BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1716 (Cy.178)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061716w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1716 (Cy.178)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 28 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

     Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4].

     Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972—

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001[
5].

Diwygio Rheoliadau 2001
     2. —(1) Diwygier Rheoliadau 2001 fel a ganlyn.

    (2) Ym mhob un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3), yn lle'r geiriau "Bwrdd Safonau Gwin" lle bynnag y digwyddont, rhodder y gair "Asiantaeth"

    (3) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

    (4) Yn rheoliad 2(1)—

    (5) Yn rheoliad 2(1)—


Darpariaethau trosiannol
    
3. —(1) Mae unrhyw beth a wneir gan y Bwrdd Safonau Gwin neu a wneir mewn perthynas ag ef drwy arfer ei swyddogaethau o dan Reoliadau 2001 cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn effeithiol fel petai wedi'i wneud gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu wedi'i wneud mewn perthynas â hi.

    (2) Caniateir parhau unrhyw beth sydd, adeg y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, wrthi yn cael ei wneud gan y Bwrdd Safonau Gwin neu mewn perthynas ag ef, drwy arfer ei bwerau o dan Reoliadau 2001, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu mewn perthynas ag ef.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad at y Bwrdd Safonau Gwin mewn unrhyw ddogfen sy'n ymwneud ag unrhyw beth y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo, i'r graddau y mae'n angenrheidiol er mwyn rhoi effaith i'r darpariaethau hynny, i'w ddehongli fel petai'n gyfeiriad at yr Asiantaeth Safonau Bwyd.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
21]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mehefin 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 2(8)


YR ATODLEN SYDD I'W RHOI YN LLE ATODLEN 1







BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061716w.html