BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Brwselosis (Cymru) 2006 Rhif 866 (Cy.78)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060866w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 866 (Cy.78)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Brwselosis (Cymru) 2006

  Wedi 21 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2006 


TREFN YR ERTHYGLAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Darpariaethau arbennig ar gyfer anifeiliaid a fewnforir
4. Cyfyngiadau ar frechu a thriniaeth therapiwtig
5. Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid buchol neu fustych
6. Symud anifeiliaid buchol neu fustych i fangre benodedig
7. Samplo llaeth i'w phrofi am dystiolaeth o fodolaeth brwselosis
8. Profi anifeiliaid buchol neu fustych am frwselosis
9. Marcio anifeiliaid buchol
10. Hysbysu am erthylu neu fwrw llo cyn pryd
11. Camau yn erbyn lledaenu haint
12. Hysbysu am fwrw llo wedi cyfnod llawn o fod yn gyflo mewn buchesi y mae brwselosis yn effeithio arnynt
13. Gwastraff anifeiliaid
14. Cyfyngiadau ar ddefnyddio semen
15. Sioeau, arddangosfeydd a marchnadoedd
16. Rheoli mangreoedd a ddefnyddir gan fasnachwyr ac eraill i gadw anifeiliaid buchol
17. Rheoli haint sy'n dod o anifeiliaid eraill
18. Cymhwyso adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i frwselosis
19. Hysbysu am gigydda arfaethedig
20. Cymorth cadw anifeiliaid yn ddiogel
21. Dangos trwyddedau
22. Pwerau arolygwyr milfeddygol ac arolygwyr
23. Tramgwyddau
24. Gorfodi
25. Dirymu

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 6, 7(1), 15(4), 28, 32(2), 34(7), 35(3) ac 87(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Brwselosis (Cymru) 2006 a daw i rym ar 31 Mawrth 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn —

    (2) Rhaid i hysbysiadau, cymeradwyaethau neu drwyddedau a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig a gellir eu dyroddi yn ddarostyngedig i amodau a gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, eu tynnu yn ôl neu eu dirymu yn ysgrifenedig unrhyw bryd.

Darpariaethau ar gyfer anifeiliaid a fewnforir
     3. Ni fydd darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â mangreoedd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Mewnforio Anifeiliaiad 1977[3] a dim ond mewn perthynas ag anifeiliaid buchol a fewnforir o'r amser a bennir yn y drwydded a ddyroddir ar gyfer yr anifeiliaid hynny o dan erthygl 11(5) o'r Gorchymyn hwnnw y byddant yn gymwys.

Cyfyngiadau ar frechu a thriniaeth therapiwtig
     4. —(1) Ni chaiff unrhyw berson heblaw—

frechu anifeiliaid buchol yn erbyn brwselosis.

    (2) Ni chaiff unrhyw berson drin anifeiliaid buchol ar gyfer brwselosis.

Cyfyngiadau ar symud anifeiliad buchol neu fustych
    
5. Pan fo swyddog yn credu'n rhesymol bod anifail buchol sy'n cael ei gadw mewn unrhyw fangre ac y mae, neu y gall fod, wedi'i heintio â brwselosis, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog unrhyw fangre neu ei meddiannydd, ac sy'n gwahardd symud anifeiliaid buchol neu fustych i'r fangre honno, neu ohoni, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan swyddog.

Symud anifeiliaid buchol neu fustych i fangre benodedig
    
6. —(1) Pan fernir ei bod yn angenrheidiol er mwyn dileu brwselosis, caiff swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog anifeiliaid buchol neu fustych neu i'r person a gofal amdanynt, ac a gedwir mewn unrhyw fangre, ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu symud o'r fangre honno i fangre arall ac o fewn y terfyn amser a gaiff ei bennu yn yr hysbysiad.

    (2) Pan fydd hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (1) uchod mewn grym, rhaid i berchennog yr anifeiliaid hynny, neu'r person a gofal amdanynt, beidio â'u symud o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan swyddog.

    (3) Os yw unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (1) uchod yn methu â chydymffurfio ag ef, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, weithredu gofynion yr hysbysiad, neu beri eu gweithredu, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw dreuliau y mae wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.

Samplo llaeth i'w brofi am dystiolaeth o fodolaeth brwselosis
    
7. —(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n prynu llaeth oddi wrth berchennog buches odro yng Nghymru neu'r person a gofal amdani i'w werthu eto fel llaeth neu gynhyrchion llaeth—

    (2) Mae person yn esempt o'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) uchod, os nad yw'r person hwnnw ond yn prynu llaeth amrwd wedi'i ragbacio i'w werthu eto—

    (3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr "defnyddiwr olaf" yw unrhyw berson sy'n prynu llaeth heblaw at ddibenion—

    (4) Ni chaiff unrhyw berson mewn unrhyw ddull na modd drin, ac eithrio drwy ychwanegu cadwolyn yn unol â pharagraff (1)(ch) uchod, unrhyw sampl neu ei label, neu ymyrryd â hwy a bernir bod person wedi trin neu ymyrryd â sampl os yw'r person hwnnw yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas â hi sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad y profi sy'n ofynnol o dan yr erthygl hon.

    (5) Rhaid i'r person â gofal am labordy cymeradwy gydymffurfio â'r darpariaethau canlynol fel amod y gymeradwyaeth—

    (6) Os yw unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gam sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau paragraff (1) uchod, caiff arolygydd milfeddygol, heb ragfarnu unrhyw achos sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd y cam hwnnw, neu beri ei gymryd, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw dreuliau y mae wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chymryd y cam gofynnol.

Profi anifeiliaid buchol neu fustych am frwselosis
    
8. —(1) Rhaid i berchennog anifeiliaid buchol neu fustych neu'r person a gofal amdanynt ac a gedwir mewn unrhyw fangre gydymffurfio â chais gan swyddog am gyfleusterau i archwilio, profi neu ddiagnosio unrhyw anifail buchol am frwselosis, ac yn enwedig, rhaid iddo drefnu casglu'r anifail hwnnw, ei roi mewn lloc a'i gadw'n ddiogel.

    (2) Os yw unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â chais rhesymol gan swyddog yn unol â pharagraff (1) uchod, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd pob cam rhesymol, neu beri eu cymryd, i hwyluso archwilio, profi a diagnosio anifeiliaid buchol am frwselosis, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill y treuliau y mae wedi mynd iddynt yn rhesymol oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio â'r cais rhesymol hwnnw.

    (3) Pan fo perchennog anifeiliaid buchol neu fustych neu'r person a gofal amdanynt ac a gedwir mewn unrhyw fangre yn trefnu neu'n caniatáu i unrhyw brawf diagnostig am frwselosis gael ei wneud ar yr anifeiliaid hynny, heblaw ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (4) Rhaid i berchennog anifeiliaid buchol neu fustych neu'r person a gofal amdanynt ac a gedwir mewn unrhyw fangre beidio â gwneud dim, na pheri gwneud dim, sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad prawf diagnostig am frwselosis a wneir ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.

Marcio anifeiliaid buchol
    
9. —(1) Rhaid i berchennog anifeiliaid buchol neu fustych neu'r person a gofal amdanynt ac a gedwir yn y fangre, os yw arolygydd milfeddygol yn ei gwneud yn ofynnol, nodi'r anifeiliaid hynny mewn dull a benna'r arolygydd milfeddygol.

    (2) Caiff arolygydd milfeddygol beintio, stampio, clipio neu farcio mewn dull arall anifeiliaid buchol neu fustych a gedwir mewn unrhyw fangre.

    (3) Ni chaiff unrhyw berson newid, tynnu, dileu, difwyno neu geisio newid, tynnu, dileu, neu ddifwyno'r marc hwnnw.

Hysbysu am erthylu neu fwrw llo cyn pryd
    
10. —(1) Pan fo perchennog anifeiliaid buchol a gedwir mewn unrhyw fangre, neu'r person a gofal amdanynt, yn credu'n rhesymol bod erthylu neu fwrw llo cyn pryd wedi digwydd, rhaid i'r person hwnnw o fewn 24 awr—

    (2) Rhaid i anifail y mae darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys iddo barhau i gael ei ynysu a rhaid i berchennog yr anifail neu'r person a gofal amdano gadw ei ffetws neu'i lo a'i frych hyd nes bo'r swyddog yn cyflwyno hysbysiad sy'n gwneud gwaredu neu ddistrywio'r ffetws neu'r llo a'i frych yn ofynnol.

    (3) Os yw unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) uchod yn methu â chydymffurfio ag ef, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, weithredu gofynion yr hysbysiad, neu beri eu gweithredu, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill y treuliau y mae wedi mynd iddynt yn rhesymol oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.

Camau yn erbyn lledaenu haint
    
11. —(1) Pan fo swyddog wedi ardystio bod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre wedi adweithio i brawf diagnostig am frwselosis, rhaid i feddiannydd y fangre, wedi iddo gael ei hysbysu am yr ardystiad, gymryd pob cam rhesymol i atal heintio'r anifeiliaid buchol a gedwir mewn mangre gyffiniol drwy gysylltiad ag anifeiliad buchol a gedwir ym mangre'r meddiannydd.

    (2) Pan fo swyddog wedi ardystio bod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre wedi adweithio i brawf diagnostig am frwselosis neu pan fo'r swyddog yn credu'n rhesymol ei fod wedi'i heintio â'r clefyd hwnnw, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog yr anifail buchol hwnnw neu i'r person a gofal amdano neu i feddiannydd y fangre ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw sicrhau nad yw llaeth o'r anifeiliaid hynny yn cael ei fwydo i anifeiliaid eraill yn yr un fangre neu mewn unrhyw fangre arall oni bai iddo gael ei bastyreiddio, ei sterileiddio, neu ei drin ag uwch-wres.

    (3) Pan fo swyddog yn credu'n rhesymol bod unrhyw anifail buchol a gedwir neu a gedwid gynt mewn unrhyw fangre wedi'i heintio â brwselosis, neu a fu yn agored i'r perygl o gael ei heintio gan y clefyd hwnnw, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog yr anifail neu i'r person a gofal amdano gan ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

    (4) Caiff hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (3) uchod ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fuwch neu anner (heffer, treisiad) yn y fangre sydd ar fin bwrw llo gael ei hynysu i'r graddau y mae'n ymarferol oddi wrth bob anifail buchol arall yn y fangre yn ystod cyfnod bwrw'r llo.

    (5) Pan fo swyddog yn credu'n rhesymol bod unrhyw anifail buchol sydd mewn lladd-dy neu mewn unrhyw fangre arall a ddefnyddir ar gyfer sioe neu arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair, neu a fu mewn mangre o'r fath, wedi'i heintio â brwselosis, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog neu feddiannydd y lladd-dy hwnnw, neu'r fangre honno, ac sy'n rhagnodi'r dull o gael gwared o unrhyw dail (tom), slyri neu wastraff anifeiliaid arall, gwellt, llaesodr (sarn) neu unrhyw ddeunydd arall sydd wedi dod i gysylltiad â'r anifail hwnnw.

    (6) Os yw unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan yr erthygl hon yn methu â chydymffurfio ag ef, caiff y swyddog, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, weithredu gofynion yr hysbysiad, neu beri eu gweithredu, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill y treuliau y mae wedi mynd iddynt wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.

Hysbysu am fwrw llo wedi cyfnod llawn o fod yn gyflo mewn buchesi y mae brwselosis yn effeithio arnynt
    
12. —(1) Pan fo anifail a gedwir mewn unrhyw fangre, neu a gedwid yno gynt, wedi adweithio i brawf diagnostig am frwselosis neu pan fo swyddog yn credu'n rhesymol bod brwselosis yn bodoli mewn unrhyw fangre, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog unrhyw anifail buchol neu i'r person a gofal amdano ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, am unrhyw lo sy'n cael ei fwrw ymhlith yr anifeiliaid hyn.

    (2) Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i unrhyw berson o dan baragraff (1) uchod a phan fo unrhyw lo yn cael ei fwrw wedi cyfnod llawn o fod yn gyflo ymhlith anifeiliaid buchol y mae'r hysbysiad hwnnw yn ymwneud â hwy, rhaid i'r person hwnnw gadw'r brych, a'r llo, os yw'n marw wrth gael ei fwrw, neu wedi iddo gael ei fwrw, hyd amser pan gaiff swyddog ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach, waredu'r brych a'r llo marw (os oes un).

    (3) Os yw unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) uchod yn methu â chydymffurfio ag ef, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, weithredu gofynion yr hysbysiad, neu beri eu gweithredu, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill y treuliau yr aeth iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person sy'n methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.

Gwastraff anifeiliaid
    
13. Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i berchennog neu feddiannydd unrhyw fangre o dan ddarpariaethau erthygl 5 uchod, ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw dail (tom), slyri neu wastraff anifeiliaid arall o'r fangre ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan swyddog.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio semen
    
14. Pan fo swyddog yn credu'n rhesymol bod anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre wedi'i heintio â brwselosis neu y gall fod wedi'i heintio â brwselosis, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad, i berchennog unrhyw anifeiliaid buchol a gedwir yn y fangre neu i'r person a gofal amdanynt sy'n gwahardd defnyddio semen ymhlith yr anifeiliaid hynny, neu yn cyfyngu ar ei ddefnydd.

Sioeau, arddangosfeydd a marchnadoedd
    
15. —(1) Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw fangre mewn cysylltiad â chynnal unrhyw sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair y mae anifeiliaid buchol yn bresennol ynddynt, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan swyddog.

    (2) Pan fo swyddog yn credu bod unrhyw anifail buchol mewn unrhyw fangre lle cynhelir sioe, arddangosfa, marchnad neu ffair, wedi'i heintio â brwselosis, neu a fu'n agored i'r perygl o gael ei heintio â brwselosis, caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod yr anifail yn cael ei symud o'r fangre honno a chaiff perchennog yr anifeiliaid hynny neu'r person a gofal amdanynt ddewis eu cymryd—

    (3) Dim ond ar yr amod ei fod yn cael ei ynysu yn ddi-oed am gyfnod i'w derfynu drwy hysbysiad a gyflwynir gan swyddog i berchennog yr anifail neu i'r person a gofal amdanol y caiff unrhyw berson symud anifail buchol yn unol â darpariaethau is-baragraffau (b) a (c) o baragraff (2) uchod.

Rheoli mangreoedd a ddefnddir gan fasnachwyr ac eraill i gadw anifeiliaid buchol
    
16. Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio mangre i gadw anifeiliaid buchol ar gyfer neu mewn cysylltiad â busnes y person hwnnw fel masnachwr anifeiliaid buchol oni bai i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig.

Rheoli haint sy'n dod o anifeiliaid eraill
    
17. Pan fo arolygydd milfeddygol yn credu'n rhesymol bod anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre wedi'i heintio â brwselosis, neu y gall fod wedi'i heintio â brwselosis, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i berchennog y fangre neu ei meddiannydd, gan ei gwneud yn ofynnol i'r person ei gadw o dan reolaeth yn y dull a bennir yn yr hysbysiad, neu ei gyfyngu i ran o'r fangre fel a bennir ynddo.

Cymhwyso adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i frwselosis
    
18. Mae adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gymwys i frwselosis.

Hysbysu am gigydda arfaethedig
    
19. —(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn arfaethu peri i anifeiliaid buchol gael eu cigydda o dan bwerau a gynhwysir yn adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 wrth ei chymhwyso i frwselosis, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o gigydda arfaethedig i berchennog yr anifail, neu i'r person a gofal amdano, gan hysbysu'r person o'r cigydda arfaethedig ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gadw hyd nes y cigyddir ef a'i ynysu i'r graddau y mae'n ymarferol oddi wrth unrhyw anifeiliaid eraill a bennir.

    (2) Rhaid i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad hwnnw iddo sicrhau na symudir yr anifail, na pheri ei symud, neu ganiatáu ei symud, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan swyddog.

Cymorth cadw anifeiliaid yn ddiogel
    
20. —(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn arfaethu peri i anifail buchol gael ei gigydda o dan adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, rhaid i berchennog yr anifail, neu'r person a gofal amdano, gydymffurfio â phob gofyniad rhesymol swyddog am gymorth i gasglu'r anifail, ei roi mewn lloc a'i gadw'n ddiogel er mwyn ei adnabod a'i archwilio mewn cysylltiad â chael gwybod ei werth.

    (2) Os yw perchennog anifail buchol, neu berson sydd â gofal anifail buchol, yn methu â chydymffurfio â chais rhesymol am gymorth a wnaed o dan baragraff (1) uchod, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, weithredu'r gofynion hynny, neu beri eu gweithredu, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill y treuliau yr aeth iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio â'r cais.

Dangos trwyddedau
    
21. Pan fo trwydded yn ofynnol ar gyfer symud anifail buchol neu fustach o dan ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, rhaid i berchennog yr anifail hwnnw, neu'r person a gofal amdano, os myn swyddog, arolygydd awdurdod lleol neu gwnstabl heddlu, o dan y Gorchymyn hwn, roi ei enw a'i gyfeiriad a rhaid iddo ddangos y drwydded a chaniatáu i gopi neu grynodeb ohoni gael ei wneud.

Pwerau arolygwyr milfeddygol ac arolygwyr
    
22. —(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, bydd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd, ar ôl dangos, os gofynnir iddo ef neu hi wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd milfeddygol neu'r arolygydd, hawl ar bob adeg resymol i fynd i fewn i unrhyw fangre, ac eithrio unrhyw ran o fangre a feddiennir fel annedd breifat.

    (2) Caiff arolygydd milfeddygol:

    (3) Caiff arolygydd—

Tramgwyddau
    
23. Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth o'r Gorchymyn hwn neu'n methu â chydymffurfio â hi heb awdurdod neu esgus cyfreithlon yn euog o dramgwydd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Gorfodi
    
24. Yr awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn yn ei ardal ddaearyddol.

Dirymu
    
25. I'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, mae Gorchymyn Brwselosis 1997[4] drwy hyn yn cael ei ddirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Brwselosis 1997 (O.S. 1997/758) ac yn ailddeddfu ei sylwedd o ran Cymru.

Mae'n gweithredu'r darpariaethau sy'n ymwneud â llaeth yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC (ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar fasnach gwartheg a moch o fewn y Gymuned) (OJ Rhif L121, 29.7.64, t.1977) fel y'i diwygiwyd a Chyfarwyddeb y Cyngor 77/391/EEC (cyflwyno mesurau Cymunedol i ddileu brwselosis, twbercwlosis a lewcosis mewn gwartheg) (OJ Rhif L145, 13.6.77, t.44), fel y'i diwygiwyd. Mae'r Cyfarwyddebau hyn yn gwneud gweithredu rhaglen fonitro a phrofi yn ofynnol. Diben y rhaglen hon yw cadw'r statws sydd gan Brydain Fawr fel lle sy'n rhydd-rhag-brwselosis o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC.

Mae'r prif newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn hwn yn ymwneud â'r trefniadau profi llaeth am dystiolaeth o frwselosis a dileu'r Rhestr o Labordai Cymeradwy a gynhwyswyd yn Atodlen 1 i Orchymyn 1997. Mae Erthygl 7(1) yn nodi dyletswyddau'r sawl sy'n prynu llaeth i'w werthu eto i sicrhau bod y llaeth yn cael ei anfon i'w brofi mewn labordy cymeradwy.

Rhaid i'r person y mae labordy cymeradwy dan ei ofal hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 24 awr os yw canlyniad unrhyw brawf am frwselosis yn gadarnhaol ac o fewn mis os yw'r canlyniad yn negyddol. Rhaid i'r person hwnnw gadw cofnodion o bob prawf a wneir am gyfnod o flwyddyn (erthygl 7((5)).

Yr awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 24).

Mae methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn yn dramgwydd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (erthygl 23).

Mae Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn wedi'i baratoi, ac wedi ei roi yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth Swyddfa i'r Prif Swyddog Milfeddygol, Adran Clefydau Endemig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.22. Fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p.42. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan Deddf 1981 i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044.back

[2] 1996 p.36back

[3] O.S. 1977/944back

[4] O.S. 1997/758.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091321 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 21 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060866w.html