BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 3166 (Cy.291)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063166w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3166 (Cy.291)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 28 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7 a 23(f) ac (g) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] ac a freiniwyd ynddo bellach, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2006. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Tachwedd 2006.

Diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978
    
2. —(1) Mae Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[2] wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).

    (2) Ym mharagraff (2) o erthygl 6 (sy'n pennu tan ba ddyddiad y bydd diheintyddion sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol yn aros yn gymeradwy), yn lle "30 June 2005" rhodder "28 February 2007".

    (3) Yn lle'r tabl yn Atodlen 1 (sy'n rhestru'r diheintyddion a gymeradwywyd), rhodder y tabl yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

    (4) Yn lle'r tabl yn Atodlen 2 (sy'n rhestru'r diheintyddion sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol), rhodder y tabl yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

Dirymu
     3. Mae Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005[3] wedi'i ddirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Tachwedd 2006



SCHEDULE 1




SCHEDULE 2
Article 2(4)


APPROVED DISINFECTANTS SUBJECT TO TRANSITIONAL PROVISIONS


           Orders in respect of which use is approved; and dilution rates
Disinfectant Foot and Mouth Disease Orders Swine Vesicular Diseases Orders Diseases of Poultry Order Tuberculosis Orders General Orders
Alzogur 2
Betane Plus 50 15
Citric Acid BP 500
Deosan lodel FD 215 234 130 147
Equisept 299 299 449 299
FAM 525 500 100 110
Farmodyne 550 600 150 20 180
GPC8 80 200
Iodet 550 185 33 50
Intercept 200
Jewel-Black 34 77
Microcide 755N 50 15
Pinalene 11
San-5-Pine 11
Stableguard 200
Superfluid Max 33
Superguard 200
TK10 200
V26 105*



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 ("Gorchymyn 1978"), O.S. 1978/32.

Mae'n rhoi yn lle'r tablau yn Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn 1978 y tablau a nodir yn Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 1 yn rhestru diheintyddion a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae Atodlen 2 yn rhestru diheintyddion nad ydynt bellach yn gymeradwy, ond sy'n ddarostyngedig i drefniadau trosiannol a gellir parhau i'w defnyddio fel diheintyddion a gymeradwywyd tan 28 Chwefror 2007.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r Gorchymyn hwn ar ffurf drafft yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 22 Mehefin 1998, a honno'n Gyfarwyddeb a osododd weithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol[
5].

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/583) (Cy.49).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael diffiniad o "the Ministers". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044.back

[2] O.S. 1978/32 , ac O.S. 2005/583 (Cy.49) yw'r diwygiad perthnasol diweddaraf i'r rhestrau o ddiheintyddion a gymeradwywyd.back

[3] O.S. 2005/583 (Cy.49).back

[4] 1998 p.38.back

[5] OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 20 Gorffennaf 1998 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 98/34/EC, sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 217, 5.8.98, t.18).back



English version



ISBN 0 11 091463 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 6 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063166w.html