[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3347 (Cy.307)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
12 Rhagfyr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
31 Rhagfyr 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 [1] a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[2] fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
(2) Ym mharagraff 3(1)(b) o atodlen 1, yn lle'r geiriau "other than" hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw, rhodder "in relation to which section 47(2)(b), (ba) or (c) applies were taken into account".
(3) Ym mharagraff 2(12) o atodlen 2, yn lle "1.004" rhodder "1.001".
(4) Yn lle atodlen 4 rhodder yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2006
YR ATODLENRheoliad 2
"
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area
|
Prescribed figure
|
Blaenau Gwent |
52,900 |
Bridgend |
101,600 |
Caerphilly |
130,300 |
Carmarthenshire |
140,000 |
Cardiff |
251,200 |
Ceredigion |
64,100 |
Conwy |
88,800 |
Denbighshire |
75,600 |
Flintshire |
166,900 |
Gwynedd |
93,100 |
Isle of Anglesey |
54,300 |
Merthyr Tydfil |
42,100 |
Monmouthshire |
68,300 |
Neath Port Talbot |
106,200 |
Newport |
106,100 |
Pembrokeshire |
91,500 |
Powys |
103,800 |
Rhondda Cynon Taf |
179,100 |
Swansea |
179,800 |
Torfaen |
69,600 |
Vale of Glamorgan (The) |
94,600 |
Wrexham |
102,300" |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ("Rheoliadau 1992").
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol ("Deddf 1988") mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992—
– trwy newid geiriad paragraff 3(1) o Atodlen 1 (Rheolau ar gyfer Cyfrifo Cyfraniadau Ardrethu Annomestig) bod y didyniad o 90% y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cyfeirio yn unig at ryddhad ardrethu disgresiynol a roddir gan awdurdodau bilio mewn perthynas â hereditamentau y mae adran 47(2)(b), (ba) neu (c) yn gymwys iddynt. O ganlyniad ni fydd yna ddidyniad mewn perthynas â rhyddhad disgresiynol ardrethi a roddir gan yr awdurdod bilio i drethdalwyr sy'n meddiannu hereditamentau y mae adran 43(4B) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddynt (hereditamentau sy'n cael rhyddhad gorfodol ardrethi busnesau bychain);
– trwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle'r un presennol (Rhagdybiaethau parthed swm gros); a
– trwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigyrau Poblogaeth Oedolion).
Notes:
[1]
1988 p. 41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1999 yn Atodlen 1.back
[2]
OS 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280) a 2005/3345 (Cy.259).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091476 7
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
21 December 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063347w.html