BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1863 (Cy.196)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061863w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1863 (Cy.196)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 12 Gorffennaf 2006 
  Yn dod i rym 14 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysg Uwch 1998[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 14 Gorffennaf 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio'r Prif Reoliadau
     3. Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn.

    
4. Yn rheoliad 2(1)—

     5. Yn rheoliad 2, hepgorer paragraffau (2) i (5).

    
6. Mewnosoder ar ôl paragraff (4) o reoliad 3, y paragraff canlynol—

     7. Yn rheoliad 4(2)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".

    
8. Yn rheoliad 6(4), ar ôl y geiriau "Er gwaethaf paragraff (1)" mewnosoder y geiriau "ac yn ddarostyngedig i baragraff 6(4B).".

    
9. Ar ôl rheoliad 6(4) mewnosoder—

     10. Ar ôl rheoliad 6(4A) (a fewnosodir gan reoliad 9 uchod), mewnosoder—

     11. Yn rheoliad 6(9) mewnosoder—

     12. Yn rheoliad 7(1), yn lle "baragraff (3)" rhodder "baragraffau (3) a (3A)" a hepgorer y geiriau "neu grant at gostau byw".

    
13. Yn rheoliad 7(2), yn lle'r geiriau "baragraffau (3) a (4)" rhodder y geiriau "paragraffau (3A) a (4)".

    
14. Ar ôl rheoliad 7(3) mewnosoder—

     15. Yn lle rheoliad 7(4) rhodder—

     16. Ar ôl rheoliad 7(7) mewnosoder—

     17. Yn lle rheoliad 10(2)(a), rhodder y canlynol—

     18. Hepgorer rheoliad 10(2)(b) ac (c).

    
19. Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder y Rhan newydd sy'n dilyn—



     20. Yn y penawdau ar gyfer Rhan 6 a rheoliad 18 ar ôl y geiriau "gostau byw" mewnosoder y geiriau "a chostau eraill".

    
21. Yn rheoliadau 18(1), 18(2), 18(3), 18(5) ac 18(7) hepgorer y geiriau "at gostau byw" bob tro y maent yn digwydd.

    
22. Yn rheoliad 18(2) rhodder yn lle'r geiriau "os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano", y geiriau "os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo".

    
23. Ar ôl rheoliad 18(6) mewnosoder—

     24. Yn rheoliad 18(8)(b) rhodder yn lle'r geiriau "y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1", y geiriau "fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1", a hepgorer y "neu" sy'n dod o flaen yr is-baragraff hwnnw.

    
25. Ar ôl rheoliad 18(8)(b) mewnosoder—

     26. Yn rheoliad 30(2) ar ôl "1992" mewnosoder y geiriau ", neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau o ran annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno".

    
27. Yn rheoliad 30(5)(c), ar ôl "£26,500," mewnosoder "neu os yw'r myfyriwr pan fydd yn gwneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd,".

    
28. Yn rheoliad 30(6)(ch) yn lle'r gair "cynhaliaeth" rhodder y geiriau "cymorth arbennig".

    
29. Yn rheoliad 31(3) rhodder yn lle'r geiriau "os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano", y geiriau "os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo".

    
30. Yn rheoliad 39(2)(b) rhodder yn lle'r geiriau "fel y crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1", "fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1".

    
31. Ar ôl rheoliad 39(2)(b) mewnosoder—

     32. Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder—



     33. Ar ôl rheoliad 50(1), mewnosoder—

     34. Yn rheoliad 50(2)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".

    
35. Yn rheoliad 50(7) rhodder yn lle'r geiriau "os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano", y geiriau "os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo".

    
36. Yn lle paragraff (13) a (14) o reoliad 50, rhodder—

     37. Yn rheoliad 53(5)(e) yn lle'r ffigur "£9.50" rhodder y ffigur "£2.00".

    
38. Yn rheoliad 53(6)(a), yn lle'r ffigurau "£9.50", "£7.63" a "£5.93", rhodder y ffigurau "£15.92", "£12.79" a "£9.94", yn eu trefn.

    
39. Hepgorer rheoliad 55(3)(a) ac yn lle rheoliad 55 (3)(b) rhodder y canlynol—

     40. Yn rheoliad 62(3)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".

    
41. Yn rheoliad 62(7), rhodder yn lle'r geiriau "os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano", y geiriau "os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo".

    
42. Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

    
43. Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder Atodlen 3A a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

    
44. Yn lle paragraff 3(4) o Atodlen 4 rhodder—

     45. Yn lle paragraff 4(2) o Atodlen 4 rhodder—

     46. Ym mharagraff 10(4)(b) a (c) o Atodlen 4 mewnosoder ar ôl y geiriau "yn fwy na £22,560" y geiriau "os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan yr hen drefn neu'n fwy na £37,900 os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan y drefn newydd.".

    
47. Ar ôl paragraff 10 o Atodlen 4 mewnosoder y paragraff newydd canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 42


Yr Atodlen a roddir yn lle Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau








ATODLEN 2
Rheoliad 43







EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 ("y Prif Reoliadau"). Ceir crynodeb o effaith y prif newidiadau isod.

Newidiadau a wneir i weithredu gofynion yr UE

(Rheoliadau 4(a), 5, 7, 17 — 22, 24, 25, 29 — 31, 34 — 36, 39 — 42 ac Atodlen 1).

Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf cymhwystra penodol er mwyn iddi fod yn bosibl iddynt fod yn gymwys i gael cymorth tuag at naill ai eu ffioedd hyfforddi yn unig neu eu ffioedd hyfforddi a chymorth cynhaliaeth. Diwygiwyd y meini prawf hyn ac maent yn cynnwys newidiadau a wnaed wrth weithredu Cyfarwyddeb yr UE 2004/38 ar hawliau gwladolion y GE a'u teuluoedd i symud a phreswylio mewn Aelod-wladwriaethau eraill. Gosodir y meini prawf newydd yn Atodlen 1 ddiwygiedig i'r Prif Reoliadau a amnewidir gan y Rheoliadau hyn.

Mae'r newidiadau'n cyflwyno categorïau newydd o fyfyrwyr y mae'n bosibl iddynt fod yn gymwys i gael cymorth. Maent yn cynnwys:

    • Gwladolion y GE ac aelodau o'u teulu sy'n caffael yr hawl i breswylio'n barhaol yn y DU (ar ôl cyfnod parhaus o bum mlynedd yn preswylio yn y DU) (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);

    • Aelodau o deulu gwladolion y GE sy'n anweithgar yn economaidd sy'n dal heb gaffael yr hawl i breswylio'n barhaol (cymorth ffioedd hyfforddi yn unig);

    • Personau o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu bersonau hunangyflogedig Swisaidd ac aelodau o'u teulu (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);

    • Perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol gweithwyr mudol o'r AEE neu Swisaidd (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);

    • Gweithwyr "y ffin" a phersonau hunan-gyflogedig "y ffin" (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);

    • Plant gwladolion/gwŷr neu wragedd neu bartneriaid sifil gwladolion Swisaidd (cymorth ffioedd hyfforddi a chymorth cynhaliaeth).

Mae'r newid hefyd yn galluogi gwneud taliadau cymorth pan fo myfyrwyr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol neu'n dod yn un o'r personau canlynol o'r AEE neu Swisaidd: gweithiwr; person hunan-gyflogedig; gweithiwr y ffin neu berson hunan-gyflogedig y ffin neu aelod o deulu person o'r fath neu blentyn gwladolyn Swisaidd yn ystod blwyddyn academaidd.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud nifer o newidiadau eraill o ganlyniad i'r newidiadau yn yr Atodlen 1 newydd.

Benthyciadau ffioedd coleg

(Rheoliadau 4(b), 32, 43 ac Atodlen 2)

Mae diwygiadau i'r Prif Reoliadau yn cyflwyno ffurf newydd ar gymorth sef benthyciad o ran ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu i goleg Prifysgol Caergrawnt mewn cysylltiad â bod yn bresennol i ddilyn cwrs cymhwysol.

Newidiadau eraill

Diwygir darpariaethau canlynol y Prif Reoliadau, ac ychwanegir darpariaethau newydd fel a ganlyn—

    • Rheoliad 3 (Darpariaethau canlyniadol): diwygir er mwyn ei gwneud yn glir bod cyfeiriadau yn y Rheoliadau at yr Ysgrifennydd Gwladol i'w darllen fel cyfeiriadau (neu'n cynnwys cyfeiriadau) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru (rheoliad 6);

    • Rheoliad 6 (Cyfnod cymhwystra): diwygir o ran categorïau penodol o fyfyrwyr cymwys (rheoliadau 8 — 11);

    • Rheoliad 7: rhai newididau i'r rheolau astudio blaenorol (rheoliadau 12 — 16 a 23);

    • Rheoliad 11A newydd: mae'n darparu na chaniateir i grant neu fenthciad am ffioedd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr, ac er mwyn cael benthyciad rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 19);

    • Rheoliad 30: newidiadau a wneir i reolau ynghylch cymhwystra am grant cymorth arbennig (rheoliadau 26 — 28);

    • Rheoliad 50: newidiadau a wneir i reolau ynghylch cymhwystra myfyrwyr rhan-amser fel bod gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer wrth gefn i roi cymhwystra mewn achos nad ymwneir ag ef yn ddatganedig (gan ddwyn y rheolau yn y cyswllt hwn yn unol â'r rhai ar gyfer myfyrwyr llawn-amser) (rheolaiad 33);

    • Rheoliad 53: newidiadau i symiau penodol sydd i'w didynnu wrth gyfrifo'r cymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser (rheoliadau 37 — 38);

    • Atodlen 4: newidiadau i'r rheolau sy'n rheoli asesu ariannol cyfraniadau myfyrwyr at cymorth ariannol (rheoliadau 44 — 47).


Notes:

[1] 1998 p. 30; mewnosodwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)).back

[2] O.S. 2006/126 (Cy.19).back

[3] O.S. 2003/1994.back

[4] 1968 c. 46.back

[5] 1998 p.38.back

[6] OJ L158, 30.04.2004, t.77— 123.back

[7] Cm. 2073.back

[8] Cm. 2183.back

[9] Cm. 4904.back

[10] 1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).back

[11] OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/D— Dn 1968 (II) t.475).back



English version



ISBN 0 11 091388 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 19 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061863w.html