BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd Am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2006 Rhif 1052 (Cy.108)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061052w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1052 (Cy.108)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd Am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2006

  Wedi 4 Ebrill 2006 
  Yn dod i rym 6 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo fel yr awdurdod priodol at ddibenion adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd Am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Ffioedd mewn perthynas â monitro safleoedd mwyngloddio a safleoedd tirlenwi
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd Am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989[2] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 1 (cymhwyso, enwi a chychwyn)—

    (3) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

    (4) Ar ôl rheoliad 11B (ffioedd mewn perthynas â monitro safleoedd mwyngloddio a thirlenwi), mewnosoder—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Ebrill 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989 ("Rheoliadau 1989") ymhellach o ran Cymru.

Mae Rheoliadau 1989 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd i awdurdodau cynllunio lleol mewn perthynas â cheisiadau a wneir o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ac, o ran Cymru, ar gyfer talu ffioedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd cynllunio y bernir eu bod wedi'u gwneud mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1989 i ddarparu ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas ag ymweliadau safle a wneir gan awdurdodau cynllunio lleol â safleoedd mwyngloddio a thirlenwi er mwyn monitro cydymffurfio â'r caniatadau cynllunio y maent yn ddarostyngedig iddynt. Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer sefyllfaoedd pan geir mwy nag un gweithredydd ar y safle, pan nad yw'r safle yn cael ei weithio, a phan mae dau neu fwy o safleoedd yn ffurfio un grŵp at y diben o fonitro a chyfyngu ar nifer yr ymweliadau y codir ffioedd amdanynt mewn unrhyw un flwyddyn.


Notes:

[1] 1990 p.8; diwygiwyd adran 303 gan baragraff 10 o Atodlen 13 i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 6(6) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) ac adran 53 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Gweler adran 303(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 am ystyr "appropriate authority" ac adran 336(1) o'r Ddeddf honno am y diffiniad o "prescribed".back

[2] O.S. 1989/193; gwnaed diwygiadau perthnasol o ran Cymru a Lloegr gan O.S. 1990/2473, 1991/2735, 1992/1817, 1992/3052, 1993/3170 ac 1997/37 ac o ran Cymru, gan O.S. 2002/1876 (Cy.185), 2002/2258 (Cy.222), 2004/2736 (Cy.243) a 2006/931 (C.26) [h.y. Rheoliadau Ffioedd 2006].back

[3] Cafodd Atodlen 13 ei diwygio gan adrannau 3 a 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1997(p.11), a Rhan III o Atodlen 1 a pharagraff 60(1)(b) o Atodlen 3 iddi, gan adrannau 76(1) a 93 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), a Rhan II o Atodlen 10 a Rhan I o Atodlen 15 iddi, ac, o ran Cymru, gan O.S. 2004/3156 (Cy.273). Cafodd Atodlen 14 ei diwygio gan adrannau 3 a 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1997 (p.11), a Rhan III o Atodlen 1 a pharagraff 60(2) o Atodlen 3 iddi, gan adran 118(2) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), a pharagraff 19 o Atodlen 7 iddi, ac, o ran Cymru, gan O.S. 2004/3156 (Cy.273).back

[4] Diwygiwyd Rhan 7 gan adran 6 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p.11), a pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 4 iddi, adrannau 1 i 11, 21, 32 ac 84 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), a pharagraff 11 o Atodlen 1, paragraffau 22 i 33 o Atodlen 7 a Rhan I o Atodlen 9 iddi, adran 20(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), a pharagraff 24(5) o Atodlen 6 iddi, adran 52 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) ac, o ran Cymru, gan O.S. 2004/3156 (Cy.273).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091322 1


 © Crown copyright 2006

Prepared 21 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061052w.html