BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2826 (Cy.249) (C.97)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
25 Hydref 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 99(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006.
(2) Mae darpariaethau a ddaw i rym o dan y gorchymyn hwn yn dod i rym yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Rheoli Traffig 2004.
Y Diwrnod penodedig
2.
—(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) isod i rym ar 26 Hydref 2006.
(2) Dyma'r darpariaethau—
(a) adrannau 5(4), 5(5) ac adran 10;
(b) adrannau 16 i 31;
(c) adrannau 72 i 93;
(ch) adrannau 94, 95 a 96;
(d) adran 98 cyn belled ag y mae'n gymwys i Ran 2 o Atodlen 12 (ac o ganlyniad Rhan 2 o Atodlen 12).
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Cafodd Deddf Rheoli Traffig 2004 (p.18) ("y Ddeddf") y Cydsyniad Brenhinol ar 22 Gorffennaf 2004.
Diben y Ddeddf yw darparu sylfaen i wella amodau ar gyfer pawb sy'n defnyddio ffyrdd drwy reoli'r rhwydweithiau cenedlaethol a lleol.
Mae adran 99(1) o'r Ddeddf yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i ddwyn i rym yr adrannau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol ar ddiwrnod y caiff ei benodi.
Rhennir y Deddf yn saith ran. Bydd y Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 5(4), 5(5) (pwerau arbennig swyddog traffig) ac adran 10 (tramgwyddau) o Ran 1, Rhan 2 yn ei chyfanrwydd (rheoli rhwydweithiau gan awdurdodau traffig lleol), Rhan 6 yn ei chyfanrwydd (gorfodi cosbau sifil am dramgwyddau traffig) ac adrannau 94 (pŵer i arolygu bathodynnau glas), 95 (cymhwyso incwm dros ben oddi wrth fannau parcio), 96 (darpariaethau penodol o ran Cymru) a 98 (diddymiadau).
Yn benodol, mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 5(4), 5(5) a 10 o Ran 1 o'r Ddeddf. Mae'r adrannau hyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Brif Swyddog yr Heddlu yn yr ardal lle mae'r ffordd i roi caniatâd i Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Briffyrdd i ddefnyddio'u pwerau arbennig yn ardaloedd y ffin rhwng Cymru a Lloegr pan fo hynny'n briodol. Mae hefyd yn darparu bod modd cosbi yng Nghymru dramgwyddau a gyflawnir yn erbyn swyddogion traffig o Loegr wrth iddynt gyflawni'u dyletswyddau o dan adran 5 yng Nghymru.
Mae Rhan 2 o'r Deddf (adrannau 16 i 31) yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod traffig lleol i ofalu bod traffig yn symud yn hwylus ar eu rhwydweithiau ffyrdd ac i hwyluso'r cyfryw symudiad ar rwydweithiau awdurdodau eraill.
Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 72 i 93) yn cynnwys pwerau sy'n darparu un fframwaith i wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol orfodi cosbau sifil am dramgwyddau y mae a wnelont â chyfyngiadau parcio ac aros yn sifil, tramgwyddau lonydd bysiau a rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud. Bydd y rheoliadau hyn yn disodli pwerau sydd eisoes yn bodoli yn neddfwriaeth cenedlaethol. Bydd Rhan 6 yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud er mwyn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau gorfodi sifil i gwmpasu rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud drwy ddefnyddio tystiolaeth camera a phwerau ychwanegol o ran gorfodi cyfyngiadau parcio. Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer wrth gefn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo awdurdod lleol i wneud cais am bwerau gorfodi sifil.
Mae adran 94 yn cyflwyno diwygiadau i ddeddfwriaeth parthed arolygu "bathodynnau glas."
Mae adran 95 yn cyflwyno diwygiadau i Ddeddf Rheoli Traffig 1984 parthed defnydd gweddillion incwm o fannau parcio.
Mae adran 96 yn ymwneud â diwygio swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o'r blaen o dan O.S. 1999/672.
Mae adran 98 yn dod a Rhan 2 o Atodlen 12 sydd yn delio efo diddymiadau i rym.
Notes:
[1]
2004 p.18.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091426 0
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
3 November 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062826w.html