BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cyngor Iechyd Cymuned (Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr) 2006
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060942w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif . 942 (Cy.91)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Iechyd Cymuned (Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr) 2006

  Wedi'i wneud 28 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB(4), 20A(2) a 126(4) a pharagraff 2 o Atodlen 7A i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Iechyd Cymuned (Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn:

Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin
     2. —(1) Sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned o'r enw Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin neu Carmarthenshire Community Health Council.

    (2) Fe'i sefydlir ar gyfer Sir Gaerfyrddin fel y rhagnodir ar hyn o bryd yn Neddf Llywodraeth Leol 1972[
4].

    (3) Os caiff ffin Sir Gaerfyrddin fel y rhagnodir hi ar hyn o bryd yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 ei hamrywio, caiff ffin Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ei hamrywio'n unol â hynny.

    (4) Nid yw paragraff (3) uchod yn gymwys os caiff Sir neu Fwrdeistref Sirol newydd ei chreu ar gyfer Sir Gaerfyrddin neu ran ohoni, os diddymir Sir Gaerfyrddin neu os caiff ei chyfuno gydag un neu fwy o Siroedd neu Fwrdeistrefi Sirol.

Swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin
     3. Swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin yw—

Trosglwyddo Swyddogaethau o'r Cynghorau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin
    
4. Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir holl swyddogaethau'r Cynghorau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin.

Trosglwyddo Aelodau
    
5. —(1) Bydd aelodau'r Cynghorau yn trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ar y dyddiad trosglwyddo ac yn dod yn aelodau o'r Cyngor hwnnw.

    (2) Cyfnod swydd pob aelod o'r Cynghorau fel aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin fydd y cyfnod sy'n weddill o dymor swydd yr aelod hwnnw fel aelod o'r Cynghorau hynny.

Trosglwyddo'r Prif Swyddog a Swyddogion
    
6. Bydd Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a phob swyddog arall sy'n darparu gwasanaethau i'r Cynghorau ac sy'n gyflogedig gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys ar y dyddiad trosglwyddo yn darparu, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, wasanaethau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin.

Cyfrifon
    
7. —(1) Rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ddarparu datganiadau o gyfrifon blynyddol am y cyfnod o ddyddiad y datganiad o gyfrifon blynyddol diwethaf a baratowyd gan y Cynghorau hyd y dyddiad trosglwyddo.

    (2) Rhaid cyflwyno'r cyfryw gyfrifon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn dau fis o'r dyddiad trosglwyddo.

Adroddiadau
    
8. Rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin gyflwyno adroddiadau, yn unol â rheoliad 16(1)(a), (b) ac (c) o'r Rheoliadau, ar gyfer pob un o'r Cynghorau erbyn 1 Medi 2006.

Darpariaeth ar gyfer dilyniant wrth arfer swyddogaethau
    
9. Bydd unrhyw beth a wneir gan y Cynghorau neu o'u rhan wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â hi sydd yn rhinwedd y gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, i'r graddau y mae hynny'n ofynnol i barhau ei effaith ar y dyddiad trosglwyddo neu ar ei ôl, yn cael effaith fel petai wedi cael ei wneud gan Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin neu o'i ran.

Diddymu'r Cynghorau
    
10. Ar y dyddiad trosglwyddo diddymir y Cynghorau.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 20A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("y Ddeddf") yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i ddiddymu Cynghorau Iechyd Cymuned ac i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned newydd ar gyfer Ardaloedd yng Nghymru.

Mae Atodlen 7A i'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â Chynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan adran 20A.

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, yn trosglwyddo swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ac yn diddymu Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr.

Mae erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin. Mae erthygl 2(2) yn darparu ei fod yn cael ei sefydlu ar gyfer ardal ddaearyddol Sir Gaerfyrddin (sy'n cynnwys ardaloedd Caerfyrddin, Llanelli a Dinefwr).

Mae erthygl 2(3) yn darparu bod ffin Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin yn amrywio yn unol â ffin Sir Gaerfyrddin, ar wahân i unrhyw amrywiadau sy'n codi o'r amgylchiadau a amlinellir yn erthygl 2(4).

Mae erthygl 3 yn rhagnodi swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin.

Mae erthygl 4 yn darparu y bydd holl swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr yn trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ar y dyddiad trosglwyddo (1 Ebrill 2006).

Mae erthygl 5(1) yn darparu y bydd aelodau o Gynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr ar 1 Ebrill 2006, yn trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ac yn dod yn aelodau o'r Cyngor hwnnw. Mae erthygl 5(2) yn darparu mai tymor swydd yr aelodau hynny a drosglwyddodd o Gynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr fydd gweddill eu tymhorau presennol ar y dyddiad trosglwyddo.

Mae erthygl 6 yn darparu y bydd Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a phob swyddog arall o Gynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr o 1 Ebrill 2006 ymlaen yn darparu gwasanaethau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin. Bydd y Prif Swyddog a'r swyddogion eraill yn parhau yn gyflogeion Bwrdd Iechyd Lleol Powys.

Mae erthygl 7 yn darparu y bydd Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin yn paratoi'r datganiad o gyfrifon blynyddol ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr o fewn dau fis o'r dyddiad trosglwyddo.

Mae erthygl 8 yn darparu bod rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ddarparu adroddiadau yn unol â rheoliad 16(1) o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr erbyn 1 Medi 2006.

Mae erthygl 9 darparu ar gyfer dilyniant wrth arfer swyddogaethau.

Mae erthygl 10 yn diddymu Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr ar 1 Ebrill 2006.

Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Notes:

[1] 1977 p. 49. Mewnosodwyd adran 16BB(4) gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) ("Deddf 2002") ac fe'i diwygiwyd gan adran 184 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ac Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd adran 20A gan adran 1 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 (p.4) ("Deddf 2003"). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) a chan adran 6(3)(c) o Ddeddf 2002 a chan baragraff 37(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) a chan adran 1 o Ddeddf 2003. Mewnosodwyd Atodlen 7A gan adran 1 o Ddeddf 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 2004/905 (Cy.89), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/603 (Cy.51).back

[3] 1972 p.70. Amnewidiwyd Rhan I a II i Atodlen 4 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 adran 1(2), Atodlen 1, paragraff 1.back

[4] 1972 p.70. Amnewidiwyd Rhan I i Atodlen 4 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, adran 1(2), Atodlen 1, paragraff 1.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091311 6


 © Crown copyright 2006

Prepared 7 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060942w.html