BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 2831 (Cy.252)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062831w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2831 (Cy.252)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 24 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2006.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004
    
2. Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn—

    (1) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli)—

    (2) Hepgorer rheoliad 2(2).

    (3) Yn rheoliad 4 (Safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da), ar ôl 4(2) mewnosoder—

    (4) Yn rheoliad 5 (Tir Pori Parhaol), ar ôl 5(2) mewnosoder—

    (5) Yn lle rheoliad 6 (Awdurdod Rheolaethu Cymwys ac Awdurdodau Perthnasol) rhodder—

    (6) Ym mharagraff 12(1) (Gwrychoedd a Pherthi) o'r Atodlen, yn lle "or (4)" rhodder ", (4) or (5)".

    (7) Ym mharagraff 14 (asesiad effaith Amgylcheddol) o'r Atodlen ar ôl 14(3) mewnosoder—

    (8) Ar ôl paragraff 20 (Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) o'r Atodlen, mewnosoder paragraff newydd—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004 ("y prif Reoliadau").

Mae rheoliad 2(5) yn diwygio rheoliad 6 o'r Prif Reoliadau, o ran dynodi Awdurdodau Rheolaethu Cymwys sydd yn gyfrifol am gyflawni rheolaethau mewn perthynas â gofynion a safonau trawsgydymffurfio.

Mae rheoliad 2 hefyd gwneud diwygiadau i'r prif Reoliadau er mwyn:

    — diweddaru cyfeiriadau at yr offerynnau Cymunedol yn y prif Reoliadau i fod yn gyfeiriadau at yr Offerynnau Cymunedol fel y'u diwygiwyd ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud;

    — cywiro gwallau drafftio penodol yn y Rheoliadau; a

    — gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau technegol i'r Rheoliadau.

Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2004/3280 (Cy.284).back

[4] OJ L 214, 4.8.2006back

[5] OJ L 208, 29.7.2006, t. 3—14back

[6] O.S. 2005/45 (Cy. 4).back

[7] 1990 p. 43.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091427 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 3 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062831w.html