[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol ac Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1703 (Cy.165) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061703w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 27 Mehefin 2006 | ||
Yn dod i rym | 6 Gorffennaf 2006 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso. |
2. | Dehongli |
3. | Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002. |
4. | Trefniadau trosiannol |
5. | Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002. |
Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
3.
—(1) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli) o Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002[3] ("Rheoliadau 2002") yn y diffiniad o "sefydliad" ("establishment") yn lle'r geiriau "neu glinig annibynnol" rhodder y canlynol—
(2) Ar ôl rheoliad 4 o Reoliadau 2002, rhodder y canlynol—
(3) Yn rheoliad 8(1) (Polisïau a gweithdrefnau) yn lle'r geiriau "mewn neu at ddibenion sefydliad mewn perthynas ag" rhodder y canlynol:—
(4) Yn rheoliad 10(3) rhodder "sefydliad" yn lle'r gair "cartref".
Trefniadau trosiannol
4.[a]
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bersonau y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn gael eu cofrestru o dan y Ddeddf ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 6 Gorffennaf 2006.
(2) Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff person a oedd yn union cyn 6 Gorffennaf 2006 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth feddygol annibynnol barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb iddo gael ei gofrestru o dan y Ddeddf—
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "gwaredir yn derfynol" yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu'r dyddiad pan roddir y gorau iddo.
Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
5.
—(1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[4] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(b) yn y diffiniad o "statement of purpose" ym mharagraff (c) mewnosoder y geiriau "or independent medical agency" ar ôl "independent clinic".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
[2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 am y gofyniad i ymgynghori.back
[3] O.S. 2002/325 (Cy.38).back
[4] O.S. 2002/919 (Cy.107), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/237 (Cy.35), O.S. 2003/710 (Cy.86), 2003/2517 (Cy.242), O.S. 2003/2527 (Cy.242), O.S. 2003/2709 (Cy.260) ac O.S. 2004/219 (Cy.23).back