BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 2934 (Cy.266)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062934w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2934 (Cy.266)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 7 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 24 Ionawr 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 71 a 104(3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[2], ac wedi ymgynghori â'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb y Cyngor 98/34/EC[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 24 Ionawr 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Rheoliadau
    
2. —(1) Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) 1992 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:

    (2) Yn lle rheoliad 2(c), rhodder —

    (3) Yn lle rheoliad 2(e), rhodder —

    (4) Yn rheoliad 3(3), yn lle'r geiriau "30 million standard axles" rhodder "125 million standard axles".

    (5) Yn y Tabl i reoliad 4(2)—

    (6) Yn y Tabl i reoliad 4(3)—

    (7) Yn rheoliad 7, yn lle'r geiriau "paragraphs 1.5,1.6.1 and 1.6.2", rhodder "paragraphs S1.6 and S1.7".

    (8) Yn rheoliad 8, yn lle'r geiriau "paragraphs 1.6.1 and 1.6.2", rhodder "paragraphs S1.7.1 and S1.7.2".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998([
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio (o ran Cymru) Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) 1992 (O.S. 1992/1689) (“Rheoliadau 1992). Mae Rheoliadau 1992 yn rhagnodi gofynion ar gyfer manylebion deunyddiau sydd i gael eu defnyddio a safonau crefftwaith y mae ymgymerwyr i gadw atynt wrth adfer strydoedd gan gyfeirio at God Ymarfer a ddyroddwyd yn 1992. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo dyroddi Cod Ymarfer newydd o'r enw "Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd" (y "Cod newydd"). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 i adlewyrchu'r ffaith fod paragraffau wedi cael Rhif au newydd, a phenawdau wedi cael enwau newydd, yn y Cod newydd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn dilyn y Cod newydd drwy ddarparu fod y Cod yn gymwys i bob ffordd sy'n cario 125 o filiynau o echelau safonol. Ar wahân i hyn, mae'r Cod yn cyflwyno amryw o ofynion newydd, yn ymwneud yn enwedig â'r defnydd o ddeunyddiau penodol ar gyfer adfer y briffordd ac yn cyflwyno categori newydd o ffordd ar gyfer ffyrdd y mae llawer iawn o draffig arnynt.

Mae'r Cod newydd ar gael ar Wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn
www.cymru.gov.uk.


Notes:

[1] 1991 p.22.back

[2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.J. Rhif .L204, 21.7.1998, t.37.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091452 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 30 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062934w.html