BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 178 (Cy.29)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006
|
Wedi‘i wneud |
2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Chwefror 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 87 a 100 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993[1] i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2] a chan ei fod wedi'i fodloni bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer cyhoeddi'r cod a gymeradwywyd gan y Gorchymyn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006 a fe ddaw i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru.
Cymeradwyo cod ymarfer
2.
Mae'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094), a gyflwynwyd i'w gymeradwyo ar 6 Hydref 2005 gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac sydd i'w gyhoeddi gan RICS Business Services Limited, wedi'i gymeradwyo.
Tynnu cymeradwyaeth yn ôl
3.
Mae'r gymeradwyaeth o'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 085406 642 X) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1996[3] wedi'i thynnu'n ôl.
Darpariaeth drosiannol
4.
Nid yw erthyglau 2 a 3 yn gymwys at ddibenion adran 87(7)(a) a (b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (defnyddio cod mewn achos cyfreithiol) o ran gweithred neu anwaith sy'n digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo cod ymarfer sy'n ymwneud â gwaith rheoli eiddo preswyl gan landlordiaid ac eraill sy'n cyflawni'r swyddogaeth reoli. Y Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094) yw'r cod a gymeradwyir ac mae i'w gyhoeddi gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Drwy'r Gorchymyn hwn mae'r Cynulliad hefyd yn tynnu'n ôl y gymeradwyaeth a roddwyd yng Ngorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1996, (O.S. 1996/2839), i god sy'n dwyn yr enw Rent Only Residential Management Code (ISBN 085406 642 X).
Mae adran 87(7) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn darparu nad yw methiant â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwyir yn peri ynddo'i hun i unrhyw berson fod yn agored i unrhyw achos cyfreithiol yn ei erbyn, ond bod y cod ymarfer, mewn unrhyw achos cyfreithiol yn dderbyniol fel tystiolaeth ac y bydd unrhyw ddarpariaeth sy'n ymddangos ei fod yn berthnasol i unrhyw gwestiwn sy'n codi yn yr achos cyfreithiol yn cael ei chymryd i ystyriaeth.
Mae'r cymeradwyo a'r tynnu'n ôl y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yn gymwys i waith rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru ac yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 4.
Notes:
[1]
1993 p. 28; diwygiwyd adran 87 gan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ac Atodlen 9 iddi.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 87 a 100, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac adran 177 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[3]
O.S. 1996/2839.back
[4]
1998 c.38.back
English version
ISBN
0 11 091261 6
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
6 February 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060178w.html