BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006 Rhif 362 (Cy.48)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060362w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 362 (Cy.48)

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU

Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006

  Wedi'u gwneud 14 Chwefror 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 43(1) a (2) a 44(1) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006 a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn—

ac sy'n gymwys i bleidleisio ar unrhyw fater sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu is-bwyllgor hwnnw;

Diddymu a diwygio is-ddeddfwriaeth
     2. Mae'r is-ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 1 yn cael ei dirymu.

    
3. Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth.

Darpariaethau trosiannol
    
4. —(1) Mae paragraff (2) yn gymwys os—

    (2) Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion yr honiad er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.

    (3) Mae paragraff (4) yn gymwys os—

    (4) Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[5] a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion galluogi i'r honiad gael ei wneud, ac at ddibenion yr honiad os y'i gwneir, er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.

    (5) Pan fo paragraffau (2) a (4) yn gymwys, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn effeithiol fel pe bai cyfeiriadau at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi eu rhoi yn lle cyfeiriadau at y Comisiynydd Lleol yng Nghymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2006



ATODLEN 1
Erthygl 2


DIRYMU IS-DDEDDFWRIAETH


Mae'r is-ddeddfwriaeth ganlynol yn cael ei dirymu—



ATODLEN 2
Erthygl 3


DIWYGIO IS-DDEDDFWRIAETH


Gorchymyn Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Rhagnodi) 1990
     1. Yn y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Cyfarwyddyd) 1990[
10], yn Atodlen 2 (Rhagnodi), yn y cofnod yn y golofn gyntaf ar gyfer "Officer of the Health Service Commissioner for England or Wales" hepgorer y geiriau "or Wales".

Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992
     2. Yn Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992[11], yn Rheoliad 11 (Cyflogaeth y mae adran 50 o'r Ddeddf yn gymwys iddi)—

Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993
     3. Yn Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993[12], yn Atodlen 3 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—

Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995
     4. Yn Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995[13], yn Atodlen 1 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—

Gorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996
     5. Yng Ngorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996[14], yn Erthygl 9(1) hepgorer "or Wales".

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
     6. Yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001[15]—

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
     7. Yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001[16], yn Rheoliad 29(2) yn lle "Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru" rhodder "Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru".

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001
     8. Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001[17], yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) o Atodlen 1, ym mharagraff 16, colofn 1, yn lle "y Comisiynydd Lleol" rhodder "Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru".

Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001
     9. Yn Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 [18], yn yr Atodlen—

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001
     10. Yn y Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001[19], yn Rhan II o'r Atodlen, ym mharagraff 6(1)(c), yn lle "Comisiynydd Lleol dros Weinyddu Lleol yng Nghymru" rhodder "Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru".

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001
     11. Yn Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001[20], yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) o Atodlen 1, ym mharagraff 16, colofn 1, yn lle "y Comisiynydd Lleol" rhodder "Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru".

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2003
     12. Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2003[21]—

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
     13. Yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005[22], yn Rheoliad 43(1), yn is-baragraff (ch), dylid rhoi "Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru" yn lle "Gomisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu tri offeryn statudol ac yn diwygio offerynnau statudol eraill o ganlyniad i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (2005 p.10) ("y Ddeddf"). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â swyddogaethau'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

Mae'r Ddeddf yn sefydlu swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr Ombwdsmon"). Mae'r Ddeddf yn diddymu swyddi Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru, Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru ac Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn diddymu'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru (gan gynnwys swydd y Comisiynydd Lleol yng Nghymru). Yn fras, mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i'r Ombwdsmon ymchwilio i'r materion hynny a oedd o fewn cylch gwaith yr ombwdsmyn a'r comisiynwyr hynny yng Nghymru.

Bydd gan yr Ombwdsmon gyfrifoldeb am ymchwilio i gamweinyddu a methiant mewn gwasanaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ei gyrff cyhoeddus a noddir (yr hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i gyrff cyhoeddus anadrannol) a nifer o gyrff eraill a noddir gan arian cyhoeddus; cyrff gwasanaeth iechyd Cymru (Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn bennaf); darparwyr penodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; cyrff llywodraeth leol yng Nghymru a landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru. O ganlyniad bydd gwasanaeth ombwdsmon unedig yng Nghymru.

Mae'r diwygiadau a'r dirymiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn ganlyniad i'r newidiadau hynny.


Notes:

[1] 2005 p. 10.back

[2] 1995 p. 25.back

[3] 2004 p.21.back

[4] 2000 p. 22.back

[5] 2000 p.22.back

[6] 1998 p.38.back

[7] O.S. 1999/1791.back

[8] O.S. 2001/2275 (Cy.165).back

[9] O.S. 2004/2359.back

[10] O.S. 1990/200, diwygiwyd gan O.S. 1999/1042 ac O.S. 2004/1823; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back

[11] O.S.1992/1812, diwygiwyd gan O.S. 2004/1823; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back

[12] O.S. 1993/3228, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/2009, O.S. 2001/1149, ac O.S.A. 2003/242, mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back

[13] O.S. 1995/201, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/209, 2002/881, ac O.S.A. 2003/242; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back

[14] O.S. 1996/709, y mae diwygiadau iddo sydd ddim yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[15] O.S. 2001/2281 (Cy.171), diwygiwyd gan O.S. 2005/761.back

[16] O.S. 2001/2283 (Cy.172).back

[17] O.S. 2001/2284 (Cy.173), diwygiwyd gan O.S. 2002/810 (Cy.90), O.S. 2004/3092, O.S. 2005/368; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back

[18] O.S. 2001/2288 (Cy.176).back

[19] O.S. 2001/2289 (Cy.177).back

[20] O.S. 2001/2291 (Cy.179), diwygiwyd gan O.S. 2002/783 (Cy .84) ac O.S. 2004/3093; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back

[21] O.S. 2003/437, diwygiwyd gan O.S. 2004/664.back

[22] O.S. 2005/1313 (Cy. 95).back



English version



ISBN 0 11 091276 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 24 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060362w.html