BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 Rhif 878 (Cy.83)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060878w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 878 (Cy.83)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 12(2), 15(3), 16(3), 22(7) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ac adrannau 79F, 87D ,104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 7 o Atodlen 9A iddi[2] ac adran 94(6) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn—

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu
    
2. Dirymir drwy hyn y canlynol—

Ffioedd rhagnodedig at ddibenion Deddf 2000
     3. —(1) At ddibenion adran 12(2), 16(3), 22(7)(i) o Ddeddf 2000 (ceisiadau am gofrestru), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.

    (2) At ddibenion adran 15(3) o Ddeddf 2000 (ceisiadau gan bersonau cofrestredig), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.

Y ffi ragnodedig at ddibenion Deddf 1989
    
4. —(1) At ddibenion adran 79F(1) a (2) o Ddeddf 1989 (caniatáu neu wrthod cofrestru), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.

    (2) At ddibenion paragraff 7 o Atodlen 9A i Ddeddf 1989 (ffioedd blynyddol), dim yw'r ffi ragnodedig.

Ffi benodedig at ddibenion Deddf 2003
    
5. At ddibenion adran 94(7) o Ddeddf 2003 (adolygiadau ac ymchwiliadau), dim yw'r ffi benodedig.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
13]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r holl ofynion o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 i ffioedd gael eu talu am gofrestru gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad"). Maent yn dileu hefyd y gofyniad i ffioedd blynyddol gael eu talu am arolygiadau gan y Cynulliad o wasanaethau mabwysiadu a maethu awdurdodau lleol o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymdeithasol a Safonau) 2003, ac arolygiadau o ysgolion a cholegau byrddio o dan Ddeddf Plant 1989. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu methiant gan ddarparwyr o ran talu ffioedd fel sail dros ddileu cofrestru.


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r "appropriate Minister": gweler y diffiniad o "regulations" yn adran 121(1) o Ddeddf 2000. Ystyr "appropriate Minister", o ran Cymru, yw "the Assembly"; ystyr "the Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler adran 5(1)(b) o Ddeddf 2000. Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 i gael y diffiniad o "prescribed". Yn rhinwedd O.S. 2004/1756 (Cy. 188), mae'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan II o Ddeddf 2000 yn arferadwy mewn perthynas â chynlluniau lleoli oedolion.back

[2] 1989 p.41. Gweler adran 79B o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o "regulations" ac adran 105 i gael y diffiniad o "prescribed". Mae'r pŵer o dan adran 87D wedi'i roi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd Erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y cofnod ynglŷn â Deddf 1989 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw ac adran 120(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, mae swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 87D o Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru.back

[3] Diddymwyd y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adran 51 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 gan Ran 2 o Atodlen 14 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ac a ddisodlwyd gan adran 94 o Ddeddf 2003.back

[4] O.S. 2002/921 (Cy.109). Mae'r offerynnau diwygio perthnasol wedi'u rhestru yn nhroednodiadau (2) i (9) isod.back

[5] O.S. 2004/1756 (Cy.188).back

[6] O.S. 2004/219 (Cy.23).back

[7] O.S. 2003/2527 (Cy.242).back

[8] O.S. 2003/237 (Cy.35).back

[9] O.S. 2003/781 (Cy.92).back

[10] O.S. 2002/3161 (Cy.296).back

[11] O.S. 2002/2935 (Cy.277).back

[12] O.S. 2002/919 (Cy.107).back

[13] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0 11 091304 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 29 March 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060878w.html