BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1403 (Cy.140) (C.48)
TRAFNIDIAETH
Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12 a 13 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.
Y diwrnod penodedig
2.
—(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) isod i rym ar 26 Mai 2006.
(2) Mae'r darpariaethau fel a ganlyn–
(a) Adran 1 (dyletswydd drafnidiaeth gyffredinol)
(b) Adran 2 (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru)
(c) Adran 3 a'r Atodlen (cynlluniau trafnidiaeth lleol)
(ch) Adran 4 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth)
(d) Adran 5 (cyd-awdurdodau trafnidiaeth)
(dd) Adran 6 (cymorth ariannol: swyddogaethau trafnidiaeth lleol)
(e) Adran 7 (darparu gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus i deithwyr)
(f) Adran 8 (Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru)
(ff) Adran 9 (swyddogaethau'r Pwyllgor)
(g) Adran 10 (canllawiau a chyfarwyddiadau i'r Pwyllgor)
(ng) Adran 11 (cymorth ariannol: gwasanaethau trafnidiaeth awyr)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p.6) ("y Ddeddf").
Cyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu at Atodlenni iddi yw cyfeiriadau at adrannau neu at Atodlenni.
Effaith y Ddeddf yw darparu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau ychwanegol ym maes trafnidiaeth a fydd, ynghyd â'i bwerau presennol, yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu a rhoi ar waith, ar y cyd ag awdurdodau lleol a chyrff eraill yng Nghymru, system drafnidiaeth ddiogel, integredig, effeithlon ac economaidd i wasanaethu Cymru.
Mae adran 1 yn rhoi dyletswydd drafnidiaeth gyffredinol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu polisïau ar gyfer gwasanaeth trafnidiaeth diogel, cynaliadwy ac effeithlon yng Nghymru, i gynnwys darpariaethau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr.
Mae adran 2 yn rhoi ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru y gofyniad am iddo gynhyrchu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy'n rhoi manylion ei bolisïau trafnidiaeth, ac am iddo adolygu'r Strategaeth yn rheolaidd.
Mae adran 3 yn deddfu'r Atodlen i'r Ddeddf. Mae'r Atodlen yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38) sy'n ymwneud â chynlluniau trafnidiaeth lleol. Mae'r Atodlen yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Nghymru gynnwys yn eu cynlluniau trafnidiaeth lleol eu polisïau ar gyfer rhoi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar waith yn eu hardaloedd. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Nghymru gyflwyno eu cynlluniau trafnidiaeth lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn iddo eu cymeradwyo.
Mae adran 4 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo dau neu fwy o awdurdodau lleol yng Nghymru i ymrwymo i drefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ar y cyd.
Mae adran 5 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu, drwy Orchymyn, gyd-awdurdodau trafnidiaeth, a fyddai'n gyrff corfforaethol, i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ar y cyd o fewn eu hardaloedd.
Mae adran 6 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cymorth ariannol i gyd-awdurdodau trafnidiaeth ac i awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i gyflawni eu swyddogaethau trafnidiaeth.
Mae adran 7 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod unrhyw wasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus i deithwyr yn cael ei ddarparu at ddiben bodloni gofynion trafnidiaeth gyhoeddus na fyddent yn cael eu bodloni fel arall.
Mae adran 8 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru.
Mae adran 9 yn darparu manylion ynghylch swyddogaethau Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru.
Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddyroddi canllawiau a chyfarwyddiadau i Bwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru ynghylch sut y dylai gyflawni ei swyddogaethau.
Mae adran 11 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cymorth ariannol i wasanaethau trafnidiaeth awyr yng Nghymru mewn amgylchiadau pan na fyddai'r gwasanaethau yn cael eu darparu ac eithrio gyda'r cymorth hwn.
Notes:
[1]
2006 p.5back
[2]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 091344 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
1 June 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061403w.html