BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2985 (Cy.275)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru 2006
|
Wedi'u gwneud |
15 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
16 Tachwedd 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 42, 43 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau yw'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 16 Tachwedd 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Rheoliadau Fferyllol" ("the Pharmaceutical Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992[2].
Diwygio Atodlen 2 i'r Rheoliadau Fferyllol
2.
Yn Atodlen 2, Rhan 6, i'r Rheoliadau Fferyllol, ym mharagraff 38 (ffioedd a thaliadau), yn lle paragraff 38(2) rhodder—
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992.
Mae'r Rheoliadau yn darparu mewn perthynas â ffioedd a thaliadau sy'n daladwy i feddyg sydd wedi'i awdurdodi i ddarparu cyffuriau a chyfarpar, neu y mae'n ofynnol iddo wneud hynny, o dan wasanaethau fferyllol, neu i feddyg sy'n darparu unrhyw wasanaeth ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r cyffuriau a'r cyfarpar hynny.
Notes:
[1]
1977 p.49.back
[2]
1992/662 fel y'i diwygiwyd.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091447 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
27 November 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062985w.html