statws
59. Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys
60. Talu grantiau at ffioedd
61. Gordalu

RHAN 12

CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU
62. Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys
63. Cyrsiau ôl-raddedig dynodedig
64. Cyfnod cymhwystra
65. Trosglwyddo statws
66. Ceisiadau am gymorth
67. Gwybodaeth
68. Swm grantiau
69. Talu grantiau
70. Gordalu

  ATODLEN 1 MYFYRWYR CYMWYS

  ATODLEN 2 CYRSIAU DYNODEDIG

  ATODLEN 3 GWYBODAETH

  ATODLEN 4 ASESIAD ARIANNOL

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu'r Ynysoedd o ganlyniad i symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn ymgymryd—

yn preswylio yn gyffredinol yn y lle y symudodd y person hwnnw ohono.

    (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gan gynnwys er mwyn penderfynu a yw person wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr Deddf Mewnfudo 1971[33], trinnir person fel pe bai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod y person, priod neu bartner sifil y person neu riant neu warcheidwad y person neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto neu unrhyw berson sy'n gofalu amdano os yw'r person yn blentyn, yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ac nid yw paragraff 9(c) o Atodlen 1 yn gymwys yn achos person o'r fath. Heb ragfarnu'r uchod, rhaid trin aelodau o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron fel pe baent wedi'u cyflogi dros dro o fewn ystyr y paragraff hwn am unrhyw gyfnod y byddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r lluoedd hynny.

    (4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod ardal—

bob amser wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

    (5) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at weithiwr mudol o'r AEE yn gyfeiriad at berson sy'n wladolyn un o Aelod-wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ac sydd wedi ymgymryd â gweithgaredd fel person cyflogedig yn y Deyrnas Unedig—

    (6) Yn y Rheoliadau hyn—

    (7) Ac eithrio yn achos rheoliad 27 (grant at deithio), mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at "bresenoldeb" myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn cynnwys ymgymryd â chwrs drwy ddysgu o hirbell os nad yw'r myfyriwr cymwys yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol am ei fod yn anabl.

    (8) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd" ("gap-year student") yw myfyriwr cymwys y mae paragraffau (9) neu (10) yn gymwys iddo ac sy'n cychwyn ar gwrs dynodedig ("y cwrs presennol") ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

    (9) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

    (10) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

    (11) At ddibenion paragraff (2)(a) mae cwrs ("y cwrs gwreiddiol") yn gyffelyb i'r cwrs presennol—

    (12) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y cwrs dynodedig a bennir" ("specified designated course") yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (13) a (14).

    (13) Os cafodd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddiad, neu fwy nag un trosglwyddiad, o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol oddi ar gwrs (y "cwrs cychwynnol") y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.

    (14) Os yw'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben ag ef ("y cwrs blaenorol"). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs pen-ben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun, mewn cysylltiad ag ef, yn gwrs pen-ben.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru ar 1 Medi 2006—

    (2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

    (3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

    (4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

    (5) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

    (6) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn—

mae'r person yn fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4, 5 a 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (7) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 7 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cefnogaeth o dan Ran 7.

    (7) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson fenthyciad neu os oedd yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998, mae'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 7 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu ag unrhyw gwrs dynodedig dilynol y bydd yn dechrau arno (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, ond oni bai bod paragraff (6) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf grant o dan Rannau 4, 5 a 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau perthnasol yr hawl i gael cefnogaeth o dan Rannau 4, 5 a 6.



RHAN 2

CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys
    
4. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

    (2) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

    (3) Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys—

    (4) At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

    (5) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

    (6) Rhaid i fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 beidio, ar unrhyw un adeg, â bod â hawl i gael cymorth—

    (7) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n bodloni'r gofynion ym mharagraff (8), (9) neu (10).

    (8) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

    (9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

    (10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

Cyrsiau dynodedig
     5. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4 os yw—

    (2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

    (3) At ddibenion paragraff (1)—

    (4) Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol—

    (5) Mae paragraff (4) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

    (6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra
     6. —(1) Mae myfyriwr cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.

    (2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r "cyfnod cymhwystra" yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fo'r myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig.

    (3) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1 y mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac nad yw wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys.

    (4) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC y mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys, ac eithrio—

    (5) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.

    (6) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (7), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys.

    (7) Dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs pellach am y nifer o flynyddoedd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo ac sy'n dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'n trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar ôl 1 Medi 2006 yn gymwys.

    (8) Mewn unrhyw achos lle mae nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol yw'r blynyddoedd academaidd y mae gan y myfyriwr hawlogaeth ynddynt i gael grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

    (9) Yn y rheoliad hwn—

    (10) Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y paragraff hwn, trinnir presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd fel blwyddyn academaidd gyfan.

    (11) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

    (12) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael grantiau a benthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw nad yw yn unol â pharagraffau (3) i (9).

    (13) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr cymwys—

    (14) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

    (15) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

Astudio blaenorol
    
7. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol.

    (3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.

    (4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dilyn cwrs sy'n arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, mae cwrs blaenorol yn unrhyw gwrs y bu'r myfyriwr yn bresennol arno cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff (6).

    (6) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw bod y cwrs yn gwrs addysg uwch amser-llawn a ddarparwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ac—

    (7) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr "cyfnod arferol y cwrs" ("ordinary duration of the course") yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr "myfyriwr safonol" ("standard student") yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un—

Trosglwyddo statws
    
8. —(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw—

    (2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i dderbyn, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo'r hawl i'w gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno, am weddill y flwyddyn academaidd y bydd yn trosglwyddo ynddi.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.



RHAN 3

GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Ceisiadau am gymorth
    
9. —(1) Rhaid i berson (y "ceisydd") wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl neu beidio i gael cymorth ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

Terfynau amser
    
10. —(1) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

    (2) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (1) yn gymwys—

Gwybodaeth
    
11. Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.



RHAN 4

GRANTIAU AT FFIOEDD

Amodau'r hawl i gael grantiau at ffioedd
    
12. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd[37] am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

    (2) Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 13 neu 14.

    (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus
     13. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn £1,200.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £600 yn yr achosion canlynol—

    (3) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,145.

    (4) Caniateir didynnu swm oddi wrth y grant at ffioedd y penderfynnir arno o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 46.

Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat
    
14. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw £1,125.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw £1,200—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat yw £600—

    (4) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,840.

    (5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Gerdd Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,355.

    (6) Caniateir didynnu swm o'r grant at ffioedd yn unol â rheoliad 46.



RHAN 5

BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd
    
15. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi ei eithrio rhag bod yn gymwys gan y paragraff canlynol, gan reoliad 6 neu reoliad 7.

    (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd
     16. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw.

    (2) Os yw myfyriwr cymwys dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd, swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd oddi ar ei grant at ffioedd yn unol â rheoliad 46.

    (3) Os benthyciad at gyfraniad at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,200 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys, £600.

    (4) Caiff myfyriwr cymwys dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd—

    (5) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn swm sy'n fwy na'r uchafswm a gafodd ei gynyddu.

    (6) Os yw myfyriwr cymwys dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth iddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

    (7) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs mewn sefydliad preifat neu yng Ngholeg Heythrop.

Benthyciadau at ffioedd
    
17. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

    (2) Rhaid i swm benthyciad at ffi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r isod—

    (3) Yn yr achosion a bennir yn rheoliad 13(2), uchafswm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,500.

    (4) Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffi mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.

    (5) Yr amgylchiadau yw—

    (6) Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, wedi didynnu oddi ar y swm hwnnw unrhyw fenthyciad at ffi y mae'r myfyriwr hwnnw wedi ei godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwyddod oddi arni.

    (7) Pan fo paragraff 5(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r isod—

    (8) Pan fo myfyriwr cymwys dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffi sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.



RHAN 6

GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw
    
18. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon ar yr amod—

    (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

    (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—

    (4) Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 19.

    (5) Ac eithrio grant o dan reoliad 20, nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

    (6) At ddibenion paragraff (5), ystyr "gwasanaeth di-dâl" ("unpaid service") yw—

    (7) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (8), fe gaiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol at gostau byw yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

    (8) Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7)—

Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl
     19. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei dynnu mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

    (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.

    (3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

    (5) Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.

    (6) Uchafswm y grant o dan baragraffau (4)(a) a (4)(ch) yw £9,105 a £1,200, yn y drefn honno—

Grantiau i fyfyrwyr sydd wedi ymadael â gofal
    
20. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u bodloni.

    (2) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), swm y grant yw unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn briodol o dan yr amgylchiadau.

    (4) Uchafswm y grant yw £100 am bob wythnos neu ran o wythnos mewn blwyddyn academaidd—

Grantiau ar gyfer dibynyddion- cyffredinol
    
21. —(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

    (2) Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 22 i 25.

    (3) Caniateir didynnu o unrhyw un o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 46.

Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant dibynyddion mewn oed
    
22. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â naill ai—

    (3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw—

    (4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—

Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant gofal plant
    
23. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant mewn perthynas â chostau gofal plant ar gyfer pob plentyn dibynnol yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r gofal plant yn cael ei ddarparu gan ddarparydd gofal plant wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gofrestru—

    (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002[46].

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

    (5) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—

    (6) Mae swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—

    (7) Yn y rheoliad hwn—

Grantiau ar gyfer dibynyddion- lwfans dysgu rhieni
     24. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.

    (2) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw £1,400.

Grantiau ar gyfer dibynyddion- eu cyfrifo
    
25. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 22 i 24 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A− B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.

    (3) Os yw (A−B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

    (4) Rhaid gostwng swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 22(4).

    (5) Rhaid gostwng swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 23(6).

    (6) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

    (7) Yn y rheoliad hwn—

    (8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—

    (9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—

    (10) Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

    (11) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

    (12) Yn y rheoliad hwn, ystyr "chwarter perthnasol" ("relevant quarter") yw—

Grantiau ar gyfer dibynyddion- dehongli
    
26. —(1) Yn rheoliadau 21 i 25—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

    (3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—

    (4) At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.

Grantiau at deithio
     27. —(1) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae cyfnod o astudio drwy hyfforddiant clinigol yn rhan angenrheidiol ohono) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd er mwyn bod yn bresennol mewn cysylltiad â'i gwrs mewn unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol heblaw gwariant sy'n cael ei dynnu at ddibenion astudiaethau preswyl i ffwrdd o'r sefydliad.

    (2) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs.

    (3) Mae swm y grant sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion ym mharagraff (1) neu baragraff (2).

    (4) Wrth benderfynu ar y gwariant sy'n cael ei dynnu gan fyfyriwr cymwys mae £285 o'r gwariant hwnnw'n cael ei anwybyddu.

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn mae unrhyw gyfeiriad at wariant sy'n cael ei dynnu er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad neu ar gyfnod o astudio—

    (6) Os bydd myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs a'i fod yn rhesymol yn dynnu unrhyw wariant i yswirio yn erbyn atebolrwydd am gost triniaeth feddygol sy'n cael ei darparu y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar gyfer unrhyw salwch neu anaf i'r corff a geir neu a ddioddefir yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ganddo hawl i gael grant ychwanegol o dan y rheoliad hwn sy'n hafal i'r swm sy'n cael ei dynnu felly.

    (7) Caniateir didynnu o'r grant o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 46.

Grantiau addysg uwch
    
28. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu tynnu er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

    (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

    (3) Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.

    (4) Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn—

Grant cynhaliaeth
    
29. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

    (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.

    (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant cynhaliaeth oni bai ei fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

    (4) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

    (5) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

    (6) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

    (7) Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

Grant Cymorth Arbennig
    
30. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael ei dynnu er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

    (2) Mae gan fyfyriwr dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol a Budd-daliadau 1992.

    (3) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

    (4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

    (5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

    (6) Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—



RHAN 7

BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw
    
31. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) na rheoliad 7.

    (2) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

    (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn
    
32. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs carlam), yw—

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam yw—

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn
    
33. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn, ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, pan fo incwm yr aelwyd uwchlaw £37,900.

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yn hafal i (X−Y)—

    (3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yn hafal i (X−Y)—

    (4) Yn y rheoliad hwn, "swm y grant cynhaliaeth" ("the maintenance grant amount")—

     34. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 a myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon pan fo incwm yr aelwyd uwchlaw £37,900.

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw—

    (3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw—

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng
    
35. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr, sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) fel a ganlyn—

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr, sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam fel a ganlyn—

Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni
    
36. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw myfyriwr cymwys yn preswylio yng nghartref ei rieni a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad yw'n rhesymol, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni'r myfyriwr gynnal y myfyriwr oherwydd oedran, analluedd neu fel arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori heblaw categori 1 fod yn gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw, rhaid trin y myfyriwr fe pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

    (3) Os yw myfyriwr cymwys yn aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai ei urdd, trinnir y myfyriwr fel pe bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.

Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer tri chwarter y flwyddyn academaidd
    
37. Mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd ac nid yw'n daladwy mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

Myfyrwyr sy'n syrthio i fwy nag un categori
    
38. —(1) Os yw myfyriwr yn syrthio i fwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 35 yn ystod y flwyddyn academaidd—

    (2) Ni ellir cymhwyso categori 3 at chwarter oni bai bod y myfyriwr yn bresennol mewn sefydliad dros y môr am hanner o leiaf o gyfnod y chwarter hwnnw.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd
    
39. —(1) Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy ynddynt sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

    (2) Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

    (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd.

    (4) Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn.

    (5) Uchafswm y benthyciad am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Codiadau yn yr uchafswm
    
40. —(1) Os yw'n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy'n fwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 32 i 35 ar gyfer pob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn:

    (2) Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod heb fod yn llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, rhaid codi swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 32 i 35 ar gyfer pob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

    (3) Nid yw'r rheoliadau hyn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng

Didynnu o fenthyciadau at gostau byw
    
41. —(1) Yn unol â rheoliad 46, caniateir didynnu o'r benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn.

    (2) O dan reoliad 46, ni chaniateir didynnu o'r benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng.

Dehongli Rhan 7
    
42. —(1) Yn y rheoliad hwn—



RHAN 8

DARPARIAETHAU CYFFREDINOL YNGLŷN Â BENTHYCIADAU

Symiau ychwanegol o fenthyciadau
    
43. —(1) Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am gymryd benthyg swm ychwanegol o fenthyciad—

    (2) Mae'r swm ychwanegol o dan baragraff (1) yn swm na fydd, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.

    (3) Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad o lai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am gymryd benthyg swm ychwanegol na fydd, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.

Llog
    
44. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd a fydd yn arwain at gyfradd ganrannol flynyddol o dâl a bennir yn unol â Rheoliadau Credyd Defnyddwyr (Cyfanswm y Tâl am Gredyd) 1980[52] sy'n hafal i'r cynnydd canrannol rhwng y mynegai prisiau manwerthu pob eitem a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Mawrth 2004 a'r mynegai a gyhoeddwyd ganddi ar gyfer Mawrth 2005.

    (2) Os yw'r gyfradd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn fwy na'r gyfradd sydd am y tro wedi'i phennu at ddibenion unrhyw esemptiad sydd wedi'i roi yn rhinwedd adran 16(5)(b) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974[53] bydd benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd sydd wedi'i phennu felly.

    (3) Cyfrifir llog ar y prifswm sy'n weddill bob dydd ac mae'n cael ei ychwanegu at y prifswm bob mis.

    (4) Y mynegai prisiau y mae adran 22(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddo wrth ragnodi cyfradd llog benthyciadau yw'r mynegai prisiau manwerthu pob eitem a grybwyllir ym mharagraff (1).



RHAN 9

ASESIAD ARIANNOL

Cyfrifo'r cyfraniad
     45. —(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 4, os oes unrhyw swm o gwbl.

    (2) At ddibenion arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o dro i dro unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.

Cymhwyso'r cyfraniad
    
46. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan Atodlen 4 gael ei gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn—

    (2) Yn achos myfyriwr cymwys dan yr hen drefn—

    (3) Yn achos myfyriwr cymwys dan y drefn newydd, mae GFF yn ddim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.

    (4) Yn y rheoliad hwn—

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), y "lefel isaf am y flwyddyn academaidd" ("minimum level for the academic year") yw—

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r flwyddyn academaidd o dan sylw yn flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam, "lefel isaf am y flwyddyn academaidd" yw—

    (7) Os oes categorïau gwahanol yn gymwys o dan reoliad 38 ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (5) a (6) yw cyfanswm y symiau a bennir o dan baragraff (8) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.

    (8) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter o dan y paragraff hwn yw traean o'r swm ym mharagraff (5) neu (6) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.

    (9) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £600 o swm y benthyciad ar gyfer costau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £37,900.

    (10) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £1,200 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £37,900.

    (11) Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 42.



RHAN 10

TALIADAU

Talu grantiau neu fenthyciadau at ffioedd
    
47. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael i'r sefydliad y mae'r myfyriwr yn atebol i'w dalu pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael cais dilys am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd i'r awdurdod academaidd—

    (3) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad dros dro.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r rhandaliadau o'r benthyciad at ffioedd.

    (5) Os yw asesu cyfraniad myfyriwr dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad dros dro.

    (6) Ni chaniateir talu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd—

Talu grantiau a benthyciadau at gostau byw
    
48. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff, os nad oes modd gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, wneud asesiad dros dro o'r cymorth sy'n daladwy.

    (2) Caniateir i daliadau cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod y myfyriwr cymwys yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

    (3) Os oes myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad o dan Ran 7, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael talu unrhyw randaliad fod y myfyriwr cymwys yn rhoi Rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Yn ddarostyngedig i reoliad 8, nid oes cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i fyfyriwr cymwys dynnu'n ôl o'i gwrs, rhoi'r gorau iddo neu gael ei ddiarddel oddi arno; a swm y cymorth am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y cymorth, os oes unrhyw gymorth o gwbl, sy'n daladwy mewn perthynas â phob cyfnod talu.

    (5) Pan fo myfyriwr cymwys yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—

    (6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud taliadau o ran grantiau at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y mae'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno a bod y taliad hwnnw'n fwy na'r swm rhannol—

    (7) Os oes taliad o grantiau at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i fod i gael ei wneud neu os yw'n cael ei wneud ar ôl i'r myfyriwr dynnu'n ôl o'r cwrs, rhoi'r gorau iddo neu gael ei ddiarddel oddi arno, y swm sy'n ddyledus yw'r swm rhannol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn briodol estyn y cyfnod hawlogaeth tan ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a phenderfynu bod y swm llawn yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

    (8) Nid oes cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni bai y byddai, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn briodol o dan yr holl amgylchiadau i dalu'r cyfan neu ran o'r cymorth; a swm y cymorth am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y cymorth, os oes unrhyw gymorth o gwbl, sy'n daladwy mewn perthynas â phob cyfnod talu.

    (9) Yn y rheoliad hwn ystyr "cyfnod talu" ("payment period") yw cyfnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn talu rhandaliad mewn perthynas ag ef neu y byddai wedi talu rhandaliad mewn perthynas ag ef pe na bai'r myfyriwr cymwys wedi tynnu'n ôl o'i gwrs, wedi rhoi'r gorau iddo, wedi'i ddiarddel oddi arno neu wedi bod yn absennol ohono.

    (10) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol talu'r cyfan neu ran o'r cymorth o dan baragraff (5) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau dros absenoldeb y myfyriwr, hyd yr absenoldeb a'r caledi ariannol a gâi ei achosi pe na bai'r cyfan neu ran o'r cymorth yn cael ei dalu.

    (11) Ni fernir bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw ei absenoldeb wedi bod yn hirach na 60 diwrnod.

    (12) Ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7, os yw'n penderfynu ar swm grant at gostau byw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd naill ai am y tro cyntaf neu drwy ddiwygio penderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ar y swm hwnnw—

    (13) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 a bod myfyriwr sydd â hawl i gael benthyciad o dan Ran 7 yn gwneud cais am fenthyciad o'r fath neu'n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad neu'r swm ychwanegol o fenthyciad a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.

    (14) Ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw daliad benthyciad y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 7, os yw'n penderfynu bod swm y benthyciad y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael yn llai na'r swm y penderfynwyd arno o'r blaen naill ai drwy ddiwygio penderfyniad dros dro neu fel arall—

    (15) Mewn unrhyw achos lle bo angen cadarnhad o bresenoldeb, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth i'r myfyriwr cymwys o dan Ran 6 neu Ran 7 cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gael y cadarnhad hwnnw.

    (16) Mae angen cadarnhad o bresenoldeb oddi wrth sefydliad mewn perthynas â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol os yw'r flwyddyn honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 onid yw eithriad ym mharagraff (17) yn gymwys.

    (17) Mae eithriad yn gymwys—

    (18) Rhaid i sefydliad anfon y cadarnhad o bresenoldeb i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf y mae'r cadarnhad mewn perthynas â hi i fod i ddod i law.

    (19) Yn y rheoliad hwn, ystyr "cadarnhad o bresenoldeb" ("attendance confirmation")—

Gordalu
    
49. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordaliad grant neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

    (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan Ran 6 neu 7 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 6 neu 7.

    (3) Caniateir i unrhyw ordaliad ar gyfer unrhyw grant o dan Ran 6 gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

    (4) Caniateir i unrhyw ordaliad benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd gael ei adennill os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn—

    (5) Os oes gordaliad benthyciad at gostau byw yn adenilladwy yn unol â pharagraff (4), caniateir ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

    (6) Os cafwyd gordaliad benthyciad at gostau byw nad yw'n adenilladwy o dan baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'r gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf.



RHAN 11

CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Myfyrwyr rhan-amser cymwys
    
50. —(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

    (2) Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

    (3) Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—

    (4) Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.

    (5) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

    (6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

    (7) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53(1)(b) neu reoliad 54 os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

    (8) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—

    (9) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth blynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (10).

    (10) Dyma'r benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9)—

    (11) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

    (12) At ddibenion paragraff (11), nid yw gradd yn cael ei thrin fel gradd gyntaf—

    (13) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14), caiff fod â hawl i gael cymorth yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

    (14) Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (13)—

    (15) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (16) neu (17).

    (16) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

    (17) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

    (18) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth—

Cyrsiau rhan-amser dynodedig
     51. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 50—

    (2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

    (3) At ddibenion paragraff (1)—

    (4) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 50(1) caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra
     52. —(1) Mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.

    (2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r "cyfnod cymhwystra" ("period of eligibility") ym mharagraff (1) yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

    (4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys—

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

    (6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

Cymorth at gyrsiau rhan-amser
    
53. —(1) At ddibenion y rheoliad hwn, dyma'r cymorth sydd ar gael—

    (2) Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.

    (3) Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canran

FT/PT × 100
lle

    (4) Y "grant sylfaenol" ("basic grant") yw—

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

    (6) Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy dynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o'r symiau canlynol—

    (7) Os caiff myfyriwr gymorth o dan reoliad 57 perthynas â mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig mewn blwyddyn academaidd, uchafswm y cymorth o dan baragraff (1)(a) am y flwyddyn honno yw swm y grant sylfaenol am y cwrs sydd â'r dwysedd astudio uchaf y mae'r myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn y flwyddyn academaidd honno.

    (8) At ddibenion y rheoliad hwn—

    (9) At ddibenion y rheoliad hwn—

Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl
     54. —(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr rhan-amser cymwys ei dynnu mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

    (2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

Ceisiadau am gymorth
    
55. —(1) Rhaid i berson (y "ceisydd") wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

    (2) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.

    (3) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (2) yn gymwys—

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

    (5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.

Gwybodaeth
    
56. Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Trosglwyddo statws
    
57. —(1) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs hwnnw—

    (2) Dyma'r seiliau dros drosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

Trosi statws
    
58. —(1) Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

    (2) Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 51(1)(b) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.

    (3) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

    (4) Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.

    (5) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

    (6) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5)—

Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys
    
59. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan reoliad 54 ac o dan reoliad 53(1)(b) a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff, os nad oes modd gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, wneud asesiad dros dro o'r cymorth sy'n daladwy.

    (2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Talu grantiau at ffioedd
    
60. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o dan reoliad 53(1)(a) i'r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau y mae'n credu eu bod yn addas.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y mae'n credu eu bod yn briodol.

    (4) Ni chaniateir gwneud taliad oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y myfyriwr wedi bod yn ymgymryd â'r cwrs ers pythefnos.

Gordalu
    
61. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd o dan reoliad 53(1)(a) oddi wrth yr awdurdod academaidd.

    (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon.

    (3) Caniateir i unrhyw ordaliad grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—



RHAN 12

CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys
    
62. —(1) Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

    (2) Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-raddedig dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4).

    (3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—

    (4) Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—

    (5) At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a wneir o dan ddeddfwriaeth benthyciadau myfyrwyr.

    (6) Pan fo cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, nid yw paragraff (4)(c) ond yn gymwys os gwnaed y cytundeb—

    (7) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

    (8) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.

    (9) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (10) neu (11).

    (10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

    (11) Yr amodau yw—

    (12) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

Cyrsiau ôl-raddedig dynodedig
     63. Mae cwrs ôl-raddedig yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 62—

    (2) At ddibenion paragraff (1)—

    (3) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 62, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra
     64. —(1) Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.

    (2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae "cyfnod cymhwystra" ("period of eligibility") ym mharagraff (1) yn hafal i'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-raddedig dynodedig.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

    (4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys—

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

    (6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

Trosglwyddo statws
    
65. —(1) Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-raddedig arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw—

    (2) Dyma'r seiliau dros drosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

Ceisiadau am gymorth
    
66. —(1) Rhaid i berson (y "ceisydd") wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-raddedig dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

    (2) Rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes ganddo hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.

Gwybodaeth
    
67. Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Swm grantiau
    
68. Y grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn fwy na £5,780 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

Talu grantiau
    
69. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.

    (2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawl i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordalu
    
70. —(1) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

    (2) Caniateir i unrhyw ordaliad grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
64]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Ionawr 2006



ATODLEN 1
Rheoliadau 4, 10, 18, 38, 39 a 50(2), 50(7), 50(14), 55(3)(b), 62(3), 62(5)


MYFYRWYR CYMWYS


     1. Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

     2. Person sy'n ffoadur, sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, sydd heb roi'r gorau i breswylio felly ers cael ei gydnabod fel ffoadur, neu sy'n briod, yn bartner sifil neu'n blentyn i ffoadur o'r fath, ac ym mhob achos yn bodloni'r amod preswylio ym mharagraff 9(a).

     3. Person sydd—

neu sy'n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, os yw'r person neu, yn ôl fel y digwydd, y priod, y partner sifil, y plentyn neu'r llysblentyn, yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.

     4. Person sy'n weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—

     5. Person sy'n briod neu'n bartner sifil i weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—

     6. Person sy'n blentyn i weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—

At ddibenion y paragraff hwn, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sy'n gofalu am blentyn ac mae "plentyn" yn cael ei ddehongli yn unol â hyn.

     7. Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn wladolyn i un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd neu'n blentyn y wladolyn o'r fath—

     8. Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, yn wladolyn o Aelod-wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd—

     9. Dyma'r amodau preswylio y cyfeirir atynt uchod—



ATODLEN 2
Rheoliadau 5 a 51


CYRSIAU DYNODEDIG


     1. Cwrs gradd gyntaf heblaw cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4.

     2. Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.

     3. Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

     4. Cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf.

     5. Cwrs o hyfforddiant pellach i athrawon neu weithwyr ieuenctid a chymuned.

     6. Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy'n uwch na'r canlynol—

nad yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

     7. Cwrs sy'n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon—

ac nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.



ATODLEN 3
Rheoliadau 11, 56 a 67


GWYBODAETH


     1. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod arno ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

     2. Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi'r manylion iddo os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—

     3. Rhaid i'r wybodaeth a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol ac, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol fodloni'r gofyniad hwnnw.



ATODLEN 4
Rheoliadau 2(1), 20, 26, 45(1) a 46(1)


ASESIAD ARIANNOL


Diffiniadau
     1. Yn yr Atodlen hon:—

Myfyriwr cymwys annibynnol
     2. Myfyriwr cymwys annibynnol yw myfyriwr cymwys ym mhob achos—

Incwm yr aelwyd
     3. —(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

    (2) Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

    (3) Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,050 yn cael ei ddidynnu—

    (4) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i gael ei agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ddyfarniad neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad—

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys
     4. —(1) Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

    (2) Os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

    (3) Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwn at ddibenion y paragraff hwn yw—

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant
     5. —(1) Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, ni wneir unrhyw ddidyniadau y disgwylid eu gwneud neu ni chaniateir unrhyw esemptiadau a ganiateid—

    (2) Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol—

    (3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol ("y flwyddyn ariannol gyfredol"), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn ariannol gyfredol.

    (4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr cymwys y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.

    (5) Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

    (6) Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth reth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm—

mae ei incwm at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.

    (7) Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    (8) Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—

    (9) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

    (10) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys
     6. —(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

    (2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

    (3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn byw gyda'i gilydd fel arfer.

    (4) Os os gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant
     7. Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Cyfrifo cyfraniad- myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn
     8. —(1) Cyfrifir y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys sy'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn—

    (2) Y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol dan yr hen drefn yw—

    (3) Y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys dan yr hen drefn nad yw'n annibynnol, yw—

    (4) Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (2) neu (3) beidio â bod yn fwy na £7,430 mewn unrhyw achos.

    (5) Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

    (6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os oes cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â'r canlynol—

Cyfrifo cyfraniad- myfyrwyr dan y drefn newydd
     9. —(1) Mewn perthynas â myfyriwr cymwys sy'n fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd, y cyfraniad sy'n daladwy yw—

    (2) Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £7,430.

    (3) Pan fydd is-baragraff (4) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy nag—

    (4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae cyfraniad yn daladwy o ran—

Rhannu cyfraniadau
     10. —(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 heblaw mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol dan yr hen drefn nad oes ganddo bartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

    (2) Mewn unrhyw achos—

mae'r cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo o dan is-baragraff (3).

    (3) Os yw is-baragraff (2) yn gymwys, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â phob aelwyd berthnasol yn cael ei gyfrifo ac mae'r dyraniad yn cael ei wneud yn unol ag is-baragraff (1) o'r paragraff hwn gan gadw'n ôl dim ond y rhan honno o'r cyfraniad a ddyrannwyd i bob myfyriwr cymwys nad yw'n rhan o'r aelwyd berthnasol.

    (4) Mewn achos lle mae cyfraniad sy'n cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un plentyn i'r rhiant hwnnw neu i bartner y rhiant hwnnw, os oes un, a bod incwm gweddilliol unrhyw fyfyriwr cymwys o'r fath yn fwy na dim, mae'r cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

    (5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill—

    (6) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner o fewn paragraff 1(j) o'r Atodlen hon, mae'r symiau a ychwanegir at ei incwm gweddilliol o dan is-baragraff (5) o'r paragraff hwn yn cael eu cyfrifo fel pe bai'r cyfraniad mewn perthynas â'i blant wedi'i asesu gan gymryd i ystyriaeth incwm partner y rhiant o dan baragraff 7, p'un a gafodd y cyfrifiad hwnnw ei gyfrifo ar y sail honno mewn gwirionedd neu beidio.

    (7) Yn y paragraff hwn, ystyr "aelwyd berthnasol" ("relevant household") yw'r holl fyfyrwyr cymwys hynny y cyfrifir cyfraniad mewn perthynas â hwy gan gyfeirio ar yr un incwm o dan baragraffau 5 a 7 ill dau.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae rheoliad 3 yn nodi rhychwant y dirymiad. Disgrifir isod y newidiadau sylweddol heblaw graddfeydd grantiau a benthyciadau a wneir yn y Rheoliadau hyn.

Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno gwahaniaeth rhwng myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd (rheoliad 2(1)) o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn.

Mae myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn yn fyfyrwyr cymwys sy'n mynychu cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 a myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Medi 2007, a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn yn ddarostyngedig i amodau penodedig—

Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi ac nad yw'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i amodau penodedig—

I fod â hawl i gael cymorth ariannol rhaid i fyfyriwr ddod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Atodlen 1 a'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2. Mae'r rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyrir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn at ddibenion ymgymryd â'i gwrs yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (rheoliad 2(2)).

Nid yw cymorth ond ar gael o dan y rheoliadau o ran cyrsiau dynodedig o fewn ystyr rheoliadau 5, 51 ac Atodlen 2.

Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno rheolau newydd ar astudio blaenorol yn rheoliadau 6 a 7. Mae myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 yn gymwys i gael grant cymorth ffioedd a grant cynhaliaeth am hyd arferol eu cwrs ac am un flwyddyn ychwanegol. Gostyngir nifer y blynyddoedd pryd y mae cymorth ar gael ar sail nifer y blynyddoedd y rhoddwyd cymorth i addysg uwch eisoes. Ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cwrs cyn 1 Medi 2006 bydd cymorth ar gael am hyd arferol y cwrs. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu estyn cymhwystra pan fo rhesymau personol anorchfygol dros wneud hynny o ran y myfyriwr dan sylw. Mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael drwy gydol cyfnod y cymhwystra, sy'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn gorffen y cwrs dynodedig. Bydd myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n parhau llai na dwy flynedd yn esempt rhag y rheolau astudio blaenorol.

Ni fydd myfyrwyr sydd â chymhwyster gradd anrhydedd oddi wrth sefydliad addysg uwch yn y DU yn gymwys i gael cymorth o dan y rheoliadau, ond bydd myfyrywyr sy'n ymgymryd â chwrs ail radd sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol, doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, cynllunydd trefol neu gynllunydd gwlad a thref yn dal yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth.

Mae'r diffiniad o "cwrs pen-ben" wedi ei ddiwygio (rheoliad 2(1)) fel bod myfyrwyr sy'n mynd ben-ben o radd sylfaen a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 (neu yn y flwyddyn academaidd 2006/7 ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd) at radd anrhydedd yn cael eu trin fel myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn. Bydd myfyrwyr sy'n symud o gwrs gradd at gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs gradd gyntaf) ar neu ar ôl 1 Medi 2006 (ac eithrio myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd) yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd pan ddechreuant eu cwrs hyfforddi athrawon.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac mae 3 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grant at ffioedd sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth newydd ar gyfer benthyciadau at ffioedd. Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer benthyciad newydd at gyfraniad at ffioedd nad yw'n uwch na £1200 y flwyddyn academaidd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn o ran mynychu cyrsiau dynodedig. £600 yw'r terfyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 13(2). Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer benthyciad at ffioedd hyd at fwyafswm o £3,000 y flwyddyn academaidd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd o ran ffioedd sy'n daladwy ganddynt mewn perthynas â mynychu cyrsiau dynodedig. Y terfyn yw £1500 o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 13(2).

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw. Mae rheoliad 29 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grant cynhaliaeth ar sail prawf modd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd. Uchafswm y grant sydd ar gael ar gyfer rhan fwyaf y myfyrwyr yw £2,700. Uchafswm y grant sydd ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw am raddau cyntaf) y mae cyfanswm eu cyfnodau mynychu amser-llawn o leiaf 6 wythnos ond llai na 10 wythnos yw £1,350. Profir y grant cynhaliaeth fel a ganlyn—

Mae rheoliad 30 yn darparu ar gyfer grant cymorth arbennig ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd hefyd yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm a budd-daliadau eraill a gyfrifir ar sail prawf modd fel Budd-dal Tai. Yr un yw uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael ag uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael. Nid yw myfyrwyr sy'n gymwys i gael grant cymorth arbennig yn gymwys i gael grant cynhaliaeth. Ni roddir y grant cymorth arbennig yn lle unrhyw ran o'r benthyciad cynhaliaeth.

Mae Rhan 7 a Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Bydd myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth hefyd yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth a thelir hyd at £1,200 o'r grant yn lle elfen o'r benthyciad myfyriwr. Gostyngir yr hawl i gael benthyciad cynhaliaeth o £1 am bob £1 o'r grant sy'n daladwy hyd at uchafswm o £1,200.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesiad ariannol o fyfyrwyr ac ar gyfer cyfrifo cyfraniad y myfyriwr cymwys. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso i grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes iddo gael ei ddiddymu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr hawl i'w cael.

Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau. Mae rheoliad 48 yn cyflwyno gofyniad newydd bod sefydliadau i gadarnhau presenoldeb myfyrwyr ar gyrsiau cyn i daliad gael ei wneud. Mae eithriadau ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gorfforol abl i fod yn bresennol ar y cwrs. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau, ond nad ydynt yn abl i fod yn bresennol ar gwrs oherwydd anabledd yn gymwys i gael cymorth myfyriwr o dan y Rheoliadau ac eithrio'r grant at deithio (rheoliad 2(7)).

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyrsiau rhan-amser.

Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Lluniwyd arfarniad rheoliadol o'r Rheoliadau hyn ac fe'i rhoddwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (
www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Cyllid Myfyrwyr, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)).back

[2] 2002 p. 32.back

[3] 1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.back

[4] O.S. 1972/1265 (G.I. 14).back

[5] Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Y mae'n parhau mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond ei enw fydd yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.back

[6] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back

[7] Gorch. 4904.back

[8] Cm 2073.back

[9] Cm 2183.back

[10] 1962 p.12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Gorchymyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.back

[11] O.S. 1998/1166, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1972.back

[12] 1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4.back

[13] O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6.back

[14] O.S. 1998/1760 (G.I. 14).back

[15] Gorch. 9171.back

[16] Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).back

[17] O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792.back

[18] 1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).back

[19] O.S. 1998/2003.back

[20] O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120.back

[21] O.S. 2000/1121, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1490, O.S. 2000/2142 ac O.S. 2000/2912.back

[22] O.S. 2001/951, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1730, O.S. 2001/2355 ac O.S. 2002/174.back

[23] O.S. 2002/195, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1318, O.S. 2002/2088 ac O.S. 2002/3059.back

[24] O.S. 2002/3200.back

[25] O.S. 2003/1065.back

[26] O.S. 2003/3280.back

[27] O.S. 2004/161.back

[28] O.S. 2004/1602.back

[29] O.S. 2004/2041.back

[30] O.S. 2004/2598.back

[31] O.S. 2005/5.back

[32] O.S. 2005/52 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1341.back

[33] 1971 p. 77; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61), adran 39 ac Atodlen 4.back

[34] OJ Rhif L257, 19.10. 1968, t 2 (OJ/SE 1968 (II) t 475).back

[35] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back

[36] 1992 p.13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 27.back

[37] Diffinnir ffioedd ("fees") yn adran 28(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).back

[38] Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.back

[39] Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.back

[40] 1977 p. 49; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 1(2).back

[41] Diwygiwyd adran 11 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 2 a Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 6.back

[42] Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002.back

[43] 1978 p.29.back

[44] O.S. 1972/1265 (G.I. 14).back

[45] 1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 56.back

[46] 2002 p.21.back

[47] S.I. 1999/3110.back

[48] 1989 p. 41; mewnosodwyd adran 79F gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).back

[49] 1992 p.4.back

[50] 2002 p.38.back

[51] 1989 p.41.back

[52] O.S. 1980/51, a ddiwygiwyd gan O.S. 1989/596 ac O.S. 1999/3177.back

[53] 1974 p. 39.back

[54] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back

[55] O.S. 1998/1760 (G.I. 14).back

[56] 1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr (Yr Alban) 2001 (dsa6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).back

[57] 1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.back

[58] 1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14, Deddf Ceisio Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3.back

[59] 1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1, Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14) Atodlenni 7 ac 8, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7, 8 a 13, Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2, Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1 a Deddf Treth Incwme (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6.back

[60] 1973 c. 50; section 2 as substituted by the Employment Act 1988 (c. 19) was amended by the Employment Act 1989 (c. 38), Schedule 7. Subsections (3A) and (3B) were inserted by the Trade Union Reform and Employment Rights Act 1993 (c. 19), section 47 in relation to Scotland only.back

[61] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back

[62] 2000 p.14.back

[63] 1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.back

[64] 1998 p.38.back

[65] 1971 p. 77; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61), adran 39 ac Atodlen 4.back

[66] OJ Rhif L257, 19.10.1968, t 2 (OJ/SE 1968 (II) t 475).back

[67] 1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10. Nid yw diwygiadau a wnaed i adran 273 gan Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12), adran 281 ac Atodlen 35 yn dod i rym tan 6 Ebrill 2006. Diwygiwyd adran 619 gan Ddeddf Cyllid 1989 (p. 26), adran 170 a Deddf Cyllid 1996 (p. 8), adran 135 ac Atodlen 21. Diwygiwyd adran 639 gan Ddeddf Cyllid 2000 (p. 17), Atodlen 13. Dirymwyd adrannau 619 a 639 gan Ddeddf Cyllid 2004, adran 326 ac Atodlen 42 o 6 Ebrill 2006 ymlaen yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004.back

[68] "Financial Statistics" (ISSN 0015-203X).back

[69] O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792.back

[70] 1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Addasiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.back



English version



ISBN 0 11 091256 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 2 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060126w.html