BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006 Rhif 650 (Cy.71)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060650w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 650 (Cy.71)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 8 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym
  Erthyglau 1 — 3 3 Ebrill 2006 
  Erthyglau 4 — 6 2 Ebrill 2007 
  Erthyglau 7 — 10 7 Ebrill 2008 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 210(2) a 215(2) o Ddeddf Tai 1996[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006.

    (2) Heblaw fel y darperir ym mharagraffau (3) a (4) o'r Erthygl hwn, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2006.

    (3) Daw Erthyglau 4, 5 a 6 o'r Gorchymyn hwn, a'r Atodlen iddo, i rym ar 2 Ebrill 2007.

    (4) Daw Erthyglau 7, 8, 9 a 10 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ebrill 2008.

    (5) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â dyletswyddau awdurdodau tai lleol yng Nghymru o dan Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 (digartrefedd).

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn—

ac mae "safon sylfaenol" ("basic standard") i'w ddehongli'n unol â hynny;

ac mae "safon uwch" ("higher standard") i'w ddehongli'n unol â hynny;



RHAN 1[4]

Materion ychwanegol sydd i'w hystyried pan fyddir yn penderfynu ar addasrwydd

     3. Wrth benderfynu at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 p'run ai a yw llety'n addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth[5] rhaid cymryd y materion canlynol i ystyriaeth—



RHAN 2[6]

Amgylchiadau sy'n gymwys o 2 April 2007 pryd na ellir ystyried bod llety'n addas

Yr angen i Lety Gwely a Brecwast a ddefnyddir i letya person digartref fodloni'r safon sylfaenol
     4. Ar gyfer ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas oni bai ei fod yn bodloni'r safon sylfaenol o leiaf.

Y gofyniad i beidio a ystyried Gwely a Brecwast yn addas ar gyfer person ifanc dan oed neu fenyw feichiog
    
5. Ar gyfer ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn Erthygl 6, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas ar gyfer person ifanc dan oed neu fenyw feichiog.

Eithriadau
    
6. —(1) Nid yw Erthygl 5 yn gymwys—

    (2) Os yw'r llety amgen addas a gynigir at ddibenion paragraff (1) wedi'i rannu, rhaid iddo fodloni'r safon uwch.

    (3) Yn achos aelwydydd sydd yn cynnwys dibynyddion sy'n blant, neu fenyw feichiog, rhaid i'r cynnig a wneir o dan is-baragraffau (ch) neu (d) fod o lety hunangynhwysol addas. Yn achos ymgeisydd sy'n berson ifanc dan oed, rhaid i'r cynnig fod o lety addas gyda chymorth.

    (4) Wrth gyfrifo'r cyfnod, neu gyfanswm y cyfnod, y bu person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast at ddibenion paragraff (1), rhaid anwybyddu—



RHAN 3[9]

Ehangu'r darpariaethau o 7 Ebrill 2008 i'r holl lety a ddarperir wrth gyflawni swyddogaethau digartrefedd

Y gofyniad i beidio a ystyried llety Gwely a Brecwast yn addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth
     7. Ar gyfer dibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn erthygl 9, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth.

Y gofyniad i lety a rennir i fodloni'r safon uwch
    
8. Ar gyfer dibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn erthyglau 9 a 10, nid yw llety a rennir i'w ystyried yn addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth heblaw bod y llety hwnnw'n bodloni'r safon uwch.

Eithriadau
    
9.

    (1) Nid yw Erthyglau 7 ac 8 yn gymwys—

    (2) Os yw'r llety amgen addas a gynigir at ddibenion paragraff (1) wedi'i rannu, rhaid iddo fodloni'r safon uwch.

    (3) Yn achos aelwydydd sy'n cynnwys dibynyddion sy'n blant, neu fenyw feichiog, rhaid i'r cynnig a wneir o dan is-baragraffau (ch) neu (d) fod o lety hunangynhwysol addas. Yn achos ymgeisydd sy'n berson ifanc dan oed, rhaid i'r cynnig fod o lety addas gyda chymorth.

    (4) Wrth gyfrifo'r cyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, y bu person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast at ddibenion paragraff (1), rhaid anwybyddu—

Oedi cymhwyso i Dai Cymdeithasol
    
10. Ni fydd Erthygl 7 yn gymwys tan 4 Ebrill 2011 ar gyfer unrhyw eiddo sydd ym mherchnogaeth i awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig neu yn cael ei reoli gan un o'r rhain, ac sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 ar 7 Ebrill 2008.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
10]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2006



ATODLEN

Safon Uwch


     1. Safonau ynglŷn ag Isafswm Gofod
Safonau ynglŷn â gofod ar gyfer mannau cysgu

Maint ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu mewn ystafell ar wahân neu gegin

Arwynebedd Llawr yr Ystafell Uchafswm o bersonau
Heb fod yn llai na 6.5 metr sgwâr 1 person
Heb fod yn llai na 10.2 metr sgwâr 2 berson
Heb fod yn llai na 14.9 metr sgwâr 3 pherson
Heb fod yn llai na 19.6 metr sgwâr 4 person

Maint ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu o fewn yr ystafell

Arwynebedd Llawr yr Ystafell Uchafswm o bersonau
Heb fod yn llai na 10.2 metr sgwâr 1 person
Heb fod yn llai na 13.9 metr sgwâr 2 berson
Heb fod yn llai na 18.6 metr sgwâr 3 pherson
Heb fod yn llai na 23.2 metr sgwâr 4 person

Ar gyfer dibenion y cyfrifiadau o faint ystafelloedd uchod, ystyrir plentyn sy'n llai na 10 oed fel hanner person.

     2. Cyfleusterau gwresogi
Rhaid bod yna ddarpariaeth ddigonol ar gyfer gwresogi yn y fangre. Rhaid bod yna ar gyfer pob ystafell gyfanheddol ac ystafelloedd ymolchi neu ystafelloedd cawod system wresogi sy'n alluog i gadw'r ystafell ar isafswm tymheredd o 18°C pan fo'r tymheredd y tu allan yn finws 1°C.

     3. Cyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd o fewn yr uned


    (1) Mewn uned llety lle mae mwy nag un person yn lletya, rhaid i'r man paratoi bwyd a ddarperir o fewn yr uned gynnwys y cyfleusterau canlynol:

    (2) Mewn uned llety lle mae un person yn lletya, rhaid i'r man paratoi bwyd a ddarperir o fewn yr uned gynnwys y cyfleusterau canlynol:

     4. Storio, paratoi a choginio bwyd o fewn cyfleuster a rennir


    (1) Pan fo mannau paratoi bwyd yn cael eu rhannu rhwng mwy nag un aelwyd, rhaid bod yna un set o gyfleusterau cegin ar gyfer:

    (2) Rhaid i bob set o gyfleusterau a rennir ddarparu'r cyfleusterau a ganlyn:

     5. Cyfleusterau toiled ac ymolchi


    (1) Rhaid i'r cyfleusterau sydd i'w defnyddio'n unig gan y meddiannydd neu'r aelwyd gynnwys:

    (2) Rhaid i gyfleusterau a rennir gynnwys:

     6. Diogelwch
Rhaid i'r drws sy'n rhoi mynediad i bob uned llety fod yn un y gellir ei gloi ac yn un y gellir ei ddatgloi o'r tu mewn heb ddefnyddio allwedd.

     7. Ystafell neu Ystafelloedd Cyffredin
Rhaid i bob mangre fod ag ystafell gyffredin sy'n o leiaf 12 metr sgwâr mewn maint oni bai fod gan bob aelwyd le byw, ar wahân i'r lle maent yn cysgu, sydd ar gael ar gyfer eu defnydd hwy yn unig, neu fod y fangre ar gyfer aelwydydd o bersonau unigol yn unig.

     8. Safon Rheoli[
11]




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Wrth gyflawni swyddogaeth ym maes tai i sicrhau fod llety ar gael ar gyfer ymgeisydd sy'n ddigartref, neu sydd dan fygythiad o gael ei wneud yn ddigartref, o dan Ran 7 (digartrefedd) o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996" ), rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau fod y llety'n addas (adran 206(1)). Mae adran 210 yn pennu'r materion sydd i'w hystyried pan fyddir yn penderfynu ar addasrwydd llety at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru'r pŵer datganoledig i bennu materion ychwanegol o dan adran 210. Yn flaenorol, gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) 1996 (O.S. 1996/3204) a oedd yn nodi y dylid, wrth benderfynu at ddibenion Rhan 7 os yw llety'n addas ar gyfer person, gymryd i ystyriaeth p'run ai a yw'r llety'n fforddiadwy ar gyfer y person hwnnw neu beidio. Roedd y Gorchymyn hwnnw'n rhestru materion penodol a oedd i'w hystyried mewn perthynas â fforddiadwyedd.

Gelwir y Gorchymyn hwn yn Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) 2006 ac mae mewn tair rhan.

Daw Rhan 1 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2006. Mae'n dibynnu ar y pŵer yn adran 210(2)(b) o Ran 7 o Ddeddf 1996. Mae Rhan 1 yn gymwys ar gyfer personau y mae eu hanghenion yn flaenoriaeth yn ôl diffiniad adran 189 o Ddeddf 1996. O dan adran 210(2)(b), mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r materion sydd i'w hystyried pan fyddir yn penderfynu ar p'run ai a yw llety'n addas ar gyfer person. Mae'r materion ychwanegol hyn yn ymwneud ag anghenion iechyd y person, unrhyw anabledd sydd gan y person a pha mor hygyrch yw'r gwasanaethau cymdeithasol a chymorth arall ar eu cyfer.

Daw Rhan 2 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Ebrill 2007. Mae'n gymwys i lety a gynigir o dan Ran 7 o Ddeddf 1996. Mae'r Rhan hon yn dibynnu ar y pwerau yn adran 210(2)(a) a (b) o Ran 7 o Ddeddf 1996. Mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn nodi na ellir ond ystyried llety Gwely a Brecwast fel yn addas at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 os yw'n cydymffurfio â Safon Sylfaenol. Mae'r Safon Sylfaenol yn mynnu fod y llety Gwely a Brecwast yn y lle cyntaf yn bodloni'r holl ofynion statudol. Mae'r rheiny'n cynnwys diogelwch tân a nwy, caniatâd cynllunio a thrwyddedu tai amlfeddiannaeth (pan fo angen). Rhaid i'r fangre hefyd fod yn cael ei rheoli gan berson cymwys a phriodol. Rhaid i Awdurdodau Tai Lleol gymryd i ystyriaeth y canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan adran 182 o Ddeddf 1996 wrth asesu a yw person yn gymwys a phriodol.

Mae Rhan 2 ymhellach yn nodi, yn Erthygl 5, amgylchiadau ychwanegol pryd na ellir ystyried bod llety'n addas. Mae'n gwneud hyn drwy bennu safonau gofynnol ar gyfer llety Gwely a Brecwast a ddefnyddir ar gyfer aelwydydd sy'n cynnwys person ifanc dan oed neu fenyw feichiog, un ai ar eu pennau'u hunain neu gyda phersonau eraill. Mae hyn yn cynnwys aelwydydd sy'n cynnwys yn unig un neu ragor o bersonau ifanc dan oed, sy'n 16 neu 17 oed. Mae Erthygl 5 yn nodi, pan ddarperir llety o dan ddyletswydd o dan Ran 7 o Ddeddf 1996 i aelwyd sy'n cynnwys person ifanc dan oed neu fenyw feichiog, na ddylid, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn Erthygl 6, ystyried llety Gwely a Brecwast yn addas. Mae Erthygl 6 yn darparu ar gyfer rhai eithriadau mewn perthynas â'r cyfnod o amser a dreulir mewn llety Gwely a Brecwast, safon y llety Gwely a Brecwast, a dewis a wneir gan yr aelwyd ddigartref.

Diffinnir llety Gwely a Brecwast fel llety a ddarperir yn fasnachol nad yw, p'run ai a ddarperir brecwast ai peidio, yn hunangynhwysol, neu sydd yn golygu rhannu rhai cyfleusterau gydag aelwyd arall.

Wrth gyfrifo'r cyfnod o amser y cafodd aelwyd yn cynnwys person ifanc dan oed neu fenyw feichiog ei lletya mewn llety Gwely a Brecwast, mae awdurdod tai lleol i anwybyddu unrhyw gyfnod a dreuliwyd mewn llety o'r fath cyn 2 Ebrill 2007. Mae hefyd i anwybyddu unrhyw gyfnod a dreuliodd ymgeisydd o'r fath mewn llety Gwely a Brecwast pan oedd yn cael ei letya gan awdurdod tai lleol arall cyn y cafodd yr amodau ar gyfer atgyfeirio eu bodloni yn unol ag adrannau 198 i 200 o Ddeddf 1996. Mae'r adrannau hynny'n darparu, pan fo awdurdod tai lleol o'r farn fod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi'u bodloni a bod gan yr ymgeisydd gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol arall, y caiff gyfeirio'r ymgeisydd at yr awdurdod hwnnw, ac, os bodlonir yr amodau ar gyfer atgyfeirio, y bydd yr ail awdurdod o dan ddyletswydd o dan adran 193 o Ddeddf 1996 (y brif ddyletswydd lletya) mewn perthynas â'r ymgeisydd.

Daw Rhan 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ebrill 2008. Mae'n gwneud y safonau yn Rhan 2 yn gymwys i bob mathau o lety a rennir sy'n cael ei ddarparu o dan Ran 7 o Ddeddf 1996. Mae hefyd yn ehangu'r cyfyngiadau ar ddarparu llety Gwely a Brecwast i fod yn gymwys i bob aelwyd y mae ei hangen yn flaenoriaeth. Mae'n cynnwys eithriadau sy'n debyg i'r rhai yn Rhan 2. Mae yna eithriad ychwanegol ar gyfer llety a reolir gan awdurdod lleol neu gymdeithas dai gofrestredig.

Mae yna ddarpariaeth drosiannol ar gyfer cynlluniau tai cymdeithasol sy'n bodoli'n barod. Mae hyn yn darparu ar gyfer oedi o dair blynedd cyn y daw'r gofynion yn gymwys, sef hyd at 4 Ebrill 2011, ar gyfer y cynlluniau tai hynny sydd eisoes yn cael eu defnyddio i letya personau digartref cyn 7 Ebrill 2008.

Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol yn arfer pwerau disgresiwn i gynorthwyo pobl ddigartref.

Dewiswyd y dyddiadau y bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym i gyd-daro â chychwyn y flwyddyn ariannol ar gyfer Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru.


Notes:

[1] 1996 p. 52back

[2] Gweler O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 210 a 215, i'r graddau y gellir eu gweithredu mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Gweler yr hyn a gynhwysir yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Dai 1996.back

[3] 2000 p. 14back

[4] Daw i rym: 3 Ebrill 2006.back

[5] Gweler y diffiniad o "priority need" yn adran 189(1) o Ddeddf Tai 1996 ac yn O.S. 2001/607.back

[6] Daw i rym: 2 Ebrill 2007.back

[7] Gweler y diffiniad o "local housing authority" yn adran 230 o Ddeddf Tai 1996.back

[8] Rhoddwyd paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf Digartrefedd 2002 yn lle Adran 200(4).back

[9] Daw i rym: 7 Ebrill 2008.back

[10] 1998 p.38.back

[11] Bydd y safon hon yn ychwanegol i'r safon gyfreithiol a gynhwysir yn 'Rheoliadau Tai (Rheoli Tai Amlfeddiannaeth) 1990' neu'r safon a ddatblygwyd o ganlyniad i 'Trwyddedu yn y Sector Rhentu Preifat — Papur Ymgynghori ar Drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yng Nghymru' a gyhoeddwyd yn Ionawr 2005.back



English version



ISBN 0 11 091298 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060650w.html