BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 203 (Cy.17)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
30 Ionawr 2007 | |
|
Yn dod i rym |
9 Chwefror 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad i asesu'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd ac ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.
Diwygio'r Rheoliadau
2.
Diwygir Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002[3] fel a ganlyn.
Dehongli
3.
—(1) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn lle'r diffiniad o "Gwladwriaeth AEE" rhodder "ystyr "Gwladwriaeth AEE" ("EEA State") yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein";
(b) ar ddiwedd y diffiniad o "y Gyfarwyddeb EIA" ychwaneger "fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/35/EC"[4];
(c) ar ddiwedd y diffiniad o "y Gyfarwyddeb Cynefinoedd" ychwaneger "fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i selio arnynt".
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwgiwyd o dro i dro.
Cymhwyso'r Rheoliadau
4.
Yn rheoliad 3—
(a) ar ôl "rhag" ym mharagraff (3) yn lle "y" mewnosoder "rheoliadau 4 i 26 o'r"; a
(b) ar ôl paragraff (4) ychwaneger—
"
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (3) rhaid iddo—
(a) ystyried a fyddai unrhyw asesiad o'r prosiect yn briodol, ac eithrio asesiad o'r math a fyddai'n ofynnol, petai rheoliadau 4 i 26 o'r Rheoliadau hyn i'w cymhwyso i'r prosiect, cyn gwneud penderfyniad sgrinio o dan rheoliad 5(4) neu benderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd o dan reoliad 13(1); a
(b) cymryd y fath gamau ag y mae'n eu hystyried yn briodol i ddwyn y canlynol i sylw'r cyhoedd—
(i) yr wybodaeth a gafodd ei hystyried wrth wneud y cyfarwyddyd a'r rhesymau dros wneud hynny, a
(ii) yr wybodaeth a ddaeth o unrhyw asesiad o'r prosiect a wnaed o dan is-baragraff (a).".
Darparu gwybodaeth
5.
Yn rheoliad 8, yn lle paragraff (3) rhodder—
"
(3) Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i'r ceisydd unrhyw wybodaeth—
(a) y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004[5]; neu
(b) y'i rhwystrir rhag ei ddatgelu gan reoliad 13(1) o'r Rheoliadau hynny.
(4) Pan nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae paragraff 3 i'w gymhwyso fel petai'n gorff cyhoeddus o'r fath.".
Y cais am ganiatâd
6.
Yn rheoliad 9(3)(b)—
(a) ar ôl “cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol mewnosoder "ac ar wefan briodol";
(b) yn is-baragraff (ii) ar ôl "cyhoeddi'r hysbysiad" hepgorer "a";
(c) ar ôl is-baragraff (iii) ychwaneger—
"
(iv) yn datgan fod rhaid i unrhyw ganiatâd a roddir fod yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir yn rheoliad 13(11) ac i unrhyw amodau ychwanegol a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda; a
(v) yn datgan, pan fo'n berthnasol, â pha rai eraill o Wladwriaethau'r AEE, yr awdurdodau y cyfeirir atynt yn erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb EIA a'r cyhoedd sydd â buddiant mewn unrhyw gyfryw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorir â hwy ynglŷn â'r cais.".
Gwybodaeth ychwanegol
7.
Yn rheoliad 10(3), ar ôl "gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol" mewnosoder "ac ar wefan briodol".
Gwladwriaethau AEE Eraill
8.
Yn rheoliad 11 —
(a) ym mharagraff (2), yn lle "wybodaeth amgylcheddol ychwanegol", rhodder "wybodaeth bellach y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r cais";
(b) ar ôl paragraff (6) ychwaneger—
"
(7) Pan fo Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd datblygu ac wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r penderfyniad hwnnw yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb EIA, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y fath gamau ag y mae'n eu hystyried yn briodol i ddwyn unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Wladwriaeth EEA honno mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw i sylw'r cyhoedd.".
Y penderfyniad ar ganiatâd
9.
Yn rheoliad 13 —
(a) ym mharagraff (12)(a), yn lle "o'i benderfyniad ynghyd â'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn sy'n sail i'r penderfyniad", rhodder—
"
—
(i) o'r penderfyniad;
(ii) o'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt; a
(iii) o unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyhoedd sydd â buddiant ar y cais."
(b) ym mharagraff (12)(c), ar ddiwedd is-baragraff (ii), hepgorer "a";
(c) ym mharagraff (12)(c), ar ddiwedd is-baragraff (iii), ychwaneger—
"
(iv) o grynodeb o unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyhoedd sydd â buddiant ar y cais; a
(v) o wybodaeth ynghylch yr hawl i herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2127) ("y prif Reoliadau").
Maent yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2003/35/EC (OJ Rhif L156, 25.6.2003, t.17) sy'n darparu i'r cyhoedd gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau amgylcheddol penodol, sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ Rhif L175, 5.7.85, t.40, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.3.97, t.5) ("y Gyfarwyddeb EIA") ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, i'r graddau y mae honno yn effeithio ar asesiadau effeithiau amgylcheddol ar dir heb ei drin ac ardaloedd lled-naturiol.
Maent hefyd yn cynnwys diwygiadau i adlewyrchu newid yn y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth amgylcheddol.
Mae rheoliad 3 yn diweddaru dehongliadau yn y prif Reoliadau.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth arfer ei bŵer i roi cyfarwyddyd fod prosiect penodol wedi'i eithrio rhag rheoliadau 4 i 26 o'r prif Reoliadau, i ystyried a fyddai unrhyw asesiad o'r prosiect yn briodol, ac eithrio asesiad o'r math a fyddai yn digwydd o dan reoliadau 4 i 26 o'r prif Reoliadau, ac i roi gwybodaeth benodol yn ymwneud ag arfer y pŵer gerbron y cyhoedd.
Mae rheoliad 5 yn diweddaru'r cyfeiriad yn y prif Reoliadau at Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 1992 (O.S. 1992/3240 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1447), sydd bellach wedi'u dirymu. Mae'n darparu nad yw'n ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i ymgeisydd am ganiatâd unrhyw wybodaeth y caiff wrthod ei datgelu o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391) neu y'i rhwystrir rhag ei datgelu gan y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi hysbysiad o gais am ganiatâd ar wefan briodol, ac yn ei gwneud yn ofynnol cynnwys gwybodaeth ychwanegol benodol yn yr hysbysiad.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw hysbysiad o wybodaeth amgylcheddol ychwanegol ar wefan briodol.
Mae rheoliad 8 yn diwygio'r gofynion yn y prif Reoliadau sy'n ymwneud â phrosiectau yng Nghymru a ddichon effeithio ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaethau AEE eraill a vice versa.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth ychwanegol benodol wrth roi hysbysiad o benderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd.
Paratowyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 2001/2555 (mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad am asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd) ac O.S. 2000/248 (mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt).back
[2]
1972 p. 68. Ymestynwyd pwerau galluogi adran 2(2) o'r Ddeddf hon yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 1 o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (c. 51).back
[3]
O.S. 2002/2127 (Cy. 214).back
[4]
OJ Rhif L156, 25.06.03, t. 17.back
[5]
O.S. 2004/3391.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091497 X
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
9 February 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070203w.html