BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1261 (Cy.118)
HAWLIAU BRIDWYR PLANHIGION, CYMRU
Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
3 Mai 2006 | |
|
Yn dod i rym |
12 Mai 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 9(6) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ar ôl ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn gynrychioliadol o'r personau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 12 Mai 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol
2.
Mae adran 9(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997 yn peidio â chael effaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thoma
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Mai 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 12 Mai 2006.
Mae'r Gorchymyn yn dirwyn i ben yr esemptiad o ddefnydd blaenorol yn adran 9(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997.
Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1998 p.38.back
[2]
1997 p.66. gweler adran 49(1) i gael y diffiniad o "the Ministers".back
[3]
Trosglwyddodd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) swyddogaethau"r Gweinidogion o dan adran 9 o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997, i"r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
English version
ISBN
0 11 091333 7
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
9 May 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061261w.html