[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006 Rhif 1702 (Cy.164) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061702w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 27 Mehefin 2006 | ||
Yn dod i rym | 30 Mehefin 2006 |
Disgrifiadau rhagnodedig o berygl posibl
3.
—(1) Mae i berygl posibl ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion y Ddeddf os yw'r risg o niwed yn gysylltiedig â bod unrhyw un neu rai o'r materion neu'r amgylchiadau a restrir yn Atodlen 1 yn bodoli.
(2) Yn Atodlen 1, oni nodir yn wahanol, cyfeiriad at fater neu amgylchiad yn yr annedd neu yn y tŷ amlfeddiannaeth o dan sylw, neu mewn unrhyw adeilad neu ar unrhyw dir yng nghyffiniau'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth, yw cyfeiriad at fater neu amgylchiad.
Perygl tân posibl a ragnodwyd
4.
At ddibenion adran 10 o'r Ddeddf perygl posibl categori 1 a 2[3] yw perygl tân posibl a ragnodwyd os yw'r risg o niwed yn gysylltiedig â bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a mwg cysylltiedig.
Arolygiadau
5.
Rhaid i arolygydd—
Difrifoldeb peryglon posibl
6.
—(1) Os bydd arolygydd, yn sgil arolygiad o fangreoedd preswyl o dan adran 4 o'r Ddeddf—
rhaid cyfrifo pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl hwnnw yn unol â pharagraffau (2) i (4) o'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r arolygydd asesu pa mor debygol ydyw, yn ystod y cyfnod o 12 mis yn cychwyn ar ddyddiad yr asesiad, i feddiannydd perthnasol ddioddef unrhyw niwed o ganlyniad i'r ffaith bod y perygl posibl hwnnw, yn dod o fewn un o'r ystod cymarebau tebygolrwydd a geir yng ngholofn 1 o Dabl 1.
Tabl 1
Colofn 1
Colofn 2
Ystod cymarebau tebygolrwydd
Pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod
Llai tebygol nag 1 mewn 4200
5600
1 mewn 4200 hyd 1 mewn 2400
3200
1 mewn 2400 hyd 1 mewn 1300
1800
1 mewn 1300 hyd 1 mewn 750
1000
1 mewn 750 hyd 1 mewn 420
560
1 mewn 420 hyd 1 mewn 240
320
1 mewn 240 hyd 1 mewn 130
180
1 mewn 130 hyd 1 mewn 75
100
1 mewn 75 hyd 1 mewn 42
56
1 mewn 42 hyd 1 mewn 24
32
1 mewn 24 hyd 1 mewn 13
18
1 mewn 13 hyd 1 mewn 7.5
10
1 mewn 7.5 hyd 1 mewn 4
6
1 mewn 4 hyd 1 mewn 2.5
3
1 mewn 2.5 hyd 1 mewn 1.5
2
Mwy tebygol nag 1 mewn 1.5
1
(3) Rhaid i'r arolygydd asesu o ba un o'r pedwar dosbarth o niwed (a nodir yn Atodlen 2) y mae meddiannydd perthnasol yn fwyaf tebygol o ddioddef yn ystod y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2).
(4) Rhaid i'r arolygydd—
(a) asesu'r posibilrwydd y bydd pob un o'r dosbarthiadau eraill o niwed yn digwydd o ganlyniad i'r ffaith bod y perygl posibl hwnnw yn dod o fewn un o'r ystod canrannau posibilrwydd a geir yng ngholofn 1 o Dabl 2;
(b) cofnodi pob posibilrwydd a asesir felly ar ffurf y pwynt cyfatebol o blith pwyntiau graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol a geir yng ngholofn 2 o Dabl 2; ac
(c) cofnodi'r posiblrwydd (sy'n wybyddus at ddibenion y fformiwla ym mharagraff (5) fel pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR)) bod y dosbarth mwyaf tebygol o niwed yn digwydd, a hynny ar ffurf canran a gyfrifir gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol—
100% − (A + B + C)
Tabl 2
Colofn 1
Colofn 2
Ystod canrannau posibilrwydd
Pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR)
O dan 0.05%
0%
0.5 hyd 0.15%
0.1%
0.15% hyd 0.3%
0.2%
0.3% hyd 0.7%
0.5%
0.7% hyd 1.5%
1%
1.5% hyd 3%
2.2%
3% hyd 7%
4.6%
7% hyd 15%
10%
15% hyd 26%
21.5%
26% hyd 38%
31.6%
Dros 38%
46.4%
(5) Pan fydd yr arolygydd wedi asesu pa mor debygol ydyw o dan baragraff (2) ac wedi asesu pa mor bosibl ydyw o dan baragraff (3) i bob niwed ddigwydd rhaid iddo fynegi difrifoldeb y perygl posibl hwnnw fel sgôr rifiadol a gyfrifir drwy ddefnyddio'r fformiwla ganlynol—
S1 + S2 + S3 + S4 |
(6) At ddibenion y fformiwla ym mharagraff (5)—
(7) Yn y rheoliad hwn—
(ff) yn unrhyw baragraff arall o Atodlen 1, yw unrhyw feddiannydd; ac
(8) Wrth wneud asesiadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i arolygydd roi sylw i unrhyw ganllau a roddir am y tro o dan adran 9 o'r Ddeddf.
Bandiau rhagnodedig
7.
At ddibenion y Ddeddf daw perygl posibl o fewn band a ddynodir gan lythyren yng ngholofn 1 o Dabl 3 pan fydd yn cyrraedd sgôr rifiadol a gyfrifir yn unol â rheoliad 6(5) ac sydd o fewn yr ystod sy'n cyfateb i'r llythyren honno yng ngholofn 2 o'r Tabl hwnnw.
Tabl 3
Colofn 1
Colofn 2
Band
Ystod Sgôr Rifiadol
A
5000 neu fwy
B
2000 hyd 4999
C
1000 hyd 1999
D
500 hyd 999
E
200 hyd 499
F
100 hyd 199
G
50 hyd 99
H
20 hyd 49
I
10 hyd 19
J
9 neu lai
Categori o berygl posibl
8.
At ddibenion y Ddeddf—
(a) mae perygl posibl sy'n dod o fewn band A, B neu C yn Nhabl 3 yn berygl posibl categori 1; a
(b) mae perygl posibl sy'n dod o fewn unrhyw fand arall yn y Tabl hwnnw yn berygl posibl categori 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
Plwm
7.
Amlyncu plwm.
Ymbelydredd
8.
Dod i gyffyrddiad ag ymbelydredd.
Nwy tanwydd nas hylosgwyd
9.
Bod mewn cyffyrddiad â nwy tanwydd nas hylosgwyd.
Cyfansoddion organig anweddol
10.
Dod i gyffyrddiad â chyfansoddion organig anweddol.
Gorboblogi a gofod
11.
Diffyg gofod digonol ar gyfer byw a chysgu.
Tresbaswyr yn dod i mewn
12.
Anawsterau wrth gadw'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth yn ddiogel rhag i bobl nas awdurdodir ddod i mewn.
Goleuo
13.
Diffyg golau digonol.
Sŵn
14.
Bod mewn cysylltiad â sŵn.
Hylendid domestig, pla a sbwriel
15.
—(1) Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel na ellir yn hawdd gadw'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth yn lân.
(2) Bod mewn cyffyrddiad â phla.
(3) Darpariaeth annigonol ar gyfer storio gwastraff tŷ a'i waredu'n hylan.
Diogelwch bwyd
16.
Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.
Hylendid personol, carthffosiaeth a draeniau
17.
Darpariaeth annigonol—
Cyflenwad dŵr
18.
Cyflenwad annigonol o ddŵr sydd heb ei halogi, er mwyn ei yfed ac at ddibenion domestig eraill.
Cwympo yn gysylltiedig â baddonau etc
19.
Cwympo sy'n gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill.
Cwympo ar arwynebau gwastad etc
20.
Cwympo ar unrhyw arwyneb gwastad neu gwympo rhwng arwynebau pan na fydd y newid yn y lefel yn fwy na 300 milimetr.
Cwympo ar risiau etc
21.
Cwympo ar risiau, stepiau neu rampiau pan fydd y newid mewn lefel yn 300 milimetr neu'n fwy.
Cwympo rhwng lefelau
22.
Cwympo rhwng lefelau pan fydd y gwahaniaeth yn y lefelau yn 300 milimetr neu'n fwy.
Peryglon posibl gyda thrydan
23.
Bod mewn cyffyrddiad â thrydan.
Tân
24.
Bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a'r mwg sy'n gysylltiedig ag ef.
Fflamau, arwynebau poeth etc
25.
Bod mewn cyffyrddiad â'r canlynol—
Taro yn erbyn neu mynd yn sownd
26.
Taro yn erbyn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill, neu rannau o'r corff yn mynd yn sownd ynddynt.
Ffrwydradau
27.
Ffrwydrad yn yr annedd neu yn y tŷ amlfeddiannaeth.
Safle amwynderau a'u gweithrediad etc
28.
Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, ffitiadau a chyfarpar.
Dymchwel strwythurol ac elfennau'n disgyn
29.
Yr annedd gyfan neu ran ohoni neu'r tŷ amlfeddiannaeth cyfan neu ran ohono yn dymchwel.
Dosbarth II
2.
Niwed Dosbarth II yw unrhyw niwed difrifol iawn y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
Dosbarth III
3.
Niwed Dosbarth III yw unrhyw niwed difrifol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
Dosbarth IV
4.
Niwed Dosbarth IV yw unrhyw niwed cymedrol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
[2] Mae'r pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 4 o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1).back
[3] Gweler y diffiniad o berygl posibl categori 1 a chategori 2 yn adran 2(1) o'r Ddeddf.back