BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol ac Addasiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006 Rhif 1386 (Cy.136)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061386w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1386 (Cy.136)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol ac Addasiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 23 Mai 2006 
  Yn dod i rym Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(2)(f), 59, 60, 61(1), 293A(8) a (9)(b) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol–

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol ac Addasiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 7 Mehefin 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987
    
2. —(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987[2]wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:

    (2) Yn Rhan C o'r Atodlen, ar ôl Dosbarth 2 (sefydliadau preswyl) mewnosoder–

    (3) Yn Rhan D o'r Atodlen, yn nosbarth D1 (sefydliadau dibreswyl) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder–

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995
     3. —(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995[3]wedi'i addasu fel a ganlyn.

    (2) Yn erthygl 1(2) (dehongli)–

    (3) Ar ôl paragraff (12) o erthygl 1 mewnosoder–

    (4) Yn erthygl 3(12) (datblygu a ganiateir) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder–

    (5) Yn erthygl 4(3) (cyfarwyddiadau yn cyfyngu ar ddatblygu a ganiateir)–

    (6) Yn Atodlen 2 (datblygu a ganiateir)–

Gorchmyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995
     4. —(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[5]wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn lle erthygl 4A (ceisiadau mewn perthynas â thir y Goron) rhodder–

    (3) Yn erthygl 8 (cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau am ganiatâd cynllunio) ar ôl paragraff (7) mewnosoder–

    (4) Ar ôl erthygl 10 (ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio) mewnosoder–

    (5) Yn erthygl 19(3) (sylwadau i'w cymryd i ystyriaeth) yn lle "of the Act (reference of applications to the Secretary of State)" rhodder "(reference of applications to the Secretary of State) and section 293A(2) (applications for urgent Crown development) of the Act".

    (6) Yn erthygl 25 (cofrestr ceisiadau)–

    (7) Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (hysbysiadau o dan erthyglau 6 a 9)–



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mai 2006



ATODLEN
Erthygl 3



RHAN 1





RHAN 2





EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Rhan 7 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn cymhwyso Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 i'r Goron. Yn ogystal â chymhwyso'r deddfau cynllunio i'r Goron, mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer diogelwch gwladol, datblygiadau brys y Goron, gorfodi, cadw coed a hen ganiatadau mwyngloddio.

Mae'r Gorchymyn hwn yn addasu Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 drwy ychwanegu dosbarth datblygu newydd, sef sefydliadau preswyl diogel. Nid yw newid defnydd yn y dosbarth hwnnw i ddefnydd arall yn y dosbarth hwnnw yn gyfystyr â datblygu. Mae'r Gorchymyn yn ychwanegu hefyd ddefnydd fel llys barn at ddosbarth D1 sy'n cwmpasu sefydliadau dibreswyl (erthygl 5).

Mae'r Gorchymyn yn addasu hefyd Ran 13 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu a Ganiateir) 1995 i roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ganiatâd cynllunio ynglŷn â gwaith a wneir o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 ac yn ychwanegu Rhannau 34 i 38 newydd i roi caniatâd cynllunio i'r Goron ar gyfer gweithgareddau penodol gan gynnwys datblygiadau awyrennu, rheilffyrdd y Goron, iardiau llongau'r Goron a goleudai'r Goron, datblygu at ddibenion argyfwng a datblygu ar gyfer diogelwch gwladol neu ddibenion amddiffyn gwladol (erthygl 16 ac Atodlen 1).

Ni luniwyd asesiad llawn o effaith y rheoliadau ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau, cyrff gwirfoddol na'r sector cyhoeddus.


Notes:

[1] 1990 p.8; y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i"r Gorchymyn hwn. Trosglwyddwyd swyddogaethau"r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 55(2)(f), 59, 60, 61(1) a 333(7) i"r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) fel y"i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 ac Atodlen 3 iddi (O.S. 2000/253). Mae"r swyddogaethau o dan adran 293A fel y"u mewnosodwyd gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd adran 118(3) o"r Ddeddf honno.back

[2] O.S. 1987/764 a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/1567, 1992/610, 1992/657, 1994/724, 1995/297, 1999/293 a 2002/1875 (Cy.184).back

[3] O.S. 1995/418, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/528, 1997/366, 1998/462, 1999/1661, 2002/1878 a 2006/124 (Cy.17)back

[4] Diwygiwyd adran 293 gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), Atodlen 3, paragraff 6.back

[5] O.S. 1995/419 a ddiwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Atodlen 22, paragraff 233 a gan O.S. 1995/1139, 1996/396, 1996/593, 1996/1817, 1997/858, 1999/293, 1999/981, 2002/1877 (Cy.186) a 2004/1434 (Cy.147).back

[6] 1998 p.38.back

[7] Section 55(2)(b) was amended by the Planning and Compulsory Purchase Act 2004 (c.5), section 118 and paragraph 2 of Schedule 6.back

[8] 1980 c.66.back

[9] S.I. 2005/1970.back

[10] 2000 c.38.back



English version



ISBN 0 11 091352 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 June 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061386w.html