BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 2801 (Cy.240)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062801w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2801 (Cy.240)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 17 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 20 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 20 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau'n gymwys i geisiadau am grant yr arfaethir eu cymeradwyo ar neu ar ôl 20 Hydref 2006 gan awdurdodau tai lleol yng Nghymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Addasu Rheoliadau 1996
     3. —(1) Mae Rheoliadau 1996 yn effeithiol, o ran unrhyw berson sydd wedi cyrraedd yr oedran sy'n ei gymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, gyda'r addasiadau a nodir yn y rheoliad hwn.

    (2) Yn lle rheoliad 14 (symiau cymwysiadwy) a rheoliad 15 (priodasau aml-briod), rhodder—

    (3) After Schedule 1, insert—




Diwygio Rheoliadau 1996
    
4. Caiff Rheoliadau 1996 eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Rheoliad 2
    
5. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)[5]—

Rheoliad 5
     6. Yn lle rheoliad 5 (diffinio person perthnasol)[6], rhodder—

Rheoliad 10
     7. Yn rheoliad 10 (y swm cymwysiadwy)[7]—

Rheoliad 12
     8. Yn rheoliad 12 (gostyngiad yn swm y grant)[8]—

Rheoliad 14
     9. Yn rheoliad 14 (symiau cymwysiadwy), ym mharagraff (b) hepgorer o ", except" hyd ddiwedd y paragraff hwnnw.

Rheoliad 15
    
10. Yn rheoliad 15 (priodasau aml-briod), ym mharagraff (c) hepgorer o ", except" hyd ddiwedd y paragraff hwnnw.

Rheoliad 17
    
11. Yn rheoliad 17 (penderfynu incwm a chyfalaf teulu person perthnasol a phriodas aml-briod)—

Rheoliad 18
    
12. Yn rheoliad 18 (penderfynu incwm ar sail wythnosol), ym mharagraff (1A)[9]—

Rheoliad 19
     13. Yn rheoliad 19 (trin taliadau gofal plant)—

Rheoliad 25
    
14. Yn rheoliad 25 (penderfynu enillion net enillwyr cyflogedig), ym mharagraff (3)(d) ar ôl "statutory maternity pay" mewnosoder ", statutory paternity pay or statutory adoption pay,".

Rheoliad 29
    
15. Yn rheoliad 29 (penderfynu incwm heblaw enillion), ym mharagraff (1)[10], hepgorer "or 32 (modifications in respect of children and young persons)".

Rheoliadau 32 a 34
     16. Hepgorer rheoliad 32 (addasiadau o ran plant a phobl ifanc) a rheoliad 34 (anwybyddu cyfalaf plentyn neu berson ifanc).

Rheoliad 41
    
17. Yn rheoliad 41 (dehongli: myfyrwyr), yn y diffiniad o "contribution", ar ôl y gair "spouse" mewnosoder "or civil partner".

Rheoliad 43
    
18. Yn rheoliad 43 (penderfynu incwm grant), ym mharagraff (3)[11]—

Atodlen 1
     19. —(1) Diwygir Atodlen 1 (symiau cymwysiadwy)[12] fel a ganlyn.

    (2) Yn Rhan I (lwfansau personol), ym mharagraff 1 yn y golofn sy'n dwyn y pennawd "(2) Amount"—

    (3) Ym mharagraff 2, yn y golofn sy'n dwyn y pennawd "(2) Amount", yn is-baragraffau (a) a (b) yn lle "£38.50" rhodder "£43.88"[13].

    (4) Ym mharagraff 3 yn Rhan II (premiwm teulu), yn is-baragraff (1) yn lle "£15.75" rhodder "£16.10"[14].

    (5) Ym mharagraff 18 yn Rhan IV (symiau premiymau a bennir yn Rhan III)[15], yn y golofn sy'n dwyn y pennawd "Amount"—

Atodlen 2
     20. —(1) Diwygir Atodlen 2 (symiau sydd i'w hanwybyddu wrth benderfynu incwm)[16] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraffau 3, 5, 6 ac 8, yn lle "£15" ym mhob man y'i ceir, rhodder "£20".

    (3) Ym mharagraff 9, yn lle "£15" ym mhob man y'i ceir, rhodder "£20".

    (4) Ym mharagraff 12, yn is-baragraff (b), hepgorer "married or unmarried", ac "(within the meaning of the State Pension Credit Act 2002)".

    (5) Ym mharagraff 15, hepgorer "except earnings to which paragraph 16 applies".

    (6) Hepgorer paragraff 16.

    (7) Ym mharagraff 18[17]—

Atodlen 3
     21. —(1) Diwygir Atodlen 3 (symiau sydd i'w hanwybyddu wrth benderfynu incwm heblaw enillion) fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 4, yn is-baragraff (b) hepgorer "married or unmarried" ac "(within the meaning of the State Pension Credit Act 2002)".

    (3) Ym mharagraff 13, ar ddiwedd is-baragraff (b) ychwaneger "or surviving civil partner's pension".

    (4) Ym mharagraff 22(2), hepgorer is-baragraff (a) ac yn is-baragraff (b), hepgorer "to whom that regulation does not apply".

    (5) Ym mharagraff 54—

    (6) Ar y diwedd, ychwaneger—

Atodlen 4
    
22. —(1) Diwygir Atodlen 4 (cyfalaf sydd i'w anwybyddu) fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 6, yn is-baragraff (b) hepgorer "married or unmarried" ac "(within the meaning of the State Pension Credit Act 2002)".

    (3) Ym mharagraff 22, hepgorer "32(5)" a "modifications in respect of children and young persons.".

    (4) Ym mharagraff 46, yn lle'r geiriau "by the High Court under the provisions of Order 80 of the Rules of the Supreme Court 1985, the county court under Order 10 of the County Court Rules 1981", rhodder "by the High Court or the County Court under rule 21.11(1) of the Civil Procedure Rules 1998".

    (5) Ar y diwedd, ychwaneger—

     23. Dirymir Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005[18].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[19]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) ("Rheoliadau 1996"), sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant a gaiff ei dalu gan awdurdodau tai lleol o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Newidir cwmpas y prawf moddion gan reoliad 6, drwy roi diffiniad newydd o "relevant person" yn rheoliad 5 o Reoliadau 1996. Effaith hyn yw nad yw'r prawf moddion yn gymwys mwyach pan wneir cais am grant gan riant neu warcheidwad plentyn neu berson ifanc anabl.

Diwygiadau o ganlyniad i newidiadau i Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971), y mae'r prawf moddion yn Rheoliadau 1996 wedi'i seilio arnynt, yw'r diwygiadau eraill gan fwyaf a wneir gan y Rheoliadau hyn. Y canlynol yw'r prif newidiadau o'r math hwn—

Mae rheoliad 3 yn darparu bod Rheoliadau 1996 yn effeithiol yn ddarostyngedig i addasiadau tebyg i rai o'r rhai a wneir ar gyfer budd-dal tai gan Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) 2003 (O.S. 2003/325), pan fydd Rheoliadau 1996 yn gymwys o ran personau perthnasol sydd wedi cyrraedd yr oedran sy'n eu cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu y mae eu partneriaid wedi cyrraedd yr oedran hwnnw.

Mae rheoliad 7 yn cynyddu'r symiau a bennir yn rheoliad 10 o Reoliadau 1996, ac felly'n cynyddu'r "applicable amount" at ddiben penderfynu swm y grant sy'n daladwy.

Mae rheoliad 8 yn uwchraddio'r ffactorau cynhyrchu benthyciadau at ddibenion rheoliad 12 o Reoliadau 1996, sy'n penderfynu beth fydd swm y gostyngiad yn y grant mewn achosion pan fydd adnoddau ariannol y ceisydd neu'r ceisyddion am grant yn fwy na'r "applicable amount".

Mae rheoliad 11 yn rhoi o'r newydd yn rheoliad 17 o Reoliadau 1996 ddarpariaeth ar gyfer anwybyddu incwm a chyfalaf plentyn neu berson ifanc, ac mae rheoliadau 15 ac 16 yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i hyn.

Mae rheoliad 12 yn cynyddu'r mwyafswm y caniateir ei ddidynnu, mewn achosion sy'n bodloni rhai amodau, o ran taliadau wythnosol perthnasol am ofal plentyn, a hynny at ddiben penderfynu incwm ar sail wythnosol o dan reoliad 18 o Reoliadau 1996.

Mae rheoliad 18 yn cynyddu'r symiau a bennir, yn rheoliad 43 o Reoliadau 1996, yn symiau sydd i'w heithrio o incwm grant myfyriwr pan nad oes gan y myfyriwr fenthyciad myfyriwr.

Mae rheoliad 19 yn uwchraddio'r symiau a'r premiymau cymwysiadwy yn Atodlen 1 i Reoliadau 1996.

Mae rheoliad 20 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1996 i adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) 2003 (O.S. 2003/2634). Mae paragraff 18 o Atodlen 2 yn darparu bod y swm sydd i'w anwybyddu o ran enillion o dan yr Atodlen honno i'w gynyddu os bodlonir amodau penodol o ran isafswm nifer yr oriau bob wythnos y bydd y ceisydd neu unrhyw bartner yn eu treulio'n gwneud gwaith am dâl. Gostyngir lleiafswm nifer yr oriau o 30 i 16, os yw'r ceisydd yn rhiant unigol, neu os yw'r ceisydd a'i bartner yn gyfrifol am un neu fwy o blant, neu os yw'r person sy'n gwneud y gwaith am dâl dros 50 oed neu'n bodloni'r amod ar gyfer premiwm anabledd.

Mae rheoliad 21 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 3 i Reoliadau 1996 o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i gorff y Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 22 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1996 a hynny'n benodol er mwyn diweddaru'r cyfeiriadau at reolau'r Llys ac i ychwanegu darpariaeth ar gyfer anwybyddu, wrth gyfrifo cyfalaf, symiau penodol a dderbynnir gan ddioddefwyr yn sgil y bomiau yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005.

Mae rheoliad 23 yn dirymu Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2605).

Gwneir mân ddiwygiad canlyniadol nad yw'n deillio o ddeddfwriaeth budd-dal tai gan baragraff (c) o reoliad 5. Mae hwn yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 1996 er mwyn rhoi, yn lle'r cyfeiriad at "qualifying park home", gyfeiriad at "caravan" o fewn yr ystyr a roddir i'r term hwnnw gan adran 224 o Ddeddf Tai 2004 (p.34), y diwygiwyd ganddi Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae paragraffau eraill yn rheoliad 5 yn diwygio'r dehongliad o Reoliadau 1996 i adlewyrchu cyflwyno partneriaethau sifil yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33).


Notes:

[1] 1996 p.53.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn, ac Atodlen 1 iddo. Diwygiwyd adran 30 gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002, O.S. 2002/1860, erthygl 11 ac Atodlen 3.back

[3] 2002 p.16.back

[4] O.S. 1996/2890. Mae offerynnau diwygio perthnasol yn cynnwys O.S. 1996/3119, O.S. 1997/977, O.S. 1997/2764, O.S. 1998/808, O.S. 1999/1523, O.S. 1999/3468, O.S. 2000/973 (Cy. 43), O.S. 2001/2073 (Cy. 145), O.S. 2001/4007 (Cy. 333), O.S. 2002/2798 (Cy. 266), O.S. 2004/253 (Cy. 28), O.S. 2005/2605 (Cy. 180).back

[5] Diwygiwyd paragraff (1) ddiwethaf gan O.S. 2004/253 (Cy. 28); offerynnau diwygio perthnasol eraill yw O.S. 2002/2798 (Cy. 266), O.S. 2001/2073 (Cy. 145), O.S. 2000/973 (Cy. 43), O.S. 1999/1523, O.S. 1999/3468 ac O.S. 1998/808.back

[6] Diwygir rheoliad 5 gan O.S. 2005/2605 (Cy. 180).back

[7] Diwygir rheoliad 10 gan O.S. 1998/808, O.S. 2000/973 (Cy. 43), ac O.S. 2004/253 (Cy. 28) (y diwygiwyd y symiau hyn ganddo ddiwethaf).back

[8] Caiff rheoliad 12, at ddibenion adran 134 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, ei addasu gan O.S. 1997/2764; a'i ddiwygio gan O.S. 1997/977, O.S. 2002/2798 (Cy. 266), ac O.S. 2004/253 (Cy. 28) (y diwygiwyd y symiau hyn ganddo ddiwethaf).back

[9] Mewnosodwyd paragraff (1A) gan O.S. 1998/808, ac amnewidiwyd y symiau yn y paragraff hwnnw o ran Cymru gan O.S. 2002/2798 (Cy. 266).back

[10] Diwygiwyd paragraff (1) gan O.S. 1998/808.back

[11] Amnewidiwyd paragraff 3 o ran Cymru gan O.S. 2002/2798 (Cy. 266), a diwygiwyd y symiau hyn ddiwethaf gan O.S. 2004/253 (Cy. 28).back

[12] Mae offerynnau diwygio perthnasol yn cynnwys O.S. 1997/977, O.S. 1998/808, O.S. 1999/1523 (Cy. 54), O.S. 2001/2073 (Cy. 145), O.S. 2002/2798 (Cy. 266), ac O.S. 2004/253 (Cy. 28).back

[13] Diwygiwyd y symiau hyn ddiwethaf gan O.S. 2004/253 (Cy. 28).back

[14] Diwygiwyd y swm hwn ddiwethaf gan O.S. 2004/253 (Cy. 28).back

[15] Diwygiwyd y symiau hyn ddiwethaf gan O.S. 2004/253 (Cy. 28).back

[16] Mae offerynnau diwygio perthnasol yn cynnwys O.S. 1998/808, O.S. 1999/3468, ac O.S. 2004/253 (Cy. 28).back

[17] Amnewidiwyd paragraff 18, o ran Cymru, gan O.S. 2004/253 (Cy. 28).back

[18] O.S. 2005/2605 (Cy. 180).back

[19] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091410 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 26 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062801w.html