BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 3098 (Cy.282)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063098w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3098 (Cy.282)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 21 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 23 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar âl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolyddion ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (3), (4), (5) a (9) o'r Ddeddf honno[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006.

    (2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas â chwestiwn perthnasol.

    (3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr "cwestiwn perthnasol" yw cwestiwn o dan Reoliadau Addysg (Mân Dreuliau) 1997[
3] parthed a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu i grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hyn ac—

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005
     2. Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005[4], mewnosoder "cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un y cyfeirir ato ym mharagraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997
     3. —(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 —

    (3) Yn rheoliad 4 —



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Tachwedd 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 ("Rheoliadau 1997") ymhellach.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch cwestiynau o beidio â chasglu sy'n codi ym mlwyddyn ysgol 2006/07 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno. Cwestiwn perthnasol yw cwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 i gael grant mewn perthynas â mân dreuliau cysylltiedig ag addysg plentyn a gynorthwyir mewn ysgol annibynnol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prawf moddion ariannol (a osodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ar gyfer pennu hawl i grant gwisg ysgol ac yn cynyddu swm grant o'r fath sy'n daladwy ar gyfer gwariant ar ddillad sy'n codi yn y flwyddyn ysgol 2006/07. Mae £83 (yn hytrach nag £81 fel cynt) yn daladwy pan nad yw'r incwm perthnasol uwchlaw £12,470 (yn hytrach na £12,182) ac mae £43 (yn hytrach na £42) yn daladwy pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r ffigwr hwnnw ond nad yw uwchlaw £13,431 (yn hytrach na £13,116).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prawf moddion ariannol (a osodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer pennu hawl i grant teithio ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer gwariant teithio ysgol mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2006/07. Pan nad yw'r incwm perthnasol uwchlaw £12,483 (yn hytrach na £12,195), bydd unrhyw grant teithio yn swm cyfatebol i'r gwariant teithio ysgol y mae'n berthnasol iddo. Pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r swm hwnnw, swm y grant teithio fydd y swm, os bydd un, y bydd y gwariant teithio ysgol y mae'n berthnasol iddo uwchlaw'r swm (wedi ei dalgrynnu i lawr i'r lluosrif agosaf o £3) sy'n cyfateb i un rhan o ddeuddeg o'r rhan o'r incwm perthnasol sydd uwchlaw £12,304 (yn hytrach na £12, 016).


Notes:

[1] 1997 p. 59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).back

[2] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/1969. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1939 (Cy. 137), O.S. 2001/2708 (Cy. 227), O.S. 2002/1880 (Cy. 189), O.S. 2003/1779 (Cy.193), O.S. 2004/1807 (Cy.195) ac O.S. 2005/2837 (Cy. 201).back

[4] O.S. 2005/2837 (Cy. 201).back

[5] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091461 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 4 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063098w.html