BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2237 (Cy.199)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
16 Awst 2006 | |
|
Yn dod i rym |
29 Awst 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 15(4), 32(2) a 88(2) Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 29 Awst 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992
2.
Yn erthygl 2(1) (cymhwyso adran 32 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992[2] ar ôl "Epizootic haemorrhagic virus disease" mewnosoder "Equine infectious anaemia".
Diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996
3.
Yn Rhan I o Atodlen 1 (Clefydau Penodedig) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 [3] ar ôl "Epizootic haemorrhagic virus disease" mewnosoder "Equine infectious anaemia".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
Jane Hutt
Y Trefnydd a'r Gweinidog dros Gydraddoldebau a Phlant
16 Awst 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992 (O.S. 1992/3159) drwy ychwanegu "equine infectious anaemia" i'r rhestr clefydau y mae adran 32 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gymwys iddynt (ac y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru beri i anifeiliaid gael eu cigydda oddi tano).
Mae erthygl 3 yn diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (O.S. 1996/2628) drwy ychwanegu "equine infectious anaemia" i'r rhestr clefydau penodedig y mae'r darpariaethau hysbysu yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwnnw yn gymwys iddynt.
Notes:
[1]
1981 p.22, fel y'i diwigiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), ac O.S. 2003/1734. Trosglwyddwyd pwerau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd pwerau Ysgrifennydd Gwladol yr Alban i'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan O.S. 1999/3141 ac yna fe'u trosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan O.S. 2002/794. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan O.S. 2004/3044.back
[2]
O.S. 1992/3159, a ddiwigiwyd gan O.S. 2003/130; mae offerynnau diwygio eraill, nad ydynt yn berthnasol.back
[3]
O.S. 1996/2628; Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1645 a 2003/130.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091399 X
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
4 October 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062237w.html