BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006 Rhif 2607 (Cy.220)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062607w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2607 (Cy.220)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 26 Medi 2006 
  Yn dod i rym 30 Medi 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol—



RHAN 1

Darpariaethau Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Medi 2006.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn mae i ymadroddion nas diffinnir ynddynt ac sy'n digwydd ym Mhenderfyniad y Comisiwn 92/353/EEC[3] neu Benderfyniad y Comisiwn 96/78/EC[4] yr ystyr sydd iddynt at ddibenion y Penderfyniadau hynny.



RHAN 2

Cydnabyddiaeth i Gyrff

Meini prawf cydnabyddiaeth
     3. —(1) Er mwyn cael ei gydnabod neu ei chydnabod yn gorff cydnabyddedig, rhaid i gorff neu gymdeithas—

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gydnabod unrhyw gorff neu gymdeithas sy'n bodloni'r meini prawf a geir ym mharagraff (1).

Gwrthod cydnabod cyrff neu dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrthynt
    
4. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cydnabod corff neu gymdeithas, neu caiff dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrtho neu oddi wrthi, os yw'r corff neu'r gymdeithas—

    (2) Os oes corff cydnabyddedig eisoes yn bodoli mewn cysylltiad â brid penodol o geffyl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cydnabod corff neu gymdeithas sy'n cynrychioli'r un brid o geffyl—

    (3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn gwrthod cydnabod corff neu gymdeithas, neu'n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrtho neu oddi wrthi, rhaid iddo roi'n ysgrifenedig i'r corff hwnnw neu i'r gymdeithas honno y rhesymau am wrthod cydnabyddiaeth neu am ei thynnu'n ôl.

Sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol
    
5. —(1) Caiff person wneud sylwadau yn erbyn penderfyniad i wrthod cydnabyddiaeth i gorff neu gymdeithas neu i'w thynnu'n ôl oddi wrtho neu oddi wrthi o dan reoliad 4, a hynny'n ysgrifenedig ac i berson a benodir i'r diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Bydd y person a benodir yn ystyried y sylwadau ac yn rhoi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad terfynol ac o'r rhesymau drosto.



RHAN 3

Ffurf a Chynnwys Llyfr Gre

Rhannu prif adran llyfr gre
    
6. Rhaid i gorff cydnabyddedig beidio â rhannu prif adran ei lyfr gre ac eithrio yn ddosbarthau gwahanol yn ôl rhinweddau'r ceffylau.

Cofnod gorfodol ym mhrif adran llyfr gre
    
7. —(1) Rhaid i gorff cydnabyddedig gofnodi ceffyl ym mhrif adran ei lyfr gre—

    (2) Os yw ceffyl yn gymwys i'w gofnodi mewn adran atodol o lyfr gre yn unol â'r meini prawf a geir yn rheoliad 8, rhaid i gorff cydnabyddedig ganiatáu i epil y ceffyl hwnnw gael ei gynnwys ym mhrif adran ei lyfr gre.

Cofnod yn adran atodol llyfr gre
    
8. Os nad yw ceffyl yn bodloni'r meini prawf a geir yn rheoliad 7(1), caiff corff cydnabyddedig gofnodi'r ceffyl hwnnw mewn adran atodol o'i lyfr gre—

Rhaglenni croesfridio
    
9. Os nad yw ceffyl yn bodloni'r meini prawf a geir yn rheoliad 7(1), caiff corff cydnabyddedig gofnodi'r ceffyl hwnnw ym mhrif adran ei lyfr gre er mwyn iddo gymryd rhan mewn rhaglen croesfridio—

Cofnodi ceffylau a gofrestrir mewn llyfrau gre eraill
    
10. Os—

rhaid i'r corff cydnabyddedig gofnodi'r ceffyl yn y dosbarth yn ei lyfr gre y mae'r ceffyl hwnnw'n bodloni meini prawf y dosbarth hwnnw.

Dirymu
    
11. Dirymir Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) 1992[5] o ran Cymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Medi 20006



YR ATODLEN
Rheoliad 3


Meini prawf cydnabyddiaeth


Dull gweithredu cyrff cydnabyddedig
     1. —(1) Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre lle y cofnodir tarddiad brid neu sy'n llunio un o'r newydd, fod wedi sefydlu—

    (2) Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre, neu sy'n llunio un o'r newydd, ond nad yw'n cadw llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid, gydymffurfio â'r egwyddorion a sefydlwyd o dan baragraff (1) gan y corff neu'r gymdeithas sy'n cadw'r llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid.

    (3) Rhaid i unrhyw gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd fodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod neu ei bod yn gweithredu'n effeithiol.

Rhaglenni gwella a dethol
     2. Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd—

Trin bridwyr heb gamwahaniaethu
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid bod gan gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd reolau gweithdrefn sy'n darparu ar gyfer trin bridwyr heb gamwahaniaethu.

    (2) Os oes sawl corff neu gymdeithas mewn cysylltiad â brid penodol yn bodoli eisoes o fewn tiriogaeth y Gymuned, caniateir i reolau gweithdrefn corff neu gymdeithas ddarparu bod yn rhaid i geffylau gael eu geni mewn tiriogeth benodol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer eu cofnodi yn llyfr gre'r corff neu'r gymdeithas at ddibenion datgan genedigaeth.

    (3) Nid yw'r cymhwyster ym mharagraff (2) yn gymwys os at ddibenion atgenhedlu y cofnodir ceffyl yn y llyfr gre.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 92/353/EEC (OJ Rhif L 192, 11.07.1992, t. 63) a Phenderfyniad y Comisiwn 96/78/EC (OJ Rhif L 19, 25.01.1996, t. 39). Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) 1992 (O.S. 1992/3045).

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r meini prawf y mae'n rhaid i gorff neu gymdeithas eu bodloni er mwyn iddo gael ei gydnabod neu iddi gael ei chydnabod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") at ddiben cadw llyfr gre (rheoliad 3(1) a'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn). Rhaid rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i unrhyw gorff neu gymdeithas sy'n bodloni'r meini prawf hyn (rheoliad 3(2)).

Mae Rheoliad 4 yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod rhoi cydnabyddiaeth i gorff neu gymdeithas, neu y caiff dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrtho neu oddi wrthi. Rhaid rhoi gwybod i'r corff yn ysgrifenedig bod unrhyw gydnabyddiaeth wedi'i gwrthod neu'i thynnu'n ôl.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i berson wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol os gwrthodwyd rhoi cydnabyddiaeth neu os tynnwyd hi'n ôl o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn caniatáu i gorff cydnabyddedig rannu prif adran ei lyfr gre yn ddosbarthau gwahanol yn ôl rhinweddau'r ceffylau, ond mae'n ei wahardd rhag gwneud hynny am resymau eraill.

Mae rheoliad 7 yn pennu o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid i gorff cydnabyddedig gofnodi ceffyl ym mhrif adran ei lyfr gre.

Caniateir i gorff cydnabyddedig gofnodi ceffyl mewn adran atodol o'i lyfr gre os yw'r ceffyl hwnnw'n bodloni isafswm meini prawf penodol (rheoliad 8); cofnodi ceffyl ym mhrif adran ei lyfr gre er mwyn iddo gymryd rhan mewn rhaglen croesfridio (rheoliad 9); a chofnodi ceffyl a gofrestrwyd mewn llyfr gre arall ym mhrif adran ei lyfr gre ei hun (rheoliad 10).

Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] OJ Rhif L192, 11.7.92, t. 63.back

[4] OJ Rhif L019, 25.1.96, t. 39.back

[5] O.S. 1992/3045.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091401 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 13 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062607w.html