BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006 Rhif 2804 (Cy.243)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062804w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2804 (Cy.243)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 17 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 23 Hydref 2006 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 75(1)(e) a 152(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Hydref 2006.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn—

Addysg neu hyfforddiant a ragnodir
     2. —(1) Rhagnodir yr addysg a'r hyfforddiant a ddisgrifir ym mharagraff (2) isod at ddibenion adran 75 o Ddeddf 2000 (cylch gwaith estynedig Prif Arolygydd Cymru).

    (2) Yr addysg a'r hyfforddiant yw'r rhai a ddarperir gan neu ar ran sefydliad yn y sector addysg uwch yng Nghymru—

i'r graddau nad yw addysg a hyfforddiant o'r fath yn dod o fewn is-baragraffau (a) i (d) o adran 75(1) o Ddeddf 2000.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi math o addysg a hyfforddiant at ddibenion adran 75 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ("Deddf 2000"). Mae adran 75 yn darparu cylch gwaith estynedig Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 yn rhagnodi addysg a hyfforddiant a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad yn y sector addysg uwch yng Nghymru at ddibenion galluogi personau i ddod yn weithwyr ieuenctid a chymunedol neu fel hyfforddiant pellach ar gyfer personau sy'n weithwyr ieuenctid a chymunedol. Effaith y rhagnodi yw bod y math hwn o addysg a hyfforddiant yn cael ei ddwyn i gylch gwaith y Prif Arolygydd o dan adran 75 o Ddeddf 2000.


Notes:

[1] 2000 p. 21.back

[2] 1988 p. 40.back

[3] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091409 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 26 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062804w.html