BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006 Rhif 3251 (Cy.295)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063251w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3251 (Cy.295)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 5 Rhagfyr 2006 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2), 79C a 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi[1]; adrannau 14(1)(d), 16, 22, 25, 33, 42(1), 48(1), 50 a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[2]; ac adrannau 2(6)(b), 9(1) a (3), 10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[3]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
    
2. Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[4] fel a ganlyn —

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
    
3. Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[5] fel a ganlyn —

Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002
    
4. Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[6] fel a ganlyn —

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003
    
5. Diwygir Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003[7] fel a ganlyn —

Diwygio Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
    
6. Diwygir Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003[8] fel a ganlyn —

Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
    
20D —(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—

    (2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

    (3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.

    (4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.

    (5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003
    
7. Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003[9] fel a ganlyn —

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004
    
8. Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004[10] fel a ganlyn —

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004
    
9. Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004[11] fel a ganlyn —

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005
    
10. —(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005[12] fel a ganlyn —

    (9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth.

Diwygio Rheoliadau Cofrestri Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
    
11. Ym mharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau Cofrestri Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[13], yn lle "carry on" rhodder "manage".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[14]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Rhagfyr 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio amrywiol reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989 ("Deddf 1989") a Deddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000"). Mae darpariaeth wedi'i mewnosod sy'n ei gwneud yn ofynnol i bersonau cofrestredig sefydlu a chynnal systemau ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae darpariaeth wedi'i gwneud i'r person cofrestredig ddarganfod barn y defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr, yr awdurdodau prynu, a staff y gwasanaeth. Rhaid i adroddiadau ar yr adolygiad hwn gael eu llunio gan y person cofrestredig. Ar gais Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") rhaid i'r person cofrestredig gynnal asesiad o'r gwasanaeth a ddarperir. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig gymryd y camau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â'r ddarpariaeth statudol a rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd y camau hyn wedi'u cwblhau. Mae'r gofynion ynghylch ymdrin â chwynion gan bersonau cofrestredig yn cael eu diwygio hefyd. Bydd methu â bodloni unrhyw rai o'r gofynion hyn yn dramgwydd. Mae Rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae'r diwygiad yn Rheoliad 2(a) i gywiro gwall ddrafftio mae Rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002; mae Rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002; mae Rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003; mae Rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003; mae Rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003; mae Rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004; mae Rheoliad 9 yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004; mae Rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005; ac mae Rheoliad 11 yn diwygio gwall yn Rheoliadau Cofrestri Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.


Notes:

[1] 1989 p.41: mewnosodwyd adran 79C gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddi Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddi.back

[2] 2000 p.14.back

[3] 2002 p.38.back

[4] O.S. 2002/324 (Cy.37).back

[5] O.S. 2002 Rhif 327 (Cy.40).back

[6] O.S. 2002 Rhif 812 (Cy.92).back

[7] O.S. 2003 Rhif 237 (Cy.35).back

[8] O.S. 2003 Rhif 781 (Cy.92).back

[9] O.S. 2003 Rhif 2527 (Cy.242).back

[10] O.S. 2004 Rhif 1756 (Cy.188).back

[11] O.S. 2004 Rhif 219 (Cy.23).back

[12] O.S. 2005 Rhif 1514 (Cy.118).back

[13] O.S. 2002 Rhif 919 (C.107).back

[14] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091467 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 14 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063251w.html