BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006 Rhif 1851 (Cy.194)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061851w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1851 (Cy.194)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 11 Gorffennaf 2006 
  Yn dod i rym 14 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freinir ynddo bellach[2], ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. O ran y Rheoliadau hyn—

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson—

    (2) Ni fydd y gwaharddiad a osodir gan baragraff (1) yn gymwys os yw'r bwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys yn cael ei fewnforio o Wladwriaeth AEE, os yw'r bwyd—

ac allforir ef, neu mae i'w allforio i Wladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig.

Cosb a Gorfodi
    
4. —(1) Bydd unrhyw berson sy'n tramgwyddo neu sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

    (3) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
    
5. —(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

    (2) Bydd adran 9 o'r Ddeddf[5] (archwilio ac atafaelu bwyd dan amheuaeth) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd y byddai'n dramgwydd ei werthu oddi tanynt yn fwyd nad oedd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

Rhagdybiaeth o ran bwyd mewn sypiau, lotiau neu lwythi
     6. Pan dorrir unrhyw un o ofynion y Rheoliadau hyn o ran unrhyw fwyd a phan fo'r bwyd hwnnw yn rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhagdybir, oni bai bod prawf i'r gwrthwyneb, bod y cyfan o'r bwyd yn y swp, lot neu lwyth hwnnw yn methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Gorffennaf 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn (yn ddarostyngedig i eithriadau mewn amgylchiadau penodol sy'n ymwneud â mewnforion o Wladwriaethau'r AEE) yn gwahardd gwerthu, meddu gyda'r bwriad o werthu, cynnig, arddangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a mewnforio i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, unrhyw fwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa, neu sy'n cynnwys Cafa-cafa (sef planhigyn neu ran o blanhigyn, neu ddarn o blanhigyn o'r fath, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum) (rheoliad 3). Gellir trin unrhyw fwyd o'r fath fel bwyd sy'n anaddas i'w fwyta gan bobl a gall fod yn agored i'w atafaelu a'i ddinistrio (rheoliad 5(3)).

Mae'r Rheoliadau yn creu tramgwydd o ran eu torri ac maent yn darparu ar gyfer eu gorfodi gan awdurdodau bwyd (rheoliad 4). Maent hefyd yn creu rhagdybiaeth, oni bai bod prawf i'r gwrthwyneb, pan fo rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd yn torri'r Rheoliadau, bernir bod y swp, lot neu lwyth cyfan yn torri'r Rheoliadau (rheoliad 6).

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o ddrafft o'r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol a rheolau gwasanaethau y Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/48/EC (OJ Rhif L217, 5.8.1998, t.18). Drwy amryfusedd, ni hysbyswyd ef o'r Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002 ac fe'u dirymwyd wedi hynny gan Reoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) (Dirymu) 2003. Mae'r Rheoliadau hyn yn cymryd lle Rheoliadau 2002.

Paratowyd Arfarniad Effaith Rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16. Diwygiodd O.S. 2004/2990 y diffiniad o "food" yn adran 1 o'r Ddeddf ac fe ddiwygiodd y gofynion ymgynghori yn adran 48 o'r Ddeddf er mwyn bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 178/2002.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1; sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd.back

[4] 1984 p.22back

[5] Diwgiwyd adran 9 gan O.S. 2004/3279.back

[6] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091390 6


 © Crown copyright 2006

Prepared 21 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061851w.html