BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1714 (Cy.176)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
27 Mehefin 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2006 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 25(3)(b), 28(1) ac (8), 36(2), 38(4), 39(2), (3), (5) a (7)(b), 40(3), 41(4), 42(2)(a), (3)(c), (4) a (5), 50(2), (4) ac (8), 52(5)(b), 120(2) a 124(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2005[1] a pharagraff 6 o Atodlen 4 iddi, a pharagraffau 2(1), (2) a (4) a 3(1), (2) a (3) o Atodlen 6 iddi, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Medi 2006.
Dirymu a diwygio
2.
—(1) Dirymir Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998[2], Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 1999[3] a Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Diwygio) (Cymru) 2004[4].
(2) Dirymir o ran Cymru Reoliadau Addysg (Arolygwyr Cofrestredig) (Ffioedd) 1992[5].
(3) Yn Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005[6]—
(a) ym mharagraff (a) o reoliad 5, yn lle "adran 10 o Ddeddf Arolygu Ysgolion 1996" rhodder "adran 28 o Ddeddf Addysg 2005"; a
(b) ym mharagraff (b) o'r rheoliad hwnnw, yn lle "a ragnodwyd yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998" rhodder "a ragnodwyd gan reoliadau neu a gyfarwyddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 39(2) neu 42(2) o'r Ddeddf honno".
Dehongli: cyffredinol
3.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i "awdurdod esgobaethol priodol", "ysgol yr Eglwys yng Nghymru", "ysgol Eglwys Loegr" ac "ysgol yr Eglwys Gatholig Rufeinig", ym mhob achos, yr ystyron a roddir i "appropriate diocesan authority", "Church in Wales school", "Church of England school" a "Roman Catholic school" gan adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[7];
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Arolygu Ysgolion 1996[8] (a ddirymir gan Ddeddf 2005);
ystyr "Deddf 2005" ("the 2005 Act") yw Deddf Addysg 2005;
ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl banc nac yn rhan o wyliau sy'n hwy nag wythnos a gymerir gan yr ysgol dan sylw; ac
ystyr "gŵyl banc" ("bank holiday") yw diwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[9].
(2) Pan fo'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i weithred gael ei gwneud o fewn cyfnod penodedig yn cychwyn ar ddyddiad penodedig mae'r cyfnod yn cychwyn yn union ar ôl y dyddiad hwnnw.
(3) Er mwyn rhoi effaith lawn i adran 41(4)(c), mae'r cyfeiriad yn y ddarpariaeth honno at "the authority" i'w ddarllen, at ddibenion rheoliad 9(3), fel cyfeiriad at berchennog yr ysgol.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran neu at Atodlen (heb ymhelaethu ymhellach) yn gyfeiriad at adran o Ddeddf 2005 neu at Atodlen iddi.
RHAN 2
Arolygu Ysgolion
Dehongli: Rhan 2
4.
—(1) Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn—
ystyr "aelod o'r Arolygiaeth" ("member of the Inspectorate") yw'r Prif Arolygydd, unrhyw un neu rai o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ac unrhyw arolygydd ychwanegol a benodir o dan baragraff 2 o Atodlen 2;
ystyr "arolygiad" ("inspection") yw arolygiad o dan Bennod 3 o Ran 1 o Ddeddf 2005 (gan gynnwys arolygiad adran 28);
ystyr "arolygiad adran 28" ("section 28 inspection") yw arolygiad o dan adran 28;
ystyr "arolygydd cofrestredig" ("registered inspector") yw arolygydd a gofrestrwyd o dan adran 25;
ystyr "awdurdod priodol" ("appropriate authority"), mewn perthynas ag ysgol a gynhelir, yw corff llywodraethu'r ysgol neu, os nad oes gan yr ysgol gyllideb ddirprwyedig, yr awdurdod addysg lleol (yn ddarostyngedig, fodd bynnag, i reoliad 7(2));
mae i "cyllideb ddirprwyedig" yr ystyr sydd i "delegated budget" yn adran 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr "cynllun gweithredu" ("action plan"), yn achos ysgol a gynhelir, yw'r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn adran 39; neu, yn achos ysgol arbennig nas cynhelir, yn adran 42;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Prif Arolygydd" ("Chief Inspector") yw Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru;
mae i "tîm arolygu" yr ystyr a roddir i "inspection team" gan baragraff 3(1) o Atodlen 4;
ystyr "ysgol" ("school") (heb ymhelaethu ymhellach) yw ysgol y mae adran 28 yn gymwys iddi;
ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir; ac
ystyr "ysgol arbennig nas cynhelir" ("non-maintained special school") yw ysgol arbennig sy'n dod o fewn adran 28(2)(d).
(2) Mae i gyfeiriadau yn y Rhan hon at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr ystyr sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989[10].
(3) Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon, sy'n nodi ei bod yn ofynnol neu nad yw'n ofynnol bod camau arbennig yn cael eu cymryd, i'w darllen yn unol ag adran 44(1).
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon, sy'n nodi ei bod yn ofynnol neu nad yw'n ofynnol i ysgol wella'n sylweddol, i'w darllen yn unol ag adran 44(2).
Arolygwyr cofrestredig: ffi gofrestru
5.
At ddibenion is-adran (3)(b) o adran 25, rhagnodir mai ffi o £150 yw'r ffi y mae'n rhaid iddi fynd gyda chais am gofrestru o dan yr adran honno.
Cyfnodau rhwng arolygiadau
6.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion is-adran (1) o adran 28, pa mor aml y mae'n rhaid arolygu, o dan yr adran honno, ysgolion y mae'r adran honno'n gymwys iddynt.
(2) Rhaid i'r Prif Arolygydd sicrhau bod arolygiad adran 28 yn cael ei wneud o ran pob ysgol o'r fath bob chwe blynedd.
(3) Mae'r cyfnodau'n cychwyn ar—
(a) y dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf o'r ysgol (o dan Ddeddf 1996 neu Ddeddf 2005); neu
(b) yn achos ysgol nad yw wedi'i harolygu o'r blaen (o dan y naill Ddeddf na'r llall), y dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol.
Hysbysu o arolygiad
7.
—(1) Pan fo arolygiad adran 28 wedi'i drefnu, rhaid i'r awdurdod priodol, at ddiben paragraff 6(a) o Atodlen 4, gymryd y cyfryw gamau y mae'n rhesymol ymarferol iddo eu cymryd i hysbysu—
(a) yn achos ysgol a gynhelir a chanddi gyllideb ddirprwyedig, person sydd yn ei farn ef yn un o swyddogion priodol yr awdurdod addysg lleol;
(b) yn achos ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig, cadeirydd y corff llywodraethu;
(c) yn achos ysgol a chanddi lywodraethwyr sefydledig, y person sy'n penodi'r llywodraethwyr hynny ac, yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol (os yw'n wahanol);
(ch) yn achos ysgol arbennig nas cynhelir, y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod addysg lleol os yw'r Cynulliad neu'r awdurdod yn talu ffioedd o ran darparu addysg ar gyfer unrhyw berson yn yr ysgol;
(d) yn achos unrhyw ysgol y mae un o'i disgyblion cofrestredig yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, person sydd yn ei farn ef yn un o swyddogion priodol yr awdurdod lleol hwnnw; ac
(dd) yn achos ysgol uwchradd, y cyfryw aelodau o'r gymuned fusnes leol ag y gwêl yr awdurdod priodol yn dda eu cynnwys, o roi sylw, yn arbennig, i ba mor ddymunol yw hysbysu aelodau sy'n cyflogi cyn-ddisgyblion yr ysgol neu sydd wedi eu cyflogi'n ddiweddar, o'r amser y mae'r arolygiad i'w gynnal.
(2) Yn unol â'r diffiniad o "appropriate authority" a gaiff ei gynnwys ym mharagraff 1 o Atodlen 4, yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 8 mae "awdurdod priodol" yn cynnwys perchennog yr ysgol, yn achos ysgol arbennig nas cynhelir.
Cyfarfod â rhieni
8.
Rhaid i'r awdurdod priodol, pan fydd yn trefnu cyfarfod yn unol â pharagraff 6(b) o Atodlen 4 os arolygiad adran 28 a drefnir—
(a) trefnu i'r cyfarfod gael ei gynnal cyn yr amser y mae'r arolygiad i gychwyn;
(b) wrth ddewis amser a lle ar gyfer y cyfarfod, roi sylw i ba mor gyfleus ydynt i'r rhieni;
(c) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i hysbysu'r canlynol yn ysgrifenedig o leiaf dair wythnos ymlaen llaw o'r amser a'r lle y mae'r cyfarfod i'w gynnal—
(i) rhieni disgyblion cofrestredig yr ysgol ac, os yw un o'i disgyblion cofrestredig yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, person sydd ym marn yr awdurdod priodol yn un o swyddogion priodol yr awdurdod lleol; a
(ii) yn achos ysgol arbennig nas cynhelir, y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod addysg lleol os yw'r Cynulliad neu'r awdurdod yn talu ffioedd o ran darparu addysg ar gyfer unrhyw berson yn yr ysgol a bod un o rieni'r person hwnnw yn gofyn am gael ei hysbysu;
(ch) peidio â chaniatáu i unrhyw un fod yn bresennol yn y cyfarfod ac eithrio—
(i) yr arolygydd sy'n arwain yr arolygiad a'r tîm arolygu;
(ii) unrhyw berson y mae'r arolygydd sy'n arwain yr arolygiad yn dymuno iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod at ddibenion darparu cymorth gweinyddol neu gofnodi'r hyn a ddywedir;
(iii) rhieni disgyblion cofrestredig yr ysgol ac, os yw un o'r disgyblion cofrestredig yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, person sydd ym marn yr awdurdod priodol yn un o swyddogion priodol yr awdurdod lleol hwnnw;
(iv) yn achos ysgol arbennig nas cynhelir, person sydd ym marn yr awdurdod priodol yn un o swyddogion priodol y Cynulliad Cenedlaethol neu o unrhyw awdurdod addysg lleol os yw'r Cynulliad neu'r awdurdod yn talu ffioedd o ran darparu addysg ar gyfer unrhyw berson yn yr ysgol a bod un o rieni'r person hwnnw'n gofyn am gael bod yn bresennol; a
(v) unrhyw aelod o'r Arolygiaeth sy'n monitro'r arolygiad o dan adran 24(2); a
(d) trefnu i'r arolygydd sy'n arwain yr arolygiad reoli'r cyfarfod ym mhob ffordd arall.
Adroddiadau arolygu
9.
—(1) At ddibenion adran 36, rhaid cyflawni arolygiad adran 28 o fewn y cyfnod o bythefnos i'r dyddiad y dechreuodd yr arolygiad.
(2) At ddibenion yr adran honno rhagnodir fel y cyfnod y mae'r cyfryw adroddiad arolygu i'w lunio ynddo, y cyfnod o 35 o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad.
(3) At ddibenion adrannau 38(4)(c) a 41(4)(c), rhagnodir, fel y cyfnod y mae'n rhaid i'r awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob un o rieni cofrestredig disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael copi o'r crynodeb o'r adroddiad arolygu, y cyfnod o ddeng niwrnod gwaith ar ôl derbyn yr adroddiad.
Cynlluniau Gweithredu
10.
—(1) At ddibenion adran 39(2)(a) a 42(2)(a) rhagnodir, fel y cyfnod y mae cynllun gweithredu i'w baratoi ynddo o ran ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir, y cyfnod o ddeugain a phump o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y cafodd yr awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, yr adroddiad arolygu.
(2) At ddibenion adran 39(3) a (5) ac adran 42(3) a (4) rhagnodir, fel y cyfnod y mae'r awdurdod priodol neu'r perchennog i ddosbarthu ynddo, yn unol â'r deddfiadau hynny, gopïau o'r cyfryw gynllun gweithredu a baratowyd ganddynt,—
(a) os nad yw'r person sy'n llunio'r adroddiad arolygu yn datgan ei fod o'r farn ei bod yn ofynnol bod camau arbennig yn cael eu cymryd mewn perthynas â'r ysgol neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, pum niwrnod gwaith o'r dyddiad y gorffennodd yr awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, baratoi'r cynllun gweithredu;
(b) os yw'r arolygydd cofrestredig (yn achos adroddiad gan arolygydd cofrestredig) yn datgan mai dyna'i farn ef ond y datgenir hefyd fod y Prif Arolygydd yn anghytuno â'r farn honno, pum niwrnod gwaith o'r dyddiad y gorffennodd yr awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, baratoi'r cynllun gweithredu; ac
(c) os yw'r person sy'n llunio'r adroddiad yn datgan ei fod o'r farn ei bod yn ofynnol bod camau arbennig yn cael eu cymryd mewn perthynas â'r ysgol neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, a naill ai bod y person hwnnw'n aelod o'r Arolygiaeth neu fod yr adroddiad yn datgan bod y Prif Arolygydd yn cytuno â'r farn honno, deuddydd o'r dyddiad y gorffennodd yr awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, baratoi'r cynllun gweithredu.
(3) At ddibenion adran 39(3)(c) a 42(3)(c), os paratowyd cynllun gweithredu o ran ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir, rhaid i'r awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, anfon copïau ohono at y canlynol (yn ychwanegol at y personau a grybwyllir yn adrannau 39(3) i (6) neu 42(3) a (4) yn ôl y digwydd)—
(a) ym mhob achos, at bob person a gyflogir yn yr ysgol ac sydd wedi gofyn am gopi; a
(b) yn achos ysgol uwchradd, at y Cynulliad Cenedlaethol (os nad oes gan y Cynulliad hawl fel arall i gael copi).
(4) At ddibenion cyfrifo'r cyfnod a ragnodwyd gan baragraff (2)(c) nid yw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Gwener y Groglith a dydd Nadolig nac unrhyw ddiwrnod sy'n wŷl banc i'w cyfrif.
Datganiadau
11.
—(1) At ddibenion adran 40(3)(a), rhagnodir, fel y cyfnod y mae awdurdod addysg lleol i baratoi ynddo y datganiad y cyfeirir ato yn adran 40(2), y cyfnod o—
(a) deng niwrnod o'r dyddiad y mae'r awdurdod yn cael copi o'r cynllun gweithredu o ran yr ysgol a gynhelir ac sydd dan sylw; neu
(b) deuddeng niwrnod ar ôl i'r cyfnod a ragnodwyd gan reoliad 10(2) ddod i ben,
pa un bynnag sy'n digwydd gynharaf.
(2) At ddibenion cyfrifo'r cyfnod a ragnodwyd gan baragraff (1) nid yw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Gwener y Groglith na dydd Nadolig nac unrhyw ddiwrnod sy'n wŷl banc i'w cyfrif.
Ffioedd am ddarparu'r adroddiad a'r crynodeb ohono a'r cynllun gweithredu
12.
—(1) Caiff awdurdod priodol neu berchennog ysgol arbennig nas cynhelir ei gwneud yn ofynnol bod ffi yn cael ei thalu (nad yw'n fwy na'r gost o'u cyflenwi) os ydynt yn darparu—
(a) o dan adran 38(4)(b) neu 41(4)(b)—
(i) copi o adroddiad ar gyfer unrhyw berson nad oes ganddo hawl fel arall i dderbyn copi o'r adroddiad hwnnw ac y mae ei gartref neu ei brif swyddfa y tu allan i radiws o 4.828032 o gilometrau (tair milltir) i'r ysgol; neu
(ii) copi o grynodeb ar gyfer unrhyw berson y darparwyd eisoes gopi o'r crynodeb hwnnw ar ei gyfer; neu
(b) o dan adran 39(7)(b) neu 42(5)(b), copi o gynllun gweithredu ar gyfer unrhyw berson—
(i) nad oes ganddo'r hawl fel arall i dderbyn copi o'r cynllun gweithredu hwnnw ac y mae ei gartref neu ei brif swyddfa y tu allan i radiws o 4.828032 o gilometrau (tair milltir) i'r ysgol; neu
(ii) y darparwyd eisoes gopi o'r cynllun ar ei gyfer.
RHAN 3
Arolygu Addysg Enwadol
Dehongli: Rhan 3
13.
Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn—
ystyr "addoli ar y cyd" ("collective worship") yw addoli ar y cyd fel sy'n ofynnol gan adran 70 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr "addysg enwadol" ("denominational education"), mewn perthynas ag ysgol, yw unrhyw addysg grefyddol—
(a) sy'n ofynnol gan adran 101(1)(a) o Ddeddf Addysg 2002[11] ac sydd i'w chynnwys yng nghwricwlwm sylfaenol yr ysgol, ond
(b) nad yw'n ofynnol, gan unrhyw ddeddfiad, ei rhoi'n unol â maes llafur y cytunwyd arno;
ystyr "arolygiad" ("inspection") yw arolygiad a wneir o ysgol o dan adran 50;
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw'r person sy'n arwain yr arolygiad; ac
ystyr "cynllun gweithredu" ("action plan") yw'r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6.
Cyfnodau rhwng arolygiadau
14.
—(1) Pan fydd yn ofynnol gan adran 50(1) i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol neu sefydledig sicrhau y rhoddir addysg enwadol i unrhyw ddisgyblion a bod cynnwys addoli ar y cyd yn yr ysgol yn cael ei arolygu, rhaid iddynt sicrhau bod yr arolygiad yn cael ei gynnal bob chwe blynedd.
(2) Mae cyfnodau'n mynd o—
(a) y dyddiad y cwblhawyd y cyfryw arolygiad diwethaf yn yr ysgol (o dan Ddeddf 1996 neu Ddeddf 2005); neu
(b) yn achos ysgol lle na chynhaliwyd y cyfryw arolygiad o'r blaen (o dan y naill Ddeddf na'r llall), y dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol.
Dewis arolygydd
15.
At ddibenion adran 50(2)(a) a (b), rhagnodir, yn berson y mae'n rhaid i lywodraethwyr sefydledig neu gorff llywodraethu (yn ôl y digwydd) ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr neu ysgol Gatholig Rufeinig ymgynghori ag ef cyn dewis person i arwain arolygiad, yr awdurdod esgobaethol priodol.
Adroddiadau a Chynlluniau Gweithredu
16.
—(1) Yn y rheoliad hwn, cyfeiriadau at baragraffau ac is-baragraffau o Atodlen 6 yw cyfeiriadau at baragraffau ac is-baragraffau (heb ymhelaethu ymhellach).
(2) At ddibenion paragraff 2(1), rhagnodir, fel y cyfnod y mae'n rhaid cynnal arolygiad ynddo, y cyfnod o bythefnos o'r dyddiad y cychwynnodd yr arolygiad.
(3) At ddibenion paragraff 2(2), rhagnodir, fel y cyfnod y mae'n rhaid i'r arolygydd baratoi ynddo, yn ysgrifenedig, adroddiad ar yr arolygiad a chrynodeb o'r adroddiad, y cyfnod o 35 o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad.
(4) At ddibenion paragraff 3(1), rhagnodir, fel y cyfnod y mae'n rhaid i'r corff llywodraethu baratoi cynllun gweithredu ynddo, y cyfnod o ddeugain a phump o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y rhoddwyd adroddiad gan yr arolygydd.
(5) At ddibenion paragraff 3(2), rhagnodir, fel y cyfnod y mae'n rhaid i'r corff llywodraethu anfon copïau ynddo o'r cynllun gweithredu at y personau y cyfeirir atynt yn yr is-baragraff hwnnw, pum niwrnod gwaith o'r dyddiad y bu iddynt orffen paratoi'r cynllun gweithredu.
(6) At ddibenion yr is-baragraff hwnnw, rhagnodir, yn bersonau y mae'n rhaid anfon copïau o'r cynllun gweithredu atynt o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (7) o'r rheoliad hwn (yn ychwanegol at y personau a grybwyllir yn is-baragraff 3(2)), yr holl bersonau sydd naill ai'n bersonau a gyflogir fel athrawon yn yr ysgol neu bersonau (ac eithrio disgyblion) sydd, er na chyflogir hwy felly, yn cymryd rhan yn addoli ar y cyd yr ysgol ("personau perthnasol").
(7) Yr amgylchiadau yw bod y personau perthnasol wedi gofyn am gopïau o'r cynllun gweithredu.
Ffioedd am ddarparu'r adroddiad a'r crynodeb ohono a'r cynllun gweithredu
17.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff corff llywodraethu ei gwneud yn ofynnol bod ffi yn cael ei thalu (nad yw'n fwy na'r gost o'u cyflenwi) os ydynt yn darparu—
(a) o dan baragraff 2(4)(b) o Atodlen 6—
(i) copi o adroddiad ar gyfer unrhyw berson sy'n gofyn am gopi ac y mae ei gartref neu ei brif swyddfa y tu allan i radiws o 4.828032 o gilometrau (tair milltir) i'r ysgol; neu
(ii) copi o grynodeb ar gyfer unrhyw berson y darparwyd eisoes gopi o'r crynodeb hwnnw ar ei gyfer; neu
(b) o dan baragraff 3(3)(b) o Atodlen 6, copi o gynllun gweithredu ar gyfer unrhyw berson—
(i) nad oes ganddo'r hawl fel arall i dderbyn copi o'r cynllun gweithredu hwnnw ac y mae ei gartref neu ei brif swyddfa y tu allan i radiws o 4.828032 o gilometrau (tair milltir) i'r ysgol; neu
(ii) y darparwyd eisoes gopi o'r cynllun gweithredu hwnnw ar ei gyfer.
(2) Ni chaniateir i gorff llywodraethu ei gwneud yn ofynnol bod ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1)(a) os yw'r ddogfen sy'n cynnwys y copi o'r adroddiad neu'r crynodeb, yn ôl y digwydd, yn rhan o ddogfen sy'n cynnwys copi o'r adroddiad neu o'r crynodeb y cyfeirir ato yn rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn, neu os yw wedi'i rhwymo wrthi mewn ffordd arall a bod ffi wedi'i thalu o dan reoliad 12 o'r Rheoliadau hyn.
RHAN 4
Gwasanaethau arolygu ysgolion yr Awdurdod Addysg Lleol
Gofyniad am gadw cyfrifon
18.
—(1) At ddibenion adran 52(5)(b), ar gyfer pob blwyddyn ariannol y mae awdurdod addysg lleol yn darparu gwasanaeth arolygu ysgolion ynddi, rhaid i'r awdurdod gadw cyfrifon o ran y gwasanaeth a ddarperir ganddynt yn y flwyddyn honno.
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw cyfnod o ddeuddeng mis yn cychwyn ar 1 Ebrill; ac
mae i "gwasanaeth arolygu ysgolion" yr ystyr a roddir i "school inspection service" yn adran 52(2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan 1 o Ddeddf Addysg 2005 ("Deddf 2005") yn ailddeddfu (gydag addasiadau) Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ("Deddf 1996") o ran Cymru. Mae system arolygiadau ysgolion ar wahân (a gwahanol) yn gymwys i Loegr. Fel yn Neddf 1996, ceir yn Neddf 2005 hithau fframwaith statudol ar gyfer arolygu ysgolion, ond mae'n gadael i'r Rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymdrin â llawer o'r manylion. Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o dan y darpariaethau a ailddeddfwyd yn Neddf 2005, yn rhagnodi'r manylion hynny. Maent yn atgyfnerthu gan fwyaf y darpariaethau a geir yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998, fel y'u diwygiwyd, sef y Rheoliadau y maent yn eu disodli. Maent hefyd yn atgyfnerthu Rheoliadau Addysg (Arolygwyr Cofrestredig) (Ffioedd) 1992. Crynhoir isod brif ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gan dynnu sylw at unrhyw newidiadau arwyddocaol i Reoliadau 1998. Cyfeiriadau at adrannau a Rhannau o Ddeddf 2005 a'r Atodlenni iddi yw'r cyfeiriadau isod yn y Nodyn Esboniadol hwn.
Mae Rhan 1 yn ymwneud â materion cyffredinol.
Mae rheoliad 2 yn dirymu Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 (fel y'u diwygiwyd) a Rheoliadau Addysg (Arolygwyr Cofrestredig) (Ffioedd) 1992. Mae hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005.
Mae rheoliad 3 yn diffinio termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau drwyddynt draw. Mae paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw (i bob pwrpas) yn cywiro camgymeriad yn Neddf 2005.
Mae Rhan 2 yn ymwneud ag arolygiadau ysgolion.
Mae rheoliad 4 yn diffinio'r termau a'r ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 2.
Mae rheoliad 5 yn rhagnodi ffi o £150 ar gyfer ymgofrestru'n arolygydd cofrestredig o dan adran 25.
Mae rheoliad 6 yn darparu bod arolygiadau'n cael eu cynnal bob chwe blynedd o'r amser yr arolygwyd yr ysgol ddiwethaf neu, os nad adolygwyd yr ysgol o'r blaen, o'r amser y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol.
Mae rheoliad 7 yn rhestru'r personau hynny y mae'n rhaid i'r awdurdod priodol eu hysbysu (fel arfer corff llywodraethu'r ysgol — gweler rheoliad 4(1)) ynghylch pryd y mae'r arolygiad i'w gynnal.
Mae rheoliad 8 yn nodi'r trefniadau sydd i'w gwneud gan yr awdurdod priodol ar gyfer cynnal cyfarfod rhieni etc cyn arolygiad, ac mae'n darparu mai dim ond y personau hynny a restrir a gaiff fod yn bresennol yn y cyfarfod. Yn ddarostyngedig i hynny, mae'n darparu bod yr arolygydd sy'n arwain yr arolygiad yn rheoli'r cyfarfod.
Mae rheoliad 9 yn darparu bod arolygiad i'w gwblhau o fewn pythefnos, a bod adroddiad ar yr arolygiad i'w gwblhau o fewn 35 o ddiwrnodau gwaith (fel a ddiffinnir yn rheoliad 3) i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol neu'r perchennog gymryd camau rhesymol ymarferol i sicrhau bod y rhieni'n cael crynodeb o'r adroddiad (y mae gan rieni hawl iddo o dan adran 38 (4) neu 41(4) o'r Ddeddf) o fewn deng niwrnod gwaith i'r amser y mae'r awdurdod neu'r perchennog yn cael yr adroddiad. Yn wahanol i'w ragflaenydd, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion annibynnol (sydd erbyn hyn yn ddarostyngedig i'w harolygu o dan Ddeddf 2002, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 8).
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol neu'r perchennog baratoi cynllun gweithredu o fewn y cyfnod o ddeugain a phump o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y mae'n cael yr adroddiad, ac iddo anfon copïau i'r personau a'r cyrff hynny sydd â'r hawl i gael copïau o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliad hwnnw (sy'n amrywio yn ôl p'un a yw ysgol wedi'i dynodi'n ysgol sy'n peri pryder ai peidio). Y rhai y cyfeirir atynt yn y Ddeddf ac a ragnodir ym mharagraff (3) o reoliad 10 yw'r personau a'r cyrff dan sylw. Yn wahanol i'w ragflaenydd, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion annibynnol (sydd bellach yn ddarostyngedig i'w harolygu o dan Ddeddf 2002, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 8).
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol baratoi'r datganiad y mae'n ofynnol iddo ei baratoi o dan adran 40(3)(a) o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 12 yn caniatáu codi ffioedd am adroddiadau arolygu, crynodebau a chynlluniau gweithredu (ffioedd nad ydynt yn fwy na'r gost o'u cyflenwi) yn yr achosion a bennir yn y rheoliad hwnnw.
Mae Rhan 3 yn ymwneud ag arolygu addysg enwadol.
Mae rheoliad 13 yn diffinio'r termau a'r ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 3.
Mae rheoliad 14 yn darparu bod y cyfryw arolygiadau yn cael eu cynnal bob chwe blynedd o'r amser yr arolygwyd y ddarpariaeth ddiwethaf neu, os nad adolygwyd y ddarpariaeth o'r blaen, o'r adeg y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol.
Gwneir rheoliad 15 o dan bŵer newydd. Mae'n darparu ar gyfer ymgynghori â'r awdurdod esgobaethol priodol ynghylch dewis arolygydd.
Mae rheoliad 16 yn rhagnodi cyfnodau y mae'r cyfryw arolygiadau i'w gwneud ynddynt, y mae adroddiad arolygu a chynllun gweithredu i'w paratoi, ac y mae cynllun gweithredu i'w anfon i'r sawl sydd â hawl i gael copi ohono. Y personau y cyfeirir atynt yn y Ddeddf a'r personau ychwanegol a ragnodir gan baragraff (6), os byddant yn gofyn am gopi, yw'r personau hynny.
Mae rheoliad 17 yn rhagnodi achosion pan ganiateir codi ffi am gopi o adroddiad arolygu, crynodeb neu o gynllun gweithredu (ffi nad yw'n fwy na'r gost o'i gyflenwi).
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwasanaethau arolygu ysgolion yr awdurdod addysg lleol.
Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gadw cyfrifon o ran y cyfryw wasanaeth.
Notes:
[1]
2005 c.18. Am ystyr rheoliadau a rhagnodi gweler adrannau 31, 43 a 50 (8) am "regulations" a "prescribed" .back
[2]
O.S.1998/1866.back
[3]
O.S. 1999/1440.back
[4]
O.S. 2004/784 (Cy.81).back
[5]
O.S.1992/2025.back
[6]
OS.2005/2911 (Cy.208).back
[7]
1998 p.31, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/3037.back
[8]
1996 p.57.back
[9]
1971 p.80.back
[10]
1989 p.41. Diwygiwyd adran 22(1) gan Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 2(2) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35) ac adran 116 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(p.38).back
[11]
2002 p.32.back
[12]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091375 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
7 July 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061714w.html