BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Pysgota Môr (Stoc o Gegdduon Gogleddol) (Cymru) 2006 Rhif 1796 (Cy.191)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061796w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1796 (Cy.191)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Stoc o Gegdduon Gogleddol) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 5 Gorffennaf 2006 
  Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Stoc o Gegdduon Gogleddol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 7 Gorfennaf 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Nid oes dim ym mharagraff (2) yn rhagfarnu effaith adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 o ran unrhyw ddarpariaeth sy'n creu tramgwydd neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â hi.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn—

    (2) Ceir trin unrhyw wybodaeth a roddir i unrhyw awdurdod at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn fel pe bai hefyd wedi'i rhoi at ddibenion darpariaeth gyfatebol.

    (3) Mae i ymadroddion yn y Gorchymyn hwn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad 811/04, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.

Cofnodi a rhoi cyfrif o amser a dreulir yn yr ardaloedd
     3. Mae'r person sydd â gofal cwch pysgota sy'n methu â chofnodi yn ei lyfr lòg yr amser a dreuliwyd yn y parth adfer cegdduon a rhoi cyfrif amdano yn unol ag Erthyglau 19e a 19k o Reoliad 2847/93 fel y'u cymhwysir gan Erthygl 7 o Reoliad 811/2004 yn euog o dramgwydd.

Hysbysiad ymlaen llaw
    
4. —(1) Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota y mae Erthygl 8 o Reoliad 811/04 yn gymwys iddo, sy'n dod i borthladd yng Nghymru heb roi'r wybodaeth y mae'r Erthygl honno'n gofyn amdani, yn euog o dramgwydd.

    (2) Caniateir i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, drwy gyfarwyddyd ysgrifenedig neu ar lafar i'r person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota y mae Erthygl 8(2) o Reoliad 811/04 yn gymwys iddo ac sy'n glanio mewn porthladd yng Nghymru, ei gwneud yn ofynnol nad yw'r dadlwytho y cyfeirir ato yn Erthygl 8(2) o Reoliad 811/04 yn cychwyn hyd nes bod swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig yn ei awdurdodi.

    (3) Mae person sydd â gofal cwch pysgota y dadlwythir ohono'n groes i unrhyw ofyniad o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

    (4) Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota y mae Erthygl 8(3) o Reoliad 811/04 yn gymwys iddo sy'n methu â rhoi gwybodaeth fel sy'n ofynnol gan yr Erthygl honno yn euog o dramgwydd.

    (5) At ddibenion paragraff (1) a (4), mae'r wybodaeth i'w roi i Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Glanio cegdduon mewn porthladdoedd dynodedig
    
5. —(1) Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota sy'n glanio cegdduon gogleddol yng Nghymru yn groes i Erthygl 9 o Reoliad 811/04 yn euog o dramgwydd.

    (2) Os caiff cegdduon gogleddol eu glanio gyntaf o gwch pysgota mewn porthladd yng Nghymru a ddynodwyd fel a bennir ym mharagraff (4) ac—

y rheolwr at ddibenion yr Erthygl honno yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

    (3) Os caiff cegdduon gogleddol eu glanio o gwch pysgota mewn porthladd yng Nghymru a ddynodwyd fel a bennir ym mharagraff (4) ac—

y rheolwr at ddibenion yr Erthygl honno yw'r person neu'r corff hwnnw.

    (4) O ran glaniadau yng Nghymru, mae'r porthladdoedd, a phan fo hynny'n gymwys, y mannau glanio ynddynt a restrir yn nhrwydded y DU, wedi'u dynodi at ddibenion Erthygl 9 o Reoliad 811/04.

Cofnodi gwybodaeth am ddalfeydd o bysgod
    
6. Mae person sydd â gofal cwch pysgota sydd â lwfans goddefiant sy'n fwy na 8% y cyfeirir ato yn Erthygl 10 o Reoliad 811/04, yn euog o dramgwydd.

Cymysgu rhywogaethau
    
7. Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota y caiff cegdduon gogleddol eu stowio neu eu cadw ynddo yn groes i Erthygl 11 o Reoliad 811/04, yn euog o dramgwydd.

Cludo cegdduon gogleddol
    
8. Os cludir unrhyw symiau o gegdduon gogleddol yn groes i Erthygl 12(2) o Reoliad 811/04, mae perchennog neu huriwr y cerbyd a ddefnyddir i gludo'r cegdduon, a'r person sy'n gyfrifol amdano, yn euog o dramgwydd.

Cosbau ac amddiffyniad
    
9. —(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthyglau 3, 4, 5, 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol yn agored—

    (2) Caiff y llys y collfarnir person ganddo neu ger ei fron o dramgwydd o dan erthygl 4, 5, 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, yn ddarostyngedig i baragraff (4), hefyd orchymyn fforffedu:

    (3) Bydd unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 4, 5, 6, 7, neu 8 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, yn ddarostyngedig i baragraff (4), hefyd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd yn eu cylch.

    (4) Ni fydd person yn agored i ddirwy o dan baragraff (3) o ran tramgwydd o'r fath os bydd y llys, o dan baragraff (2), yn gorchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd yn eu cylch; os gosodir dirwy o dan baragraff (3) o ran unrhyw dramgwydd, ni fydd y pŵer gan y llys o dan baragraff (2) i orchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd yn eu cylch.

    (5) Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at bysgod y cyflawnwyd tramgwydd yn eu cylch yn cynnwys pysgod a ddaliwyd ar unrhyw amser yn y cyfnod pan gyflawnwyd y tramgwydd.

Casglu dirwyon
    
10. —(1) Os gosodir dirwy gan lys ynadon ar berson sydd â gofal cwch pysgota a gollfernir gan y llys o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff y llys—

    (2) Mae adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[6] (gohirio dyroddi gwarantau atafaelu a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

    (3) Pan fydd gorchymyn, o ran dirwy ynghylch tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, o dan Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981[7] neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995[8] (y mae'r ddwy yn ymwneud â throsglwyddo dirwyon o un awdurdodaeth i un arall) yn pennu ardal cyfiawnder lleol yng Nghymru, mae'r erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi cael eu gosod gan lys yn yr ardal cyfiawnder lleol honno.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeining mewn cysylltiad â chychod pysgota
     11. —(1) At ddibenion gorfodi erthyglau 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau cyfatebol, neu er mwyn gweithredu neu hwyluso gweithrediad unrhyw fonitro sy'n deillio o Erthygl 13 o Reoliad 811/04, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota yng Nghymru.

    (2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.

    (3) Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar fwrdd y cwch yn dod ger ei fron a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn angenrheidiol at y diben a grwybwyllir ym mharagraff (1) ac, yn benodol—

ond nid oes dim yn is-baragraff (d) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chymryd i feddiant a dal gafael ynddi ac eithrio tra delir gafael yn y cwch mewn porthladd.

    (4) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod tramgwydd o dan erthygl 3, 6 neu 7, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, wedi cael ei gyflawni ar unrhyw amser ynghylch cwch pysgota, caiff y swyddog—

ac os bydd swyddog o'r fath yn dal gafael neu yn ei gwneud yn ofynnol y delir gafael ar y cwch bydd y swyddog yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y delir gafael ar y cwch (neu fod hynny'n ofynnol) hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig pellach a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar dir
    
12. —(1) At ddibenion gorfodi erthyglau 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethu cyfatebol, neu er mwyn gweithredu neu hwyluso gweithrediad unrhyw fonitro sy'n deillio o Erthygl 13 o Reoliad 811/04, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig—

    (2) Mae darpariaethau paragraff (1) uchod hefyd yn gymwys o ran unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), neu o ran unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol i gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo pysgod neu gynhyrchion pysgodfeydd, fel y maent yn gymwys o ran mangreoedd ac, yn achos cerbyd, mae'n cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cerbyd stopio ar unrhyw adeg ac, os yw'n angenrheidiol, cyfarwyddo'r cerbyd i ryw le arall er mwyn hwyluso'r archwiliad.

    (3) Os yw ynad heddwch ar sail gwybodaeth ysgrifenedig o dan lw wedi'i fodloni—

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i gymryd meddiant o bysgod ac offer pysgota
    
13. Yng Nghymru, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, o ran unrhyw gwch pysgota gymryd meddiant—

o dan erthygl 4, 5, 6, 7 neu 8 neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol.

Diogelu swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
    
14. Nid yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig neu berson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd erthygl 11(2) neu 12(1)(b) neu awdurdodiad o dan erthygl 12(3) yn atebol yn unrhyw achos sifil neu achos troseddol am unrhyw beth a wnaed wrth arfer yn honedig y pwerau a roddwyd iddo gan erthyglau 11 i 13 os yw'r llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi cael ei gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a'i bod wedi cael ei chyflawni gyda sgìl a gofal rhesymol.

Rhwystro swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
    
15. —(1) Bydd unrhyw berson sydd—

yn euog o dramgwydd.

    (2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod yn agored—

Darpariaethau o ran tramgwyddau
    
16. —(1) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, partner, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (3) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw swyddog o'r bartneriaeth neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Derbynioldeb tystiolaeth llyfrau lòg a dogfennau eraill
    
17. —(1) Bydd unrhyw—

o Reoliad 2847/93, mewn unrhyw weithdrefnau am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt ac felly hefyd y bydd unrhyw gofnod ychwanegol mewn llyfr lòg a wneir yn unol â'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol.

    (2) At ddibenion paragraff (1), ystyr "yr wybodaeth sy'n ofynnol" yw—

fel a gyfathrebir drwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren ac a sefydlwyd o dan Erthygl 3(1) o Reoliad 2847/93.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi yng Nghymru ddarpariaethau monitro, arolygu a gwyliadwriaeth Rheoliad y Cyngor (EC) 811/2004 (OJ Rhif L150 30.4.2004, t.1).

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch cofnodi a rhoi cyfrif o amser a dreulir ar y môr (erthygl 3), darpariaethau ar gyfer hysbysu gan gychod pysgota i gael mynd a glanio cegdduon gogleddol mewn porthladdoedd dynodedig (erthyglau 4 a 5), lwfans goddefiant ynghylch cofnodi dalfeydd o bysgod mewn llyfrau lòg (erthygl 6), darpariaeth ynghylch cymysgu rhywogaethau mewn cynwysyddion ar fwrdd cychod pysgota (erthygl 7) a gweithdrefnau ar gyfer cludo cegdduon gogleddol (erthygl 8).

Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau o ran mynd yn groes, gan y person sydd â gofal y cwch pysgota (neu'r unigolion y cyfeirir atynt yn benodol) i ddarpariaethau'r Rheoliad. Mae'r tramgwyddau'n ymwneud â methu â chofnodi a rhoi cyfrif o amser mewn llyfr lòg (erthygl 3), methu â darparu gwybodaeth benodol a/neu ddilyn cyfarwyddiadau swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig wrth lanio mewn porthladd dynodedig (erthygl 4), methu â glanio mewn porthladd dynodedig lle mae mwy na dwy dunnell o gegdduon gogleddol i gael eu glanio (erthygl 5), methu â chydymffurfio â'r goddefiant 8% ar gyfer cofnodion llyfrau lòg ynghylch dalfeydd o bysgod (erthygl 6), a chymysgu rhywogaethau a chludo cegdduon gogleddol (erthyglau 7 a 8) mewn modd sy'n anghyson â'r Rheoliad.

Mae erthyglau 9-16 yn gwneud darpariaethau ar gyfer gorfodi. Mae'r Gorchymyn yn darparu bod person sy'n euog o dramgwydd, heblaw am dramgwydd o dan erthygl 15, yn agored ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na £50,000 ac ar gollfarn ar dditiad i ddirwy. Caniateir dirwyon pellach hyd at a chan gynnwys gwerth unrhyw bysgod a gaiff eu dal wrth gyflawni'r tramgwydd a chaiff y llys hefyd orchymyn cymryd meddiant o'r pysgod a ddaliwyd neu'r cyfarpar a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd neu'r gweithgareddau sy'n arwain ato (erthygl 9).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer casglu'r dirwyon a gaiff eu gosod, neu pan ymdrinnir â hwy fel pe baent wedi'u gosod, gan lys ynadon (erthygl 10).

At ddibenion gorfodi'r darpariaethau uchod, mae'r Gorchymyn yn gosod ar swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig y pŵer i fynd i fangre, mynd ar fwrdd cychod pysgota, stopio a chwilio cerbydau sy'n cludo pysgod, archwilio pysgod, ei gwneud yn ofynnol i ddangos dogfennau, chwilio am ddogfennau a chymryd meddiant ohonynt, cymryd cwch i'r porthladd cyfleus agosaf a chymryd meddiant o bysgod ac offer pysgota (erthyglau 11-13). Gosodir diogelwch y swyddogion hynny rhag atebolrwydd yn erthygl 14, ac mae eu rhwystro yn dramgwydd o dan erthygl 15, gyda dirwy hyd at y mwyafswm statudol ar gollfarn ddiannod a dirwy ar gollfarn ar dditiad. Mae erthyglau 16 a 17 yn ymdrin â thramgwyddau corfforaethol a thramgwyddau cyfatebol a derbynioldeb dogfennau mewn tystiolaeth.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Atodiadau i'r Gorchymyn hwn a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Pysgodfeydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.29. Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] 1998 p.38.back

[3] OJ Rhif L276, 10.10.1983, t.1; yr offeryn diwygio diwethaf yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1804/2005 (OJ Rhif L290, 4.11.2005, t.10).back

[4] OJ Rhif L261, 20.10.1993, t.1; yr offeryn diwygio diwethaf yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 768/2005 (OJ Rhif L128, 21.5.2005, t.1)back

[5] OJ Rhif L150, 30.4.2004, t.1; corigendwm: L185, 27.5.2004, t.1.back

[6] 1980 p. 43. Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48), adrannau 37 a 46, a Deddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 109(1) ac Atodlen 8 paragraff 219(a).back

[7] O.S. 1981/1675 (GI 26).back

[8] 1995 p.46.back

[9] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091381 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 13 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061796w.html