BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 980 (Cy.103)
DRAENIO TIR, CYMRU
Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru (Cyfansoddiad) 2006
|
Wedi |
29 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(1) |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 16A o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru (Cyfansoddiad) 2006 a daw i rym pan ddaw Gorchymyn 2005 i rym[2].
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "yr Asiantaeth" ("the Agency") yw Asiantaeth yr Amgylchedd;
ystyr "y Cynulliad" ("the Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1995" ("the 1995 Act") yw Deddf yr Amgylchedd 1995;
ystyr "Gorchymyn 2005" ("the 2005 Order") yw Gorchymyn Pwyllgorau Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, Hafren-Trent a Gogledd-Orllewin Lloegr (Newid Ffiniau) 2005[3];
ystyr "y pwyllgor" ("the committee") yw Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, sef y pwyllgor rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd a sefydlwyd gan adran 14 o Ddeddf 1995 ac y mae cynghorau'r bwrdeistrefi sirol a'r siroedd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gynghorau cyfansoddol ohono.
Cyfansoddiad
2.
—(1) Mae'r pwyllgor yn cynnwys y canlynol, ac ni chaiff yr un ohonynt fod yn aelod o'r Asiantaeth, hynny yw—
(a) cadeirydd a saith aelod arall wedi eu penodi gan y Cynulliad;
(b) dau aelod wedi eu penodi gan yr Asiantaeth; ac
(c) un aelod wedi ei benodi gan bob grwŵp a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, neu ar ran bob grwŵp, y mae cynghorau'r siroedd a'r bwrdeistrefi sirol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen yn gynghorau cyfansoddol ohono.
(2) Mae'r penodiadau o dan baragraff (1)(c) i gael eu gwneud gan y cynghorau ym mhob grwŵp yn gweithredu ar y cyd mewn perthynas â'r aelod a benodir dros y grwŵp hwnnw.
(3) Os digwydd na fydd y cynghorau a bennir yn unrhyw grwŵp yn yr Atodlen yn gallu gwneud penodiad o dan baragraff (1)(c), caiff y Cynulliad benodi aelod dros y grwŵp hwnnw ar ran y cynghorau hynny.
(4) Wrth benodi person i fod yn gadeirydd neu'n aelod o'r pwyllgor, rhaid i'r Cynulliad neu gyngor cyfansoddol, yn ôl y digwydd, ystyried y priodoldeb o benodi person sydd â phrofiad o fater, ac sydd wedi dangos gallu mewn mater sydd yn berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor.
Trosiannol
3.
At ddibenion y penodiadau cyntaf a wneir gan bob grwŵp dan erthygl 2(1)(c) neu ar ran bob grwŵp o dan erthygl 2(3), mae paragraff 1 (3) o Atodlen 5 i Ddeddf 1995 (tymor swydd aelodau a benodir gan gynghorau cyfansoddol) yn effeithiol gyda'r addasiadau hyn—
(a) yn lle "June" rhodder "April"; a
(b) yn lle "a term of four years" rhodder "a term ending with 31 May 2010".
Dirymu
4.
Dirymir Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd (Rhanbarth Cymru) 1996[4].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
TLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2006
YR ATODLEN(Erthygl 2)
Grwpiau o Gynghorau Cyfansoddol i benodi Aelodau
Grwŵp
|
Cynghorau Cyfansoddol
|
1 |
Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam |
2 |
Ynys Môn, Conwy a Gwynedd |
3 |
Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro |
4 |
Bro Morgannwg a Chaerdydd |
5 |
Abertawe, Castell-Nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr |
6 |
Powys, Sir Fynwy a Thor-faen |
7 |
Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd |
8 |
Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Pwyllgorau Asiantaeth yr Amgylchedd yw pwyllgorau rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd, ac fe'u sefydlwyd gan adran 14 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ("Deddf 1995").
Mae adran 16A(3) o Ddeddf 1995 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") benderfynu cyfanswm nifer aelodau pwyllgor Cymreig a'r dull o'u dewis ac i benodi cadeirydd ac aelodau eraill o'r pwyllgor (gan gynnwys y sawl fydd yn eu penodi).
Caiff y Cynulliad wneud gorchymyn o'r fath dan adran 16A(3) os cyfyd yr amodau a ganlyn: fod y cyfan neu'r rhan fwyaf o ardal y pwyllgor yng Nghymru; ac nad oes yna gynllun amddiffyn rhag llifogydd lleol mewn grym mewn perthynas ag ardal y pwyllgor (adran 16A(2)).
Mewn perthynas â phwyllgor nad yw ei ardal yn gyfangwbl yng Nghymru, dim ond gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol y gellir arfer y pwŵer i wneud gorchymyn o'r fath ac mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o'r fath yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y naill Dyŵneu'r llall o'r Senedd (adran 16A(6)).
Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â phwyllgor y bydd ei ardal yn gyfangwbl yng Nghymru o 1 Ebrill 2006 ymlaen[6] ac nad oes, mewn perthynas â hi, gynllun amddiffyn rhag llifogydd lleol mewn grym[7]. Yn unol â hynny, nid yw'n ddarostyngedig i gytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol nac yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y naill Dyŵneu'r llall o'r Senedd.
Oherwydd yr ystyriaethau uchod, mae erthygl 1 yn darparu bod dyfodiad y Gorchymyn hwn i rym yn ddibynnol ar fod aliniad ardal y pwyllgor gydag arwynebedd Cymru yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn darparu bod y Cynulliad i benodi wyth aelod ar y pwyllgor, gan gynnwys y cadeirydd; bod Asiantaeth yr Amgylchedd i benodi dau aelod (ni chaiff yr un ohonynt fod yn aelod o'r Asiantaeth); a bod awdurdodau lleol i benodi cyfanswm o wyth aelod (i'w penodi gan gynghorau'n gweithio ar y cyd i benodi un aelod ar gyfer pob grwŵp o awdurdodau lleol a bennir yn yr Atodlen). Os nad yw grwŵp o gynghorau, sy'n gweithio ar y cyd, yn gallu penodi aelod, caiff y Cynulliad benodi'r aelod hwnnw ar ran y cynghorau.
Mae erthygl 3 yn darparu bod tymor swydd yr aelodau cyntaf a benodir gan y cynghorau cyfansoddol o dan y Gorchymyn hwn i gychwyn yn Ebrill, yn hytrach nag ym Mehefin fel y darperir yn Atodlen 5 i Ddeddf 1995, a'u bod i barhau hyd 31 Mai 2010. Ar ôl hynny, bydd y penodiadau yn cychwyn ym Mehefin.
Mae erthygl 4 yn dirymu Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd (Rhanbarth Cymru) 1996 (O.S. 1996/538).
Notes:
[1]
1995 p.25. Mewnosodwyd adran 16A gan adran 67 o Ddeddf Dwör 2003 (p.37) (Aelodaeth o bwyllgorau rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru).back
[2]
Cafodd Gorchymyn 2005 ei wneud ar 24 Medi 2005, a'i osod gerbron y Senedd ar 3 Tachwedd 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.back
[3]
O.S. 2005/3047.back
[4]
O.S. 1996/538 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/1007 ac O.S 2005/3047).back
[5]
1999 p.38.back
[6]
Mae Gorchymyn Pwyllgorau Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, Hafren-Trent a Gogledd-Orllewin Lloegr (Newid Ffiniau) 2005 (O.S. 2005/3047), sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2006, yn newid ffin ardal Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, er mwyn peri iddi gydweddu ag arwynebedd Cymru.back
[7]
Dirymodd Gorchymyn Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru 1996 (Dirymu) 2005 (O.S. 2005/548), a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2005, y cynllun amddiffyn rhag llifogydd oedd mewn grym mewn perthynas ag ardal y pwyllgor hwn.back
English version
ISBN
0 11 091316 7
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
10 April 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060980w.html