BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Eithriadau a Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2006 Rhif 2823 (Cy.246)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062823w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2823 (Cy.246)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Eithriadau a Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 25 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 26 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 134(5)(a) ac (c) a (6) o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Eithriadau a Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys yng Nghymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Tai 2004.

Eithriadau rhagnodedig
    
3. At ddibenion adran 134(1)(b) o'r Ddeddf mae annedd yn dod o dan eithriad rhagnodedig —

Gofynion rhagnodedig
     4. —(1) At ddibenion adran 134(2)(e) o'r Ddeddf mae'r gofynion rhagnodedig y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â hwy fel a ganlyn —

    (2) At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), awdurdod perthnasol yw —



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn ymdrin â gwneud gorchmynion rheoli anheddau gwag (GRhAG) interim a rhai terfynol y caniateir i awdurdod tai lleol eu gwneud ynghylch anheddau sy'n gyfan gwbl anfeddianedig.

Mae GRhAG interim yn orchymyn sy'n cael ei wneud gan awdurdod tai lleol i'w alluogi i gymryd camau er mwyn sicrhau bod annedd yn dod, ac yn parhau i fod, yn un sydd wedi'i meddiannu. Gwneir GRhAG terfynol i olynu GRhAG interim er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu. (Adran 132 o'r Ddeddf).

Rhaid i awdurdod tai lleol wneud ymdrech resymol i hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud GRhAG interim ac i ganfod pa gamau y mae'r perchennog perthnasol yn eu cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei feddiannu. Mae angen awdurdodiad tribiwnlys eiddo preswyl i wneud gorchymyn o'r fath. Ni fydd tribiwnlys eiddo preswyl yn awdurdodi gwneud GRhAG interim os yw wedi'i fodloni bod yr achos yn dod o dan eithriad rhagnodedig. (Adran 133 o'r Ddeddf).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r eithriadau at ddibenion awdurdodiad tribiwnlys eiddo preswyl.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r gofynion ychwanegol y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â hwy wrth wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am awdurdodi GRhAG interim.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ,
e-bost: [email protected]


Notes:

[1] 2004 p.34. Mae'r pŵer a roddir gan adran 134(5)(a) ac (c) a (6) yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r "appropriate national authority" yn adran 261(1) o'r Ddeddf.back

[2] I gael ystyr "relevant proprietor" gweler adran 132 (4)(c) o'r Ddeddf.back

[3] 1986 p.5back

[4] 1995 p.8back

[5] 1992 p.14back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091425 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 1 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062823w.html