BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 Rhif 121 (Cy.11)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070121w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 121 (Cy.11)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 23 Ionawr 2007 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

ac at ddibenion y diffiniad hwn—

    (2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cyflenwi gyferbyn â gorchymyn ar un ffurflen bresgripsiwn, neu ar un presgripsiwn amlroddadwy (ond dim ond pan fo'r cyflenwi yn erbyn un swp-ddyroddiad ynghylch y presgripsiwn amlroddadwy hwnnw)—

    (3) Cyhyd â bod contractau yr ymrwymir iddynt o dan erthygl 13 o Orchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) 2004[20] ("contractau rhagosodedig") mewn bod, bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gontract GMS yn cynnwys cyfeiriad at gontract yr ymrwymir iddo o dan yr erthygl honno, a bernir bod unrhyw gyfeiriad at deler mewn contract GMS yn cynnwys cyfeiriad at y teler cyfatebol yn y contract rhagosodedig.

    (4) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr
     3. —(1) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf beidio â chodi na chasglu ffi am unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir fel rhan o'r gwasanaethau hynny yn yr amgylchiadau canlynol—

    (2) Ac eithrio lle y bodlonir yr amgylchiadau ym mharagraff (1) (a) neu (b) uchod, rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (3), godi a chasglu ffi oddi wrth y claf hwnnw,—

    (3) Os telir ffi o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

    (4) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol amlroddadwy i glaf beidio â chodi na chasglu ffi am unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir fel rhan o'r gwasanaethau hynny yn yr amgylchiadau canlynol—

    (5) Ac eithrio lle y bodlonir yr amgylchiadau ym mharagraff (1)(a) neu (b) uchod, rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau gweinyddu amlroddadwy i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi a chasglu ffi oddi wrth y claf hwnnw—

    (6) Os telir ffi o dan baragraff (5), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

    (7) At ddibenion paragraff (2) os oes cyffur a orchmynnir ar un ffurflen bresgripsiwn gyfatebol yn cael ei gyflenwi fesul rhan, rhaid talu'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.

    (8) Ni chaniateir codi na chasglu ffioedd o dan baragraffau (2) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—

    (9) Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—

oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i chasglu gan baragraff (2) neu (5), yn ôl y digwydd, o ran y gorchymyn hwnnw.

    (10) Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (2) neu (5), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais iddo am ad-daliad.

    (11) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol i fferyllydd o ran darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd ei leihau gan swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u casglu gan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn.

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon
     4. —(1) Rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf beidio â chodi ffi na chasglu ffi am unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir fel rhan o'r gwasanaethau hynny yn yr amgylchiadau canlynol—

    (2) Ac eithrio lle y bodlonir yr amgylchiadau ym mharagraff (1) uchod, rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (3), godi a chasglu ffi oddi wrth y claf hwnnw—

    (3) Rhaid peidio â chodi na chasglu ffi o dan baragraff (2) —

    (4) Os telir ffi o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

    (5) At ddibenion paragraff (2) os oes cyffur a orchmynnir ar un ffurflen bresgripsiwn gyfatebol yn cael ei gyflenwi fesul rhan, rhaid talu'r ffi a bennir yn rheoliad 4(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.

    (6) Ni fydd meddyg o dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol y mae'n ofynnol codi a chasglu ffi mewn perthynas â hwy o dan baragraff (2) onid yw'r claf yn gyntaf yn talu swm y ffi honno iddo.

    (7) Rhaid i feddyg sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (2), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais iddo am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais iddo am ad-daliad.

    (8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi talu ffi os yw'r cyffur neu'r cyfarpar a gyflenwir naill ai—

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG
    
5. Nid yw claf yn atebol i dalu ffioedd i Fwrdd Iechyd Lleol neu un o Ymddiriedolaethau'r GIG sy'n cyflenwi cyffuriau neu gyfarpar i'r claf hwnnw at ddibenion ei driniaeth.

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded i mewn
    
6. Nid yw claf yn atebol i dalu ffioedd am gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir at ddibenion ei driniaeth gan ragnodydd mewn Canolfan cerdded i mewn neu am gyffuriau a roddir neu gyfarpar a osodir yn y Ganolfan.

Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion
    
7. —(1) Nid yw claf yn atebol i dalu ffioedd am gyffuriau yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion neu am gyffuriau a gyflenwir at ddibenion ei roi'n bersonol gan unrhyw berson sy'n cyflenwi yn unol â'r Cyfarwyddyd Grwp Cleifion

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyfeiriad at gyflenwi cyffur yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion yn gyfeiriad at gyflenwi cyffur at y diben hwnnw y darperir ar ei gyfer yng Ngorchymyn Meddyginiaethau (Gwerthu gan Fferyllfeydd ac yn Gyffredinol — Esemptiad) 1980[
22] neu yng Ngorchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997[23].

Esemptiadau
     8. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd ffi yn daladwy o dan baragraff (2) neu (5) o reoliad 3 neu baragraff (2) o reoliad 4 gan—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am yr hawl i esemptiad o dan baragraff (1) ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n ofynnol o dan reoliadau 3(8) neu 4(3).

    (3) Nid yw'n ofynnol i berson sy'n esempt o dan baragraff 1(1)(c) o Atodlen 12 i'r Deddf neu o dan baragraff 1(b) o'r rheoliad hwn ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n ofynnol gan reoliadau 3(8) neu 4(3) os dyroddir—

a bod dyddiad geni'r person wedi'i argraffu drwy gyfrwng cyfrifiadur ar y ffurflen berthnasol.

    (4) Caiff esemptiad drwy gyfeirio at oedran neu ddilysrwydd tystysgrif esemptio ei benderfynu drwy gyfeirio at yr oedran neu'r dilysrwydd ar y diwrnod —

    (5) Os oes cais am esemptiad wedi'i wneud ond heb ei gadarnhau ac nad oes ffi wedi'i chasglu yn sgil y cais, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol neu, os yw'r cyffuriau neu'r cyfarpar wedi'u cyflenwi gan un o ymddiriedolaethau'r GIG, rhaid i'r ymddiriedolaeth GIG honno gasglu'r ffi honno oddi wrth y person o dan sylw.

Tystysgrifau esemptio — gwneud cais amdanynt a'u rhoi
     9. —(1) Er gwaethaf darpariaethau rheoliadau 3(1) a (4), 4(1), 5, 6 a 7(1) caiff person sy'n gwneud cais am esemptiad ar y sail —

wneud cais am dystysgrif sy'n rhoi'r esemptiad (a elwir yn "tystysgrif esemptio") i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn achos esemptiad o dan is-baragraff (a) neu (b) ar ffurflen a roddir at y diben hwnnw ac yn achos esemptiad o dan is-baragraff (c) i un o swyddfeydd yr Adran Nawdd Cymdeithasol ar ffurflen a roddir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol ei fodloni fod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo ddyroddi tystysgrif esemptio a fydd yn ddilys —

    (3) Pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol ei fodloni bod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan baragraff 1(b), rhaid iddo ddyroddi tystysgrif esemptio i'r ceisydd a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu arno.

    (4) Os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni bod gan geisydd hawl i gael esemptiad o dan baragraff (1)(c), rhaid iddo ddyroddi tystysgrif esemptio i'r ceisydd a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno

Esemptiad rhag ffioedd i garcharorion
    
10. Nid yw carcharor yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y Rheoliadau hyn.

Cardiau hawl
    
11. —(1) Pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol ei fodloni bod person yn glaf cymwys, bydd yn dyroddi cerdyn i'r person hwnnw (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "cerdyn hawl") a fydd yn ddilys am unrhyw gyfnod y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu arno.

    (2) Mae cerdyn hawl a ddyroddir yn rhoi i'r claf cymwys yr hawl i gael cyffuriau a chyfarpar yn ddi-dâl o dan baragraffau (1)(b) a (4)(b)(i) o reoliad 3 a pharagraff (1) o reoliad 4.

    (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr "claf cymwys" yw person —

mae'n cynnwys person sy'n gweithredu ar ran person o'r fath.

Darpariaethau Trosiannol
    
12. Mae'r darpariaethau trosiannol yn Atodlen 1 yn effeithiol.

Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol
    
13. Diwygir y darpariaethau a restrir yn Atodlen 2 fel a bennir ynddi.

Diddymu
    
14. Mae'r Rheoliadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 3 drwy hyn yn cael eu dirymu o ran Cymru i'r graddau a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
26]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2007



ATODLEN 1
Rheoliad 12


Darpariaeshau Trosiannol


Ad-dalu ffioedd
     1. —(1) Os oes ffi wedi'i thalu o dan Reoliadau Ffioedd 2001 gan neu ar ran person a oedd adeg y taliad yn esempt rhag y gofyniad i dalu'r ffi honno o dan reoliad 8 o'r Rheoliadau hynny, gall cais am ad-dalu'r ffi gael ei wneud yn unol â pharagraff (2) gan neu ar ran y person hwnnw.

    (2) Rhaid i'r cais am ad-daliad —

    (3) Yn achos ffi o dan reoliad 5 o ran cyfarpar a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i Reoliadau Ffioedd 2001, mae rheoliad 11(3) o Reoliadau Ffioedd 2001 yn gymwys.

    (4) Mae trefniadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd o dan reoliad 11(4) o Reoliadau Ffioedd 2001 gan berson sydd â hawl i esemptiad yn parhau i fod yn effeithiol at ddibenion paragraff 1.

Tystysgrifau rhagdalu
     2. —(1) Os bydd person wedi cael tystysgrif ragdalu yn rhinwedd gwneud unrhyw daliad yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Ffioedd 2001, a bod y cyfnod perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff (3) heb ddirwyn i ben, gellir gwneud cais am ad-daliad, gan neu ar ran y person hwnnw neu ei ystâd, yn unol â pharagraff (4) o ran pob mis cyfan ar ôl 1 Ebrill 2007.

    (2) Cyfrifir yr ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fel a ganlyn—

ac at ddibenion y cyfrifo hwn, ystyr "mis cyfan" yw mis sy'n dechrau ar ddyddiad fis calendr union ar ôl y dyddiad pan ddaeth y dystysgrif ragdalu'n ddilys a chan ddiweddu ar y dyddiad sy'n union o flaen y dyddiad hwnnw yn y mis canlynol.

    (3) Ym mharagraff (1) ystyr "y cyfnod perthnasol" yw cyfnod dilysrwydd y dystysgrif ragdalu heb gynnwys y mis y gwneir y cais am ad-daliad o dan baragraff (1) ar ei gyfer.

    (4) Rhaid i geisiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r Bwrdd Iechyd Lleol a gafodd y swm rhagnodedig o dan reoliad 10 o Reoliadau Ffioedd 2001 a rhaid bod tystysgrif gyda'r cais (os rhoddwyd un) a datganiad yn cefnogi'r cais, a rhaid i'r cais a'r ad-daliad gael eu gwneud yn y fath fodd ac yn ddarostyngedig i'r amodau hynny y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.



ATODLEN 2
Rheoliad 13


Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol


Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992
     1. —(1) Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o "the Charges Regulations" rhodder y canlynol—

    (3) Ym mharagraff (7) o Ran 2 (Gwasanaethau Hanfodol) o Atodlen 2 dileer y term "or (1A)";

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 1988
     2. —(1) Diwygir Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 1988 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

    (2) Yn lle paragraff (1)(b) o reoliad 7 rhodder y paragraff canlynol—

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004
     3. —(1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

    (2) Ym mharagraff 11A o Ran 1 o Atodlen 6 (Telerau Contractol Eraill)—



ATODLEN 3
Rheoliad 14


RHEOLIADAU A DDIRYMWYD


(1) (2) (3)
Rheoliadau a ddirymwyd Cyfeirnod Rhychwant y dirymiad
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 OS 2001/1358 (Cy.86) Y Rheoliadau cyfan ac eithrio rheoliadau 11(3) a (4). Rheoliadau (3) a (4) gydag effaith o 1 Gorffennaf 2007.
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001 OS 2001/1359 (Cy.196) Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau ynghylch Rhagnodi gan Nyrsys Atodol ac Annibynnol) (Cymru) 2003 OS 2003/2624 (Cy.252) Rheoliad 4
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004 OS 2004/1018 (Cy.115) Rheoliadau 1(4), 7 ac 8
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004 OS 2004/1605 (Cy.164) Y Rheoliadau cyfan
Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Diwygiadau Canlyniadol) (Nyrsio a Bydwreigiaeth) 2004 OS 2004/1771 Paragraff 29 o Ran 2 o Atodlen 2
Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004 OS 2004/1016 (Cy.113) Paragraff 24 o Atodlen 1
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005 OS 2005/427 (Cy.44) Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 OS 2005/1915 (Cy.158) Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006 OS 2006/943 (Cy.92) Y Rheoliadau cyfan
Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Gwasanaethau Deintyddol Personol (Cymru) 2006 OS 2006/946 (Cy.95) Paragraff 4 o Atodlen 1
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 OS 2006/1792 (Cy.188) Y Rheoliadau cyfan



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2001[
27] fel y'u diwygiwyd.

     2. Yn unol â hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r ffioedd ynghylch cyffuriau a chyfarpar a gyflenwir i gleifion sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol (YC) yng Nghymru neu sydd wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond eu bod yn dal cardiau hawl dilys gan fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 3), gan feddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 4), gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG (rheoliad 5) ac mewn canolfannau cerdded i mewn (rheoliad 6) a phan gyflenwir hwy yn unol â chyfarwyddiadau grwp cleifion (rheoliad 7). Mae Rheoliadau 3 a 4 ymhellach yn darparu ar gyfer ffioedd am gyffuriau a chyfarpar i unrhyw gleifion heblaw cleifion sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys.

     3. Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraph 2 uchod, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[28]. Gwneir darpariaeth ar wahân ar gyfer ffioedd deintyddol ac optegol.

     4. Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer esemptiadau rhag talu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n gymwys i gleifion heblaw'r rheini sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys (rheoliad 8) ac yn darparu ymhellach ar gyfer cleifion sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys i wneud cais am dystysgrifau esemptio (rheoliad 9).

     5. Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer dyroddi cardiau hawl sydd yn galluogi preswylwyr yng Nghymru i gael cyffuriau a chyfarpar am ddim pan fo'r cyffuriau a chyfarpar yn cael eu gweinyddu gan fferyllwyr neu feddygon yng Nghymru.

     6. Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu esemptiad rhag ffioedd ar gyfer carcharorion (rheoliad 10).

     7. Mae Arfarniad Rheoleiddiol ar y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Notes:

[1] 1977 p.49back

[2] Disodlir adran 16BA o'r Ddeddf gan adran 11 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.back

[3] 2000 p.6.back

[4] Darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig a fferyllol yn eu trefn o dan Rannau 4, 5, 6 a 7 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydag effaith o 1 Mawrth 2007.back

[5] 1988 p.49.back

[6] Darperir gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.back

[7] 1954 p.61.back

[8] Rh. St. 1976/1213 (G.I.22).back

[9] O.S. 2001/254.back

[10] 1989 p.44.back

[11] O.S. 2001/253.back

[12] Disodlir adran 41 o'r Ddeddf gan adran 80 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.back

[13] 1978 p.29.back

[14] O.S. 2004/478 (Cy.48), fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/945 (Cy.94).back

[15] O.S. 2000/620, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/675.back

[16] O.S. 2001/1358 (Cy.86), fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2003/1792 (Cy. 188).back

[17] O.S. 1988/551, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/2791 (Cy. 232).back

[18] O.S. 1992/662, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf mewn perthynas â Chymru gan O.S.2005/1013 (Cy.67).back

[19] Disodlir adran 16A o Ddeddf gan adran 18 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.back

[20] O.S. 2004/477 (Cy. 47).back

[21] Disodlir adran 16CC(2) o Ddeddf gan adran 41(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.back

[22] O.S. 1980/1924.back

[23] O.S. 1997/1830.back

[24] Disodlir Is-baragraffau 1(a) i (d) o baragraff 1 o Atodlen 12 i'r Ddeddf gan is-baragraff 1(a) i (d), yn eu trefn, a ddan 122 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) gydag effaith 1 Mawrth 2007.back

[25] 1953 p.20.back

[26] 1998 p.38.back

[27] S.I. 2001/1358 (Cy..86).back

[28] 1977 p.49.back



English version



ISBN 0 11 091490 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 31 January 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070121w.html