BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 Rhif 1701 (Cy.163)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061701w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1701 (Cy.163)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 27 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(1), (4) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1], gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn—

    (2) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw dystysgrif neu wasanaeth a ddarperir gan neu ar ran y Comisiynwyr Coedwigaeth.

Tystysgrifau ar gyfer allforio planhigion etc. i drydydd gwledydd
     3. —(1) Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am dystysgrif o dan y Gorchymyn hwn.

    (2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig:—

    (3) Caiff swyddog awdurdodedig awdurdodi unrhyw berson yn ysgrifenedig i arolygu gronynnau pan fo arolygiad o'r fath yn ofynnol i alluogi'r swyddog hwnnw i ddyroddi'r dystysgrif.

Gwasanaethau cyn-allforio
    
4. —(1) Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad neu drydydd gwledydd wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am wasanaeth cyn-allforio o dan y Gorchymyn hwn.

    (2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig—

Ffioedd am ddyroddi tystysgrifau a darparu gwasanaethau
    
5. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid talu i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (2) Rhaid i allforiwr bach dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (3) Yn yr erthygl hon, ystyr "allforiwr bach" ("small exporter") yw person, yn y flwyddyn ariannol pan wneir y cais—

Tramgwyddau
     6. —(1) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person, at ddibenion peri bod tystygrif yn cael ei dyroddi o dan y Gorchymyn hwn—

    (2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006



ATODLEN 1
Erthygl 2


FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL




ATODLEN 2
Erthygl 2


FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL AR GYFER AILALLFORIO




ATODLEN 3
Erthyglau 3 a 5

Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau Ffi Ffi(allforiwr bach)
    (1) Gwasanaethau am lwythi heblaw gronynnau:

Arolygiad a, phan fo angen, archwiliad mewn labordy £20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50 £10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25
Archwiliad mewn labordy yn unig £20.00 £10.00
Dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy £5.00 £2.50
    (2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o ronynnau:

Monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3), a phan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig £45.00 £22.50



ATODLEN 4
Erthygl 5

Gwasanaeth Ffi Ffi (allforiwr bach)
Gwasanaeth cyn-allforio £20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50 £10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2006. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol a thystysgrifau ffytoiechydol ailanfon ar gyfer allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydydd gwledydd i fodloni gofynion rheoliadau ffytoiechydol y gwledydd hynny.

Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol a thystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am wasanaethau cyn-allforio a chyflawni'r gwasanaethau hynny gan swyddogion awdurdodedig.

Mae erthygl 5 ac Atodlenni 3 a 4 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy gan geiswyr tystysgrifau ffytoiechydol, tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a thalu ffioedd am wasanaethau cyn-allforio.

Mae erthygl 6 yn darparu ei bod yn dramgwydd i wneud datganiad anwir gan wybod hynny neu gan fod yn ddi-hid o hynny neu yn fwriadol i fethu â datgelu gwybodaeth berthnasol er mwyn peri bod tystysgrif yn cael ei dyroddi.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi cael ei baratoi o ran Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48). O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac, o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] O.S. [            ].back

[3] O.S. 1993/1320.back

[4] 1994 p.23.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091365 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 6 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061701w.html