BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 120 (Cy.10)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070120w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 120 (Cy.10)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 23 Ionawr 2007 
  Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 80(8B) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.

    (2) Daw erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Ionawr 2007.

    (3) Daw erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo i rym ar 31 Ionawr 2007.

    (4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dynodi "camp berthnasol"
    
2. Dynodir camp sy'n ymddangos yn y rhestr o gampau a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn "gamp berthnasol" at ddibenion adran 80(8A) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[3].

Diwygio Gorchmyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006
     3. Diwygir Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006[4] fel a ganlyn—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2007



YR ATODLEN
Erthygl 2


Y RHESTR O GAMPAU


     1. Pêl-droed Americanaidd

     2. Saethyddiaeth

     3. Pêl-droed (Socer) (Rheolau'r Gymdeithas Bêl droed)

     4. Athletau

     5. Pêl-droed Rheolau Awstralia

     6. Badminton

     7. Pêl fas

     8. Pêl fasged

     9. Biathlon

     10. Bobsledio

     11. Bowls

     12. Camogie

     13. Canwio

     14. Criced

     15. Croquet

     16. Cwrlo

     17. Seiclo

     18. Marchogyddiaeth

     19. Pêl-droed Gwyddelig

     20. Golff

     21. Gymnasteg

     22. Pêl-law

     23. Hoci

     24. Rasio Ceffylau

     25. Chwarae hyrli

     26. Hoci Iâ

     27. Sglefrio ar Iâ

     28. Lacrosse

     29. Luge

     30. Pentathlon Modern

     31. Marchogaeth Beic Modur

     32. Campau Moduro

     33. Pêl-rwyd

     34. Wal Ddringo tu allan

     35. Polo

     36. Camp Olwynion Troed

     37. Rownderi

     38. Rhwyfo

     39. Rygbi'r Gynghrair

     40. Rygbi'r Undeb

     41. Hwylio

     42. Saethu

     43. Camp Byrddau Sgrialu

     44. Sgio

     45. Eirafyrddio

     46. Pêl feddal

     47. Nofio (gan gynnwys Deifio)

     48. Tennis

     49. Triathlon

     50. Tynnu Rhaff

     51. Pêl foli



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 103 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) ("Deddf 2005") yn diwygio adran 80(8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43) ("Deddf 1990") gan roi iddi'r effaith bod yr amddiffyniad (i'r tramgwydd, o dan adran 80(4) o Ddeddf 1990, o fynd yn groes i dermau neu ofynion hysbysiad diddymu a gyflwynir o dan adran 80(1) o Ddeddf 1990 neu o fethu â chydymffurfio â hwy) sef yr amddiffyniad o fod wedi defnyddio'r dull ymarferol gorau i rwystro niwsans statudol neu i wrthbwyso'i effeithiau, ar gael o ran niwsans a achosir gan olau artiffisial ac sy'n deillio o oleuadau a ddefnyddir i oleuo cyfleuster allanol ar gyfer campau perthnasol.

Diffinnir cyfleuster ar gyfer campau perthnasol yn adran 80(8A) o Ddeddf 1990 yn ardal, gyda strwythurau neu hebddynt, a ddefnyddir i gymryd rhan mewn campau perthnasol, ac eithrio ardal o'r fath a geir mewn mangreoedd domestig.

Mae adran 80(8B) o Ddeddf 1990 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o ran Cymru, y swyddogaeth o ddynodi camp yn "gamp berthnasol" at ddibenion adran 80(8A) o Ddeddf 1990. Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y swyddogaeth honno.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn rhoi effaith i fân ddiwygiadau i Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2797 (Cy. 236) (C. 93)).


Notes:

[1] 1990 p. 43; mewnosodwyd adran 80(8B) gan adran 103(3) o Ddeddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005 (p. 16).back

[2] 2005 p. 16.back

[3] Mewnosodwyd adran 80(8A) gan adran 103(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.back

[4] O.S. 2006/2797 (Cy. 236) (C. 93).back

[5] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091486 4


 © Crown copyright 2007

Prepared 30 January 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070120w.html