BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2993 (Cy.280)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
15 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
Tachwedd 23 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 108, 109C a 113A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[1] ac ar ol ymgynhori âg awdurdodau Trafnidiaeth lleol ac eraill yn unol Ag adran 113A(3) o'r Deddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006.
(2) Daw i rym ar Tachwedd 23 2006 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "awdurdod trafnidiaeth lleol" ("local transport authority") yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr "cydardal" ("collective area") parthed grŵp awdurdod trafnidiaeth lleol yw cydardal daearyddol yr awdurdodau trafnidiaeth lleol o fewn y grwp fel a ddiwygiwyd gan Erthygl 4 a fel a ddisgrifiwyd yn yr Atodlen fel y De-ddwyrain, y De-orllewin, Y Canolbarth a'r Gogledd yn ol y digwydd;
ystyr "cynllun trafnidiaeth lleol cymwys" ("qualifying local transport plan") yw cynllun trafnidiaeth lleol sy'n bodloni'r meini prawf a osodir yn adran 109C(1) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
ystyr "y Ddeddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Trafnidiadeth 2000; ac
ystyr "grŵp awdurdod trafnidiaeth lleol" ("local authority transport group") yw unryw un o'r pedwar grwp o awdurdodau trafnidiaeth lleol a ddisgrifir yn yr Atodlen.
Rhwymedigaeth i lunio cynlluniau trafnidiaeth lleol o dan adran 108 o Ddeddf 2000
3.
—(1) Mae cymhwysiad adran 108 o Ddeddf 2000 parthed paratoi cynlluniadau trafnidiaeth lleol gan awdurdodau trafnidiaeth lleol, yn ddarostynedig i erthygl 4 wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Gall yr awdurdodau trafnidiaeth lleol gyfansoddol baratoi cynllun trafnidiaeth leol ar y cyd parthed eu cydardal.
Cynlluniau ar gyfer ardaloedd o Wynedd
4.
—(1) Yn unol ag adran 113A(1)(a) a (b) o Ddeddf 2000, gall awdurdod trafnidiaeth lleol Gwynedd, gan weithredu ar y cyd â'r awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Ngrŵp 3 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, lunio cynllun trafnidiaeth lleol ar gyfer eu cydardal ond er mwyn neilltuo pob ardal o Sir Gwynedd heblaw am ardal Meirionnydd.
(2) Yn unol ag adran 113A(1)(a) a (b) o Ddeddf 2000, gall awdurdod trafnidiaeth lleol Gwynedd, gan weithredu ar y cyd â'r awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Ngrŵp 4 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn lunio cynllun trafnidiaeth lleol ar gyfer eu cydardal i gynnwys sir Gwynedd ac eithrio dosbarth Meirionnydd.
Dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid disodli cynlluniau trafnidiaeth lleol cymwys
5.
Yn unol ag adran 109C(2) o Ddeddf 2000, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod pob cynllun trafridiaeth lleol cymwys yn cael ei ddisodli erbyn dim hwyrach na 30 Mehefin 2008.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2006
YR ATODLENErthygl 2 a 4
CYFANSODDIAD GRWPIAU AWDURDODAU TRAFNIDIAETH LLEOL
Rhif y Grŵp a chydardal
|
Yr Awdurdod Lleol Cyfansoddol
|
Grŵp 1 |
Blaenau Gwent |
Y De-ddwyrain |
Pen-y-bont ar Ogwr |
|
Caerffili |
|
Caerdydd |
|
Merthyr Tudful |
|
Sir Fynwy |
|
Casnewydd |
|
Rhondda Cynon Taf |
|
Tor-faen |
|
Bro Morgannwg |
Grŵp 2 |
Abertawe |
Y De-orllewin |
Castell-nedd Port Talbot |
|
Sir Gaerfyrddin |
|
Sir Benfro |
Grŵp 3 |
Ceredigion |
Y Canolbarth (gan gynnwys dosbarth Meirionnydd) |
Gwynedd |
|
Powys |
Grŵp 4 |
Ynys Môn |
Y Gogledd (ag eithrio Meirionnydd) |
Gwynedd |
|
Conwy |
|
Sir Ddinbych |
|
Sir y Fflint |
|
Wrecsam |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adrannau 108 i 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol ddatblygu polisïau i hyrwyddo cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn effeithlon ac yn economaidd yn eu hardal. Enw'r polisïau hyn gyda'i gilydd yw cynllun trafnidiaeth lleol. Mae'n ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol gyhoeddi'u cynllun trafnidiaeth lleol, trefnu bod copi ohono ar gael i'r cyhoedd edrych arno a'i ddiweddaru'n rheolaidd, gan ei ddisodli gan gynllun newydd cyn pen pum mlynedd ar ôl y dyddiad pan wnaed y gwreiddiol. Fodd bynnag, os cyhoeddwyd cynllun o'r fath cyn 1 Awst 2001, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu, drwy Orchymyn, y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i'r cynllun gael ei ddisodli.
Mae adran 3 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 a'r Atodlen iddi yn addasu adrannau 108 i 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, drwy gyflwyno adrannau newydd nad ydynt yn gymwys ond i Gymru.
Mae adran 108 wedi'i diwygio i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth lleol sy'n rhoi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru ("y Strategaeth") ar waith. Mae'n ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lunio a chyhoeddi'r Strategaeth gan adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006. Rhaid i'r Strategaeth nodi'r polisïau a ddatblygwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn economaidd. Rhaid iddi ddangos sut y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gweithredu'r polisïau hynny.
Ymgorfforwyd adrannau 109A, 109B a 109C newydd gan ddisodli adran 109 o ran Cymru. Mae'r adrannau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol gyflwyno'u cynllun trafnidiaeth lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gymeradwyo ac i adolygu'u cynlluniau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru.
Mae adran 109C yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â chynlluniau trafnidiaeth lleol a luniwyd cyn 1 Awst 2001. Os yw cynllun o'r fath yn cynnwys polisïau ar gyfer hyrwyddo a chefnogi cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn effeithlon ac yn economaidd ac os lluniwyd y cynllun yn unol â chanllawiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu drwy Orchymyn y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i gynlluniau o'r fath gael eu disodli.
Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 hefyd yn ymgorffori adrannau 113A a 113B newydd yn Neddf Trafnidiaeth 2000. Mae adran 113A yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud Gorchymyn sy'n galluogi awdurdodau trafnidiaeth lleol lunio cynllun trafnidiaeth lleol o ran rhan o'u hardal yn unig. Mae hefyd yn caniatáu i gynllun trafnidiaeth lleol gael ei lunio gan ddau neu ragor o awdurdodau ar y cyd o ran ardal sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r ardaloedd hynny gyda'i gilydd (eu "cydardal"). Mae adran 113B yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddyroddi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i awdurdodau trafnidiaeth lleol o ran y dull y maent yn cyflawni'u swyddogaethau o dan adrannau 108 i 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.
Effaith y Gorchymyn hwn yw arfer pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 113A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i addasu adrannau 108 i 111 o'r Ddeddf honno. Yn benodol, mae'n caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ganiatáu gwneud cynlluniau trafnidiaeth lleol ar sail ranbarthol yn hytrach nag ar sail awdurdod unigol ac mae'n pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid disodli cynlluniau trafnidiaeth lleol sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Nid yw'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer dull cydweithio awdurdodau trafnidiaeth lleol. Mae hyn yn fater i'r awdurdodau perthnasol. Nid yw'r Gorchymyn ychwaith yn darparu ar gyfer llunio a gweithredu'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd gan yr ymdrinnir â hyn ar wahân yn y canllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 112 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu i'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu cynnull yn bedwar grŵp er mwyn llunio un cynllun trafnidiaeth ar gyfer pob grŵp. Seilir y grwpiau ar bedwar ardal ranbarthol: y De-ddwyrain, y De-orllewin, y Canolbarth a'r Gogledd.
Mae erthygl 4 yn arfer pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 113A(1)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i ganiatáu llunio cynllun trafnidiaeth lleol o ran rhan yn unig o ardal awdurdod trafnidiaeth lleol. Yn yr erthygl hon, caniatawyd i awdurdod trafnidiaeth lleol Gwynedd gyfranu tuag at gynlluniau trafnidiaeth lleol sy'n cwmpasu neu'n cynnwys dosbarth Meirionnydd a gweddill sir Gwynedd yn y drefn honno.
Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau trafnidiaeth lleol, sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol, gael eu disodli heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2008.
Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn yn rhestru'r pedwar grwp a'u hawdurdodau lleol cyfansoddol.
Notes:
[1]
2000 p.38 (fel a ddiwygiwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006).back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091441 4
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
23 November 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062993w.html